Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Anfon llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu’r gwaith a wneir gan Cwmni Byw’n Iach yng nghyswllt y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol a’r angen am fwy o gyllid i ariannu ei weithrediad yng Ngwynedd.

 

Cofnod:

 

Croesawyd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach a’r Pennaeth Economi a Chymuned i’r cyfarfod. 

 

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu trefniadau Cyngor Gwynedd a Chwmni Byw’n Iach i ddarparu gwasanaethau hamdden yng Ngwynedd yn sgil gosod y mater ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Gwynedd oherwydd y risg y byddai Cwmni Byw’n Iach yn methu parhau i ddarparu gwasanaethau yng nghanolfannau hamdden Gwynedd o ganlyniad i sgil effaith Covid-19 a chynnydd mewn costau byw ar eu hincwm.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet a’r Pennaeth Economi a Chymuned y cyd-destun gan ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad ac i Dîm Byw’n Iach a chynrychiolwyr y Cyngor ar Fwrdd Byw’n Iach am eu gwaith.  Yna manylodd Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach ar berfformiad y cwmni yn ystod y flwyddyn.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gofynnwyd i’r swyddogion ymhelaethu ar y cydweithio rhwng Cwmni Byw’n Iach ac Alliance Leisure i flaenoriaethu’r cynlluniau i greu ffrydiau incwm ychwanegol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod Alliance Leisure yn gwmni arbenigol sy’n cefnogi awdurdodau lleol a chwmnïau masnachol yn y maes hamdden, a bod y Cyngor wedi cydweithio â hwy yn y gorffennol hefyd.

·         Bod prif ffocws y trafodaethau gyda’r cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf wedi canolbwyntio ar Fangor, a hynny’n bennaf oherwydd yr her sy’n wynebu’r ffrydiau incwm mwy traddodiadol i gyfleusterau Byw’n Iach ym Mangor yn wyneb y gystadleuaeth o du’r sector preifat, a hefyd y ffaith bod Bangor yn ganolfan boblogaeth sylweddol iawn.

·         Nad oedd y cyfleusterau ym Mangor ymhlith y cryfaf, ac roedd yna ddiffyg darpariaeth ochr sych ar gyfer chwaraeon.  Hefyd, roedd y sefyllfa ym Mangor yn gymhleth oherwydd presenoldeb y Brifysgol a’u cyfleusterau hwy.

·         Y dymunai trigolion Bangor weld cynnig ehangach, ond ar hyn o bryd ni ellid darparu gwasanaethau gwyliau i blant a phobl ifanc ym Mangor oherwydd y diffyg cyfleusterau sych, ayb.

·         Bod yna gyfle masnachol ym Mangor oherwydd maint y boblogaeth, a bod y trafodaethau gydag Alliance Leisure yn edrych ar ddau brosiect posib’, y naill yn ymwneud â chyfleuster chwarae fel estyniad i’r adeilad presennol a’r llall yn edrych ar addasu’r cynnig ffitrwydd ym Mangor i beidio cystadlu benben gyda rhai o’r cystadleuwyr preifat, ond yn hytrach i edrych yn fwy ar y sector llesiant, gan edrych i gydweithio mwy o fewn y rhaglen cyfeirio i ymarfer, gweithio gyda phartneriaid iechyd a thargedu pobl hŷn a phobl sydd â diddordeb mewn ymarfer dwysedd is.

·         Y cyflwynwyd ceisiadau grant i Lywodraeth Cymru am arian i wireddu’r cynlluniau hyn ac roedd yna geisiadau Cronfa Loteri ar fin eu cyflwyno hefyd.

 

Holwyd sut roedd Cwmni Byw’n Iach yn gweld y risgiau yn y dyfodol, h.y. o ran nifer y defnyddwyr yn cyrraedd plateau a’r incwm ddim yn cynyddu ymhellach, yr angen i fuddsoddi mewn offer ffitrwydd rhag colli defnyddwyr, RAAC neu fuddsoddiad tymor hir yn yr adeiladau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y plateau yn siwr o ddod gan nad oedd yn bosib’ i’r incwm barhau i gynyddu am byth ar sail yr adnoddau na’r boblogaeth sydd gennym yng Ngwynedd.

·         O edrych ar y sir yn ei chyfanrwydd, bod gan rhai o gyfleusterau Byw’n Iach ddalgylchoedd o tua 5,000 o bobl yn unig, ac o symud poblogaeth Gwynedd i gyd-destun trefol, mae’n debyg mai 2-3 canolfan yn unig fyddai gennym.

·         Y credid, fodd bynnag, o dderbyn buddsoddiad a chael adnoddau ychwanegol, bod yna gyfleoedd i dyfu, er nad oedd hynny’n ddi-ben-draw.

·         Bod y cwmni yn edrych ar rai o’r canolfannau pellach i Dde’r sir a’r cyfleoedd sydd yna o ddefnyddio incwm o ymwelwyr i’r ardal yn ystod yr haf fel sybsidi ar gyfer y cyfleuster drwy gydol y flwyddyn.

·         Yn sgil darganfod RAAC yn nho Pwll Nofio Canolfan Hamdden Arfon, y caewyd y pwll am gyfnod tra bo’r gwaith ymchwilio i’r sefyllfa yn mynd rhagddo.  Yn dilyn hynny, derbyniodd Adran Eiddo’r Cyngor adroddiad, a rannwyd gyda Chwmni Byw’n Iach, yn amlygu nad oedd yna risg uniongyrchol i ddefnyddwyr, ac ar sail hynny, ail-agorwyd y pwll.  Byddai monitro pellach yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf.  Cadarnhawyd hefyd nad oedd RAAC wedi’i ddarganfod ar unrhyw un o safleoedd eraill y cwmni yn y sir.

 

Gofynnwyd i’r swyddogion ymhelaethu ar sut mae’r canolfannau ym Meirionnydd a Dwyfor yn perfformio.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod nifer yr ymwelwyr a maint yr incwm yn llawer is yn rhai o’r canolfannau sych, megis y Pafiliwn, Bermo a Glan Wnion, Dolgellau, o gymharu ag, er enghraifft, safle Arfon, ond bod y costau yn sylweddol is hefyd, gyda nifer sylweddol llai o staff yn y canolfannau hynny.

·         Mai’r her oedd ceisio cynnig gwasanaeth cytbwys ar draws pob un o’r cymunedau hynny ar sail lefelau poblogaeth mor amrywiol, a gallai fod yn anodd i gwsmeriaid ddeall pam nad ydyn nhw’n cael cymaint o gynnig â rhywun yng Nghaernarfon, er enghraifft.

 

Holwyd pa gynlluniau oedd gan Byw’n Iach o ran cefnogi pobl incwm is, a phlant yn benodol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod hyn yn rhywbeth sy’n fyw iawn yn ymwybyddiaeth Tim Rheoli Byw’n Iach, ac yn codi’n rheolaidd yn y trafodaethau gyda’r Cyngor.

·         Bod yna gyswllt rhwng difreintedd a bod yn actif.  Roedd y pandemig wedi gwaethygu’r cyswllt hwnnw, ac roedd sicrhau bod pob un o drigolion Gwynedd yn actif ac yn cael y buddiannau iechyd sy’n deillio o hynny yn flaenoriaeth i Byw’n Iach.

·         Bod cyswllt amlwg rhwng lefelau gallu nofio plant ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 a difreintedd, a bod canran y plant sy’n gallu nofio wedi disgyn o 80%-90% cyn y pandemig i tua 50% erbyn hyn, ac yn is ar gyfer rhai grwpiau o blant yn y sir.

·         Bod ein gallu i newid y sefyllfa ar hyn o bryd yn eithaf cyfyngedig gan fod y Grant Nofio am Ddim wedi ei haneru rhyw 5 mlynedd yn ôl.

·         Fel rhan o’r ddarpariaeth, bod Chwaraeon Cymru yn mynnu bod rhaid cynnig sesiwn nofio am ddim bob wythnos ymhob pwll i blant ac i bobl dros 60 oed, ond roedd yn eithaf drud gwneud hynny gan fod gennym 7 o byllau nofio.  Ceisiwyd dadlau’r achos y byddai’n well i Byw’n Iach gael yr hawl i ddefnyddio’r arian mewn ffordd fwy targedol, e.e. gwersi nofio a thargedu teuluoedd neu ysgolion penodol, gan fod llawer o ysgolion yn ei chael yn anodd talu costau trafnidiaeth i ddod â’r plant i wersi nofio.  Ni chafwyd ymateb cadarnhaol hyd yma o ran ein gallu i wneud hynny.

·         Y ceisid ymestyn yr arian sydd ar gael er mwyn cynnig sesiwn nofio am ddim i ddeilyddion y Cerbyn Max, sef cerdyn cenedlaethol ar gyfer teuluoedd maeth a theuluoedd â phlant ag anabledd.  Hefyd, datblygwyd cynllun ar y cyd â Gwasanaeth Plant y Cyngor i ddarparu nofio am ddim i bob person ifanc sy’n dal y cerdyn Gofalwr Ifanc, ynghyd ag un ffrind/aelod teulu, a rhannwyd tocynnau nofio am ddim teulu gyda banciau bwyd y sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

·         Y cafwyd cefnogaeth dda iawn trwy’r Gwasanaeth Plant o ran cynlluniau chwarae’r Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mwyafrif y rhaglenni gwyliau wedi bod ar gael yn rhad ac am ddim.  Llwyddwyd hefyd i gael grant gan y Comisiynydd Heddlu a chafwyd cefnogaeth gan y Gwasanaeth Ieuenctid i lansiad cynllun chwarae allan dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n golygu agor pob cwrt a phob cae synthetig yn ystod pob cyfnod gwyliau ysgol yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc ar gyfer chwarae gemau’n anffurfiol.

·         Bod Tîm yr Uned Partneriaethau yn gwneud gwaith cyfeirio arloesol gyda phobl fel y Gwasanaeth Plant a’r Tîm o Amgylch y Teulu a’r elusennau gofalwyr ifanc ac yn derbyn cyfeiriadau ar gyfer teuluoedd neu blant a phobl ifanc unigol gan weithio ar lefel ddwys iawn gyda rhai sydd, am ba bynnag reswm, ddim yn cyfranogi ar hyn o bryd.

·         Bod llawer o waith yn cael ei wneud o amgylch iechyd meddwl pobl ifanc, megis sesiynau un i un hefo’r person ifanc er mwyn darganfod beth fyddai’n eu hysgogi i fod yn actif.

 

Holwyd i ba raddau roedd presgripsiynu ymarfer corff yn digwydd yng Ngwynedd ac oedd yna botensial ar gyfer marchnata hynny fwy er mwyn cael mwy o feddygon i wneud cyfeiriadau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y grant ar gyfer y Cynllun NERS (Cynllun Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol) wedi aros yn llonydd ers degawd a bod 99% o’r arian bellach yn cael ei wario ar gyflogau.  Gan hynny, roedd y tîm yn lleihau mewn termau real bob blwyddyn.

·         Bod y staff a gyflogir ar y cynllun ar gytundebau blwyddyn yn unig, ac er bod rhai ohonynt wedi bod yn y swydd ers degawd, eu bod yn wynebu’r un sefyllfa o ansicrwydd bob blwyddyn gan na dderbynnir cadarnhad o’r arian grant ar gyfer y flwyddyn i ddod tan y munud olaf.

·         Bod rhain yn staff sydd â lefelau sgil a chymhwyster uchel iawn a byddai eu colli yn golygu gorfod hyfforddi rhywun o’r cychwyn eto.

·         Nad yw Byw’n Iach yn marchnata’r rhaglen gan fod yna restrau aros na ellir ymdopi â hwy, a gellid dyblu neu hyd yn oed dreblu nifer y trigolion sy’n derbyn y gefnogaeth petai’r tim yn fwy.

·         Bod y sefyllfa’n hynod rwystredig gan fod y dystiolaeth o fuddion y rhaglen yn eglur iawn.

 

Awgrymwyd bod y ffaith bod yr incwm yn seiliedig ar grant sefydlog, yn hytrach nag ar nifer y cleifion sy’n cael eu cyfeirio, yn wendid yn y cynllun ac yn rhywbeth i fynd ar ei ôl ar lefel wleidyddol.  Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet ei bod hi a Chadeirydd Cwmni Byw’n Iach wedi llythyru’r Gweinidog Iechyd ar y pryd ynglŷn â’r union fater hwn ac y byddai’n croesawu petai’r pwyllgor yn llythyru eto ar yr un llinellau.

 

Holwyd lle’r oedd Byw’n Iach arni o safbwynt cael digon o staff Cymraeg i roi gwasanaeth dwyieithog, ac yn benodol o ran gwersi nofio i blant.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y byddai gan Byw’n Iach fwy o ddewis o ymgeiswyr yn y gorffennol, ond dros y 2 flynedd ddiwethaf roedd rhaid mynd allan i hysbysebu dro ar ôl tro i ddenu unrhyw ymgeiswyr ar gyfer rhai swyddi.

·         Bod sgiliau iaith yn amlwg yn bwysig wrth recriwtio, ond wynebwyd sefyllfa yn y blynyddoedd diwethaf lle roedd 1,000 o blant yn Arfon yn disgwyl am wersi nofio a Byw’n Iach yn methu recriwtio digon o athrawon nofio oedd yn hyderus yn eu Cymraeg.

·         Na chredid bod unrhyw un wedi’i recriwtio heb unrhyw sgiliau iaith o gwbl, ond gwelwyd sefyllfaoedd lle roedd yn ddewis rhwng peidio recriwtio a gadael 40-50 o blant ychwanegol ar y rhestr aros am wersi nofio am y 2-3 blynedd nesaf, neu recriwtio pobl â sgiliau iaith lefel is, a gweithio gyda hwy i ddatblygu eu sgiliau iaith a’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

·         Bod cytundebau gwaith yr athrawon nofio yn rhoi mynediad i’r un gefnogaeth dysgu a datblygu ag sydd ar gael i staff Cyngor Gwynedd fel bod modd i’r unigolion dderbyn cymorth gan swyddogion iaith y Cyngor a manteisio ar y rhaglenni datblygu sydd ar gael.  Hefyd, roedd swyddog nofio yn gweithio gyda’r unigolion hynny ran geirfa nofio, a gosodwyd posteri yn yr ystafelloedd staff yn atgoffa pobl o’r eirfa honno.  Fodd bynnag, roedd magu hyder yr athrawon nofio i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith am gymryd amser ac ni fyddai’n digwydd dros nos.

 

PENDERFYNWYD

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.    Anfon llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu’r gwaith a wneir gan Cwmni Byw’n Iach yng nghyswllt y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol a’r angen am fwy o gyllid i ariannu ei weithrediad yng Ngwynedd.

 

Dogfennau ategol: