Agenda item

Codi 2 dŷ fforddiadwy, mynedfa newydd, parcio,  tirlunio a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENFERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ac amodau’n ymwneud a’r canlynol :

1.    Dechrau o fewn 5 mlynedd

2.    Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.    Defnyddio llechi to Cymreig

4.    Amod er sicrhau gwelededd derbyniol

5.    Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir er sicrhau fforddiadwyedd

6.    Amod Dŵr Cymru

7.    Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol

8.    Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd

 

Nodyn –        Dŵr Cymru

                      System Draenio Gynaliadwy

                      Sylwadau’r Uned Trafnidiaeth

 

Cofnod:

Codi 2 dŷ fforddiadwy, mynedfa newydd, parcio,  tirlunio a gwaith cysylltiedig.

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi dau dŷ fforddiadwy canolradd ger pentref Caerhun i’r de-ddwyrain o Fangor. Bydd y ddau dŷ unllawr yn darparu dwy lofft, cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi a chyntedd ynghyd a mannau parcio ar gyfer dau gerbyd. Bydd un fynedfa oddi ar y ffordd sirol dosbarth III gyfagos yn gwasanaethu’r ddau dŷ.

 

Nid oes dynodiadau statudol amgylcheddol na threftadaeth i’r llecyn tir hwn sy’n cael ei ddefnyddio’n bresennol ar gyfer tir pori. Fodd bynnag mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi fod yr ardal eang o amgylch safle’r cais yn destun llifogydd arwyneb tir.

 

Wrth ystyried egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu diffiniedig a gynhwysir o fewn y CDLl. Nodai Polisi PCYFF 1 ('Ffiniau Datblygu') y tu allan i ffiniau datblygu’, bydd cynigion yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisïau penodol y Cynllun neu bolisïau cynllunio cenedlaethol, neu fod y cynnig yn dangos bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Lleolir y bwriad yn union gerllaw clwstwr Caerhun fel y'i diffinnir yn yr CDLl a thrwy hyn, mae Polisïau TAI 6: Tai mewn clystyrau; TAI 15: Tai Fforddiadwy ynghyd a'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA): Tai Fforddiadwy, yn berthnasol. Nodi’r Polisi TAI 6 y dylai cynigion am dai newydd mewn lleoliadau o'r fath gydymffurfio a saith maen prawf.

 

Eglurwyd bod Datganiad Cynllunio wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn nodi bod galw uchel am dai dwy lofft yn ardal Caerhun / Glasinfryn (ffigyrau’r Asesiad Farchnad Tai Lleol,  Tai Teg ac Uned Strategol Tai yn cefnogi’r datganiad yma). Ategwyd bod y cynllun yn addas ac yn cwrdd â’r angen cydnabyddedig.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd na fydda’r tai newydd yn ymddangos yn estron yn y man hwn er gwaethaf eu lleoliad ar dir amaethyddol agored oherwydd bydd eu lleoliad yn union gerllaw tai preswyl eraill. Ni fyddant felly yn cael effaith andwyol sylweddol ar ansawdd tirwedd gyffredinol yr ardal.

 

Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, nodwyd y gall coed presennol amharu ar y gwelededd o’r fynedfa. O ganlyniad, gofynnwyd am amod i sicrhau na chaniateir i unrhyw wal, gwrych neu ffens derfyn y briffordd fod yn uwch nag 1 metr uwchlaw lefel lôn cerbyd y ffordd sirol gyfagos o naill ben ffin y safle a'r briffordd i'r llall, a rhaid clirio unrhyw lystyfiant er mwyn cynnal y gwelededd.  O osod amod o’r fath ystyriwyd bod y cynllun yn dderbyniol dan ofynion Polisi TRA 2 a TRA 4 parthed safonau parcio a diogelwch ffyrdd.

 

Yng nghyd-destun materion llifogydd, nodwyd bod yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd (FCA) diwygiedig a dderbyniwyd yn disgrifio bod y perygl llifogydd i'r safle datblygu wedi cael ei reoli trwy gael gwared ar strwythur rheoli o fewn y wal derfyn i'r gorllewin o'r datblygiad. O ganlyniad, amlygwyd bod Uned Draenio Tir y Cyngor yn cytuno bod perygl llifogydd i safle’r datblygiad arfaethedig wedi’i leihau’n sylweddol oherwydd y gwelliant yma. Fodd bynnag, ystyriwyd fod perygl llifogydd gweddilliol yn parhau (e.e., os bydd rhwystr yn yr agoriad) ac felly’n argymell y dylid cadw’n gaeth at fesurau dylunio a nodwyd yn adran 4 o’r FCA (gwreiddiol) - codi lefelau lloriau uwchlaw 93.6m.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Bod y cynnig yn darparu dau fyngalo, dwy ystafell wely fforddiadwy i bobl leol.

·         Bod galw clir am dai fforddiadwy yn yr ardal a bod Adran Tai y Cyngor wedi cadarnhau bod oddeutu 50 o bobl yn chwilio am fyngalo fforddiadwy, dwy ystafell wely yn ardal Caerhun a Glasinfryn.

·         Bod data mudo gan StatCymru yn dangos bod allfudiad pobl 15-29 oed  rhwng 2012 a 2020 yn uwch na'r ffigwr mewnfudo o'r grŵp oedran yma. Un rheswm efallai am hynny yw’r diffyg tai fforddiadwy yn yr ardal; nid yw pobl yn gallu diwallu eu hanghenion tai yn lleol. Byddai’r cynnig yn gwrthdroi'r duedd yma drwy gyfrannu at yr angen lleol clir yma am dai.

·         Mynegwyd pryderon ynglŷn â pherygl llifogydd ar y safle; fodd bynnag, mae’r sefyllfa wedi gwella drwy gael gwared o strwythur a oedd ynghlwm â wal y ffin.

Bod Uned Draenio’r Cyngor wedi cadarnhau bod y perygl llifogydd wedi lleihau yn sylweddol o ganlyniad i hyn, a'r ymgeisydd yn hapus i gytuno i'r lefelau llawr a argymhellir fel mesurau lliniaru.

·         Bod Priffyrdd wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig. Yn unol â'u hargymhelliad, ni fydd unrhyw strwythur na thwf uwchlaw 1 metr o uchder yn cael ei godi ar hyd ffin y safle er sicrhau gwelededd clir i gerbydau adael y safle.

·         O ran effaith ar gymdogion, byddai'r tai arfaethedig yn rhai unllawr eu natur gyda thoeau ar ongl - byddent wedi'u lleoli'n ganolog o fewn eu lleiniau, ac o bellter priodol i ffwrdd o'r eiddo cyfagos. Ni fyddai'r unedau yn arwain at unrhyw effeithiau goredrych, cysgodi neu effaith ormesol andwyol ar eiddo cymdogion

·         Mewn perthynas â'r pryderon a godwyd ynglŷn â'r effaith ar archaeoleg yn yr ardal, ymgynghorwyd gyda Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau am y cynnig.

·         Ystyriwyd felly y byddai'r bwriad yn gwneud defnydd da o lain o dir o fewn ardal breswyl ac yn darparu dau fforddiadwy i ymateb i’r galw uchel am dai lleol yn yr ardal. Ni fyddai'r datblygiad yn creu unrhyw effeithiau llifogydd andwyol, effaith ar y rhwydwaith ffyrdd nac eiddo cyfagos.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Ei fod yn croesawu dau fforddiadwy

·         Bod gwrthwynebiadau yn lleol wedi eu cyfeirio at y cyn aelod lleol ac iddo yntau ers i’r ffiniau newid

·         Bod ymateb i bryderon bygythiad i fyd natur, materion archaeolegol ac effaith ar fwynderau cyfagos wedi eu cyfarch yn yr adroddiad

·         Bod pryderon trafnidiaeth a llifogydd yn parhau yn amlwg - Cyngor Cymuned yn datgan gwrthwynebiad i’r cais ar sail fod tystiolaeth bod y tir yn hanesyddol yn llifio

·         Croesawu bod wal derfyn yn cael ei gosod 2m yn ôl o gerbydlon y ffordd sirol er mwyn caniatáu cynllun i greu llwybr troed yn y dyfodol. Byddai’r weithred yn caniatáu gwelededd gwell i’r fynedfa arfaethedig – awgrym gosod amod ar gyfer palmant

·         Bod y cae yn ‘wlyb ei olwg’ ac felly angen sicrhau na fydd y tai yn cael dŵr ynddynt

 

d)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais ynghyd a’r amodau a drafodwyd

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·         Bod Cyngor Cymuned Pentir yn gwrthwynebu’r cais ar sail tystiolaeth llifogydd - yr Aelod Lleol yn tanlinellu hyn

·         Bod y safle tu allan i’r ffin datblygu

·         Croesawu amod defnyddio llechi to Cymreig

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gosod palmant, nodwyd nad oedd hyn yn angenrheidiol fel amod gan nad oedd palmant o gwbl ar hyn o bryd yng Nghaerhun, ac wrth edrych ar leoliad y tai a gerddi cyfagos, ynghyd a natur gul y lôn, mae’n annhebygol iawn bydd modd gosod palmant yng ngweddill y pentref. Ni ystyriwyd y byddai’n rhesymol gosod amod ar gyfer y datblygiad bychan hwn i ddarparu palmant o flaen y safle.

 

Mewn ymateb i sylwadau am lifogydd, nodwyd bod yr adroddiad yn cyfarch y pryderon ac yng nghyd-destun defnydd o lechi to Cymreig, nodwyd y dylai’r geiriad, oherwydd colli apêl yn y gorffennol, nodi ‘llechi tebyg i rai o Gymru’. Er yn rheol Ewrop, nid oes newid o safbwynt gweithredu’r amod.

 

PENDERFYNWYD Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ac amodau’n ymwneud a’r canlynol :

 

1.         Dechrau o fewn 5 mlynedd

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.         Defnyddio llechi to Cymreig

4.         Amod er sicrhau gwelededd derbyniol

5.         Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir er sicrhau fforddiadwyedd

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol

8.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd

 

Nodyn –           Dŵr Cymru

                        System Draenio Gynaliadwy

                        Sylwadau’r Uned Trafnidiaeth

 

 

 

Dogfennau ategol: