Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ar waith yr adran gan amlinellu beth sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol.

 

Cadarnhawyd bod cais cynllunio ar gyfer Dolfeurig wedi cael ei dderbyn gan y Parc Cenedlaethol, fel rhan o’r prosiect ‘Cefnogaeth Ataliol yn Lleol’ sy’n rhan o Gynllun y Cyngor. Manylwyd y gobeithir cychwyn ar y gwaith adeiladu ar y safle yn ystod haf 2024 yn dilyn proses o ddylunio a chontractio.

 

Sicrhawyd bod gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i wella hygyrchedd at wybodaeth ac at ddigwyddiadau ar draws y Sir drwy dudalennau ar wefan y Cyngor sydd yn cael eu hadolygu’n barhaus.

 

Manylwyd ar brosiect ‘Byw’n Annibynnol’ sydd hefyd yn rhan o Gynllun y Cyngor gan gadarnhau bod Tai Gofal Ychwanegol Ysgafn ym Mhwllheli wedi agor ar 27ain Tachwedd. Ymfalchïwyd bod prosiectau tebyg ar y gweill yn ardaloedd Groeslon, Nefyn, Tywyn, Penrhyndeudraeth a thu hwnt. Sicrhawyd bod yn adran yn gweithio i adnabod unigolion addas i ddefnyddio’r safle. Mynegwyd pryder ar ddiffyg datblygiad ar y gwaith o adnabod safle cyffelyb yn Nolgellau. Eglurwyd bod lleoliadau yn cael eu hasesu yn ôl anghenion yr unigolion a bod anawsterau wedi codi wrth geisio canfod lleoliad canolog ar gyfer y safle, ond bod hyn yn flaenoriaeth i’r Adran. Pwysleisiwyd byddai’r Aelod Cabinet yn gofyn am ddiweddariad yng nghyfarfod herio perfformiad nesaf yr adran.

 

Pwysleisiwyd bod yr adran yn paratoi at drawsnewidiad digidol erbyn 2025, gan edrych ar dechnoleg newydd tra hefyd yn rhoi ystyriaeth i ddefnydd yr adnoddau digidol i ddefnyddwyr ardaloedd gwledig. Cydnabuwyd bod y gwaith hwn yn newydd ac yn newid yn gyson. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod yr Adran yn canolbwyntio ar fodelau taliadau uniongyrchol wrth i’r gwasanaeth hwn gael ei drosglwyddo i ddarparwyr newydd yn fuan.

 

Adroddwyd bod rhestrau aros am dderbyn asesiad therapi galwedigaethol wedi cynyddu ar raddfa bryderus, gan orfodi’r adran i flaenoriaethu ar sail risg. Cyfeiriwyd at her arall sy’n wynebu’r adran sef oriau gofal cartref sydd heb eu diwallu. Nodwyd bod y canran hwn wedi cynyddu o 12.1% i 14% yn ddiweddar. Golyga hyn bod 154 unigolyn yn aros am ofal cartref o’r newydd erbyn diwedd Medi 2023, o’i gymharu â 137 ar ddiwedd mis Mai 2023.

 

Tynnwyd sylw at niferoedd brawychus o gyfeiriadau sy’n cyrraedd y Tîm Iechyd Meddwl. Cadarnhawyd bod yr adran yn derbyn rhwng 450 a 500 yn y misoedd diwethaf. Cydnabuwyd bod hyn yn codi pryderon am gapasiti’r adran i ddelio gyda’r galw am gefnogaeth, ymfalchïwyd bod 40% o’r ceisiadau hyn wedi derbyn pecyn gofal wedi ei ddarparu ar eu cyfer.

 

Cyfeiriwyd at faterion diogelu gan gadarnhau bod yr adran wedi llwyddo i reoli’r perygl mewn 100% o atgyfeiriadau diweddar. Er hyn, pryderwyd bod 306 o unigolion yn aros am asesiad Diogelu rhag Amddiffyn Rhyddid (DoLS) ar ddiwedd mis Medi 2023. Eglurwyd bod y broblem hon yn ymddangos mewn nifer fawr o awdurdodau lleol.

 

Trafodwyd sefyllfa ariannol yr Adran gan y rhagwelir i'r adran orwario oddeutu £6.5 miliwn ar gyllideb 2023-24. Eglurwyd bod hyn yn deillio o’r pwysau sydd ar yr adran a bod swyddogion yn llwyr ymwybodol ohono, a’r effaith mae’r gorwariant hwn yn ei gael ar adrannau eraill y Cyngor. Cadarnhawyd bod yr Aelod Cabinet wedi gofyn am fwy o wybodaeth gan yr adran am orwariant yn y meysydd Gofal Cartref, Lleoliadau Preswyl a Nyrsio a’r Gwasanaeth Anableddau Dysgu

 

Awdur:Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant

Dogfennau ategol: