Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

Penderfyniad:

Mabwysiadu Strategaeth Iaith 2023-2033.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Strategaeth Iaith ar gyfer 2023-2033 gan fod cyfnod y Strategaeth Iaith bresennol (Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd) yn dod i ben.

 

Yn ei gyflwyniad, cyfeiriodd yr Arweinydd at rai llwyddiannau sydd wedi deillio o’r strategaeth flaenorol gan nodi y credai y dylai’r Gymraeg hedfan yn uchel yng Ngwynedd.  Nododd hefyd ei fod yn gwrthod y negyddiaeth a glywir yn aml am y Gymraeg yng Ngwynedd ac y bydd hynny yn arwain at ddifodiant yr iaith.  Nododd bod rhaid wynebu’r her sydd o’n blaenau yn hyderus ac yn gynhwysol gan gryfhau’r Gymraeg, hyrwyddo ei defnydd ac ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni yng Ngwynedd o leiaf yn sefyll yn gadarn o safbwynt dyfodol yr iaith.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Mynegwyd pryder mai ond 159 o bobl, a 3 o bobl yn unig dan 34 oed, oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y cytunid â’r sylw a bod hyn yn rhywbeth i roi sylw pellach iddo.

·         Y cynhaliwyd grwpiau ffocws yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ayb, a bod y Gwasanaeth yn cydweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid.

·         Bod bwriad i wella’r dechnoleg a bod hynny’n rhan o’r ymateb hefyd er mwyn cael barn pobl ifanc.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys llawer o rethreg, ond mai hawdd oedd canmol rhywbeth heb fynd at y glo man.  O ran hynny, nodwyd:-

 

·         Bod 34% o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad wedi nodi nad oeddent yn gwybod a fyddai’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg yng Ngwynedd.  Roedd hynny ynddo’i hun yn ddamniol, ac roedd y nifer oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn ddamniol hefyd.

·         Bod yna lawer iawn o ddyheu pethau na ellir, o bosib’, eu mesur yn yr adroddiad.  Er enghraifft, roedd y golofn Mesur Llwyddiant yn y tabl Camau Gweithredu Hydref 2023 i Hydref 2024 yn cynnwys llawer o fylchau.

·         Bod Gwynedd yn crebachu ar y ddarpariaeth trochi gyda nifer y dyddiau mae plant yn cael eu trochi bob wythnos mewn canolfan iaith wedi cwtogi o 5 i 4 a nifer yr athrawon arbenigol sy’n dysgu mewn canolfannau trochi wedi haneru o 2 i 1 athro ymhob canolfan.

·         Bod Gwynedd ofn dynodi ysgolion yn rhai penodedig Cymraeg a’i bod yn bosib’, mewn theori, i 40% o blant y sir osgoi addysg cyfrwng Cymraeg gan fod y diffiniad categori rydym yn bodloni arno yn caniatáu hynny.

·         Bod Gwynedd, yn wahanol i siroedd eraill fel Môn, Dinbych a Phowys, wedi ymwrthod ag ariannu cynllun pontio sy’n rhoi amlygrwydd i’r Gymraeg yn y cylchoedd meithrin.

·         Bod y strategaeth yn ddiddannedd o ran mesuryddion cadarn ac na cheir unrhyw gyfeiriad at beth fyddai’n digwydd pe na fyddai’r targedau hynny yn cael eu cyflawni. 

·         Y gwelwyd gostyngiad rhwng 2016 a 2022 yn nifer y disgyblion sy’n astudio 5 neu fwy o bynciau TGAU drwy’r Gymraeg, ac nid oedd yna unrhyw weithredu yn dilyn o hynny.

·         Yn hytrach na cheisio hybu’r Gymraeg yn unig, dylai’r Gymraeg fod yn anhepgor yng Ngwynedd, ac os ydi rhywun yn dewis Gwynedd, eu bod yn dewis y Gymraeg, ac os ydynt yn dewis ysgol yng Ngwynedd, eu bod yn dewis y Gymraeg yn ddiamwys.

·         Bod Gwynedd wedi arloesi yn y gorffennol, ond bellach yn llusgo ac mewn peryg’ o ddyheu yn wag lle mae yna ddirywio wedi digwydd, ac oni fydd yna weithredu o ddifri’ yn sgil canfyddiadau’r Cyfrifiad, byddwn yn gwneud cam mawr â’r Gymraeg.

·         Er ei bod yn debyg ein bod yn gwneud yn well nag unrhyw sir arall yng Nghymru, byddem yn gwneud cam mawr â’n sir ein hunain pe na fyddem yn rhagori dros bawb arall.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Ei fod yn anghytuno’n llwyr â’r sylwadau hyn a’u bod yn enghraifft glasurol o’r negyddiaeth y cyfeiriodd ato yn ystod ei gyflwyniad.

·         Bod sylwadau’r aelod ynglŷn â’r ddarpariaeth Gymraeg yn ysgolion y sir yn anwireddus a bod ein holl blant yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Ategwyd rhai o sylwadau’r siaradwr blaenorol ynglŷn â glo mân yr adroddiad, a nodwyd yn ychwanegol:-

 

·         Ei bod yn hollbwysig bod y Strategaeth yn llwyddo, ond na ellid rhannu llawenydd yr Arweinydd ynddi.

·         Bod yr amcanion yn y tabl Camau Gweithredu Hydref 2023 i Hydref 2024 yn rhai anrhydeddus a’r blaenoriaethau yn rhai pwysig o safbwynt dyfodol y Gymraeg yng Ngwynedd, ond bod yna brinder camau gweithredu clir a phendant yma.  Er enghraifft, nid oedd y camau gweithredu yng nghyswllt yr amcan i gynyddu nifer y disgyblion ysgol sydd yn dilyn cyrsiau cyfrwng Cymraeg (TGAU/Lefel A) yn cynnwys fawr ddim mwy na chodi ymwybyddiaeth, ac nid oedd unrhyw beth wedi’i gynnwys dan y golofn Mesur, na tharged clir wedi’i osod erbyn Hydref 2024.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Arweinydd nad oedd yn rhannu pryderon yr aelod yn sylwedd y ddogfen, ond y byddai’r swyddogion yn edrych arni eto, ac yn ceisio rhoi mwy o gig ar yr asgwrn.

 

Nododd aelod arall nad oedd hithau’n rhannu optimistiaeth yr Arweinydd ynglŷn â’r Strategaeth gan nodi:-

 

·         Bod rhaid cydnabod bod y Strategaeth Iaith flaenorol wedi methu, a bod gan Wynedd lai o siaradwyr Cymraeg wrth i bobl golli’r hyder i ddefnyddio’r iaith a chyfleoedd i’w defnyddio erydu.

·         Nad oedd y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys unrhyw beth a’i bod yn torri ei chalon o weld cyn lleied o weledigaeth gan Wynedd o bob man.

·         Nad oedd gan y Strategaeth unrhyw beth i’w gynnig, ac eithrio mwy o’r un peth sydd ddim wedi dwyn ffrwyth.

·         Bod y Strategaeth yn llawn o eiriau megis ‘ceisio’, ‘gobeithio’, ‘ystyried’ ayb, ac nad oedd yma unrhyw benderfyniad i weithredu yn gadarn.

·         Bod y Strategaeth yn nodi bod y Cyngor yn blaenoriaethu’r Gymraeg drwy ei holl gynlluniau, ond nad oedd hynny i’w weld yn ein system addysg bresennol gan nad oes gennym ysgolion categori 3P fel y norm.  Nid oedd i’w weld chwaith yn ein polisïau tai gan y dywedir wrthym nad yw’n bosib’ gosod amod iaith ar bob tŷ cymdeithasol na gwerthu tai i bobl leol yn unig ar y farchnad agored, a holwyd ble mae’r ewyllys i weithredu er lles y Gymraeg drwy’r Cyngor i gyd?

·         Nad oedd ysgolion meithrin, oedd wedi gorfod cau yng Ngwynedd oherwydd effeithiau demograffeg a Cofid, yn ail-agor, ac er bod gan y Llywodraeth bolisi i agor 60 o grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg ychwanegol erbyn 2026, nid oedd Gwynedd yn gwneud mwy na ‘gobeithio’ y byddai rhai ohonynt yn y sir hon.

·         Bod plant Trefor yn gorfod teithio 5 milltir i gyrraedd cylch meithrin a dymunid i’r Strategaeth fapio’r ddarpariaeth meithrin a mynd i’r afael â’r diffygion hyn gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio.

·         Bod darpariaeth gofal plant yn cael ei dynodi bron yn ddi-eithriad yn ddwyieithog ac roedd hynny’n nacáu’r Strategaeth i fwydo’r Gymraeg yn yr oed cynnar, ac ymhlith rhieni.

·         Bod cymunedau’n newid, ond nid oes sôn yn y Strategaeth am yr hyn sydd angen sylw yn y maes gweithredu cymuned, ac ydi hynny’n golygu ein bod wedi rhoi’r gorau i chwilio am atebion newydd?

·         Ble mae’r weledigaeth i greu parthau Cymreig, i fod yn fwy cadarnhaol ac i gydnabod bod dwyieithrwydd yn niweidiol i hyder siaradwyr brodorol, a hefyd i ddysgwyr, sy’n dymuno cael cyfleoedd i siarad Cymraeg ac i fod yn rhan o’r gymuned?

·         Y dylai’r Strategaeth annog unieithrwydd yng Ngwynedd unwaith yn rhagor, ac yn ei ffurf bresennol mae’n wan, yn aneffeithiol ac yn ymarfer sgwennu’n unig.

 

Nododd yr Arweinydd ei fod yn anghytuno â bron bob un o’r sylwadau hyn, gan nodi:-

 

·         Y derbynnid bod yna fylchau sylweddol yn y sir o ran y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a bod yna edrych ar hynny.

·         Ei fod yn gwrthod yn llwyr unrhyw syniad o greu parthau Cymraeg gan y byddai hynny’n ffurf o apartheid ieithyddol.

 

Holwyd a oedd yr Arweinydd yn gwybod bod ysgolion yng nghadarnleoedd yr iaith Fasgaidd yn gyfystyr ag ysgolion categori 3P yng Nghymru ac a fyddai’n mynnu bod hynny’n digwydd yng Ngwynedd.  Mewn ymateb nododd yr Arweinydd na fyddai’n mynnu hynny, gan nodi:-

 

·         Mai’r gwahaniaeth rhwng ysgolion 3P yw eu bod yn ddewisol yn y siroedd eraill i gyd, a dyna pam ei fod yn fethiant yn y siroedd eraill.

·         Er y gwelwyd cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn siroedd megis Rhondda Cynon Taf, nid oedd chwarter y plant yn mynychu ysgolion Cymraeg nac yn cael fawr o Gymraeg yn yr ysgolion eraill, ac roedd rhaid cyflwyno’r Gymraeg yn yr ysgolion eraill fel bod pob plentyn yn cael addysg sy’n eu gwneud yn ddwyieithog, ac yn wir yn dairieithog ac yn amlieithog.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc Gwynedd yn hyddysg yn y Saesneg, yn ogystal â’r Gymraeg, er mwyn gallu sicrhau cyfleoedd gwaith dros y ffin, nododd yr Arweinydd mai pwrpas system addysg Gwynedd yw dysgu plant i fod yn hollol ddwyieithog, ac nad oedd yna unrhyw arwydd o ddiffyg yng ngallu’r plant i siarad Saesneg.

 

Holwyd a oedd yna ffynhonnell arian y gellid ei defnyddio i edrych ar atgyfodi clybiau ieuenctid y sir ac i gynorthwyo’r clybiau ffermwyr ifanc, gan fod eu dylanwad ar y defnydd o’r iaith Gymraeg yn amhrisiadwy.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd nad oedd arian ar gael yn anffodus gan fod Gwynedd, fel pob cyngor arall, yn wynebu’r sefyllfa gyllidol waethaf sydd wedi bod.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Strategaeth Iaith 2023-2033.

 

 

Dogfennau ategol: