Agenda item

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.       Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

 

2.       Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

1.         Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'u diweddaru.

2.         Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r oedi i amserlen prosiect Cysylltu yr Ychydig % Olaf o ganlyniad i’r ffaith bod gweithgaredd caffael ar y prosiect wedi’i atal nes bod Llywodraeth y DU yn cadarnhau dyddiad lansio eu hymyrraeth newydd.  Nodwyd bod Prosiect Gigabit £5bn y Llywodraeth wedi’i gyhoeddi yn 2019, ond nad oedd Cymru wedi derbyn unrhyw fudd ohono.  Awgrymwyd bod gan Lywodraeth y DU record wael o ran cyflenwi cysylltedd digidol yng Nghymru a chredid ein bod yn peryglu ein prosiect ein hunain tra’n aros iddynt ymateb.  Awgrymwyd y dylai’r Bwrdd osod terfyn amser ar hyn, gan ystyried symud yn ein blaenau ein hunain os nad yw’r Llywodraeth yn ymateb.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y cytunid yn llwyr â’r pryderon a bod y swyddogion mewn cyswllt rheolaidd â’u cydweithwyr yn Llywodraeth y DU er mwyn amlygu arwyddocâd y risg.

·         Yn ôl dealltwriaeth y swyddogion, bod Llywodraeth y DU yn bwriadu lansio’r gweithgaredd caffael ar gyfer yr ymyrraeth yma yn Ionawr 2024.

·         O ran yr awgrym y dylem symud ymlaen ein hunain os nad yw’r Llywodraeth yn ymateb, bod angen cadw mewn cof mai’r nod yn y pen draw yw sicrhau’r cysylltedd gorau ar gyfer ein cymunedau.  Pe byddem yn symud ymlaen i weithredu’r prosiect sydd wedi’i ddatblygu a’i ddylunio gennym, byddai’n rhaid cael sicrwydd na fyddai hynny’n peryglu cysylltedd Gigabit yn y dyfodol i’r llefydd hynny y gallai ein hymyrraeth ni eu cyrraedd.

·         Er ein bod yn barod i symud ymlaen i gaffael ar ein prosiect ein hunain, byddai’n rhaid i ni ddal ein hunain yn atebol am sicrhau ein bod yn dewis y llwybr gorau i gael y cysylltedd gorau ar gyfer ein cymunedau.  Y cysylltedd gorau fyddai cysylltedd Gigabit, na fyddai ein prosiect ni, o reidrwydd, yn gallu ei ddarparu.

·         Bod y drafodaeth yn un sensitif, yn amlwg, ond ein bod yn pryderu bod gwerth ein buddsoddiad yn gostwng wrth i ni aros am ragor o eglurder.

 

Cytunwyd i anfon llythyr at Lywodraeth y DU, ar ran y Bwrdd, yn amlygu’r pryderon uchod.

 

Gofynnwyd am ragor o fanylion ynglŷn â’r bwlch hyfywedd ar brosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru. 

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y cytunwyd i roi £3m tybiannol ychwanegol i’r prosiect hwn yn gynharach eleni gyda’r bwlch hyfywedd gwreiddiol.

·         Bod y bwlch wedi cynyddu, a hynny’n mae’n debyg o ganlyniad i’r ffaith bod y costau’n cynyddu a’r farchnad dai yn arafu.

·         Y credid bod hyn yn fwy penodol i’r math hwn o brosiect na’r prosiectau Cynllun Twf arferol.  Roedd pob cynllun yn wynebu heriau chwyddiant costau, wrth gwrs, ond roedd hwn ychydig yn fwy penodol i’r farchnad dai.

·         Gan fod penderfyniad y Bwrdd, ar adeg dyrannu’r gyfran olaf o’r £3m, yn ei gwneud yn glir na fyddai’r prosiect yn derbyn unrhyw arian ychwanegol o’r Cynllun Twf, roedd hyn yn fater i noddwr y prosiect ei ddatrys.  Roedd Uchelgais Gogledd Cymru a chwmni Jones Bros yn gweithio gyda’r noddwr ar opsiynau o ran y camau cyflawni allai olygu na fyddai’r mater hyfywedd yn gymaint o destun pryder i’r noddwr.

·         Yn y pen draw, credid y byddai hyn yn dod i lawr i awydd noddwr y prosiect i wneud y penderfyniad terfynol i fuddsoddi.  Roedd trafodaethau diweddar wedi bod yn bositif a gobeithid gallu cyflwyno’r achos busnes amlinellol i gyfarfod cyntaf y Bwrdd yn 2024.

 

Ategwyd y sylw bod y trafodaethau wedi bod yn bositif a nodwyd y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn trafod y cais cynllunio ym mis Rhagfyr.

 

 

Dogfennau ategol: