Ystyried ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth 2024.
Penderfyniad:
Ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn
Brif Weithredwr rhan-amser Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail
secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth, 2024.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Geraint Owen, Cyngor Gwynedd.
Ymhellach
i gynnwys yr adroddiad, nodwyd bod y Bwrdd Uchelgais wedi cytuno yn ei gyfarfod
yn gynharach yn y dydd i ryddhau Alwen Williams i’r rôl am y cyfnod dan sylw.
PENDERFYNWYD
ymestyn cyfnod penodiad Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Mawrth,
2024.
TRAFODAETH
Holwyd
a olygai’r secondiad bod tanwariant ar gyflog Alwen Williams fel Cyfarwyddwr
Portffolio’r Bwrdd Uchelgais. Mewn
ymateb, eglurwyd bod y swm sy’n cael ei drosglwyddo i’r Bwrdd Uchelgais am
ryddhau Alwen Williams yn rhan-amser yn creu tanwariant, ond bod yr arian
hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer swyddog arall yn y Swyddfa Rhaglen sy’n
dirprwyo i Alwen Williams ar y 2 ddiwrnod y mae’n gweithio i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig.
Mynegodd
Arweinydd Cyngor Sir Fflint bryder ei bod yn ymddangos felly bod yna ôl-lenwi’r
swydd yn y Bwrdd Uchelgais tra bo gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael ei
gyflawni, gan ychwanegu nad oedd yn cofio i hyn erioed gael ei drafod yn y
Bwrdd Uchelgais. Mewn ymateb, eglurwyd mai
rhan o’r trefniadau, pan gymeradwywyd y trefniant secondio yn wreiddiol, oedd
rhoi sicrwydd i’r Bwrdd Uchelgais bod yna gamu i fyny o ran rôl y Cyfarwyddwr
Portffolio er mwyn cynnal y Cynllun Twf, a bod hynny wedi’i adrodd i’r Bwrdd
Uchelgais ar y pryd.
Nodwyd
bod yr adroddiad yn cyfeirio at y ffaith bod eitem arall ar raglen y cyfarfod
yn ymhelaethu ar yr adnodd ychwanegol sydd wedi’i adnabod i gefnogi’r Prif
Weithredwr Dros Dro gyda’r gwaith o sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
derfynol erbyn 1 Ebrill, 2024, ond na welid unrhyw gyfeiriad at hynny yn y
papurau. Mewn ymateb, awgrymwyd bod hyn
yn gwestiwn i’w ofyn i’r Prif Weithredwr Dros Dro wedi iddi ddychwelyd i’r
cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf gan mai hi oedd wedi rhoi’r trefniant hwn yn
ei le.
Yn
dilyn y bleidlais ar yr eitem, nododd Arweinydd Cyngor Sir Fflint y dymunai
gofnodi iddo bleidleisio yn erbyn y secondiad gan nad oedd ganddo unrhyw gof o
adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais ynglŷn â phwy fyddai’n
llenwi i mewn ar gyfer y Cyfarwyddwr Portffolio.
Nododd
y Cadeirydd y gellid gofyn y cwestiwn i’r Prif Weithredwr Dros Dro wedi iddi
ddychwelyd i’r cyfarfod, a gofynnodd i’r aelod a oedd yn dymuno parhau i nodi
ei wrthwynebiad.
Nododd
Arweinydd Cyngor Sir Fflint ei fod yn dymuno i’w bryder gael ei nodi a’i fod yn
gofyn am adroddiad i’r Bwrdd Uchelgais ac i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
egluro pwy sy’n llenwi i mewn yn y Bwrdd Uchelgais am y 2 ddiwrnod pan nad yw’r
Cyfarwyddwr Portffolio ar gael, a sut a phryd y cafodd y penodiad(au) hynny eu gwneud.
Galwyd
Alwen Williams yn ôl i mewn i’r cyfarfod, a gofynnwyd iddi roi esboniad o’r
sefyllfa. Mewn ymateb, nododd, gan fod y
2 Lywodraeth yn dymuno cadarnhad na fyddai’r secondiad i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn amharu ar y gallu na’r adnoddau i gyflawni yn erbyn y Cynllun
Twf, y rhoddwyd trefniadau mewn lle fel bod y 2 ddiwrnod yn cael eu llenwi gan
adnoddau oddi fewn i dîm presennol y Swyddfa Rhaglen.
Holodd
y Cadeirydd a oedd yna wariant ychwanegol o ganlyniad i hynny. Nododd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol nad oedd
yr union ffigwr ar gael ganddi, ond y gellid dod â’r wybodaeth honno yn ôl i’r
aelodau.
Nododd
y Cadeirydd ei bod yn amlwg bod yna gais am eglurder, ond mai mater i’r Bwrdd
Uchelgais, yn hytrach na’r Cyd-bwyllgor Corfforedig oedd hynny, ac awgrymodd y
gellid cyfeirio yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Uchelgais at y penderfyniad a
wnaed i lenwi ac i roi cymorth ychwanegol i’r Swyddfa Rhaglen.
Nododd
y Prif Weithredwr Dros Dro ymhellach:-
·
Ar
adeg cychwyn trafod gyda’r 2 Lywodraeth ynglŷn â’r trefniadau i sefydlu’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig a chyflwyno’r cais i neilltuo rhywfaint o’i hamser i
waith y Cyd-bwyllgor, bod Llywodraeth Cymru yn eithaf cadarnhaol, ond yn dymuno
cael sicrwydd nad oedd hynny am gael effaith negyddol ar y Cynllun Twf fel
blaenoriaeth.
·
Bod
Llywodraeth y DU hefyd eisiau gwneud yn hollol siŵr na fyddai yna effaith
negyddol ar ein gallu, nac ar yr adnoddau i gyrraedd amcanion y Cynllun Twf.
·
Nad
oedd yn fater mor syml â symud adnoddau o un lle i’r llall yn unig, ac y bu
trafodaeth eithaf dwys ar y cychwyn i adeiladu ar y berthynas a rhoi sicrwydd y
byddem yn gallu symud yn ein blaenau i sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig a
pharhau i gyrraedd gofynion y Llywodraethau o ran y Cynllun Twf.
Ategodd Arweinydd
Sir y Fflint ei bryderon gan fynegi ei fod yn hynod siomedig ynglŷn â’r
hyn sy’n ymddangos iddo fel diffyg tryloywder ar ran yr Awdurdod Lletya.
Cadarnhaodd y
Cadeirydd y byddai yna adroddiad manwl i’r Bwrdd Uchelgais nesaf er mwyn cael
yr eglurder yn llawn.
Dogfennau ategol: