Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme

Penderfyniad:

Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i ryddhau’r ddogfen ymgynghorol Amcanion Cydraddoldeb 2024-28 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y ddogfen hon yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet bob pedair blynedd, yn unol â gofynion statudol i adolygu amcanion cydraddoldeb o dan Deddf Cydraddoldeb 2010. Cadarnhawyd bod ymgysylltu gyda’r cyhoedd wedi ei gyflawni rhwng Ebrill ac Awst 2023 ble cafwyd oddeutu 600 o ymatebion i holiadur barn. Eglurwyd mai pwrpas yr ymgynghoriad oedd cadarnhau os oedd y cyhoedd yn credu bod angen i’r amcanion a ddefnyddiwyd rhwng 2024-28 barhau ar gyfer 2024-28 neu a oedd angen eu diwygio.

 

Nodwyd bod swyddogion wedi bod yn ymweld â nifer o grwpiau a digwyddiadau er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys llais yr ifanc, pobl y gymuned LDHT+ a phobl anabl. Eglurwyd bod swyddogion wedi cael trafodaethau gyda rheolwyr o fewn y meysydd a oedd wedi codi, er mwyn derbyn cymorth i lunio’r amcanion. Defnyddiwyd y wybodaeth a dderbyniwyd gan ymatebwyr â phrofiad bywyd o nodweddion gwarchodedig er mwyn creu’r amcanion diwygiedig drafft.

 

Adroddwyd y defnyddiwyd data a gasglwyd gan dîm ymchwil a gwybodaeth y Cyngor ar gyfer dogfen a gomisiynwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Sector Gyhoeddus Gogledd Cymru i sicrhau dealltwriaeth o’r wybodaeth ar raddfa leol. Cadarnhawyd bod ystyriaeth wedi cael ei roi i ddyletswyddau gweithredu'r Llywodraeth ym meysydd Gwrth-hiliaeth a LHDT+ wrth lunio amcanion drafft.

 

Pwysleisiwyd mai amcanion drafft sydd wedi eu nodi yn y ddogfen ac y bydd modd i’r rhain cael eu diwygio yn dilyn ymgynghoriad pellach gyda’r cyhoedd. Sicrhawyd bod yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb a gyflwynwyd gyda’r ddogfen, yn un drafft, a byddai’n cael ei ddiwygio yn ôl yr angen pan fydd adborth bellach wedi eu casglu.

 

Cadarnhawyd mai’r pedwar amcan drafft cyn ymgynghori’n bellach yw:

1.    Gwella amrywiaeth ein gweithlu a lleihau bylchau tâl

2.    Gwella ein data am bobl â nodweddion cydraddoldeb

3.    Sicrhau fod y Cyngor yn fudiad wrth-wahaniaethol trwy wella ein systemau mewnol er mwyn darparu gwell gwasanaethau i bawb

4.    Gwella cydraddoldeb o fewn maes addysg

 

Diolchwyd i’r swyddogion am lunio amcanion siarp gan uno rhai amcanion blaenorol. Nodwyd bod hyn yn galluogi ystyried cydraddoldeb o fewn maes addysg fel amcan newydd. Teimlwyd bod hyn yn hollbwysig gan ei fod yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru ac addysg cydberthynas a rhywioldeb.

 

Amlygwyd nad oedd capasiti ac ymrwymiad staff ac aelodau etholedig y Cyngor ym maes cydraddoldeb, yn ogystal â hyfforddiant perthnasol, wedi ei gynnwys yn y ddogfen hon, er ei fod yn amcan yn y gorffennol. Sicrhawyd yr Ymgynghorydd Cydraddoldeb bod hyfforddiant yn bwynt gweithredu o dan addewid i wneud Cyngor gwrth-wahaniaethol. Pwysleisiwyd bod llawer o waith wedi ei wneud ar y maes hwn yn barod ac felly mae wedi ei gynnwys fel pwynt gweithredu yn hytrach nag amcan. Nodwyd y byddai hyn yn cael ei amlygu o fewn y ddogfen.

 

Adroddwyd nad oedd materion yr iaith Gymraeg wedi ei nod i fel amcan o fewn y ddogfen. Cadarnhawyd bod hyn oherwydd nad yw’r iaith yn hil gan fod modd i unrhyw un ei dysgu. Er hyn, pwysleisiwyd bod yr iaith yn fater sy’n effeithio cydraddoldeb ac yn cael ei warchod o dan Ddeddf Iaith Gymraeg 1993. Nodwyd bod hybu pwysigrwydd yr iaith o fewn y Cyngor wedi cael ei nodi fel pwynt gweithredu o fewn y ddogfen.

 

Egluriwyd nad ydi materion economaidd cymdeithasol yn cael eu nodi fel carfan sydd wedi ymgynghori â hwy hyd yma wrth lunio amcanion. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Cydraddoldeb bod dyletswydd economaidd gymdeithasol wedi ei fabwysiadu yng Nghymru ers 2021 ac o’r herwydd yn ystyriaeth bwysig wrth lunio amcanion. Sicrhawyd bydd cwestiwn penodol o fewn yr ymgynghoriad nesaf am faterion economaidd cymdeithasol. Esboniwyd bod perthynas agos rhwng materion cydraddoldeb â economaidd gymdeithasol a'i fod yn ystyriaeth bwysig iawn.

 

Eglurwyd bydd Cynllun Cydraddoldeb 2024-28 yn cael ei lunio gyda’r amcanion terfynol yn dilyn yr ymgynghoriad hwn ac fe fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet pan yn amserol.

 

Awdur:Delyth Williams: Ymgynghorydd Cydraddoldeb

Dogfennau ategol: