Cyflwynwyd gan:Cyng. Elin Walker Jones
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodi’r wybodaeth yn
yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y
flwyddyn 2022-23.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodi’r wybodaeth yn
yr adroddiad sy’n adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer y
flwyddyn 2022-23.
TRAFODAETH
Atgoffwyd yr aelodau bod gan Gyngor Gwynedd a’i
bartneriaid gyfrifoldeb i fod yn Rhiant Corfforaethol i bob plentyn o dan ofal
y Cyngor, ac yn benodol i sicrhau gofal effeithiol, sefydlog, diogel ac addas
ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal, ynghyd â’r rhai sy’n gadael gofal.
Cywirwyd Adran 3.1 o’r blaenraglen i ategu hynny a
nodwyd bod yr Adroddiad yn adrodd ar y gwaith sydd wedi ei gwblhau i sicrhau
bod y Cyngor yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn.
Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn cymryd y
cyfrifoldeb hwn yn ddifrifol iawn a eglurwyd mai’r Prif Weithredwr yw Cadeirydd
y Panel Rhiant Corfforaethol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr adroddiad hwn yn
manylu ar y gwaith a gyflawnwyd rhwng Ebrill 2022 a Mawrth2023 ac yn nodi
gwybodaeth gyfredol am niferoedd plant mewn gofal a’r gefnogaeth a roddir i’r
plant hynny yn ogystal ag amlinellu’r bwriad ar gyfer y dyfodol.
Adroddwyd bod 25% o’r plant a ddaeth i ofal yn ystod
y flwyddyn 2022-23 yn Geiswyr Lloched drwy Gynllun Trosglwyddo’r Swyddfa
Gartref, gan i’r Cyngor dderbyn 15 o blant drwy’r cynllun.
Mynegwyd pryder am Gynllun Trosglwyddo'r Swyddfa
Gartref gan nad yw’r plentyn yn cael ei roi’n ganolog i’w prosesau. Eglurwyd
nad oes trafodaethau ymlaen llaw i ddiwallu anghenion y plentyn i’w asesu os
ydi Gwynedd yn leoliad addas i’w anghenion. Cydnabuwyd ei fod yn heriol iawn
canfod lleoliad addas ar gyfer y plant gan nad ydynt eisiau aros yng Ngwynedd
yn aml iawn, ac yn dyheu am fynd i’r dinasoedd mawr. Eglurwyd bod modd gofalu
am unigolion dros 16 mewn lleoliad llety a chefnogaeth, ond os yw’r plant o dan
16 oed mae’n rhaid iddynt gael lleoliad maeth. Diweddarwyd bod y Swyddfa
Gartref yn disgwyl i’r awdurdodau lleol leoli’r plant mewn 5 diwrnod gwaith ar
ôl derbyn y cyfeiriad. Pwysleisiwyd nad yw hyn yn bosib ac o’r herwydd mewn un
achos, mae’r plentyn wedi gorfod ei leoli yng Nghaint
tra mae swyddogion yn canfod lleoliad mwy addas a lleol i Wynedd. Adroddwyd bod
y problemau hyn sy’n codi fel rhan o’r Cynllun Trosglwyddo yn digwydd ar hyd
Cymru gyfan.
Cadarnhawyd niferoedd Ceiswyr Lloches ym mhob Sir y
Gogledd (yn unol â gwybodaeth a dderbyniwyd yn Haf 2023, am gyfnod o 8 ‘cycle’) fel a ganlyn:
·
Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam – 2 o blant
·
Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy – 3 o blant
·
Cyngor Sir Ynys Môn – 4 o
blant
·
Cyngor Sir Ddinbych – 7 o
blant
·
Cyngor Gwynedd – 9 o
blant
·
Cyngor Sir Y Fflint – 11
o blant
Cymharwyd hyn gyda lleoliadau eraill yng
Nghymru megis Sir Gaerfyrddin (12 o blant), Casnewydd (1 plentyn), Abertawe (3
o blant) a Chaerdydd (1 plentyn).
Manylwyd bod 26 o Geiswyr Lloches o dan olaf y Cyngor ers cyfod o ddwy flynedd
a hanner ac y disgwylir 6 plentyn ychwanegol cyn Ebrill 2024. Eglurwyd bod y
plant dan ofal y Cyngor unwaith bydd cyfeiriad yn cael ei wneud gan y Swyddfa
Gartref. Eglurwyd bod cyfrifoldeb y Cyngor yn gyfystyr a’r cyfrifoldebau ar
gyfer unrhyw blentyn o Wynedd yn ein gofal. Cadarnhawyd bod capasiti’r
tîm wedi cynyddu yn ddiweddar er mwyn delio gyda’r heriau ychwanegol sy’n
deillio o dderbyn mwy o geisiadau.
Tynnwyd sylw i bwysigrwydd rhieni maeth. Atgoffwyd yr
Aelodau bod sesiwn wedi cael ei gynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac
Eifionydd eleni gan rieni maeth, ble roedden nhw yn trafod yr heriau a’r
boddhad o fod yn rhieni maeth. Ymfalchïwyd yn y gefnogaeth roedd y rhieni maeth
yn rhoi i’w gilydd ac i’r Cyngor.
Eglurwyd bod cyfrifoldeb statudol ar y Cyngor yn dilyn
Deddf Plant 1989 ac 2004 i gadw teuluoedd gyda’i gilydd ble mae’n ddiogel a
phriodol i wneud hynny. Esboniwyd bod y Cyngor yn derbyn gorchmynion llys i
symud plant o’r cartrefi os oes risg iddynt yn y cartref. Adroddwyd bod gofyniad
ar y Cyngor i ofyn a oes gan y rhieni unigolion o fewn eu teuluoedd bydd modd
eu hasesu er mwyn cadw’r plant o fewn y teulu. Pwysleisiwyd bod hyn yn
ddibynnol ar oedran a dealltwriaeth y plentyn yn ogystal ag asesiad o’r
oedolion a enwebwyd. Cadarnhawyd bod yr unigolion a enwebwyd yn cael eu
cofrestru fel rhieni maeth os yn addas ac yn cael goruchwyliaeth gan y Cyngor
mewn unrhyw fodd, hyd yn oed os ydi nhw y tu hwnt i Wynedd.
Adroddwyd bod lleoliadau maeth ddim yn addas pob tro
ac felly mae’r Cyngor yn darparu lleoliad preswyl. Sicrhawyd bod goruchwyliaeth
fisol i’r lleoliadau hyn. Nodwyd bod swyddogion yn mynd y tu hwnt i ofyniad
statudol er mwyn sicrhau cysylltiad gyda’r plant hynny. Pwysleisiwyd mai
swyddogion y Cyngor sy’n mynd i weld plant mewn lleoliadau preswyl gan eu bod
yn hanu o Wynedd. Eglurwyd bod hyn yn caniatáu swyddogion i rannu gwybodaeth ac
adnoddau dysgu yn Gymraeg i’r plant yn ogystal â chyfathrebu gyda’r plant yn eu
hiaith gyntaf.
Diolchwyd yn fawr i bawb sy’n rhieni maeth yn y Sir ac
i’r swyddogion sy’n eu cefnogi.
Cyfeiriwyd at nifer o agweddau eraill sy’n rhan o
weithrediad y Panel megis ‘Cartref Sefydlog’, ‘Iechyd da’, ‘Addysg dda’ a
‘chodi ymwybyddiaeth’. Eglurwyd bod cyfraniadau yn cael eu darparu yn draws
adrannol i gefnogi gwaith y Panel.
Cadarnhawyd bod blaenoriaethau’r Panel am y flwyddyn
i ddod yn cynnwys cynllun ‘Cartrefi Grŵp Bach’ syn rhan o Gynllun y Cyngor
2023-28, sy’n ymgeisio i leoli pob plentyn o Wynedd sydd mewn gofal, o fewn
Gwynedd.
Diolchwyd i holl swyddogion yr Adran sy’n gweithio’n galed i ofalu am yr
holl blant o dan ofal y Cyngor.
Awdur:Dafydd Gibbard: Prif Weithredwr
Dogfennau ategol: