Agenda item

I ofyn i’r Pwyllgor am eu sylwadau er mwyn llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chyflwyno sylwadau’r pwyllgor er mwyn llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith yr adroddiad gan egluro mai’r panel sy’n gyfrifol am osod lefel cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer cynghorwyr. Nodwyd bod eu rôl yn gwbl annibynnol a’u bod yn cyhoeddi adroddiad yn flynyddol ym mis Hydref er mwyn amlinellu’r bwriad ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 esboniwyd nad yw’r panel wedi awgrymu unrhyw newidiadau mawr ond eu bod yn cynnig cynyddu’r lwfans sylfaenol a gynigir i Gynghorwyr a byddai hynny’n daladwy o fis Ebrill 2024 ymlaen. Byddai cynnydd yn y swm a gynigir i’r Cynghorwyr sy’n derbyn uwch gyflogau hefyd.

 

Eglurwyd mai’r prif newid arall yw bod y panel wedi rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud â thaliadau ar gyfer aelodau cyfetholedig. Esboniwyd bod y trefniadau cyfredol yn nodi y dylai aelodau cyfetholedig gael cydnabyddiaeth ariannol ar sail diwrnod neu hanner diwrnod. Ond yn sgil newidiadau i arferion gwaith, megis cyfarfodydd brifio amlach ar-lein ayyb, eglurwyd bod y panel yn ystyried cynnig hyblygrwydd wrth dalu aelodau cyfetholedig, gan gynnwys talu fesul cyfradd yr awr. 

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith bod chwe chwestiwn wedi’i gynnwys yn yr ymgynghoriad a gofynnodd a byddai modd i’r pwyllgor roi sylwadau ar y gwahanol agweddau fesul cwestiwn er mwyn gallu defnyddio’r sylwadau i baratoi ymateb i ymgynghoriad y panel.

 

·        Cwestiwn 1: Cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i gynrychiolwyr?

o   Nodwyd bod yr hyn a gynigir gan y panel yn ymddangos yn ddigon fforddiadwy o’i gymharu â chyllideb y Cyngor yn ei gyfanrwydd ac felly ei fod yn ymddangos yn ddigon teg.

 

·       Cwestiwn 2: Barn ar hyblygrwydd taliadau i Aelodau Cyfetholedig?

o   Cytunodd yr Aelodau bod y rhesymeg tu ôl i newid y ffordd mae’r Aelodau Cyfetholedig yn cael eu talu yn gwneud synnwyr o ystyried y modd y mae amgylchiadau’r gwaith wedi newid ac yn digwydd yn fwy darniog a chyson erbyn hyn.

o   Canmolwyd hyblygrwydd y system a’r modd y mae posib iddi gael ei newid pan fo amgylchiadau newydd yn codi.

 

·       Cwestiwn 3: Arferion da ynghylch defnyddio pwerau’r panel i annog mwy o deithio cynaliadwy ymhlith aelodau.

o   Nodwyd bod yr opsiwn o weithio’n hybrid bellach yn arwain at weithio’n fwy cynaliadwy a bod rhoi’r dewis i gynghorwyr yn ffordd dda ymlaen.

o   Holwyd cwestiynau am y sefyllfa o ran yswiriant os yn rhannu car gyda chynghorydd arall er mwyn mynychu cyfarfodydd. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod angen newid yr yswiriant i un sy’n nodi teithiau busnes er mwyn gallu ei ddefnyddio yn rhinwedd y swydd.

o   Tynnwyd sylw at y ffaith bod costau teithio sylweddol uwch yn mynd ar wneud gwaith o amgylch y ward os yn byw mewn ward gwledig o’i gymharu â ward trefol ac nad oes cydnabyddiaeth yn cael ei roi i hynny.

 

·        Cwestiwn 4: Ymwybyddiaeth o hawliau Cynghorwyr am ad-daliadau a’r camau i wella hynny.

o   Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith bod gwybodaeth am hawliau’r Cynghorwyr i’w gael ar y Mewnrwyd Aelodau ac yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth. Holwyd pa gamau pellach y gellid eu cymryd er mwyn codi ymwybyddiaeth y Cynghorwyr o’r gwahanol hawliau sydd ganddynt?

o   Mewn ymateb, nodwyd er nad oedd rhai Cynghorwyr yn ymwybodol o’i holl hawliau, byddent yn gwybod gyda phwy i gysylltu petai problem yn codi a bod swyddogion ar gael i ateb unrhyw gwestiwn.

o   Tynnwyd sylw at y ffaith bod llawer o wybodaeth yn cael ei ddarparu gyda’i gilydd i’r Cynghorwyr ar ddechrau’r cyfnod yn dilyn yr etholiad a bod hynny’n gallu bod ychydig yn llethol.

o   Tynnwyd sylw at y ffaith bod llawer o wybodaeth yn cael ei ddarparu gyda’i gilydd i’r Cynghorwyr ar ddechrau’r cyfnod yn dilyn yr etholiad a bod hynny’n gallu bod ychydig yn llethol. Nodwyd y byddai ail-anfon darnau o wybodaeth er mwyn atgoffa’r Cynghorwyr yn fuddiol.

o   Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith y byddai ail-anfon gwybodaeth yn fuddiol ond anogodd yr aelodau i wneud defnydd o’r Bwletin Aelodau wythnosol gan fod llawer o wybodaeth arno.

 

·        Penderfynwyd peidio holi’r aelodau am eu barn ar gwestiwn 5 gan ei fod yn fwy perthnasol i aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.

 

·        Cwestiwn 6: Barn am adroddiadau i’r dyfodol i gyfuno costau teithio a chynhaliaeth aelodau yn hytrach na fesul unigolyn?

o   Eglurwyd bod y panel wedi awgrymu adrodd ar gostau teithio a chynhaliaeth aelodau fel lwmp swm fesul Cyngor ar gyfer y dyfodol yn hytrach na fesul aelod fel sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

o   Mewn ymateb, nodwyd bod darparu’r wybodaeth fesul aelod unigol yn golygu bod yr aelodau hynny sy’n byw bellaf o Gaernarfon yn cael eu cysylltu gyda chostau teithio uchel.

o   Os mai’r bwriad yw sicrhau nad yw aelodau unigol yn cael eu cysylltu gyda chostau teithio uchel, mynegwyd cefnogaeth i’r newid gan fod adrodd ar y wybodaeth fesul aelod unigol yn gallu bod yn annheg ar y rheini sy’n gorfod teithio bellaf.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chyflwyno sylwadau’r pwyllgor er mwyn llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Dogfennau ategol: