Agenda item

GELLI GYFFWRDD, LÔN LLWYN, Y FELINHELI, BANOGR, GWYNEDD LL56 4QN

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003, caniatawyd y cais gan ystyried y sylwadau a wnaed; ac yn unol gyda'r cyfaddawd ar oriau o adloniant rheoledig a ganiateir a gytunwyd rhwng Swyddog  Gwarchod y Cyhoedd a’r ymgeisydd.

 

Y mesurau a gynigir gan yr ymgeisydd yn adran M o’r cais i’w cynnwys fel amodau.

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy

 

Dramau

Dan Do

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Cerddoriaeth Fyw

Dan do

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Perfformiadau Dawns:

Dan Do

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

 

 

Ffilmiau:

Dan do

Dydd Sul -Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul -Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Cerddoriaeth Wedi ei Recordio

Dan do

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Cyflenwi Alcohol Ac ar oddi ar yr Eiddo

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

      

 

Cofnod:

Parc Teulu Gelli Gyffwrdd, Lôn Llwyn, Y Felinheli, Gwynedd LL56 4QN

 

Eraill a wahoddwyd:

 

·        Andrew Baker – Ymgeisydd - Parc Teulu Gelli Gyffwrdd

·        Simon Dale - Parc Teulu Gelli Gyffwrdd

 

·        Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)

·        Elisabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

 

·        Nest Griffths – Preswylydd Lleol

·        Stephen Watson-Jones – Preswylydd Lleol

·        Karen Jones – Preswylydd Lleol 

·        Andy Hemmings – Preswylydd Lleol 

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                         Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Parc Teulu Gelli Gyffwrdd, Lôn Llwyn, Y Felinheli, Gwynedd, gan yr ymgeisydd Mr Andrew Baker, Rheolwr Cyffredinol. Eglurwyd bod Parc Teulu Gelli Gyffwrdd yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr yng Ngwynedd a’r safle yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn ogystal â llety glampio.

 

Gwnaed y cais i gael caniatâd i werthu alcohol (cynnyrch lleol mewn poteli) gyda phrydau yn eu bwyty ar y safle yn ogystal â gwerthu poteli cynnyrch lleol yn y siop anrhegion. Ategwyd bod y llety glampio yn agored i westeion 7 niwrnod yr wythnos o ddechrau mis Ebrill hyd at ddiwedd mis Hydref.

 

Yn ogystal â gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo 10:00 tan 22:00, chwarae cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, dramâu a ffilmiau, perfformiadau dawns (dan do ac awyr agored) hefyd tan 22:00, 7 niwrnod yr wythnos, roedd y cais hefyd yn datgan bwriad trefnu perfformiadau a dramâu dan do ac awyr agored mewn ardal theatr tu allan, a hynny'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn (yn bennaf yn ystod y tymor prysuraf ond hefyd y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig) ar gyfer gwesteion glampio ac aelodau o'r gymuned, o fis Chwefror tan fis Hydref. Nodwyd y byddai ‘amplifier’ yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adloniant o'r fath.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais, ond derbyniwyd sylwadau i’r cais gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar sail pryderon nad oedd digon o wybodaeth yn y cais yn amlygu na fyddai’r amcan niwsans cyhoeddus yn cael ei danseilio. Yn ychwanegol, derbyniwyd naw o lythyrau ac e-byst gan drigolion lleol yn gwrthwynebu mewn perthynas ar amcanion Trwyddedu Diogelwch y Cyhoedd, Niwsans Cyhoeddus a Gwarchod Plant Rhag Niwed. Roedd eu sylwadau / pryderon yn cyfeirio at gynnydd mewn traffig; byddai cerddoriaeth fyw / wedi ei recordio hyd 22:00 yn achosi niwsans cyhoeddus; gall plant gael gafael ar alcohol ar y safle; byddai’r rhai hynny sydd wedi yfed alcohol ar y safle yn debygol o adael ar droed a hynny ar hyd ffordd gul a pheryglus iawn.

 

O ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais yn unol â’r cyfaddawd a gytunwyd gyda’r ymgeisydd.

 

b)                         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·        Mai’r bwriad oedd gwerthu alcohol gyda bwyd yn y bwyty ac yn y siop anrhegion

·        Bod dewis gwael o gynnyrch lleol yn y siop – eisiau gwella hyn

·        Yn ystyried cynnal priodasau yn y dyfodol - y sector twristiaeth wedi wynebu heriau yn ystod cyfnod covid ac felly’n chwilio am ffyrdd o greu incwm ychwanegol i gwrdd â chostau cynnal. Ysgubor fawr ar y safle, felly dymuniad fyddai ystyried hyn fel opsiwn i’r dyfodol

·        Bod y berthynas gyda chymdogion yn flaenoriaeth

·        Bod bwriad gweini alcohol gyda bwyd yn y bwyty tan 22:00 – hyn ar gyfer  glampwyr yn unig

·        Bod y parc yn barc teulu – dim eisiau unrhyw wrthdaro gyda thrigolion lleol

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyfreithiwr ynglŷn â’r oriau agor, cadarnhawyd bod y parc ar agor o 10:00 tan 17:30, ond yn weithredol tan 18:00 - dyma’r oriau craidd. Nid oedd bwriad agor y parc tan 22:00 - cais ar gyfer digwyddiadau tu mewn yn unig oedd yma. Ategodd y byddai modd agor y parc tan 22:00 heb weithgareddau trwyddedig o dan y drwydded gyfredol petai dymuniad gwneud hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chapasiti y parc ac os byddai caniatáu y cais yn cynyddu’r niferoedd dyddiol, nododd yr ymgeisydd na fyddai caniatáu y cais yn cael effaith fawr ar y niferoedd - bod capasiti y parc oddeutu 2000 y dydd ac yn ystod 2023 bod y niferoedd, ar yr adegau prysuraf ond wedi cyrraedd 1400.

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt. Tynnwyd sylw at y sylwadau hynny a gyflwynwyd gan yr ymgynghorai nad oedd yn bresennol)

 

Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)

·        Ei bod yn wreiddiol wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd pryder cynnydd mewn sŵn i drigolion cyfagos, 7 diwrnod yr wythnos, ac awgrym y byddai llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal e.e. ffilmiau, dramâu, cerddoriaeth byw, perfformiadau dawns ayyb hyd 22:00

·        E-byst wedi mynd nôl ac ymlaen gyda’r ymgeisydd yn ceisio gwybodaeth bellach am reoli sŵn digwyddiadau gyda’r nos

·        Er nad oedd bwriad gan y cwmni i gynnal digwyddiadau cyson 7 niwrnod yr wythnos hyd 22:00, byddai’r drwydded yn caniatáu hyn

·        Yn sgil y pryder yma, cytunodd yr ymgeisydd y byddai cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, dramâu a ffilmiau yn yr awyr agored yn gorffen am 18:00

·        Yn hapus gyda bodlonrwydd yr ymgeisydd i gyfaddawdu ac felly yn tynnu ei gwrthwynebiad yn ol.

 

Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

·        Dim cwynion troseddol ac felly dim gwrthwynebiad i’r cais

 

Stephen Watson-Jones (preswylydd lleol)

·        Bod ef a’i deulu yn gwneud bywoliaeth drwy’r diwydiant twristiaeth

·        Pryder cychwynnol byddai sŵn o’r Parc, yn hwyr yn y nos, yn amharu ar ei ymwelwyr - dyma eu prif ffynhonnell incwm

·        Heddwch, distawrwydd ac awyr gliryn cael eu nodi fel prif nodweddion dros aros yn yr ysgubor yn ei lyfr ymwelwyr - eisiau cadw’r nodweddion hyn

·        Bod cynnydd mewn traffig hefyd yn bryder

·        Yn diolch i’r ymgeisydd am addasu’r oriau.

 

Karen Jones (preswylydd lleol)

·        Yn croesawu’r addasiad i’r oriau

·        Yn methu deall pam fyddai oedolion eisiau yfed yn ystod y dydd mewn parc teulu

·        Bod hyrwyddo cynnyrch lleol yn newyddion da

·        Bod y rhai sydd yn glampio yn dod ag alcohol eu hunain

·        Angen osgoi niwsans cyhoeddus - pobl yn codi stŵr, curo drysau ceir ayyb

 

Andy Hemmings (preswylydd lleol)

·        Bod cau'r parc i weithgareddau tu allan am 18:00 yn ganlyniad da

·        Pryder gwreiddiol am sŵn gyda’r nos - byddai cynnal digwyddiadau yn arwain at gynnydd mewn sŵn.

·        Os am gynnal priodasau - nid y lleoliad gorau. Y parc wedi ei amgylchynu gyda lonydd cul, heb oleuni - hyn yn cynyddu risg i yrwyr a defnyddwyr eraill o’r ffyrdd

 

Nest Griffith (preswylydd lleol)

·        Ei bod yn byw yn agos i’r parc

·        Ei bod wedi cyflwyno sylwadau mewn ymateb i’r cynnig gwreiddiol o’r parc ar agor tan 22:00 - pryder sŵn a lefelau traffig

·        Er wedi arfer gyda sŵn yn ystod y dydd, dim eisiau sŵn gyda’r nos hefyd

·        Buasai agor tan 22:00 yn newid gwedd yr ardal dawel sy’n cwmpasu’r parc ac yn arwain at greu niwsans cyhoeddus

·        Lonydd cul, trac sengl sydd yn arwain at y parc

·        Yn llongyfarch llwyddiant ysgubol y parc, ond petai'r oriau yn cynyddu byddai hyn yn cynyddu’r risg o sicrhau diogelwch i’r cyhoedd / trigolion lleol

·        Er yn derbyn y cyfaddawd o gau am 18:00, yn awgrymu cau am 17:30 fel bod pawb wedi gadael erbyn 18:00, ar lonydd yn saff.

·        Yn gobeithio na fydd alcohol yn achosi problemau ychwanegol

 

d)               Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei achos, nododd yr ymgeisydd

·        bod y parc yn gweithredu oriau 10:00 – 18:00 (cau am 17:30 a rhoi hanner awr i ymwelwyr adael)

·        Ei fod yn barod i gydweithio ac ymgysylltu gyda’r gymuned leol

·        Bod dyhead i ddatblygu’r parc i’r dyfodol

·        Bod y drwydded yn cael ei haddasu ar gyfer gwerthu alcohol o fewn yr oriau agor

 

dd)                Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei achos, nododd y Rheolwr Trwyddedu ei bod yn hapus gyda sylwadau’r ymgeisydd a’i ymroddiad i dynnu’r oriau agor yn ol i 18:00. Ategodd ei bod yn gobeithio bod y cyfaddawd yn lleddfu pryderon trigolion cyfagos o atal niwsans cyhoeddus.

 

e)                         Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003, caniatawyd y cais gan ystyried y sylwadau a wnaed; ac yn unol gyda'r cyfaddawd ar oriau o adloniant rheoledig a ganiateir a gytunwyd rhwng Swyddog  Gwarchod y Cyhoedd a’r ymgeisydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy

 

Dramâu

Dan Do

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Cerddoriaeth Fyw

Dan do

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Perfformiadau Dawns:

Dan Do

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Ffilmiau:

Dan do

Dydd Sul -Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul -Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Cerddoriaeth Wedi ei Recordio

Dan do

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

Awyr Agored

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 18:00

 

Cyflenwi Alcohol Ac ar oddi ar yr Eiddo

Dydd Sul – Dydd Sadwrn 10:00 - 22:00

 

Y mesurau, a gynigiwyd gan yr ymgeisydd yn adran M o’r cais i’w cynnwys fel amodau.

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais.  Nid oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn amlygu y bu problemau oedd yn berthnasol â’r egwyddor yma gyda’r eiddo.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus nodwyd y pryderon a godwyd ynglŷn â’r effaith ar draffig ar y ffyrdd cul yng nghyffiniau’r safle. Ystyriodd yr Is-bwyllgor y defnydd presennol o’r safle a’r niferoedd sy’n ymweld â’r Parc eisoes, ac nid oeddynt o’r farn bod tystiolaeth y byddai caniatáu’r cais yn debygol o arwain at broblemau drwy gynnydd yn y defnydd o’r ffyrdd. Ategwyd yr angen i gadw mewn cof mai mater i’r weithdrefn gynllunio oedd ystyried effaith y datblygiad ar ffyrdd a thraffig yn yr ardal gyfagos.

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, addaswyd y cais gan yr ymgeisydd i gyfarch gwrthwynebiad penodol Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd i’r oriau ar gyfer cynnal gweithgareddau awyr agored a’r tebygolrwydd o greu niwsans cyhoeddus. O ganlyniad, byddai’r gweithgareddau yma yn dod i ben am 18:00 yn hytrach na 22:00. Roedd y Swyddog yn fodlon gyda’r addasiad ac roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod yr addasiad yn cyfarch y pryderon a fynegwyd gan unigolion mewn ffordd resymol.

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

Roedd yr Is-bwyllgor yn croesawu bod yr ymgeisydd wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd ac wedi bod yn fodlon cyfaddawdu. O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais fel yr addaswyd yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais. Ar nodyn cyffredinol, eglurwyd mai ar sail tystiolaeth roedd yr Is-bwyllgor yn gwneud eu penderfyniad a bod y ddeddfwriaeth yn darparu gweithdrefn adolygu lle gellid gofyn i'r awdurdod adolygu unrhyw agwedd o’r drwydded os oedd angen.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: