Agenda item

Cyflwyno Gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

 

Cyflwynwyd gan:No declarations of personal interest or relevant dispensations were received.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Adran a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr adran yn unigryw gan ei fod yn gymysgedd o wasanaethau sy’n cefnogi adrannau eraill y Cyngor yn ogystal â darparu gwasanaethau rheng flaen yn uniongyrchol i’r  cyhoedd.

 

Adroddwyd bod gan bob cyfrifiadur sy’n cael ei ddefnyddio gan y Cyngor, osodiadau sy’n sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio fel iaith y cyfrifiadur yn ddiofyn. Cadarnhawyd bod cyfrifiaduron sy’n cael eu darparu i ysgolion gan Wasanaeth Dysgu Digidol, sy’n rhan o wasanaethau’r adran ers i’r Cyngor fewnoli cwmni Cynnal, hefyd gyda gosodiadau Cymraeg arnynt Eglurwyd bod pob athro wedi derbyn gliniadur ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau fod pob disgybl uwchradd yn derbyn gliniadur er mwyn gwneud eu gwaith addysgol.

 

Nodwyd bod yr adran wedi bod yn derbyn galwadau i geisio newid iaith eu cyfrifiaduron yn ôl i’r Saesneg wrth i’r newid hyn ddigwydd. Cadarnhawyd bod hyn yn bosib i’w wneud ond bod swyddogion yn annog pawb i barhau gyda’r systemau Cymraeg. Cadarnhawyd bod niferoedd o alwadau am y systemau cyfrifiadurol Cymraeg wedi lleihau yn fawr ers i’r newid gael ei wneud yn wreiddiol.

 

Cadarnhawyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn symud i system newydd o’r enw ‘Fy Mhensiwn ar Lein’, ble fydd pawb sy’n rhan o’r gronfa yn gallu cael mynediad iddo – boed dal yn y gwaith neu wedi ymddeol. Ymhelaethwyd bod rhyngwyneb Cymraeg wedi cael ei sefydlu ar gyfer y system hon ac fe fydd y rhyngwyneb hwnnw yn cael ei rannu gyda’r saith cronfa bensiwn arall sydd yng Ngwynedd. Esboniwyd fod y datblygiadau hyn yn digwydd yn dilyn llwyddiant stondin Cronfa Bensiwn Gwynedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni ble roedd cyfle i unigolion diweddaru gwybodaeth, dysgu mwy am y gwasanaeth a datgelu logo newydd y Gronfa.

 

Cadarnhawyd bod yr adran wedi derbyn adroddiad beirniadol gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar yn dilyn llythyr a oedd wedi cael ei yrru i aelod o’r cyhoedd a oedd yn uniaith Saesneg. Esboniwyd bod y gwall hwn wedi digwydd oherwydd nam yn y templedi a ddefnyddir. Yn anffodus, nodwyd bod gwall pellach wedi cymryd lle wrth yrru ail lythyr i’r unigolyn gan fod gwallau iaith sylfaenol a chymysgedd o eiriau Saesneg a Chymraeg wedi cael eu defnyddio megis ‘Dear’ a ‘Yours Sincerely’. Pwysleisiwyd mai digwyddiad un tro oedd y sefyllfa hon a bod yr adran yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau nad yw digwyddiadau o’r math hyn yn digwydd eto.

 

Eglurwyd bod 220 (98%) o aelodau staff yr adran wedi cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol. Manylwyd bod 214 o’r aelodau hynny yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi a bod cymorth yn cael ei roi i unrhyw un sydd ddim yn teimlo eu bod yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd, i wella eu sgiliau. Pwysleisiwyd nad oes neb yn yr adran sydd ddim yn meddu â sgiliau iaith Cymraeg o gwbl ac felly nid yw’r ffaith nad yw pawb yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi yn effeithio ar ethos ac iaith y swyddfa. Cydnabuwyd bod aelodau staff yr adran yn fwy tebygol o lenwi’r hunanasesiad ieithyddol na rhai o’r adrannau eraill oherwydd bod natur gwaith yr adran yn fwy technolegol ac felly mae’r staff yn defnyddio cyfrifiaduron yn fwy aml.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod y Cyngor yn awdurdod lletyol ar nifer o gyrff megis Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd. Nodwyd oherwydd bod y cyrff hyn wedi cael eu sefydlu gyda Gwynedd fel y corff lletyol, bod y cyrff yn cael eu rhedeg yn Gymraeg yn naturiol, a bod gan yr adran rôl i chwarae wrth sicrhau hynny.

 

Cyfeirwyd at berthynas yr adran gydag Archwilio Cymru gan nodi bod archwilwyr sydd yn ymweld â’r Cyngor bellach yn rhai sydd yn meddu â sgiliau Cymraeg. Nodwyd bod hyn yn dilyn archwiliad diweddar ble nad oedd archwilwyr Cymraeg wedi mynychu’r cyfarfodydd gan nad oedd Archwilio Cymru wedi rhagweld yr angen. Cadarnhawyd bod yr adran bellach wedi derbyn adborth gan Archwilio Cymru yn dweud fod yr archwilwyr yn falch o’r cyfle i ymarfer eu sgiliau ieithyddol wrth ymweld â Chyngor Gwynedd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

 Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: