Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

 

Croesawyd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r trefniadau ar gyfer rheoli traethau yng Ngwynedd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun ac ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned ar gynnwys yr adroddiad.  Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gan gyfeirio at Dabl 1 ym mharagraff 5.2 o’r adroddiad, holwyd a oedd y cynnydd mewn costau gweithwyr o ganlyniad i gynnydd mewn tâl goramser.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y patrymau gwariant yn amlygu’r pwysau aruthrol ar yr arfordir dros y 2-3 blynedd ddiwethaf sydd wedi arwain at orfod ymestyn cyfnod y wardeiniaid traeth ynghyd â thalu goramser.

·         Bod y strwythur parhaol ar hyn o bryd yn cynnwys un Uwch Swyddog Traeth ac un Swyddog Traeth arall yn unig, ac fel rhan o’r cynnydd yn yr incwm, bod bwriad i sefydlu dwy swydd arall er mwyn cyfarch y bwlch, sef Swyddog Traeth ar gyfer Meirionnydd a Swyddog Traeth ar gyfer Morfa Bychan.

·         Bod llawer o’r gwaith paratoi yn digwydd dros gyfnod y gaeaf ac adnabuwyd bod angen cryfhau’r strwythur yn hynny o beth.

 

Holwyd a oedd posibilrwydd o gael is-ddeddf i roi pwerau i’r swyddogion traeth ddirwyo pobl sy’n camymddwyn gyda cheir, ac ati, ar y traeth.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu, ac yn benodol felly ym Morfa Bychan, sef yr unig draeth yng Ngwynedd lle caniateir gyrru a pharcio ar y traeth.

·         Bod yna reolau caeth mewn lle a bod yna arwyddion ar y traeth gyda logo’r Heddlu a’r Cyngor arnynt.  Roedd y staff sy’n cerdded y traeth yn defnyddio camerâu corff ac roedd gan y staff gamerâu yn y cerbydau hefyd, fel bod modd pasio tystiolaeth ymlaen i’r Heddlu.

·         Y byddai’n fuddiol petai gan y swyddogion traeth, yn enwedig y prif swyddogion, bwerau i gyflwyno dirwyon cosb i’r sawl sy’n troseddu ar y traethau, a chredid bod angen arweiniad gan yr Adran Gyfreithiol ar hyn.

 

Holwyd a oedd rheolaeth traethau yn ddiogel rhag toriadau, ayb, o ystyried ei fod yn wasanaeth anstatudol i lywodraeth leol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Er bod y gwasanaeth yn anstatudol, bod y maes yn cyffwrdd â nifer o gyfrifoldebau sy’n statudol, ac er bod yna ansicrwydd o ran y fframwaith cyfreithiol, na chredid y byddai’r Adran na’r Gwasanaeth yn argymell nad oes yna unrhyw gyfrifoldeb o gwbl, boed hynny’n gyfrifoldeb moesol bron iawn, fwy na chyfrifoldeb cyfreithiol.

·         Y bu achosion yn y gorffennol o dorri ar wasanaethau oherwydd yr angen i sicrhau arbedion, ond yn anffodus, gwelwyd bod peidio rhoi gwasanaeth yn gallu esgor ar broblemau.

·         Mai mater i’r holl aelodau fyddai adnabod sut y bydd y Cyngor yn ymateb i’r heriau ariannol, ond bod yr Adran yn ymwybodol o ba mor bwysig yw rhoi’r ddarpariaeth ar ein traethau.

·         Efallai bod yna opsiynau i wneud arbedion heb dorri gwasanaethau rheng flaen, ac roedd cynyddu incwm yn un o’r opsiynau hynny.

 

Holwyd a oedd yn anorfod y byddem yn symud o gyflogi wardeiniaid traeth i gyflogi achubwyr bywyd yn y dyfodol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Nad oedd asesiadau risg y Gwasanaeth yn adnabod achubwyr bywyd fel darpariaeth angenrheidiol ar hyn o bryd.

·         Er hynny, byddai’r Gwasanaeth yn agored i ystyried unrhyw gyfleoedd i ymestyn y ddarpariaeth i gynnwys achubwyr bywyd, ond gan ei fod yn wasanaeth proffesiynol, yn hytrach na gwasanaeth gwirfoddol, gallai hynny fod yn gostus.

·         Bod sefydliadau megis yr RNLI yn darparu achubwyr bywyd i awdurdodau eraill yng Nghymru, ond yn codi ffi am hynny.

·         Cyn ystyried y math yma o wasanaeth, byddai angen trafodaeth o ran y dull o’i ariannu.  Petai’r cysyniad o Dreth Ymwelwyr yn dod i fodolaeth, o bosib’ y gellid ystyried a fyddai’r math hwn o ddarpariaeth yn flaenoriaeth i unrhyw incwm o dreth o’r fath.

·         Nad oedd y datrysiadau a’r atebion ar gael ar hyn o bryd, ond roedd hwn yn un o’r meysydd y dymunai’r Gwasanaeth roi ystyriaeth iddo dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.

 

Holwyd a fyddai modd i’r Cyngor fod yn flaengar a gwrthod talu prydles Stad y Goron fel ffordd o arbed arian ac o greu trafodaeth bellach ynglŷn â datganoli Stad y Goron yng Nghymru.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod gan y Cyngor gyfres o gytundebau unigol ar hyd yr arfordir ar hyn o bryd, gyda rhan o’r arfordir y tu allan i’r cytundebau hynny.

·         Bod Stad y Goron wedi gwneud cynnig rai blynyddoedd yn ôl i addasu’r trefniadau presennol er mwyn cael un cytundeb cyfansawdd ar hyd arfordir Gwynedd.

·         Fel rhan o’r trafodaethau cychwynnol, bod y Gwasanaeth wedi amlygu bod cwblhau cytundeb o’r fath yn rhoi cyfrifoldeb ar y Cyngor, a bod yna gostau ynghlwm â’r cyfrifoldeb hwnnw hefyd.

·         Bod y Gwasanaeth wedi adnabod y maes fel un y byddai’n awyddus iawn i’w drafod ymhellach, a phetai gan y craffwyr syniadau neu argymhellion o ran cyfeiriad, byddai’r swyddogion yn ddiolchgar iawn o dderbyn y sylwadau hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, nodwyd bod y swm a delir gan y Cyngor yn flynyddol i Stad y Goron yn ychydig filoedd, ond y gellid cadarnhau’r union ffigwr yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnwyd i’r swyddogion gadarnhau bod risgiau’n cael eu hasesu’n gyson, ac yn ymateb i amgylchiadau a digwyddiadau, ac ati, yn hytrach na dilyn amserlen yn unig, a bod yna weithredu i leihau’r risgiau hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod gan y Gwasanaeth asesiadau risg ar gyfer pob un traeth, y prif gyrchfannau a thraethau gwledig hefyd.

·         Bod gan bob safle ei risgiau penodol, a bod yna swyddogion profiadol o fewn y Gwasanaeth, sydd wedi derbyn hyfforddiant trylwyr mewn asesu risg.  Hefyd, roedd nifer o swyddogion y Gwasanaeth yn byw yn lleol a hefyd yn gwirfoddoli gyda’r RNLI a Gwylwyr y Glannau, ac felly yn ymwybodol iawn o’r risgiau sy’n bodoli ar yr arfordir.

·         Bod yr asesiadau risg yn ddogfennau dynamig a byw, sy’n cael eu hadnewyddu o leiaf unwaith y flwyddyn, ac yn fwy aml na hynny petai yna ddigwyddiad neu newid yn natur y traeth, neu bod datblygiadau ychwanegol wedi cynyddu neu leihau’r risg.

·         Bod y Gwasanaeth yn anfon holiaduron, ac ati, ac yn cymryd sylw o’r adborth.  Hefyd, roedd archwiliadau yn cael eu gwneud yn wythnosol ac yn fisol, a phetai’r staff yn sylweddoli bod yna risgiau newydd wedi codi, byddai’r dogfennau hynny yn cael eu haddasu ar y cyfle cyntaf.

·         Bod pob traeth yn wahanol i’w gilydd, a bod yr asesiadau yn adlewyrchu nodweddion y traethau unigol, gan roi sylw i nodweddion gosodiad y traeth a’r risgiau o ran gwrthdaro.

·         Bod yna drefniadau lansio cychod, ac ati, ar rai traethau a bod yna asesiad risg eithaf cyson i bob un o ran unigolion yn mynd i drafferthion wrth nofio.  Gan hynny, roedd yna asesiad eithaf ymarferol o’r risgiau ar gyfer pob un traeth, gan adnabod mesurau lliniaru. 

·         Bod yna hefyd asesiadau risg o ran y cynlluniau arwyddo ar gyfer y traethau, gydag arwyddion penodol bellach ar gyfer pob un traeth sy’n tynnu sylw at y prif risgiau o ran y lleoliad hwnnw.

·         Bod yna fesurau wedi’u hadnabod ar rai traethau lle mae gwybodaeth a chyngor gan wardeiniaid traeth yn gallu bod yn fodd o leihau’r risgiau hefyd, e.e. ceisid gwahardd pobl rhag mynd i’r dŵr ar rai traethau oherwydd peryglon y lleoliad.

 

Holwyd faint o bobl oedd yn cael eu cosbi’n flynyddol am ddefnyddio beiciau dŵr heb drwydded.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y credid bod y nifer o feiciau dŵr a chychod pŵer yng Ngwynedd yn uchel iawn o gymharu ag awdurdodau eraill a bod Gwynedd yn arwain y gad gyda’r system gofrestru ar-lein, sydd wedi arwain at leihad sylweddol yn nifer y cwynion a’r digwyddiadau a’r damweiniau.

·         Bod yna nifer o safleoedd lansio preifat mewn defnydd, ee. y safleoedd carafanau mawr ym Meirionnydd, ond roedd y Gwasanaeth yn gweithio gyda pherchnogion y safleoedd hynny i geisio sicrhau bod eu cwsmeriaid sy’n lansio o’u safleoedd hwy yn cofrestru, ac roedd y mwyafrif llethol yn gwneud hynny.

·         Nad oedd gan y Gwasanaeth bwerau i ddirwyo, ond roedd deddfwriaeth newydd, sef Gorchymyn Llongau Masnach (Badau Dŵr) 2023 wedi dod i rym ar 1 Ebrill eleni.  Cafwyd achos o feiciau dŵr yn achosi damwain drwy ymddwyn yn anghyfrifol yng nghyffiniau Harbwr Aberdyfi ac roedd y swyddogion yn gweithio gyda’r heddlu i geisio sicrhau erlyniad. 

·         Mai Asiantaeth Gwylwyr y Glannau fyddai’n arwain ar unrhyw erlyniad y ceisid ei gynnal ar yr arfordir.

·         Mai holl bwrpas y system gofrestru oedd adnabod y sawl sy’n gyrru beiciau dŵr neu fadau pŵer yn anghyfrifol fel bod modd cysylltu â hwy i’w hysbysu eu bod wedi torri’r rheolau.

·         Bod is-ddeddf yn gwahardd cyflymder o fwy na 4 milltir forwrol yr awr o fewn 100 metr i ymyl y dŵr.  Pe byddai unrhyw un yn torri’r rheol, gellid eu herlyn, ond hyd yma, nid oedd unrhyw ddirwyon wedi’u rhoi’n fewnol i berchnogion badau pŵer.

 

Awgrymwyd y dylai’r ffioedd cofrestru a lansio cwch pŵer / beic dŵr gynyddu yn eithaf sylweddol uwchlaw chwyddiant y flwyddyn nesaf er mwyn creu incwm i’r Cyngor.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y derbynnid y sylw, ac o bosib’, y byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth i godi’r ffioedd y flwyddyn nesaf.  Roedd y ffioedd eisoes wedi cynyddu’n sylweddol dros y 2-3 blynedd ddiwethaf, ac wedi codi uwchlaw lefel chwyddiant y llynedd.

·         Y byddai’r Gwasanaeth yn ystyried ac yn argymell ffioedd ar gyfer 2024/25 yn y flwyddyn newydd.

·         Bod y cynnydd yn y ffioedd dros y 2-3 blynedd ddiwethaf wedi creu sefyllfaoedd anodd ar brydiau i’r staff rheng flaen ar y traethau, a phe byddai yna gynnydd pellach yn y ffioedd y flwyddyn nesaf, byddai angen ystyried sut i gyfleu’r neges mewn da bryd fel bod pobl yn ymwybodol o’r cynnydd cyn dod i’r traethau.

 

Holwyd faint o bwerau oedd gan Gyngor Gwynedd o ran sicrhau ansawdd dŵr.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y prif gyrchfannau yn cael eu monitro gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac y byddai’r canlyniadau yn cael eu rhyddhau yn swyddogol ar 23 Tachwedd.

·         Petai’r swyddogion yn gweld unrhyw lygredd, neu fod ganddynt bryderon am safle penodol, byddent yn cysylltu’n uniongyrchol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru fel bod modd iddynt gymryd samplau, ayb.

·         Yn dilyn hynny, byddai’r Cyngor yn aros am unrhyw gyfarwyddyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru o ran cau ardal i ffwrdd neu osod arwyddion yn hysbysu’r cyhoedd i gadw draw.

·         Bod nifer o safleoedd, yn cynnwys Cricieth ac Aberdyfi yng Ngwynedd, wedi’u cynnwys yn rhaglen ‘Darogan a Disgowntio’ Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n golygu bod y Cyngor yn cael ei hysbysu ymlaen llaw os ydynt yn credu bod ansawdd y dŵr ymdrochi yn mynd i gael ei effeithio, e.e. gan ddŵr glaw trwm yn golchi deunydd o’r strydoedd ac i lawr afonydd, ac ati.

·         Mai anaml iawn y gwelid achosion o’r fath, ond petai yna bryder bod unrhyw lygredd neu garthffosiaeth wedi llifo i’r môr, byddai’r Cyngor yn gosod arwyddion ar y safleoedd hynny i geisio annog pobl i beidio mynd i mewn i’r dŵr.

 

Mynegwyd pryder bod codi ffioedd badau dŵr yn golygu y byddai mwy o bobl yn lansio badau dŵr o safleoedd answyddogol.  Cyfeiriwyd at broblem benodol yn ardal Aberdyfi, lle’r oedd pobl yn lansio o ardal Borth ac yn gyrru drosodd i Aberdyfi y tu allan i oriau gwaith yr Harbwrfeistr.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod oriau gwaith y swyddogion wedi’u hymestyn a bod yna rwystrau ar rai traethau, fel yn Abersoch a Morfa Bychan, wedi i’r staff adael am 8.00yh.

·         Er bod y staff ar ddyletswydd rhwng 10yb a 5yh yn y mwyafrif o lefydd, y gofynnid iddynt aros ymlaen petai yna lawer o gychod a defnyddwyr yn dal ar yr arfordir.

·         Nad oedd modd atal pobl rhag lansio y tu allan i oriau gwaith ac nid oedd yn bosib’ cau llithrfeydd cyhoeddus chwaith gan fod yna bobl yn mynd allan i bysgota am y diwrnod, ac ati.

·         Pe ystyrid bod y ffioedd yn rhy uchel, roedd pryder y gallai hynny annog defnyddwyr i fynd i safleoedd answyddogol y tu allan i reolaeth y Cyngor, gan roi pwysau ar safleoedd ac is-adeiledd na gynlluniwyd i ddelio gyda’r math yna o ddefnydd a lleihau’r nifer o fadau sydd wedi cofrestru.

·         Bod yna drefniadau eithaf da ar hyn o bryd, ond, i bob pwrpas, system wirfoddol ydoedd yn sirol, gan nad oedd yna drefniadau statudol cenedlaethol. 

 

Holwyd pa mor aml roedd yr offer diogelwch yn cael eu harchwilio.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yr offer yn cael eu harchwilio bob bythefnos rhwng Ebrill a Medi, ac yn fisol yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, a bod y swyddogion yn y prif gyrchfannau yn eu harchwilio yn ddyddiol yn ystod y prif dymor.

·         Bod yna nifer o ffonau argyfwng gyda namau neu wedi eu fandaleiddio a ddim yn gweithio ar y funud, a rhoddwyd gorchudd pwrpasol dros y ffonau hynny.  Nid oedd BT yn gallu cyflenwi rhai yn eu lle, ac roedd angen ystyried a oedd eu gwir angen ar rai safleoedd.

·         Bod y swyddogion traethau yn cario offer achub personol, e.e. rhaffau diogelwch a bwiau achub, y gellid eu defnyddio fel mesurau lliniaru mewn argyfwng, ond pwysleisiwyd nad oedd gan y staff y cymhwyster i fynd i mewn i’r dŵr i achub unrhyw un.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod gan y Gwasanaeth Morwrol brotocol ar gyfer ymateb i dywydd garw, a’u bod hefyd yn cynorthwyo adrannau eraill, yn enwedig mewn sefyllfaoedd o lifogydd, ac ati, drwy ddarparu cerbydau, beiciau dŵr a chychod, ynghyd â staff sy’n gymwysedig i’w gyrru.  Cadarnhawyd hefyd bod giatiau môr yn cael eu cau mewn rhai safleoedd pan fo rhagolygon o dywydd garw.

 

Cyfeiriwyd at broblemau cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn Ninas Dinlle, a holwyd sut berthynas oedd yna rhwng y Gwasanaeth Morwrol a pherchnogion tir sy’n ymylu ar y traethau.  Mewn ymateb, nodwyd:

·         Bod gan y Gwasanaeth berthynas dda gyda pherchnogion tir preifat a rheolwyr safleoedd sy’n gyfochrog â’n traethau, a bod y berthynas gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn eithaf da ar y cyfan.

·         Bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rheoli rhannau o’r arfordir a bod y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda chynghorau cymuned hefyd.

·         Nad oedd gan y mudiadau eraill swyddogion dynodedig ar gyfer yr arfordir ac mai swyddogion y Gwasanaeth Morwrol oedd yn delio ag unrhyw broblemau sy’n codi, hyd yn oed ar dir preifat.

·         Bod yna broblemau penodol yn Ninas Dinlle gyda faniau campio yn parcio dros nos ar safleoedd ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru, ond anaml iawn fyddai swyddog o Gyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau gorfodaeth ynglŷn â hynny.

·         Bod gan y Gwasanaeth gytundeb gyda pherchnogion sawl maes carafanau er mwyn cymryd mesurau lliniaru o ran beiciau dŵr, ac ati.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y bydd y Gwasanaeth yn ymateb i’r heriau yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig yn wyneb y problemau cyllidol sy’n ein hwynebu, nodwyd:

·         Ei bod yn anodd proffwydo beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, a bod y Gwasanaeth yn gweithredu o fewn cyllideb benodol.

·         Ei bod yn ymddangos bod y tymor yn ymestyn a gwelwyd cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy’n defnyddio ein traethau ers y cyfnod Cofid.

·         Bod angen diweddaru’r is-ddeddfau presennol i gyfarch y dechnoleg newydd sy’n dod i’r amlwg, e.e. y defnydd cynyddol o dronau ar draethau.

·         Bod y Gwasanaeth angen rhoi sylw dwys i gynllunio o ran y risgiau arfordirol o ganlyniad i newid hinsawdd, ac wedi cychwyn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar safleoedd fel Dinas Dinlle, Porthmadog, Phwllheli a Fairbourne.

·         Bod gweithgareddau arfordirol yn ddibynnol ar y llithrfeydd a’r strwythurau sy’n cynnig diogelwch rhag llifogydd.  Roedd nifer o’r strwythurau hyn yn dyddio ac roedd angen ystyried sut y byddai’r Cyngor yn ymateb i’r angen i fuddsoddi yn ein hisadeiledd hefyd.

 

Diolchwyd i’r Gwasanaeth am ddarparu adroddiad trylwyr a chyflawn iawn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

 

Dogfennau ategol: