skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad cryno o’r cyfnod rhwng Hydref 2015 a Mawrth 2016, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Arfaethedig ar gyfer Llamhidyddion yr Harbwr ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Arfaethedig newydd ac estynedig ar gyfer adar y môr, nodwyd y dylai’r mudiadau, pe dymunent, gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad yn uniongyrchol. Cadarnhawyd mai 19 Ebrill 2016 oedd dyddiad cau’r ymgynghoriad.

·         Gofynnir i aelodau dynnu sylw’r Gwasanaeth i faterion yng nghyswllt y Cod Diogelwch Morwrol;

·         Bod oediad o ran llunio Mesuryddion Perfformiad drafft mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau a thraethau. Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yr ymchwilir i fesuryddion a ddefnyddir gan eraill er llunio rhai oedd yn mesur effaith, ansawdd a diogelwch. Cylchredir y mesuryddion drafft i sylw’r aelodau.

·         Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 24 Chwefror 2016. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg y gwasanaeth i gydymffurfio â gofynionPanar’ ac yn tynnu sylw fod angen caniatâd Tŷ’r Drindod cyn newid lleoliad cymhorthyddion mordwyo. Nodwyd nad oedd yn ymarferol bosib bob tro i dderbyn caniatâd ymlaen llaw.

·         Yn dilyn ymgynghori gyda’r Pwyllgor Ymgynghorol yn y cyfarfod blaenorol, cytunwyd ar leoliadau'r bwiau parth cyflymder uchaf a chadarnhawyd bod angen parhau i gynnal bwiau ar draeth Marian y De yn 2016. Cytunwyd bod angen addasu bwiau parth cyflymder uchaf ardal Glandon er adlewyrchu’r gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn yr ardal hon o harbwr Pwllheli. Nodwyd y byddai’r cynllun newydd yn weithredol o fis Mai ymlaen.

·         Y gwnaed gwaith i garthu ceg yr harbwr a lefelu gwely’r sianel a gwneir gwaith pellach yn ystod yr Haf i gadw’r lefelau. Fe wneir arolwg hydrograffeg dros yr wythnosau nesaf i gadarnhau’r lefelau.

·         Bod 67K tunnell o ddefnydd a garthwyd wedi ei symud i Garreg y Defaid.

·         Manylwyd ar sefyllfa gyllidebol yr Harbwr a’r Hafan hyd at ddiwedd Chwefror 2016.

·         Manylwyd ar y ffioedd gan nodi bod modd i unigolion dalu mewn 10 rhan daliad am angorfa flynyddol yn Hafan Pwllheli gyda’r gost bellach ond yn 5% yn uwch na thalu mewn un taliad o gymharu â 8% yn uwch yn flaenorol. Gobeithir y byddai’r opsiwn o dalu yn y modd hwn yn annog deiliad i aros a denu eraill i gymryd angorfa flynyddol.

·         Amlygwyd buddsoddiadau yn y cyfnod gan nodi yn 2016/17 y gwneir gwaith ar gysgodfan a phont droed Cei Gogledd yn dilyn ymgynghori efo’r Cyngor Tref.

·         Y gobeithir y bydd gwellhad o ran y sefyllfa o gychod pŵer a badau dŵr personol yn cael eu lansio drwy drefniant cwmnïau masnachol yn ardal Penrhyn Glandon heb eu cofrestru gyda chyfarwyddyd wedi ei roi i’r cwmnïau bod rhaid cofrestru cyn ceir mynd ar y dŵr.

 

Nodwyd y penderfynwyd yn y cyfarfod blaenorol y byddai’r mudiadau unigol yn cysylltu efo’r gwasanaeth i roi eu barn o ran symud angorfeydd yr harbwr allanol o ardal 5 i 6 i ardal 7 yn wyneb y ffaith bod yr ardal wedi cau i fyny yn sylweddol a’r costau o ran eu cynnal a chadw.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Hafan Pwllheli bod y gymdeithas wedi cadarnhau i’r gwasanaeth nad oedd gan y gymdeithas wrthwynebiad i’r bwriad. Ychwanegodd bod Siambr Fasnach Pwllheli wedi lleisio pryder bod y bwriad yn  golygu gwahaniaethu pysgotwyr lleol a oedd yn defnyddio’r angorfeydd yma. Nododd aelod ei fod wedi derbyn cwynion nad oedd y Cyngor yn gweithredu mewn ffordd a oedd yn rhoi cymorth i bobl leol.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y gallai’r gwasanaeth ymchwilio i ddefnydd o rwystrau hanner rwber a oedd yn atal cychod rhag rhwbio yn ei gilydd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n ymchwilio i’r defnydd hwn. Yng nghyswllt y cwynion gofynnodd i’r aelodau eu cyfeirio at y gwasanaeth a nododd bod sedd ar y Pwyllgor Ymgynghorol i gynrychiolydd Cymdeithas Cychwyr Pwllheli a’r Cylch.

 

Gofynnodd Rheolwr Harbwr Pwllheli i’r aelodau hysbysu’r gwasanaeth o unrhyw waith cynnal a chadw oedd angen ei wneud. Nododd y Cadeirydd y dylai’r Rheolwr anfon rhestr o’r gwaith cynnal a chadw bwriedig i’r aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod Rheolwr Harbwr Pwllheli yn anfon rhestr o’r gwaith cynnal a chadw bwriedig i’r aelodau.

 

Manylodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ar y strwythur staffio gan nodi bod aelod o staff wedi gadael cyflogaeth y Cyngor oherwydd salwch ac y dymunir yn dda iddo. Nodwyd y byddai adolygiad o’r strwythur staffio yn yr wythnosau/misoedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyr at yr unigolyn yn mynegi diolch am ei wasanaeth a nodi dymuniadau gorau.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned y derbyniwyd copi terfynol o’r Strategaeth Garthu ar gyfer harbwr Pwllheli. Darparwyd copïau i’r aelodau yn y cyfarfod a nodwyd yr anfonir copi electronig atynt yn ogystal. Nodwyd y disgwylir am gadarnhad ffurfiol gan Gyfoeth Naturiol Cymru o ran hawliau awdurdod harbwr.

 

Nodwyd y gobeithir y byddai’r gwaith a wnaed yn ddiweddar ar geg yr harbwr a’r sianel yn ei wneud yn fwy hwylus o ran mordwyo. Edrychir yn arbennig ar y tymor byr o ran y strategaeth a gan fod yr aelodau wedi cyfeirio at bwysigrwydd cyflwr y forddwyd, y byddai’r gwaith yma yn flaenoriaeth gweithredu.

 

Nododd y Cadeirydd bod y Strategaeth yn allweddol bwysig i’r harbwr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed pryd y byddai’r gwaith ar y forddwyd yn cymryd lle, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yr angen i baratoi cynllun manwl ac i weithredu tu fewn i’r adnoddau. Nodwyd y rhagwelir y byddai cynllun gweithredu mewn lle yn y 2 flynedd nesaf.

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli bod angen buddsoddi er mwyn atal deunydd rhag dod i mewn i’r harbwr a byddai’r gwariant yn arwain at gyflawni arbedion blynyddol.

 

Yn ystod y cyfarfod ymatebwyd i sylwadau’r aelodau gan y swyddogion fel a ganlyn:

·         Y croesawir derbyn gwybodaeth o ran ymateb gadarnhaol aelodau Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli i holiadur yng nghyswllt yr Harbwr a’r Hafan ac y gweithir ymhellach efo’r Gymdeithas.

·         Na fyddai addasu bwiau parth cyflymder uchaf ardal Glandon yn effeithio ar weithgareddau Plas Heli.

·         Bod darpariaeth ysgolion diogelwch yn uwch na’r gymhareb ofynnol o 1 i bob 30 angorfa gyda 6.7 ysgol i bob 30 angorfa.

·         Y cysylltir efo’r Adran Cyllid i nodi bod y Pwyllgor Ymgynghorol o’r farn bod targed incwm yr Hafan yn rhy heriol.

·         O ran ffioedd, bod gwaith i’w wneud o ran ail edrych ar y strwythur a’r angen i lunio achos busnes oherwydd yr oblygiadau ariannol ar y Cyngor.

 

Rhoddwyd diweddariad ar weithgareddau a gynhaliwyd ac y cynhelir yn fuan ym Mhlas Heli gan gynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli. Nodwyd y byddai’r Dywysoges Anne, Llywydd y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) yn ymweld â Phlas Heli ar yr 8fed o Ebrill yn ystod cystadleuaeth yr RYA lle byddai oddeutu 350 yn cystadlu.

 

Diolchwyd a llongyfarchwyd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a’r holl staff am eu gwaith mewn adeg heriol a nodwyd gwerth Plas Heli i’r economi leol.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid ychwanegu ‘a Phlas Heli’ i deitl cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli. Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Hafan Pwllheli y dylid ystyried ychwanegu sedd ar gyfer Plas Heli rhag ofn y byddai gwrthdaro o ran buddiant. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y ceisir cael cysondeb o ran nifer y seddi ar y Pwyllgorau Ymgynghorol ac y byddai’n rhaid ail-edrych ar y cyfansoddiad os am ychwanegu sedd.

 

Nododd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli pe cyfyd unrhyw fuddiant y byddai’n ei ddatgan.

 

PENDERFYNWYD diwygio teitl cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli i ‘Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli’.

Dogfennau ategol: