Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Elin Walker Jones

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr adran yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i’w gwasanaethau a bod eu llwyddiant i wneud hyn yn cael ei fesur drwy gyfarfodydd Herio Perfformiad rheolaidd.

 

Adroddwyd bod yr adran yn arwain ar ddau o brosiectau Cynllun y Cyngor. Nodwyd mai un ohonynt yw’r ‘Cynllun Cartrefi Grŵp Bychan’. Eglurwyd bod yr adran yn datblygu cartrefi preswyl cofrestredig ar gyfer grwpiau bychan o hyd at ddau o blant fydd yn caniatáu iddynt gael gofal yng Ngwynedd, mynychu ysgolion lleol, a chymryd rhan gyflawn ym mywyd eu cymunedau. Cadarnhawyd bod ymweliadau eiddo wedi cymryd lle er mwyn symud y prosiect yn ei flaen a thŷ wedi cael ei ystyried. Manylwyd bod darn o dir mewn ardal arall o Wynedd yn cael ei ystyried i adeiladu tŷ ar gyfer y pwrpas y cynllun hwn. Esboniwyd bydd grŵp prosiect yn cael ei sefydlu yn 2024 yn cynnwys swyddogion yr adran Blant, Tai ac Eiddo, Addysg a’r Gwasanaeth Iechyd i oruchwylio’r cynllun. Sicrhawyd bod £50,000 yn ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r prosiect yn ddiweddar o danwariant cronfa RIF.

 

Adroddwyd mai’r ail brosiect Cynllun y Cyngor sydd o dan arweiniad yr Adran yw’r ‘Cynllun Awtistiaeth’. Eglurwyd bod plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig yn wynebu heriau i dderbyn cefnogaeth arbenigol angenrheidiol. Ymrwymwyd i wella’r gwasanaeth gan ei wneud yn haws i unigolion dderbyn gwasanaethau. Cadarnhawyd bod fforwm wedi ei sefydlu ar gyfer edrych ar y cyfeiriadau sydd yn cyrraedd y Cyngor. Darparwyd gwybodaeth am lansiad y Gwasanaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac roedd hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn. Nodwyd bod nifer o staff y Cyngor bellach wedi cael cyfle i fynd ar y Bws Profiad Realiti Awtistiaeth sy’n rhoi profiad tebyg i sut mae unigolyn gydag Awtistiaeth yn gweld y byd o’u cwmpas. Manylwyd ei fod yn ofynnol i staff Cyngor Gwynedd gwblhau hyfforddiant lefel 1 a 2 yn y maes awtistiaeth. Sicrhawyd bod yr adran yn cydweithio’n gyson gyda’r Tîm Niwroddatblygiadol a Thîm Derwen gyda’r cynllun.

 

Cydnabuwyd bod sefyllfa gweithlu'r adran yn parhau i fod yn fater o bryder difrifol. Er hyn, cadarnhawyd bod yr adran yn ymdrechu i sefydlogi’r sefyllfa at y dyfodol drwy gydweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai ac ymweliadau gyda myfyrwyr Iechyd a Gofal i’w hysbysu o’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael.

 

Cadarnhawyd bod yr adran yn parhau i weld natur ddwys a chymhleth yn dod i sylw’r Cyngor a bod y niferoedd yr achosion agored yn cynyddu. Manylwyd bod niferoedd yr achosion sydd yn agored i’r Tîm Ôl-16 ar ei uchaf erioed, gydag 210 o achosion yn cael eu hymdrin â hwy. Ystyriwyd bod hyn yn mynd law yn llaw gyda chynnydd mewn cyfraniadau digartrefedd ac felly mae’r adran yn cydweithio gyda’r  Tîm Digartrefedd i geisio canfod lloches addas. Cydnabuwyd bod hon yn her enfawr.

 

Nodwyd bod effeithiau’r pandemig, argyfwng costau a straen yn arwain at niferoedd uwch o bobl cysylltu gyda’r adran am wybodaeth a chefnogaeth. Eglurwyd bod 1894 o bobl wedi dod i gyswllt gyda’r adran rhwng Gorffennaf a Medi 2023, sy’n ffigwr sylweddol uwch na’r hyn a welwyd cyn y pandemig.

 

Pwysleisiwyd bod yr adran yn rhan o ymgyrch maethu cenedlaethol ‘Maethu Cymru’ i ddenu pobl i feddwl am faethu. Nodwyd bod yr ymgyrch wedi bod yn weithgar iawn dros yr haf drwy fynychu nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol be gynhaliwyd ‘Panel Cyflogwr Cyfeillgar’ a sgwrs ‘O’r galon’ am y pwnc. Ymhelaethwyd bod nifer o fusnesau wedi bod yn gefnogol iawn rwy arddangos baneri a phosteri. Cadarnhawyd bo ap ‘Care Friends’ wedi cael ei lansio ym mis Medi sy’n gwobrwyo gofalwyd maeth pan fyddent yn rhannu gwybodaeth am faethu gyda’u cysylltiadau ac yn eu hannog ar hyd eu taith i fod yn ofalwyr maeth. Eglurwyd byddai defnyddwyr yn casglu pwyntiau pob tro byddant yn cyfeirio rhywun i’r adran a gallir eu trosglwyddo i arian parod  er mwyn eu helpu gyda chostau bob dydd.

 

Cadarnhawyd bod yr adran wedi gwireddu cyfanswm Cynlluniau Arbedion 23-24 o £44,010. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi derbyn £130,000 fel bid un-tro tuag at parhau i gyflogi 3 ymarferydd gofal cymdeithasol. Eglurwyd bod bid wedi ei gwblhau i wneud y swydd yn barhaol ar gyfer 2024-25 a gobeithir clywed canlyniad y bid hwnnw ym mis Ionawr 2024.

 

Awdur:Marian Parry Hughes: Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

Dogfennau ategol: