Agenda item

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i’r Aelodau yn unig)

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd bod y ddau achos wedi digwydd pan oedd yn ifanc - rhyw 27 mlynedd yn ôl - yn hanesyddol, a dim byd ers hynny. Roedd bellach yn hunangyflogedig, yn dad ac yn daid. 

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Datganiad DBS

·      Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Nhachwedd 1992, derbyniodd gollfarn am drosedd o wir niwed corfforol yn groes i Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861.

 

Yn Medi 1996, derbyniodd gollfarn am drosedd o wir niwed corfforol yn groes i Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.2 yn nodi, bod unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o leiaf. Fodd bynnag, o ystyried ystod y troseddau sy'n ymwneud â thrais, rhaid rhoi ystyriaeth i natur y drosedd.

 

Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

 

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad yr ymgeisydd o’i amgylchiadau ac argymhelliad y swyddog Trwyddedu i ganiatáu’r cais.

 

O dan bolisi’r awdurdod ystyriwyd bod digon o amser wedi mynd heibio ers y gollfarn ddiwethaf i ystyried caniatáu’r drwydded. Noder y Polisi bod gofyn am o leiaf 10 mlynedd fynd heibio - yn yr achos yma roedd 27 mlynedd wedi mynd heibio. Ystyriodd yr Is-bwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn y gwrandawiad, y ffaith nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw hanes pellach o droseddu nac unrhyw dystiolaeth o broblemau perthnasol eraill. Nid oedd sail felly i wrthod y cais.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.