Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid.
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn
gwneud dim newid i’r Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2024/25. Hynny yw, ar gyfer blwyddyn ariannol
2024/25:-
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor
am gadarnhad ffurfiol am 2024/25 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu
disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi
Premiwm o 150% ar anheddau sydd wedi eu meddiannu yn achlysurol a Phremiwm o
100% ar anheddau gwag hirdymor.
Yna cyfeiriodd y
Pennaeth Cyllid at y gwaith ymchwil a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn er mwyn
mesur effaith y Premiwm ar wardiau a chymunedau unigol gan nodi:-
·
Dros
y misoedd diwethaf, y gwelwyd gostyngiad am y tro cyntaf yn nifer yr ail
gartrefi ac unedau gwyliau hunan-ddarpar.
·
Nad
oedd digon o ddata ar gael ar hyn o bryd i brofi bod hynny yn uniongyrchol o
ganlyniad i’r Premiwm. Gan hynny, nid
oedd tystiolaeth yn bodoli ar hyn o bryd fyddai’n cyfiawnhau gosod lefel
wahanol ar gyfer y Premiwm yn 2024/25.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Mynegwyd pryder bod y lleihad yn nifer yr ail gartrefi a’r lleihad mewn
twristiaeth yn sgil hynny yn arwain at gau busnesau, yn arbennig yn y trefi
glan môr, a holwyd pa gymorth allai’r Cyngor ei gynnig i fusnesau lleol. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Y gallai’r Tim Ymchwil a Gwybodaeth, sy’n casglu
gwybodaeth o nifer o wahanol sefydliadau ar ran y Cyngor, ddod â’r data sy’n
cael ei dderbyn gan yr Adran Economi a Chymuned at ei gilydd i weld beth ydi’r
effaith.
·
Os yw nifer yr ail gartrefi yn gostwng, a phobl yn
byw’n barhaol yn y tai hynny, y gobaith yw y bydd y bobl hynny’n cefnogi
busnesau lleol gydol y flwyddyn.
·
Y bydd y Cyngor yn edrych ar ganlyniad hynny dros
gyfnod maith.
Cefnogwyd yr argymhelliad i barhau i godi
Premiwm o 150% ar ail gartrefi ar y sail nad ydi’r bobl sy’n symud i mewn i
bentrefi fel Abersoch yn deall ein hiaith na’n ffordd o fyw nac yn gwneud
defnydd o’n busnesau lleol, a rhaid i bobl o’r ardal sydd wedi etifeddu tai
adael eu cynefin gan na allant fforddio cadw’r tai hynny.
Holwyd pa wybodaeth sydd ar gael am broffil y
tai hynny sydd wedi newid o fod yn dai haf i fod yn dai preswyl parhaol, ac a
oedd bwriad i geisio gweld ai brodorion sydd wedi prynu’r tai. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y wybodaeth honno
ar gael ar hyn o bryd. Roedd gwybodaeth
ynglŷn â’r tueddiadau mewn gwahanol ardaloedd ar gael, a’r cam nesaf
fyddai gwneud y math hwn o ymchwil.
Nodwyd bod pobl yn llwyddo i gael caniatâd
cynllunio i chwalu tai ac adeiladu tai enfawr yn eu lle mewn llefydd fel
Abersoch, ond na allai pobl ifanc lleol gael caniatâd cynllunio i drosi
adeiladau fferm yn gartref. Mewn ymateb,
nodwyd bod hyn yn fater cynllunio, ond y derbynnid y sylw.
Nodwyd y bydd y
lleihad mewn twristiaeth yn sgil codi Premiwm ar ail gartrefi yn golygu bod
rhaid i bobl ifanc fynd dros y ffin i chwilio am waith, a heb waith yn yr
ardal, a hefyd gyda siopau, bwytai, tafarnau a banciau yn cau, ychydig iawn
fydd ar ôl yma i’r brodorion.
Ategwyd y sylw, a nodwyd yn ogystal y bydd
dyfodiad y dreth dwristiaeth ac Erthygl 4, ayb, yn gwaethygu’r sefyllfa.
Cyfeiriwyd at lwyddiant Menter y Twr, Pwllheli
yn codi arian i brynu hen westy’r Twr ar gyfer ei ddatblygu fel gofod
cymunedol, a nodwyd bod hyn yn ymateb i’r problemau sy’n destun y drafodaeth
hon. Cefnogwyd yr argymhelliad i ymlynu
at Bremiwm o 150% ar ail gartrefi a nodwyd ei bod yn hollbwysig bod y Cyngor yn
gweithredu ar ddata mewn sefyllfa fel hyn.
Anogwyd pawb i beidio newid y sefyllfa hyd oni fyddwn yn gwybod beth
sydd orau i’w wneud er mwyn cymunedau Gwynedd.
Nodwyd bod yna fwy i Wynedd na thwristiaeth a
bod arian y Premiwm yn cael ei ddefnyddio i gartrefu pobl leol yn eu
cymunedau. Cyfeiriwyd at baragraff 4.4
o’r adroddiad sy’n nodi fod cyfanswm o 3,214 eiddo yng Ngwynedd wedi trosglwyddo
o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Ardrethi Annomestig hyd at ddiwedd Hydref
2023, a holwyd a oedd gan y Cyngor yr adnoddau i wirio bod yr eiddo hynny yn
cael eu gosod am 182 diwrnod y flwyddyn.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Mai eleni roedd y gofyn
182 diwrnod yn dod i rym.
·
O ran plismona hyn,
Asiantaeth Swyddfa’r Prisiwr sy’n dod i gasgliad os yw eiddo’n destun Treth
Gyngor neu Ardreth Annomestig.
·
Bod y Cyngor wedi cyfeirio
rhai achosion at yr Asiantaeth ar y sail nad oedd yr asesiadau wedi bod yn
ddigon trylwyr, ond roedd yr Asiantaeth wedi ymlynu at eu penderfyniad
gwreiddiol.
·
Bod tystiolaethu i hanner
blwyddyn o osod eiddo yn dipyn o ofyn ac efallai ei bod braidd yn gynnar i weld
y canlyniad llawn, er ei bod yn dechrau ymddangos fel bod pethau’n newid.
·
Bod tystiolaeth
anecdotaidd ar gael o bobl yn prynu 3 tŷ adeg y pandemig, un i fyw ynddo a
2 i’w gosod fel llety gwyliau, a bosib’ y byddai’r tai hyn yn dod yn ôl ar y
farchnad wrth i’r trothwyon newid.
Holwyd pryd fyddai’r Cyngor yn cael asesiad
ieithyddol o effeithiau cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod yna ddata cychwynnol
yn yr adroddiad yn nodi niferoedd a thueddiadau gwahanol i’r hyn sydd wedi bod
yn y gorffennol.
·
Gan nad oedd y dreth
newydd wedi dod i rym tan fis Ebrill eleni, nid oedd amser digonol na digon o
drosglwyddiadau wedi bod i allu gwneud dim ymchwil pellach na hynny, ond diau y
byddai yna fwy o ddata ar gael i adeiladu ar hyn dros y flwyddyn nesaf.
Nodwyd bod yna bobl sy’n ddigartref yn ein sir
a bod rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pob person yng
Ngwynedd yn cael cartref. Gorau oll
felly os nad ydi ail gartrefi yn ail gartrefi mwyach a’u bod yn dod yn ôl i’r
gymuned i bobl allu byw ynddynt.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
gwneud dim newid i’r Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2024/25. Hynny yw, ar gyfer blwyddyn ariannol
2024/25:-
·
Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail
gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
·
Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn
CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
·
Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Dogfennau ategol: