Agenda item

Clwb Llyn Bach, Heol yr Wyddfa, Porthmadog, LL49 9DF

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Yn unol a’r Deddf Drwyddedu 2003, ac wedi ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, GWRTHODWYD y cais am y rhesymau canlynol -  

 

·         Nid oes unrhyw fesurau wedi eu hargymell yn rhan M sydd yn argyhoeddi’r Awdurdod Trwyddedu na’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd fod posib rhoi mesurau mewn lle i reoli ardrawiad sŵn yn y lleoliad hwn sydd wedi ei amgylchynu gyda eiddo preswyl.

·         Bod cwyn wedi ei dderbyn am  sŵn miwsig a sŵn cwsmeriaid ar yr eiddo trwyddedig yn ddiweddar

·         Er bod swyddog Gwarchod y Cyhoedd wedi hysbysu’r  ymgeisydd  o’r bwriad i wrthwynebu’r cais ar sail yr amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus; ni dderbyniwyd unrhyw ymateb gan yr ymgeisydd , neu unrhyw awgrym o gyfaddawd

·         Byddai’n fwy priodol i’r ymgeisydd fod yn cyflwyno rhybuddion digwyddiadau dros dro er mwyn ceisio darganfod os oes modd rheoli sŵn o ddefnydd yr ardd gwrw ar gyfer gweithgareddau trwyddedig.

 

Cofnod:

Cae Llyn Bach, Heol yr Wyddfa, Porthmadog LL49 9DF

 

Eraill a wahoddwyd:

 

·        Mr John Lewis Roberts (ymgeisydd)

·        Mared Llwyd (Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd (Rheolaeth Llygredd a Thrwyddedu)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais i amrywio trwydded Clwb Llyn Bach, Heol Yr Wyddfa, Porthmadog i ychwanegu gwerthu alcohol o adeilad bach sydd wedi ei leoli tu allan ( i gefn y prif adeilad) ar gyfer gweithgareddau trwyddedig pan fydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar adegau prysur. Nodwyd bod y Clwb yn un ar gyfer aelodau yn bennaf; yn cynnwys bar ac ardal patio / gardd gwrw; gyda thrwydded eiddo yn hytrach na thystysgrif clwb.

 

Gofynnwyd am yr hawl i gael chwarae cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio hyd at 01:00 bob dydd yn ogystal â pherfformiadau dawns, ac unrhyw weithgaredd tebyg megis comediwyr ‘standup’, tu mewn a thu allan, 7 diwrnod yr wythnos, ond fod adloniant rheoledig, gan gynnwys cerddoriaeth a dawnsio, yn dod i ben tu allan am 23:00. Er nad oedd cynnydd yn yr oriau gweithgareddau trwyddedig o’i gymharu â’r drwydded gyfredol, roedd yr ymgeisydd yn ceisio'r hawl i gynnal gweithgareddau trwyddedig y tu allan i’r eiddo hyd at 23:00. Y bwriad oedd gwerthu alcohol o’r ‘hatch’ yn y bar allanol tan 23:30, cau'r ardd gwrw am 00:00; gan ofyn i gwsmeriaid symud i mewn i’r adeilad. Gofynnwyd am ganiatâd i gomedïwr berfformio tu mewn yn ogystal â thu allan tan 01:00, er yn nodi yn rhan M y cais fod y llecyn allanol yn cau am 00:00.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais, a derbyniwyd sylw gan Cyngor Tref Porthmadog nad oedd ganddynt wrthwynebiad cyn belled a bod y gweithgareddau yn cael eu cyfyngu i du mewn i’r adeilad ac nid tu allan. Derbyniwyd gwrthwynebiad i’r cais gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar sail pryderon y byddai’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus yn cael ei danseilio oherwydd y bwriad i gynnal gweithgareddau trwyddedig tu allan i’r eiddo gydag adloniant rheoledig yn cael ei ganiatáu yn yr awyr agored tan 23:00, a bar allanol  tan 23:30.

 

Amlygwyd bod disgwyliad i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth fanwl gyda’r cais i ganiatáu i’r Awdurdod Trwyddedu benderfynu os yw'r mesurau a gynigir yn ddigonol i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu yn yr ardal leol. Adroddwyd nad oedd unrhyw fanylion o’r camau arfaethedig y bwriedir eu cymryd i liniaru effaith sŵn ar drigolion cyfagos yn ystod digwyddiadau lle cynhelir adloniant wedi cael eu cyflwyno gan yr ymgeisydd yn yr achos yma. 

 

O ganlyniad, roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais.

 

b)       Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·        Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·        Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·        Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·        Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·        Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·        Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)     Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·        Bod yr ardd yn agor beth bynnag tan hanner nos

·        Byddai gwerthu alcohol yn yr ardd yn tynnu pwysau oddi ar y bar tu mewn

·        Bod y tu mewn yn tueddu i orlenwi pan fydd tafarndai eraill yn y dre yn cau

·        Dim bwriad cael pympiau - gwerthu alcohol mewn poteli a chaniau

·        Un cwyn wedi ei dderbyn mewn pedair blynedd a hanner a  hynny oherwydd sŵn gwagu poteli am 22:15

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â maint yr ardd, nododd yr ymgeisydd bod lle i oddeutu 80 o bobl yn yr ardd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gofynion y cais, nododd y Rheolwr Trwyddedu, er bod cais yma i werthu alcohol yn yr ardd, bod y cais yn gofyn am drwydded i gynnal adloniant / chwarae cerddoriaeth tu allan hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â cherddoriaeth a’r drefn bresennol, nododd yr ymgeisydd bod cerddoriaeth yn cael ei chwarae tu mewn bob nos Sadwrn, Sul ac ar Ŵyl y Banc ac y byddai cais am Ddigwyddiad Dros Dro yn cael ei wneud ar gyfer digwyddiadau arbennig tu allan. Ategodd yr ymgeisydd bod yr ardd wedi ei lleoli yn bellach o’r tai ac yn agored ar benwythnosau yn unig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyfreithiwr ynglŷn â defnydd cyfreithiol y cwt tu allan ac os byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd, nododd yr ymgeisydd mai safle’r Hen Legion oedd dan sylw gyda hen seler ar y safle yn cael ei defnyddio i werthu cwrw yn y gorffennol. Ategodd y Rheolwr Trwyddedu bod y selar yn rhan o’r drwydded eiddo, ond bod y gweithgaredd o werthu alcohol yn wahanol.

 

   ch)    Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.

 

Mared Llwyd (Arweinydd Tim Gwarchod y Cyhoedd (Rheolaeth Llygredd a Thrwyddedu)

·        Yn amlygu pryder y byddai caniatáu yn arwain at greu niwsans cyhoeddus - byddai cerddoriaeth byw neu wedi ei recordio 7 diwrnod yr wythnos yn achosi niwsans i drigolion lleol

·        Byddai cael 80 o bobl tu allan yn creu sŵn ychwanegol

·        Os caniatáu gwerthu alcohol tu allan byddai hyn yn annog mwy i ymgynnull tu allan ac o ganlyniad byddai’n anodd rheoli sŵn

·        Bod y lleoliad o fewn 15m i dai preswyl

·        Bod sŵn yn cario a hyn yn amlwg o’r gŵyn a dderbyniwyd ym mis Awst 2023

 

d)     Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei achos, nododd yr ymgeisydd

·        Mai cŵyn am wagu poteli oedd dan sylw ac nid cŵyn am sŵn o’r ardd

·        Bod cwrw wedi cael ei werthu ar y safle yn y gorffennol

·        Derbyn peidio cael gwerthu alcohol o’r ardd, ond byddai peidio cael adloniant tu allan yn cael effaith ar y busnes

 

dd)    Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei achos, nododd y Rheolwr Trwyddedu,

·        Bod yr ardal yn sensitif i sŵn - nifer o dai cyfagos o fewn 15m

·        Yn parhau i wrthwynebu’r cais - nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhagofalon sŵn na chynllun gweithredu liniaru sŵn

 

e)     Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod

 

Yn unol â’r Ddeddf Drwyddedu 2003, ac wedi ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, GWRTHODWYD y cais am y rhesymau canlynol -  

 

·        Nad oedd unrhyw fesurau wedi eu hargymell yn rhan M sydd yn argyhoeddi’r Awdurdod Trwyddedu na’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd fod posib rhoi mesurau mewn lle i reoli ardrawiad sŵn yn y lleoliad hwn sydd wedi ei amgylchynu gydag eiddo preswyl.

·        Bod cwyn wedi ei dderbyn am  sŵn miwsig a sŵn cwsmeriaid ar yr eiddo trwyddedig yn ddiweddar

·        Er bod swyddog Gwarchod y Cyhoedd wedi hysbysu’r  ymgeisydd  o’r bwriad i wrthwynebu’r cais ar sail yr amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus; ni dderbyniwyd unrhyw ymateb gan yr ymgeisydd , neu unrhyw awgrym o gyfaddawd

·        Byddai’n fwy priodol i’r ymgeisydd fod yn cyflwyno rhybuddion digwyddiadau dros dro er mwyn ceisio darganfod os oes modd rheoli sŵn o ddefnydd yr ardd gwrw ar gyfer gweithgareddau trwyddedig.

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais. Nid oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn amlygu y bu problemau oedd yn berthnasol â’r egwyddor yma gyda’r eiddo.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus ni dderbyniwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

 

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y byddai caniatáu’r cais yn tanseilio’r egwyddor yma. Ystyriwyd bod Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi gwrthwynebu’r cais ar sail y byddai'r egwyddor yma yn cael ei danseilio o ganlyniad i’r bwriad o gynnal gweithgareddau trwyddedig y tu allan i’r eiddo. Ystyriwyd y lleoliad fel un sensitif iawn o ran sŵn gan ei fod wedi amgylchynu gan dai preswyl a’r cais yn gofyn am gael cynnal gweithgareddau y tu allan i’r eiddo tan 23:00. Er bod pobl eisoes yn mynychu’r ardd gwrw roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y byddai gwerthu alcohol yn yr ardd yn denu mwy allan i’r ardd a hefyd yn rhoi rheswm iddynt aros yno. Nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth oedd yn perswadio’r swyddogion na’r is-bwyllgor y byddai modd rhoi mesurau mewn lle i reoli ardrawiad sŵn ar y tai preswyl cyfagos. Yn ogystal â barn broffesiynol y swyddogion, roedd tystiolaeth o gŵyn am sŵn o ganlyniad i ddigwyddiad a gynhaliwyd o dan drwydded dros dro yn ddiweddar.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn siomedig nad oedd yr ymgeisydd wedi cysylltu â Swyddog Gwarchod y Cyhoedd a hithau wedi ei hysbysu o’i bwriad i wrthwynebu’r cais. Ni fu unrhyw awgrym o gyfaddawd mewn ymateb i’r pryderon a godwyd ac ni fu unrhyw ymdrech i gyfarch y pryderon.

 

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: