Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau
etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
(1) Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys
Tudur
O ystyried bod Ymchwil Tai Newydd a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn 2021 wedi
profi bod asesiadau ieithyddol ar geisiadau cynllunio yn anwireddau wrth amlygu
fod canran uchel o dai wedi mynd yn aelwyddydd di-Gymraeg mewn ardal sy’n
gadarnleoedd traddodiadol i’r iaith, 68% ym Mhen Llŷn a 41% ym Mhenllyn,
onid yw’n amser bellach i ail wneud y drefn wallus sydd gennym ar gyfer
asesiadau ieithyddol fel na fyddai’r asesydd ieithyddol yn gweithredu ar ran ac
er budd datblygwr ond yn hytrach yn cael ei gyfarwyddo gan y Cyngor a bod y
datblygwr yn talu comisiwn tuag at y gwasanaeth?
Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Yn 2019 y comisiynwyd y gwaith yma ac fe wnaed
hynny oherwydd bod yna ddiffyg gwybodaeth ddibynadwy ar gael am ba grwpiau o
bobl sy’n tueddu i symud i dai newydd yng Ngwynedd, o lle mae’r bobl yma’n
symud a pham eu bod yn dewis symud i dŷ newydd. Fel y nodir yn yr ateb ysgrifenedig, prif
gasgliadau’r gwaith ymchwil oedd:-
·
Bod dros 70% o
breswylwyr tai newydd wedi symud yno o dŷ arall yng Ngwynedd.
·
Bod proffil oedran pobl
sy’n symud i dai newydd yn eithaf ‘ifanc’ gyda dros 70% o drigolion tai newydd
dan 45 oed.
·
Bod 69% o breswylwyr tai
newydd yn gallu siarad Cymraeg sydd yn debyg iawn i’r canran o siaradwyr
Cymraeg ar draws Gwynedd yn gyffredinol.
Yng nghwestiwn yr aelod, mae’n nodi bod y canrannau ym Mhen Llŷn a
Phenllyn yn is na’r nifer sy’n siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hynny, ond mae
angen pwysleisio bod 7 allan o’r 10 ardal oedd yn destun y gwaith ymchwil yn
dangos canrannau uwch fel y gwelwch yn y graff yn yr ateb ysgrifenedig. Er enghraifft, roedd canran y siaradwyr
Cymraeg oedd wedi symud i mewn i dai newydd yn ardal Porthmadog yn 78%, sy’n
cymharu â 67%, sef y ganran o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal. Yn Arfon, er enghraifft, roedd yn 91% o
gymharu ag 81%, ac yn ddifyr iawn, ym Mangor roedd yn 59% o gymharu â 42%, sef
y ganran sy’n siarad Cymraeg ym Mangor, ac mae hynny’n bennaf oherwydd stad o
dai newydd, Goetre Uchaf, ym Mhenrhosgarnedd.
Ac yn nes at adre i mi, roedd yn 86% yn Nyffryn Ogwen o gymharu â 73% yn
gyffredinol.
Fel rhan o’r ymchwil, roedd yna ddilyn y gadwyn hefyd o ran pwy oedd
wedi symud i mewn i’r tai wrth i bobl eraill symud allan, ac mae’r ystadegau’n
dangos bod y ffigurau’n eithaf tebyg o ddilyn y gadwyn.
Pwynt pwysig ydi bod yr ymchwil yn cynnwys pob tŷ newydd a gwblhawyd
yng Ngwynedd rhwng 2015 a 2017, ond roedd yna rai tai ychwanegol oedd yn mynd
yn ôl i 2012 mewn rhai ardaloedd er mwyn gwneud yn siŵr bod y samplau yn
ddigon mawr.
Wrth gwrs, mae’r datblygiadau tai yma wedi’u penderfynu o dan yr hen
Gynllun Datblygu Unedol a gafodd ei ddisodli yn 2017, ac ers hynny, wrth gwrs,
y prif sail polisi ar gyfer datblygiadau ydi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd,
ac mae Canllaw Cynllunio Atodol wedi’i fabwysiadu sy’n rhoi cig ar asgwrn y
polisi cynllunio presennol.
Mae’r drefn bresennol yn fwy gwydn o ran y Gymraeg a hefyd yn mynd yn
llawer pellach na’r gofynion o fewn Nodyn Cyngor Technegol 20 (TAN 20)
Llywodraeth Cymru. Mae sawl enghraifft o
geisiadau cynllunio dan bolisïau presennol sydd wedi cael eu gwrthod am resymau
yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Ond fel
mae’r aelodau yn gwybod, mae’n siŵr, mae’r Cyngor wedi penderfynu gwneud
adolygiad llawn o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sydd i bob pwrpas yn
golygu paratoi cynllun newydd. Mae’r
broses wedi cychwyn a bydd hyn yn gyfle i ni ail-edrych ar y polisïau a sut mae
rhoi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg wrth ddelio hefo ceisiadau cynllunio.
Mae’r aelod a minnau yn rhan o’r Gweithgor Polisi Cynllunio sy’n arwain
ar y gwaith yma, ac fel mae’n digwydd bod, bydd sesiwn pwysig o’r gweithgor yn
cael ei gynnal wythnos nesaf lle fyddwn ni’n gosod cyfeiriad a gweledigaeth i’r
polisi newydd.
O ran pwy ddylai gynnal y gwaith o wneud asesiad ieithyddol gyda
cheisiadau cynllunio, rôl y Cyngor yn y fan yma ydi asesu ceisiadau cynllunio
ac yna eu penderfynu yn seiliedig ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ac
unrhyw ystyriaethau cynllunio eraill.
Nid rôl y Cyngor ydi paratoi asesiadau ar ran yr ymgeisydd, boed hynny’n
asesiad iaith, asesiad trafnidiaeth, ecolegol neu unrhyw asesiad neu adroddiad
arall sydd angen ei gyflwyno fel rhan o’r cais.
Wrth gwrs, mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn sicrhau bod yr holl wybodaeth
sy’n cael ei chyflwyno gan ymgeiswyr yn cael ei hasesu gan arbenigwyr y tu mewn
a thu allan i’r Cyngor.
Cwestiwn Atodol y
Cynghorydd Rhys Tudur
O ystyried yr ymchwil tai newydd a’r
Cyfrifiad, oes parodrwydd gan y Cabinet i hwyluso’r ffordd i roi amod medr
iaith ar dai newydd, neu hyd yn oed ar ganran o dai newydd sy’n cael eu
hadeiladu?
Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Wrth gwrs, mae yna awydd i wneud bob dim
fedrwn ni o ran gwneud yn siŵr bod y tai yn mynd i bobl leol. Wrth gwrs, mae ein dwylo wedi eu clymu i
raddau. Gallaf esbonio hynny drwy
gyfeirio at Baragraff 3.28 o Bolisi Cynllunio Cymru, achos mae rhywun yn gorfod
ystyried hyn fel rhan o unrhyw ystyriaeth gynllunio:-
“Gall ystyriaethau yn ymwneud â’r defnydd o’r
Gymraeg gael sylw gan benderfynwyr cyn belled â’u bod yn berthnasol i geisiadau
am ganiatâd cynllunio. Ni ddylai
polisïau a phenderfyniadau gyflwyno unrhyw elfen o wahaniaethu rhwng unigolion
yn seiliedig ar eu gallu ieithyddol ac ni ddylent geisio rheoli daliadaeth tai
ar sail ieithyddol”
Felly ni ellid cyflwyno amod cynllunio yn
cyfeirio at allu ieithyddol pobl. Wrth
gwrs, y tu allan i hynny, mae’n bosib’ defnyddio polisïau eraill i gyrraedd y
nod, ac mae hynny’n rhan o’r drafodaeth wrth symud ymlaen ac wrth i ni
ddatblygu polisi cynllunio newydd. Rwy’n
siŵr y cawn ni drafodaeth gyda’n gilydd a gyda gweddill aelodau’r
Gweithgor wrth fwrw’r maen yna i’r wal.
(1)
Cwestiwn Y Cynghorydd John Brynmor Hughes
Hoffwn gael gwybod paham mae’n cymryd gymaint o amser i gael tenantiaid
i mewn i gartrefi cymdeithasol yr ardal.
Yr esiamplau sydd gennyf ydi bod eiddo ar Ffordd yr Ala, Pwllheli wedi
ei droi yn ddau flat ac maent yn wag ers amser maith, yn ogystal â dau dŷ
ar Ffordd Abererch. Pe byddai’r eiddo
yma yn y sector preifat byddai treth yn dod i’r Cyngor ac o bosib premiwm treth
hefyd.
Ateb – Aelod Cabinet
Tai, Y Cynghorydd Craig ab Iago
Cwestiwn amserol
iawn. Mae sawl cynghorydd wedi codi’r
pwnc yma yn ddiweddar, rhai eisiau gwybod pam nad ydym ni wedi prynu mil o dai,
rhai yn poeni am yr amser mae’n cymryd i’w prynu ac eraill ddim yn deall y cynllun
mewn gwirionedd, sydd yn fy marn i, yn beth positif. Mae’n dangos ein bod ni fel Adran yn llwyddo
i gael y neges allan. Mae llawer o
gynghorwyr yn ymwybodol o’r cynllun yma ac rwy’n deall eu bod yn ei weld fel
rhywbeth arloesol a chyffrous, ac yn dymuno i ni wneud mwy ohono fo. Rydw i’n croesawu hynny fel Aelod Cabinet
Tai, ond ar y llaw arall, efallai bod o’n dangos diffyg cyfathrebu ar ran yr
Adran.
Rydym ni’n gwneud
ein gorau i gyfathrebu ar y pwnc ‘Tai’.
Rydw i yn y wasg bob munud yn sôn am y pwnc. Rydw i wedi cynnal fforymau tai gyda phob
grŵp yn y Cyngor i drafod y pwnc.
Wrth gwrs, rydym ni’n anfon e-byst i gynghorwyr yn aml iawn, ond yn
bwysicach na hynny, mae gennym ni’r Fewnrwyd Aelodau, ac rydw i'n awyddus i
ddefnyddio’r cyfle yma i wneud yn siŵr bod pawb wedi clywed am y Fewnrwyd
Aelodau a’r ffaith ein bod ni fel Adran Tai yn rhoi llawer o wybodaeth ar y
deilsen ‘Tai’ ar y safle. Os ydych chi’n
mynd i mewn iddo fe welwch eich bod yn gallu mynd i lawr i’ch ward a gweld be
sy’n digwydd yno. Rydym ni’n parhau i’w
ddatblygu, ond gallwch weld ar hyn o bryd os oes rhywun wedi prynu tŷ yn
eich ward. Yn amlwg nid ydym yn
llwyddo’n gyfan gwbl o ran cyfathrebu, ond rydym ni’n gweithio arno fo ac yn
awyddus iawn i wneud mwy o ran hynny.
I fynd yn ôl at y cwestiwn, pwrpas y cynllun
Prynu i Osod ydi prynu tai ar y farchnad agored a’u rhentu i bobl leol
canolraddol, ac nid ‘cymdeithasol’ fel mae’r cwestiwn yn gyfeirio ato, sef pobl
sydd ddim yn cael bod ar y gofrestr tai oherwydd nad ydyn nhw’n ticio’r bocsys
iawn, ond sydd ddim yn gallu fforddio rhentu ar y farchnad agored chwaith. Rydym ni’n trio llenwi’r bwlch yna. Hyd yn hyn rydym ni wedi llwyddo i brynu 23 o
dai yna ac rydym wedi gwario £4m ar eu prynu a £1m ar eu hatgyweirio, ac mae
nhw’n llwyddiant llwyr yn fy marn. Rydym
ni ar drac i gyrraedd ein targed o 100 o dai erbyn diwedd y cynllun yma, felly
rydw i’n hapus iawn. Rydym ni’n trafod
hyn yn aml iawn ac rydw i’n hapus iawn hefo lle rydym ni wedi cyrraedd. Rydym ni hyd yn oed wedi penodi swyddog
penodol i reoli’r cynllun yma. Fel rwy’n
ei weld o, mae dwy ran i’r broses yma.
Un ydi prynu’r tai. Rhaid i ni
wneud yn siŵr ein bod ni’n prynu’r tai yn y llefydd iawn sy’n cwrdd ag
angen lleol. Rhaid i ni wneud yn
siŵr ein bod yn prynu tai sydd ddim yn mynd i gostio gormod i’w
hatgyweirio a hefyd rhaid i ni sicrhau nad ydym yn cystadlu yn erbyn pobl
lleol, sy’n anodd iawn. O’r hyn rwy’n
ddeall, mae pob tŷ wedi cymryd 4 mis i’w brynu, sydd efallai fis yn fwy na
fyddai’n gymryd i drigolyn lleol brynu tŷ.
Yn ddiweddar fe ofynnais i’r Adran ddarparu rhyw fath o siart llif fel
bod y cynghorwyr yn gallu deall yn union beth ydi’r broses a’r holl gamau mae’r
Adran yn gorfod ddilyn er mwyn prynu tŷ.
Os nad ydych wedi ei dderbyn yn y ddau ddiwrnod diwethaf, byddwch yn ei
dderbyn yn fuan iawn.
Mae yna sawl cam
yn y broses ar ôl prynu tŷ. Un ydi
mynd drwy broses dendro er mwyn dod o hyd i bobl i wneud y gwaith ar y tai, sef
rhywbeth nad ydi trigolion yn gorfod gwneud.
Mae yna faterion na ragwelwyd yn codi gyda phob tŷ rydym yn ei
brynu, rhai fwy nag eraill, ond rwy’n hapus gyda’r cynnydd. Yn amlwg rydym ni’n trafod hyn yn y
cyfarfodydd herio perfformiad ac rwy’n hapus gyda lle rydym arni gyda phob dim. Mae’r ddau eiddo dan sylw yn y cwestiwn wedi
mynd drwy’r prosesau yna a deallaf y bydd pobl yn symud i mewn iddyn nhw yn
fuan yn y Flwyddyn Newydd.
Hoffwn sicrhau pawb yma ein bod yn mynd mor
sydyn â phosib’. Ni allaf weld sut y
byddai’n bosib’ i ni fynd yn gyflymach nag ydym yn mynd ar hyn o bryd.
Mae brawddeg olaf y cwestiwn yn nodi pe byddai’r eiddo yma yn y sector preifat y byddai treth yn dod i’r
Cyngor, ac o bosib’ premiwm treth hefyd, ond wrth gwrs, mae’r Cyngor yn talu
Treth Cyngor ar y tai yma fel unrhyw drigolyn, a phetai’r tai yma yn talu
premiwm treth byddai hynny’n golygu eu bod yn nwylo pobl sydd ddim yn byw yn yr
ardal, neu ddim yn byw yn y tai yma.
Credaf ein bod wedi bod yn glir iawn fel Cyngor mai ein gwaith ni yw
cartrefu pobl lleol yn ein cymunedau yn hytrach nag ennill ein cymorth premiwm
treth.
(3) Cwestiwn Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams
A ddylai Cyngor Gwynedd fod yn gofyn i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford
am ymddiheuriad am beidio â bwrw ymlaen â Chanolfan Hyfforddi Feddygol ym
Mangor yn dilyn Rhybudd o Gynnig gan y Cyngor hwn dros 10 mlynedd yn ôl, pan
oedd gan y prosiect gefnogaeth y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Edwina Hart AC.
Pe bai Mark Drakeford heb stopio'r prosiect, ni fyddai Gwynedd yn y
sefyllfa y mae ynddi heddiw o fod yn brin o ddoctoriaid a nyrsys, sy'n cael
effaith negyddol ar drigolion Gwynedd.
Ateb – Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Y Cynghorydd Dilwyn Morgan
Credaf fod hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mae’n codi ymwybyddiaeth o rywbeth mae llawer
un wedi bod yn ymladd amdano dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn sicr hoffwn
ddiolch i’r Cynghorydd Eryl Jones-Williams, oherwydd mi wnaeth o roi cynnig
gerbron y Siambr yma yn ôl ym Medi 2013 yn gofyn am ysgol feddygol yma yn y
Gogledd. Chwarae teg iddo, mae o, ynghyd
ag aelodau seneddol a’n haelodau yn Llywodraeth Cymru, wedi brwydro’n galed
dros y blynyddoedd i sicrhau fod yr ysgol yma’n agor yn 2024.
Erbyn hyn, mae'n braf nodi fod yr Ysgol Feddygol yn cael ei hagor ym
Mangor ac rwy'n siŵr y byddai holl Gynghorwyr Gwynedd am ddymuno'n dda
iddi ac i'r myfyrwyr a'r darpar weithlu meddygol i gyd a fydd yn dechrau ar eu
haddysg ym mis Medi'r flwyddyn nesaf. Yn
wir, diolch yn benodol, fel roeddwn yn dweud, i'r Cynghorydd Jones-Williams,
ymhlith eraill, am yr holl waith di-flino mae nhw wedi wneud dros y degawd
diwethaf.
Mae gen i gydymdeimlad gyda'r teimlad o rwystredigaeth a deimlir yn y
cwestiwn gan y Cynghorydd na chefnogwyd y datblygiad yma ddeng mlynedd yn
ôl. Fel y dywed dihareb o Tsiena, "yr
amser gorau i blannu coeden oedd ugain mlynedd yn ôl, a'r ail amser gorau yw
nawr". Felly, er yn derbyn y
rhwystredigaeth, rydw i'n falch bod y datblygiad yma yn digwydd.
Wrth gwrs, nid yw'r Cyngor yma mewn unrhyw fodd yn
gyfrifol am y maes meddygol a mater i'r Gwasanaeth Iechyd, y Llywodraeth a'r
Brifysgol yw'r datblygiad, er bod ei effaith yn bellgyrhaeddol i drigolion
Gwynedd. Felly, ni welaf fod budd i'w
gael i bobl Gwynedd mewn unrhyw ffordd o alw ar i'r Prif Weinidog ymddiheuro am
ddiffyg gweithredu ddeng mlynedd yn ôl, ond rydw i yn gobeithio yn fawr iawn y
bydd y budd i bobl Gwynedd o'r datblygiad i'r blynyddoedd sydd i ddod yn eang.
I ail-adrodd felly, pob dymuniad da i'r Ysgol
Feddygol ym Mhrifysgol Bangor, a phob hwyl i'r myfyrwyr, a phetasai yna
gwestiwn atodol, rwy’n meddwl mai dyma’r ateb fyddwn yn rhoi. Rwyf am ddweud hyn oherwydd mae’n codi
ymwybyddiaeth o rywbeth sydd wedi bod yn digwydd, ac efallai nad ydi pobl yn
llawn sylweddoli. Mae myfyrwyr eisoes
wedi cael eu lleoli ym Mhrifysgol Bangor yn cael eu hyfforddi i fod yn feddygon
a gweithwyr sydd â phwyslais ar feddyginiaeth wledig a chymunedol, ac mae’n
braf nodi bod yna 17 o fyfyrwyr eisoes wedi graddio o Brifysgol Bangor. Felly mae’r gwaith wedi bod yn mynd yn ei
flaen, ac rydym ni’n ddiolchgar am hynny.
Diolch unwaith eto i’r Cynghorydd am ei waith diflino ar y mater
yma.
(4) Cwestiwn Y Cynghorydd Huw Rowlands
Pa effaith mae’r cyfyngiadau ar allyriadau ffosfforws yn nalgylchoedd
afonydd yng Ngwynedd yn ei gael ar ddatblygiadau newydd, a pha drafodaethau
sydd wedi bod gan Gyngor Gwynedd efo’r asiantaethau priodol er mwyn cael
datrysiad?
Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Mae hwn yn fater sy’n amlwg wedi effeithio ar ddatblygiad stad tai yn y
ward acw. Mae hon yn broblem eithaf
cymhleth, felly rwy’n tynnu eich sylw at yr ateb ysgrifenedig sydd wedi’i
ddarparu. Ymddiheuriadau bod o’n faith
ac yn dechnegol, ond yn ei hanfod mae’n nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi
cyhoeddi adroddiad yn 2021 yn dangos bod nifer uchel o afonydd sydd o fewn
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn methu bodloni’r targedau ansawdd dŵr diwygiedig
ar gyfer ffosfforws. Er nad ydi’r ddwy
afon sydd dan sylw yng Ngwynedd, sef y Gwyrfai a’r Glaslyn, yn methu’r
targedau, fe all rhai datblygiadau newydd arwain at fwy o ffosfforws yn mynd i
mewn i amgylchedd yr afon.
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor oddeutu 9 cais cynllunio sydd heb eu
penderfynu oherwydd materion ffosffadau, sy’n cynnwys datblygiad o 16 tŷ
fforddiadwy yn Dinas. O ran y Gwyrfai,
mae astudiaethau wedi dangos bod tua 80% o’r ffosfforws yn deillio o waith trin
Dŵr Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol
Cymru wrthi’n cynnal adolygiad ar hyn o bryd o drwyddedau cwmnïau dŵr
presennol yn erbyn y targedau ffosfforws diwygiedig ac mae ganddyn nhw darged
yn ei le i gwblhau’r gwaith erbyn Gorffennaf 2024 ar draws Cymru. Hyd yn hyn nid oes yna unrhyw drwyddedau
diwygiedig wedi’u cyhoeddi ar gyfer Gwynedd.
I ateb y cwestiwn, unwaith y bydd trwyddedau wedi’u hadolygu ac wedi’u
cyhoeddi, fe all y Gwasanaeth Cynllunio gynnal trafodaeth gyda Dŵr Cymru
ynghylch capasiti eu gwaith trin dŵr.
Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Huw Rowlands
Pa bwysau all Cyngor Gwynedd felly ddwyn ar Dŵr Cymru er mwyn bod
nhw’n uwchraddio eu gweithfeydd trin dŵr fel bod yna ddatrysiad wedyn i’r
mater yma?
Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig
I raddau, mater rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ydyw. Mae’r broblem yn waeth mewn cynghorau eraill,
ond disgwylir y bydd yr adolygiadau yma wedi digwydd erbyn Gorffennaf 2024
rwy’n credu, ond yn sicr rydw i’n hapus iawn i sgwennu fel Aelod Cabinet at y
ddau gorff i ofyn iddyn nhw brysuro hefo’r gwaith yn y gobaith y cawn ni symud
ymlaen hefo ceisiadau cynllunio.
(5) Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts
Mi fydd hi’n flwyddyn newydd gyda hyn. Pa mor ara’ deg mae’r Cyngor hwn yn mynd i
fod yn llunio polisi iaith newydd ar gyfer ysgolion y sir neu eu dynodi’n
ysgolion 3P?
Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Beca Brown
Wnâi ddim amlhau geiriau wrth ateb achos mae hwn yn gwestiwn ar thema
gyfarwydd i’r Siambr hon. Rydw i wedi
nodi fy mwriad i ddiweddaru’r Polisi Iaith Addysg mewn sawl cyfarfod o’r Cyngor Llawn, ac
mewn sawl cyfarfod Pwyllgor Craffu. Rydw
i wedi mabwysiadu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori
3 Gwynedd, sydd yn cynnwys argymhelliad penodol ynglŷn â’r Polisi Iaith sy’n
ymwneud a rhoi mwy o bwyslais ar y Gymraeg a’i wneud yn gliriach o ran yr hyn a
olygir wrth “ddwyieithrwydd.”
Nid wyf yn
derbyn y sylw ‘chydig yn bigog am arafwch y Cyngor wrth fynd ati i ddiweddaru’r
Polisi Iaith. Mae fy ymrwymiad i yn
glir. Mae gennym ni Bennaeth Addysg
newydd yn ei le ers cwta wythnos, a llongyfarchiadau iddo fo ar ei benodiad, a
bydd y gwaith o ddiweddaru’r Polisi Iaith Addysg wedi ei wneud erbyn diwedd y
flwyddyn addysgol hon, a bydd yna gyfle i drafod cynnydd ar y gwaith yma yn y
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn mis Mawrth.
Cwestiwn
Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts
O ystyried bod
yna eryrod yn y gorffennol, Dafydd Orwig, er enghraifft, wedi gweithredu hefo
penderfyniad i ddiogelu’r Wynedd Gymraeg, ydi’r arafwch malwodaidd yma yn
deilwng o enw’r Siambr rydym ni’n eistedd ynddi heddiw?
Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Beca Brown
Fel i mi nodi,
nid ydw i’n derbyn y cyhuddiad o arafwch, ac i fynd yn ôl at y cwestiwn
gwreiddiol, lle mae’r aelod yn sôn am y Flwyddyn Newydd, ac o ran ymrwymiad ac
o ran penderfyniad, sef y geiriau a ddefnyddir gan yr aelod, mi fydd y flwyddyn
nesaf yn un llawn cyfleon o ran y darnau o waith sydd o’n blaenau. Mae’r darnau o waith hynod bwysig yma yn mynd
i fod yn gweithredu fel sail i ni am flynyddoedd i ddod, y Polisi Iaith, wrth
gwrs, fel rydym ni wedi sôn amdano eisoes, a’r Strategaeth Addysg, sy’n ddarn o
waith allweddol, a hefyd y gwaith hynod bwysig fydd yn digwydd i gefnogi taith
ieithyddol ein hysgolion trosiannol ni.
Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at bob elfen o’r gwaith yma ond rwy’n
teimlo cyffro arbennig am y gwaith fydd yn digwydd hefo’n ysgolion trosiannol
ni, sef y rhai sydd ddim eto wedi cyrraedd yr hicyn o ran darpariaeth y
Gymraeg, ac felly ddim yn gallu cael eu hadnabod ar hyn o bryd fel ysgolion
categori 3, fel gweddill ysgolion y sir.
Rwy’n credu bod ein cefnogaeth ni i’r ysgolion yma ar eu taith
ieithyddol yn un o’r pethau pwysicaf wnawn ni yn y Cyngor yma o ran y bobl
ifanc yn yr ysgolion hynny, ond hefyd o ran cryfder y Gymraeg yng
Ngwynedd. Rwy’n meddwl mai dyma un o’r
cymwynasau mwyaf wnawn ni hefo’n plant a hefo’n hiaith.
Mae natur bigog y
cwestiwn yma yn awgrymu ein bod ni’n llusgo’n traed hefo’r Gymraeg ac nid wy’n
meddwl bod yna ddim byd pellach o’r gwirionedd i fod yn onest. Hoffwn gyfeirio at un enghraifft o
flaengaredd diweddar, sef ein bod ni wedi llwyddo i roi 5 o’n hysgolion ni ar
beilot Llywodraeth Cymru gyda’r Cwmni Dysgu Cymraeg ‘Say Something in Welsh’,
sy’n golygu eu bod nhw rŵan yn cael mantais o gwrs sydd wedi’i deilwra yn
arbennig i bobl ifanc sydd ar eu taith ieithyddol. Mae 3 o’r 5 ysgol hynny yn rhai trosiannol a 2
ohonynt yn digwydd bod gyda cohort uwch na’r arfer o hwyrddyfodiaid, yn bennaf
oherwydd gwaith eu rhieni. Gynt ysgolion
cyfrwng Saesneg y De oedd ar y peilot yma, ond roeddwn i’n awyddus i rai o’n
hysgolion ni gael budd y peilot yma sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru,
ac mae rhoi’r ysgolion ar y peilot yma yn golygu bod nhw hefyd rŵan yn
gallu manteisio ar fuddion y cwrs sy’n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn
cael ei wneud. Mae hwn wedi dod fel cais
gen i i’r Adran yn yr wythnosau diwethaf, ac mae fy niolch yn fawr i Bennaeth
Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd am fynd ar ôl y peth gyda phenderfyniad ac yn
syth bin, ac yn wir mae’r gwaith eisoes wedi cychwyn yn ysgolion Friars, Tywyn
a Glan y Môr, a bydd yn dechrau yn Ein Harglwyddes a Hirael yn fuan ar ôl y
Nadolig.
Felly rydw i a’r
Adran bob amser yn effro a bob amser yn chwilio am unrhyw gyfleoedd neu unrhyw
adnoddau i helpu ein hysgolion ni a’n pobl ifanc ni i fod yn siaradwyr hyderus
yn unol â’u haeddiant ac fel sydd yn ddymuniad gennym ni i gyd sydd am weld y
Gymraeg yn ffynnu yn y sir yma.
Dogfennau ategol: