Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Beca Brown

Penderfyniad:

1.    Cymeradwywyd Opsiwn 2 ar gyfer prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon.

2.    Cymeradwywyd i’r Pennaeth Addysg gynnal trafodaethau ar adolygu y memorandwm o ddealltwriaeth gyda’r rhan-ddeiliaid sydd yn ffurfio Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gyda’r bwriad o gryfhau y trefniadau ac adrodd yn ôl i’r Cabinet gyda argymhellion ar gyfer y digwyddiadau gytunwyd.

3.    Caniatawyd i ddargyfeirio rhan o gyllideb prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon ar gyfer cyfarch y bwlch ariannol sydd ym mhrosiectau Band B yn unol â’r adroddiad, nad oes modd symud ymlaen â hwy ar hyn o bryd gan nad oes cyllideb ddigonol ar eu cyfer yn sgil cynnydd mewn costau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cymeradwywyd Opsiwn 2 ar gyfer prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon.

2.    Cymeradwywyd i’r Pennaeth Addysg gynnal trafodaethau ar adolygu'r memorandwm o ddealltwriaeth gyda’r rhan-ddeiliaid sydd yn ffurfio Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gyda’r bwriad o gryfhau'r trefniadau ac adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion ar gyfer y diwygiadau a gytunwyd.

3.    Caniatawyd i ddargyfeirio rhan o gyllideb prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon ar gyfer cyfarch y bwlch ariannol sydd ym mhrosiectau Band B yn unol â’r adroddiad, nad oes modd symud ymlaen â hwy ar hyn o bryd gan nad oes cyllideb ddigonol ar eu cyfer yn sgil cynnydd mewn costau.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau i’r Cabinet ganiatáu cychwyn proses ymgysylltu gyda rhan-ddeiliaid allweddol er mwyn ystyried y ddarpariaeth ôl-16 bresennol, ac amlygu’r ystyriaethau allweddol er mwyn adnabod y cyfeiriad a’r cyfleoedd i gryfhau’r ddarpariaeth yn Arfon, mewn cyfarfod ym mis Mawrth 2020. Manylwyd bod dau weithgor wedi ei gynnal gyda dysgwyr, rhieni, staff dysgu a llywodraethwyr er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio eu barn a holi unrhyw gwestiynau.

 

Adroddwyd mai’r prif negeseuon a dderbyniwyd o’r broses ymgysylltu hwn oedd:

 

·       Y brif flaenoriaeth yw ansawdd addysg

·       Y dylid defnyddio TGCh i ategu a chefnogi’r dysgu wyneb yn wyneb.

·       Bod Addysg Gymraeg a dwyieithog yn greiddiol bwysig (er rhai sylwadau i’r gwrthwyneb)

·       Y dylid defnyddio’r arian cyfalaf i wella cyfleusterau ein hysgolion uwchradd yn gyffredinol fel bod modd i’r holl ddysgwyr 11-18 oed elwa o’r buddsoddiad.

·       Bod gwrthwynebiad cyffredinol i unrhyw fwriad i ganoli neu drydyddu’r ddarpariaeth

·       Y cafwyd sawl sylw am ddarpariaeth Grŵp Llandrillo Menai o safbwynt ansawdd, cyfrwng a gofal bugeiliol.

 

Cydnabuwyd nad yw’r achos dros newid mor gryf erbyn hyn ag yr oedd hi nol yn 2020. Ystyriwyd bod dyheadau ac anghenion pobl ifanc wedi newid yn sgil y Pandemig a bod y Cyngor wedi dysgu gwersi am bwysigrwydd technoleg mewn addysg. Nodwyd bod sylwadau cryf wedi dod gan benaethiaid bod angen edrych ar addysg uwchradd yn ei gyfanrwydd yn hytrach na manylu ar addysg ôl-16 yn unig. Adroddwyd bod rhai o siroedd eraill yn ymdrin ag addysg ôl-16 fel rhan o’r gyfundrefn uwchradd, ond mae Gwynedd yn dewis peidio gwneud hynny oherwydd cryfderau ac arolygiadau cadarnhaol am y trefniant presennol.

 

Cydnabuwyd bod buddsoddiad yn ysgolion uwchradd wedi bod yn is nag ysgolion cynradd. Croesawyd y bwriad i fuddsoddi mewn ysgolion uwchradd yn y Sir sydd wir ei angen. Pwysleisiwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Addysg: Gwasanaethau Corfforaethol bod buddsoddi mewn ysgolion uwchradd wedi bod yn llai arwyddocaol nac i’r gyfundrefn gynradd a hynny oherwydd bod gan y gyfundrefn honno nifer sylweddol yn uwch o ysgolion na’r gyfundrefn uwchradd. Er hyn, sicrhawyd bod y gyfundrefn uwchradd yn derbyn sylw gan yr adran a chyfeiriwyd at nifer o brosiectau ar y gweill i gynorthwyo hynny.

 

Rhannwyd pryder am yr heriau o ddenu staff i ddysgu pynciau allweddol, ar y cyd gyda niferoedd isel o ddisgyblion yn astudio rhai pynciau arbenigol. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Addysg: Uwchradd  nad yw holl bynciau Lefel A yn cael eu dysgu ym mhob ysgol ar hyn o bryd. Er hyn, gobeithir i Gonsortiwm Addysg Gwynedd ac Ynys Môn addasu er mwyn cyfarch anghenon disgyblion, megis cynnig cyrsiau hybrid ble mae elfen o addysgu wyneb i wyneb ac elfennau ymuno o bell.

 

Eglurwyd bod dau opsiwn ar ddyfodol y prosiect yn seiliedig darganfyddiadau yn dilyn cyfnod o ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Cadarnhawyd yr opsiynau hyn fel:

 

1.    Buddsoddi yn y Gyfundrefn Addysg Ôl-16 bresennol

2.    Arallgyfeirio Cyllideb Addysg Ôl-16 Arfon

 

Adroddwyd bod yr Adran yn teimlo mai Opsiwn 2 uchod yw’r ffordd ymlaen gan ei fod yn ffordd o gyfarch gwir anghenion ysgolion Hirael, Tryfan a Brynrefail gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd dysgu a phrofiadau dysgwyr yn yr ysgolion.

 

Awdur:Debbie Anne Williams Jones: Pennaeth Cynorthwyol Adran Addysg - Gwasanaethau Corfforaethol

Dogfennau ategol: