Agenda item

Cais llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad fewnol gysylltiedig a thirlunio.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad mewnol cysylltiedig a thirlunio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr / ychwanegol oedd yn amlygu a) gwybodaeth gan yr Uned Strategol Tai ynglŷn â’r angen am dai fforddiadwy yn Tregarth, a b) bod sylwadau anghywir yr Uned Bioamrywiaeth wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd eu  sylwadau cywir yn nodi :

·         Bod mesurau osgoi rhesymol ar gyfer ymlusgiaid yn cael eu cynnwys fel amod cynllunio.

·         Na ddylid clirio unrhyw goeden, llwyn na llystyfiant yn ystod tymor nythu adar.

·         Bydd angen sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth. 

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi saith annedd gyda gwaith cysylltiedig i wella’r fynedfa bresennol, creu ardaloedd wedi'u tirlunio a ffordd fynediad mewnol ar ddarn o dir a’i defnyddir ar hyn o bryd gan fusnes contractwyr trydan. Mae bwriad cadw'r adeilad swyddfa presennol sydd ar y safle, sy'n gysylltiedig â’r busnes, ond bydd yn golygu datblygu’r tir o’i amgylch gan gynnwys dymchwel gweithdy presennol i hwyluso codi'r tai newydd a'r ffordd fynediad. Bwriedir i ddau o'r tai newydd fod yn dai fforddiadwy canolraddol.

 

Bydd y tai i gyd yn ddeulawr gyda thoeau brig, 8.6m o uchder, ac wedi’u gorffen mewn cymysgedd o ddeunyddiau gan gynnwys:

·         Toeau llechi naturiol gyda ffasgia a bondo uPVC cyfansawdd, a chrib mewn concrid coch neu deils clai

·         Waliau - brics mewn gwahanol arlliwiau a gweadau gyda nodweddion addurnol a’r rhannau sy'n weddill i gael rendrad garw wedi ei beintio

·         Nwyddau dŵr glaw: System ddur wedi'i gorchuddio â phowdr

·         Ffenestri a drysau: Systemau ffenestri cyfansawdd uPVC, drysau ffrynt gwyn a llwyd.

 

Saif y safle ar safle tir llwyd o fewn  ffin ddatblygu Pentref Lleol Tregarth fel y’i diffinnir gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), ond nid yw’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Saif o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen ac o fewn parth clustogi dau Henebyn Cofrestredig megis, CN202 Cytiau Parc Gelli a CN417, Rheilffordd Chwarel Penrhyn, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod Tregarth wedi ei adnabod fel Pentref Lleol dan bolisi TAI 4 sy’n caniatáu datblygiadau tai er mwyn cwrdd â strategaeth y Cynllun trwy’r defnydd o safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu. Ategwyd bod tystiolaeth briodol wedi ei dderbyn yn nodi y bydd y cynllun yn helpu cwrdd gydag anghenion tai cydnabyddedig y gymuned leol. Ystyriwyd felly bod y cynnig yn gyson gydag amcanion polisïau TAI 4, PCYFF 8 a PS 17 a bod egwyddor y datblygiad yn gyson gyda pholisïau tai'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Cyfeiriwyd at faen prawf (3) polisi PCYFF 2 sydd yn datgan y dylid gwneud y defnydd gorau o dir gan gynnwys sicrhau dwysedd o leiaf 30 uned byw i’r hectar o ran datblygiad preswyl. Nodwyd, ar sail 30 uned i’r hectar buasai safle o’r maint yma yn gallu darparu 9.3 uned breswyl. Fodd bynnag, gydag adeilad swyddfa eisoes ar y safle a’r angen am ddarpariaethau parcio i’r swyddfa bod hyn yn lleihau'r lle sydd ar gael i gynnwys tai pellach. Ategwyd bod y safle wedi'i gyfyngu'n rhannol gan yr angen i amddiffyn coed aeddfed presennol sydd hefyd yn effeithio ar y gofod cyffredinol sydd ar gael i osod unedau pellach ar y safle. O ganlyniad, ystyriwyd bod dwysedd y datblygiad yn dderbyniol ac y byddai’n plethu’n dda gyda phatrwm datblygu'r ardal o gwmpas.

 

Yng nghyd-destun lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol y bwriad, adroddwyd bod gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu’r lleoliad mewn modd priodol. Ystyriwyd bod y tai wedi eu dylunio i ansawdd safonol a bod y cynigion tirweddu’n gweddu naws y pentref. Er yn cydnabod sylwadau a dderbyniwyd, ni ystyriwyd y byddai’r tai yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd adeiledig y safle na’r gymdogaeth leol.

 

Yng nghyd-destun y dirwedd hanesyddol, nodwyd bod CADW wedi nodi na fydd y datblygiad arfaethedig yn cael unrhyw effaith niweidiol ar gyd-destun henebion cofrestredig neu werth cyffredinol eithriadol Safle Treftadaeth y Byd na’r tirweddau dynodedig ac yng nghyd-destun materion archeolegol, oherwydd bod potensial archeolegol uchel i’r safle y dylai'r awdurdod cynllunio fynnu bod mesurau lliniaru archeolegol priodol yn cael eu cymryd ynghyd a gosod amod yn gofyn i gytuno Rhaglen Waith Archeolegol cyn dechrau gwaith adeiladu.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, oherwydd lleoliad, dyluniad, gogwydd a maint y tai arfaethedig, ni ystyriwyd y byddai effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau preifat yn deillio o’r datblygiad. Wrth dderbyn bod tai o amgylch yn ymylu ar y safle, bod y safle mewn-lenwi o fewn ffin ddatblygu ac nad oedd yn afresymol ei ddatblygu ar gyfer tai. Ymddengys i osodiad y tai arfaethedig gael ei llunio er mwyn osgoi gor-edrych uniongyrchol a, thra byddai’n anorfod bydd peth rhyng-welededd rhwng eiddo’r ardal, ni ystyriwyd y byddai hyn yn afresymol nac yn annisgwyl mewn lleoliad o’r fath hwn.

 

Yng nghyd-destun materion mynediad, er bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn,

nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad mewn egwyddor er ceisio rhagor o wybodaeth ynghylch trefniadau casglu sbwriel / ail-gylchu o’r tai. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd ynglŷn â chompownd biniau.

 

Cyfeiriwyd at y datganiad iaith a gyflwynwyd gyda’r cais a daethpwyd i’r canlyniad y byddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith fach ar yr iaith Gymraeg a'r gymuned o fewn Tregarth trwy ddarparu tai marchnad agored a fforddiadwy i gwrdd ag angen y gymuned leol. 

 

Ystyriwyd bod y datblygiad wedi ei lunio i gwrdd ag anghenion y farchnad dai lleol ac yn cynnwys elfen briodol o dai fforddiadwy ar safle tir llwyd o fewn ffin ddatblygu. O ganlyniad ystyriwyd y cynllun yn dderbyniol ar sail egwyddor a'i fod yn cydymffurfio â gofynion polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol;

·         Bod coed a gwrychoedd aeddfed, oedd yn llawn bywyd gwyllt, wedi eu torri i gyfiawnhau lle ar gyfer tai

·         Bod y syniad o ail dirweddu a phlannu coed o gwmpas y tai newydd yn haerllug

·         Bod ei fferm a chae cyfagos, o fewn 10m i’r safle - onid yw rheolau cynllunio yn nodi bod rhaid sicrhau 400m oddi wrth dai cyfagos?

·         Bod ei sied, sydd yn cadw anifeiliaid, yn agos iawn i erddi cefn y datblygiad. O ganlyniad, bydd, mae’n debyg yn derbyn cwynion am sŵn ac arogleuon fydd yn arwain at drwbl

·         Bod lleoliad y busnes sydd ar y safle, bellach yn gyfyng

·         Dylai’r Pwyllgor ddefnyddio synnwyr cyffredin ac ymweld â’r safle

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Bod y cais yn destun adeiladu 7 ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad mewnol cysylltiedig a thirlunio

·         Pump ohonynt yn dai marchnad agored a dau dŷ fforddiadwy

·         Bod polisi TAI 4 yn caniatáu datblygiadau o fewn y ffin datblygu

·         Bod y datblygiad arfaethedig yn adlewyrchu cymeriad yr ardal ac yn darparu digon o le byw a pharcio

·         Yn derbyn bod pryderon a sylwadau wedi eu cyflwyno, ond bod Tai Teg wedi nodi bod angen clir am dai yn yr ardal

·         Bod yr asesiad iaith yn dderbyniol - angen amod i sicrhau enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol ac amodi defnydd y tai

·         Er bod parcio yn bryder, nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth yn ystyried y byddai’r bwriad yn cael effaith ar lif traffig. Annhebygol y bydd y safle yn cael ei fabwysiadau ac felly amod i’w gynnwys bod compownd ar gyfer biniau yn cael ei ddarparu gan yr ymgeisydd

·         Bod y bwriad yn dderbyniol. Nad oedd yn creu effaith ar fwynderau trigolion cyfagos a’i fod wedi ei leoli o fewn y ffin datblygu.

 

ch)  Er nad oedd yr Aelod Lleol yn bresennol, cyflwynwyd y sylwadau canlynol drwy law'r Cadeirydd;

 

“Ysgrifennaf i gefnogi Cais C23/0614/16/LL, sy'n mynd i'r afael â'r angen dybryd am dai fforddiadwy yn Nhregarth. Ar hyn o bryd mae llawer o brynwyr tro cyntaf yn cael eu prisio allan o'r ardal, gan arwain at ddirywiad mewn bywiogrwydd cymunedol. Mae effaith hyn yn amlwg yn y gostyngiad mewn presenoldeb mewn ysgolion lleol, clybiau, a'r Cylch Meithrin wrth i deuluoedd ifanc fethu prynu cartrefi yn Nhregarth. Mae'r lleoliad a ddewiswyd yn addas iawn gan ei fod ger safle bws, y parc lleol, canolfan gymunedol, ac yn agos at yr ysgol gynradd.

Mae'r cynlluniau wedi ennyn cefnogaeth sylweddol o fewn y pentref, gyda chefnogaeth y Cyngor Cymuned, busnesau lleol, a'r ysgol”

Cyng. Beca Roberts

 

d)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle

Rheswm: Pryder effaith ar fwynderau trigolion cyfagos

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant

 

            PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Dogfennau ategol: