Agenda item

Derbyn cyflwyniad gan Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar brif flaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer gwella gwasanaethau i drigolion Gwynedd.

 

Cofnod:

Croesawyd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ynghyd â Carys Norgain, i’r cyfarfod i roi cyflwyniad i’r aelodau ar brif flaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer gwella gwasanaethau i drigolion Gwynedd.

 

Cyfeiriodd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd at bapur a anfonwyd ar yr holl aelodau yn amlinellu gwaith y Bwrdd, yr heriau a’r cynnydd sydd wedi bod, gan nodi:-

 

·         Fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd, y bu iddo ef a’r aelodau annibynnol newydd eraill ganfod sefydliad oedd yn ansefydlog, gyda llawer iawn o heriau o gwmpas llywodraethiant, cyllid ac ansawdd rhai o’r gwasanaethau.

·         Y bu iddynt hefyd, ar yr un pryd, ganfod bod yna nifer fawr o bobl yn gweithio yn y Bwrdd Iechyd yn gwneud gwaith rhagorol.  Gan hynny, y cam cyntaf, wrth adlewyrchu ar y sefyllfa, oedd ceisio creu sefydlogrwydd drwy ymgymryd â chamau i fod yn weledol.

·         Y credai ei bod yn deg dweud hefyd bod yna faterion yn ymwneud â diwylliant y Bwrdd Iechyd a dyma un o’r pethau yr oedd ef yn bersonol yn dymuno ceisio mynd i’r afael ag o, er nad oedd hynny’n mynd i ddigwydd dros nos.

·         Bod gan y Bwrdd raglen waith benodol, yn gweithio gyda phobl fel Michael West yn y maes arweinyddiaeth drugarog, ac yn awyddus iawn i greu cyd-destun lle mae pobl yn gallu llwyddo yn eu gwaith a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o dîm ehangach sy’n gallu darparu gwasanaeth iechyd a lles gorau bosib’.

·         Bod y Bwrdd wedi gwneud nifer o benodiadau allweddol yn rhai parhaol yn ddiweddar, sef swyddi fydd yn creu sefydlogrwydd yn y Bwrdd Iechyd a thu hwnt.

·         Bod y sefyllfa fel creu Bwrdd Iechyd o’r newydd bron, ac roedd yn bwysig cyflawni gofynion rhaglen o fesurau arbennig Llywodraeth Cymru, gan hefyd fynd i’r afael â materion eraill a chreu llwyddiant sy’n mynd i fod yn gynaliadwy.

·         Y gobeithid, felly, bod yna ddarlun i’r dyfodol o Fwrdd Iechyd sy’n mynd i fod yn uchelgeisiol, ond yn realistig ac yn deall yr heriau.

·         Mai’r her fwyaf yw mynediad i’r gwasanaethau ac roedd angen eglurdeb ynglŷn â’r ffordd ymlaen a beth yw’r disgwyliadau, yn arbennig disgwyliadau o gwmpas safonau.

·         Bod perygl mewn sefyllfa o fesurau arbennig i fynd yn amddiffynnol iawn, ond y ceisid gwneud i’r gwrthwyneb, a dyna un o’r rhesymau pam ei fod yn falch o’r cyfle hwn i annerch y Cyngor ac i fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r heriau a wynebir.

·         Bod gan bartneriaid, fel cynghorau, rôl bwysig iawn i’w chwarae gyda’r Bwrdd Iechyd ar y siwrne yma, gan nad yw iechyd a lles yn perthyn i’r Bwrdd Iechyd yn unig.  Credid bod cyfle i wneud mwy gyda’r partneriaid yma i gyflawni’r hyn sydd ei angen i sicrhau bod pobl Gwynedd a phobl y Gogledd yn derbyn y gwasanaethau gorau bosib’.

·         Y byddai’r Bwrdd Iechyd yn hapus i ddod yn ôl gerbron y Cyngor, neu unrhyw fforwm o ddewis yr aelodau, er mwyn darparu mwy o fanylion ynglŷn â rhai o’r gwasanaethau a’r heriau ac i sicrhau cydweithio agosach rhwng y ddau gorff.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i Gadeirydd y Bwrdd Iechyd.

 

Holwyd beth oedd y cynlluniau i ddenu mwy o feddygon teulu i ardal Dolgellau, Tywyn a Bermo, gan bod yna ddiffyg difrifol a pheryglus yn yr ardaloedd yma.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod patrwm bywyd wedi newid i lawer, ac yn sgil y pandemig, bod nifer o bobl, gan gynnwys rhai meddygon teulu, wedi ail asesu eu bywydau ac yn awyddus i wneud rhywbeth gwahanol neu’n chwilio am brofiadau ehangach na’r hyn oedd ganddynt flynyddoedd yn ôl.  Yn hynny o beth, ceisid cydweithio i weld pa brofiadau ehangach y gellid eu cynnig i feddygon teulu o ran datblygiad proffesiynol a chyfle i weithio yn ehangach y tu hwnt i’r practis.

·         O ran yr ardaloedd penodol, edrychid am ffyrdd newydd o farchnata.  Yn ogystal â defnyddio cylchgronau proffesiynol fel y British Medical Journal, defnyddid fideos sy’n ceisio dangos pa mor wych yw rhai o’r ardaloedd hyn yn ogystal â chymhellion i bobl ad-leoli pe dymunent.

·         Y tu hwnt i hynny, ac yn yr hirdymor, bod angen gwella delwedd y swydd drwy sicrhau gwell amodau gwaith i feddygon teulu a gwneud y swydd yn un mae pobl ifanc yn ei gweld fel gyrfa.  Yn hyn o beth, gobeithid y byddai’r Ysgol Feddygol newydd ym Mangor yn ffordd o hyrwyddo’r cynnig gwledig ac o gadw ein pobl ifanc yma.

·         Fel rhan o’r cynlluniau i recriwtio mwy o staff yn Nhywyn, y gobeithid cael therapyddion a nyrsys yn gweithio i lefel uwch er mwyn cymryd rhywfaint o’r baich oddi ar y meddyg teulu.

 

Holwyd a fwriedid ymestyn y cynllun ‘Tuag Adref’ sydd wedi bod yn gweithredu yn Nhywyn ers i'r gwlâu yn yr ysbyty gael eu cau dros dro tra’n disgwyl am staff ychwanegol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y cynllun ‘Tuag Adref’ yn ddatblygiad llwyddiannus iawn ac yn weithredol yn Ysbytai Eryri, Alltwen a Thywyn.

·         Bod y cynllun yn cael ei noddi drwy’r Gronfa Integredig Ranbarthol ac yn darparu cymorth i gleifion sydd angen ychydig o gefnogaeth i fyw’n annibynnol ar ôl gadael yr ysbyty.

·         Bod tystiolaeth bod y cynllun yn cynorthwyo pobl i wneud y cam o’r ysbyty yn ôl adref yn gynt, a bod hynny’n rhyddhau gwelyau yn yr ysbytai ac yn rhyddhau gwasanaethau.

·         Y bwriedid parhau i ddatblygu’r gwasanaeth ar draws yr ardaloedd hyn, gan gynnwys Ardal Tywyn ac Ardal Bro Dysynni.

 

Holwyd, gan fod Llywodraeth Cymru yn pwyso am ganolfannau / clinigau iechyd ledled Cymru i leihau'r ddibyniaeth ar ysbytai damweiniau ac achosion brys, a oes perygl y gellid trosi ysbytai cymunedol fel Ysbyty Cymunedol Dolgellau a’r Bermo yn ganolfan clinig iechyd gyda cholli gwelyau cleifion mewnol mewn ysbytai.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Mai’r cwestiwn allweddol yw beth yw’r gwasanaethau a beth yw’r amrywiaeth o wasanaethau sydd eu hangen yn yr ardaloedd i sicrhau bod pobl yn cael y gorau o’r gwasanaethau iechyd a lles.  Mewn rhai achosion byddai hynny’n cynnwys gwelyau mewn ysbytai, ac mewn achosion eraill, efallai na fyddai yn cynnwys hynny ac roedd angen bod â meddwl agored ynglŷn â beth fydd dyfodol y ddarpariaeth ymhob ardal o Wynedd.

·         Y credid bod angen ysbytai lleol er mwyn sicrhau bod gan bobl sydd angen gofal ychwanegol rywle i fynd o’r prif ysbytai, ond roedd modd datblygu’r gwasanaethau yn yr ysbytai cymunedol i fod yn rhywbeth ehangach na hynny hefyd, ac roedd ysbytai megis Alltwen ac Eryri yn enghreifftiau ardderchog o hyn.

·         Y bydd angen gwelyau mewn nifer o achosion o hyd, ond y nod bob amser yw ceisio sicrhau bod pobl yn cael cyfle i fynd adref.

·         Nad oedd yn bosib’ bob amser i bobl fynd adref a byw’n hollol annibynnol a dyna pam bod cynlluniau fel ‘Tuag Adref’ yn bodoli, ond byddai dyfodol i ganolfannau yn lleol, waeth beth fyddai’r ddarpariaeth.

 

Holwyd a ddylai'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ymddiheuro i drigolion Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am beidio â bwrw ymlaen â chanolfan hyfforddi feddygol ym Mangor dros 10 mlynedd yn ôl pan gefnogodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Edwina Hart y prosiect.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod amgylchiadau’n dod ynghyd weithiau sy’n golygu ei bod yn bosib’ i rywbeth ddigwydd.  Credid mai dyna oedd wedi digwydd yn hanes yr Ysgol Feddygol a’r Brifysgol, gyda pheth o’r amgylchiadau yn wleidyddol, peth o’r amgylchiadau yn newid personél yn y Brifysgol a pheth o’r amgylchiadau yn ymwneud ag uchelgais y Bwrdd Iechyd ac uchelgais y Brifysgol i symud rhywfaint o’r meddylfryd i weld cyfle i dyfu gweithlu yma yn lleol.

·         Y dymunid diolch i’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru am sicrhau bod gennym Ysgol Feddygol yn y Gogledd bellach, gan hefyd ddiolch i bawb fu’n ymdrechu dros gyfnod i sicrhau hyn.

·         Nad oedd y pethau hyn yn aml yn gallu digwydd i’r amserlen y byddem yn dymuno, ond efallai mai’r wers yw bod rhaid dyfalbarhau, ac yn yr achos yma roedd llwyddiant wedi dod.

·         Y byddwn yn cadw golwg ar yr Ysgol Feddygol fel y gallwn sicrhau ein bod yn cael gweithlu yn y gwasanaethau iechyd a lles yma yn y Gogledd.

 

Holwyd pryd mae’r cyhoedd yn mynd i gael gweld adroddiad Ernst and Young a chael gwybod i ble’r aeth yr £122m sydd wedi mynd ar goll yn y Bwrdd Iechyd.  Holwyd hefyd pam bod y Bwrdd Iechyd wedi talu £400,000 i’r Pennaeth Adran Nyrsio a Bydwreigiaeth Dros Dro am 4 mis o waith.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Yn hanesyddol, bod sefyllfa ariannol byrddau iechyd yng Nghymru wedi bod yn wahanol i lywodraeth leol, a bod angen i fyrddau iechyd ddysgu rhywfaint o’r ddisgyblaeth ariannol sydd wedi bod gan lywodraeth leol.

·         Ei fod, fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, ynghyd â’r Brif Weithredwraig, wedi dweud ar sawl achlysur eu bod yn awyddus i gyhoeddi adroddiad Ernst and Young, ond nad oedd modd gwneud hynny ar hyn o bryd gan fod rhai pobl yn mynd trwy broses, a byddai cyhoeddi’r adroddiad ar hyn o bryd yn tanseilio’r broses honno.

·         Bod y materion eraill yn ymwneud ag arian yn rhan o’r ymchwiliad, ond y dymunai bwysleisio nad oedd £122m wedi mynd ar goll yn y Bwrdd Iechyd.

 

Gofynnwyd am sicrwydd y bydd sylw brys yn cael ei roi i’r argyfwng yn y Gwasanaeth Ambiwlans, nid yn unig yr amser aros am ambiwlans, ond hefyd yr amseroedd aros y tu allan i’r ysbytai.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Mai Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn hytrach na’r Bwrdd Iechyd, sy’n gyfrifol am yr amseroedd aros am ambiwlans, ond bod y Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am yr arhosiad y tu allan i’r ysbytai.

·         Bod yr holl wasanaeth ambiwlans dan bwysau aruthrol, a diau fod ganddynt ystadegau y gellid eu rhannu â’r aelodau ynglŷn â’r defnydd o’r gwasanaeth yng Ngwynedd.

·         O ran arhosiad y tu allan i’r ysbytai, bod gan y Llywodraeth darged na ddylai neb aros mwy na 4 awr mewn ambiwlans nes cael mynediad i’r ysbyty, ac er bod y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n galed i gyrraedd y nod, nid oedd hynny’n bosib’ bob amser, a hynny’n aml iawn oherwydd diffyg gwelyau.

·         Os am wella’r sefyllfa, byddai’n rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â’r ffordd mae pobl, nid yn unig yn cael mynediad i’r ysbyty, ond hefyd yn gadael yr ysbyty ac yn rhyddhau’r gwelyau.

 

Diolchwyd i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd am y cyflwyniad a’u hymatebion i’r cwestiynau.