Cyflwyno Gwybodaeth
am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Bennaeth Adran Amgylchedd a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol:
Adroddwyd bod Canllaw
Atodol y Polisi Cynllunio yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r iaith Gymraeg er mwyn ei
hybu yng Nghymru a thu hwnt.
Tynnwyd sylw at waith y
swyddogion bioamrywiaeth, tiroedd a natur sy’n trefnu teithiau cerdded i
ddysgwyr er mwyn addysgu am dermau newydd yn y Gymraeg o fewn y maes.
Adroddwyd y derbyniwyd
76 cais i newid enw eiddo flwyddyn
ddiwethaf. Cadarnhawyd bod 95% o’r eiddo hyn wedi cadw, neu bellach yn
defnyddio, enw Cymraeg. Esboniwyd bod enwau’r eiddo sy’n disgyn i mewn i’r 5%
arall yn anodd eu newid, megis enwau cwmnïau a busnesau. Eglurwyd bod y
ddeddfwriaeth sy’n caniatáu ceisiadau i newid iaith ar enw lleoliad yn dyddio’n
ôl i 1215 a bod ystyriaethau yn cael ei roi i weld os oes enwau tebyg ar
adeiladau cyfagos a phriodoldeb. Cadarnhawyd nad oes modd gorfodi ymgeiswyr i
roi enwau Cymraeg ar eu hadeiladau, dim ond eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg.
Nodwyd bod ystyriaethau yn cael eu rhoi i’r angen i dynhau’r ddeddfwriaeth hon.
Er hyn, sicrhawyd bod swyddogion yr adran yn llwyddiannus i annog perchnogion i
ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y mwyafrif helaeth o achosion.
Nodwyd bod mwy o waith
angen ei gwblhau er mwyn sicrhau nad ydi pobl yn rhoi enwau Saesneg ar eu
busnesau. Derbyniwyd bod rhai rheoliadau mewn lle er mwyn sicrhau bod y Gymraeg
yn amlwg o fewn y busnesau ond mae angen gwneud mwy o waith hyrwyddo er mwyn
sicrhau fod cwmnïau yn defnyddio’r iaith. Tynnwyd sylw at y ffaith bod angen
caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw arwydd busnes sy’n cael ei oleuo. Yn sgil
hyn, mae gofynion ieithyddol yn nodi bydd rhaid i’r arwyddion hynny fod yn
ddwyieithog er mwyn iddo gael ei ganiatáu.
Mewn ymateb i ymholiad
ar enwau strydoedd a lleoliadau eraill yn Gymraeg yn unig, cadarnhaodd Pennaeth
Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod hyn yn fater i Gymru gyfan ei ystyried.
Pwysleisiodd yr Ymgynghorydd Iaith bod gwaith yn cael ei wneud gan y Cyngor i
edrych i mewn i’r mater yma a bod trafodaethau yn cael eu cynnal i edrych pa
reoliadau sy’n bosibl. Oherwydd natur genedlaethol y mater, mae’n bwysig
sicrhau fod y Cyngor yn rhannu arfer dda gyda sefydliadau eraill er mwyn
sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y gobaith bydd rheoliadau
yn cael eu ffurfio yn y dyfodol.
Cadarnhawyd bod 91% o
staff yr adran sydd wedi cwblhau'r hunanasesiad ieithyddol, yn cyrraedd eu
dynodiad swydd. Er hyn, cydnabuwyd bod 111 o aelodau staff yr adran heb
gwblhau’r hunanasesiad a thybiwyd bod hyn o
ganlyniad i symud y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu o adran arall i
adran amgylchedd yn ddiweddar. Nodwyd hefyd nad yw’n hawdd i nifer o staff
gwblhau’r hunanasesiad oherwydd nad ydynt yn defnyddio cyfrifiaduron yn eu
swyddi rheng flaen. Pwysleisiwyd bod sicrhau fod pawb yn cwblhau’r hunanasesiad
ieithyddol yn flaenoriaeth i reolwyr yr adran, a bod yr hunanasesiad ieithyddol
yn cael ei gynnwys fel rhan o becyn croeso diwygiedig i staff newydd.
Nodwyd bod recriwtio
swyddogion cymwys sy’n meddu â’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol wedi bod yn
heriol i’r Adran dros y cyfnod diwethaf.
Er hyn, ymfalchïwyd bod yr Adran wedi llwyddo i benodi dau hyfforddai
proffesiynol o fewn y maes cynllunio yn ogystal â thri hyfforddai ym meysydd
gwarchod y cyhoedd.
Soniwyd bod yr adran
wedi derbyn cwynion o bryder am y defnydd o enwau lleoedd ar hysbysiadau cau
ffyrdd. Cadarnhawyd bod yr adran angen cyngor gan y tîm cyfreithiol er mwyn
ymateb i’r ymholiadau hyn.
Trafodwyd cyfleoedd
newydd i annog y Gymraeg o fewn yr adran dros y cyfnod nesaf. Manylwyd ar
bwyntiau gwefru ceir fel esiampl benodol ble gellir annog defnyddwyr i
ddefnyddio’r termau Cymraeg fel ‘gwefru’ a ‘gwefru chwim’.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: