Agenda item

I roi trosolwg o’r gwaith monitor ar gyfer gweithredu strategaeth Iaith y Cyngor, sef Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-2023.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod swyddogion yn edrych yn ôl ar y cynllun presennol wrth lunio Strategaeth Iaith newydd ar gyfer 2023-2033 er mwyn rhoi ystyriaeth i’w lwyddiannau ac os yw’r targedau a osodwyd wedi cael eu cyflawni. Nodwyd bod y strategaeth newydd wedi cael ei chyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddar ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr 2023.

 

Pwysleisiwyd mai drafft o’r adroddiad terfynol sydd o flaen y pwyllgor o fewn yr eitem hon oherwydd bod mwy o waith monitro i’w wneud cyn llunio adroddiad swyddogol.

 

Atgoffwyd mai prif fwriad y cynllun hybu 2018-2023 oedd cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith a cheisio hybu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cymaint o gyd-destunau a phosibl, a hynny drwy 5 maes gwaith:

·       Iaith y teulu,

·       Iaith dysgu

·       Iaith y Gymuned

·       Iaith gwaith y gwasanaeth

·       Ymchwil a thechnoleg

 

Cydnabuwyd bod amserlen gweithredu’r cynllun diweddaraf wedi bod yn un heriol iawn. Pwysleisiwyd bod y pandemig yn 2020 wedi cael effaith fawr ar beth oedd yn bosib ei gyflawni ac roedd cyfyngiadau ar weithgareddau cymdeithasol. Esboniwyd bod y pandemig wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar ddefnydd ieithyddol unigolion. Er hyn, mae’r pandemig wedi creu cyfle i wneud pethau newydd i gynyddu’r defnydd yn y Gymraeg.

 

Esboniwyd bod yr adroddiad yn adrodd ar bob maes gweithredu fel nodwyd uchod yn ogystal â thynnu sylw at brosiectau penodol sydd wedi cael eu creu yn sgil amcanion y Strategaeth Iaith.

 

Nodwyd bod llwyddiannau wedi bod i gefnogi teuluoedd oherwydd y gwaith hybu sy’n cael ei wneud o fewn y maes Blynyddoedd Cynnar gyda chymorth Hunaniaith. Eglurwyd bod gwaith hefyd wedi ei wneud gan yr unedau trochi iaith yn ogystal â rhith-fyd Aberwla i sicrhau fod plant yn magu hyder yn yr iaith. Adroddwyd bod prosiect arall technolegol wedi cael ei chyflwyno hefyd sef Prosiect 15. Eglurwyd mai nod y prosiect ydy hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg ymysg pobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Tynnwyd sylw at brosiect Enwau Lleoedd sydd wedi cael ei sefydlu yn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn ymateb i amcanion cymunedol y Strategaeth.

 

Pwysleisiwyd bod cydweithio gyda phartneriaid yn bwysig iawn a thynnwyd sylw penodol at yr angen i gydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd. Atgoffwyd yr aelodau bod y Fenter yn symud i fod y tu hwnt i’r Cyngor yn y misoedd nesaf a phwysleisiwyd bod cadw perthynas glos rhwng y Cyngor a’r Fenter Iaith yn angenrheidiol. Sicrhawyd na fydd newid yng nghefnogaeth i’r gymuned a bydd cyfarfodydd yn cael ei gynnal rhwng y Fenter a’r Cyngor, er mwyn trafod prosiectau a chynlluniau a fydd yn cael eu blaenoriaethu.

 

Cydnabuwyd bod heriau annisgwyliadwy wedi effeithio ar allu swyddogion i gyrraedd rhai amcanion o fewn y Cynllun. Nodwyd bod ymgysylltu gyda’r cyhoedd wedi bod yn heriol ar rhai adegau a bod niferoedd ymatebion wedi bod yn isel. Esboniwyd hefyd bod yr angen wedi codi i addasu blaenoriaethau yn sgil y Pandemig Covid-19 a gwersi wedi eu dysgu.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Diolchwyd i’r uned Blynyddoedd Cynnar a Hunaniaith am eu gwaith i annog rhieni plant ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg. Gofynnwyd a yw partneriaethau’r Cyngor yn parhau i rannu buddiannau magwraeth Gymraeg i blant gyda  rhieni newydd a’r effaith y gall hyn gael ar eu plant. Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod gwasanaethau fel Ymwelwyr Iechyd yn brin eu hamser ar hyn o bryd oherwydd eu llwyth gwaith a bod materion ieithyddol o’r fath yn cael sylw digonol yn sgil y materion eraill sy’n codi o fewn eu hymweliadau. Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd iaith a Chraffu bod Fforwm Iaith Gwynedd wedi cael ei ffurfio erbyn hyn a  bod cynrychiolwyr o bartneriaid amrywiol gan gynnwys y Mudiad Meithrin yn rhan o’r fforwm ac y byddai yn eu holi. Ychwanegodd y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg fod Hunaniaith wedi bod yn gwneud gwaith gyda rhieni a phlant gyda’r canolfannau trochi. Manylwyd fod gwaith cymunedol wedi cael ei gwblhau gan Hunaniaith ar y maes yma hefyd.

 

Trafodwyd materion o fewn y maes cynllunio er mwyn gweld sut gellir rhoi mwy o bwyslais a throthwyon ieithyddol wrth gyflwyno ceisiadau a gosod tai.

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r Ymgynghorydd Iaith am ei gwaith dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Cadarnhawyd mai dyma oedd ei chyfarfod olaf gan ei bod wedi derbyn swydd newydd. Nodwyd bod y pwyllgor yn dymuno’r  gorau iddi i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

.

 

 

Dogfennau ategol: