Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth..

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth yr adroddiad gan atgoffa’r pwyllgor bod pedwar maes blaenoriaeth wedi’u hamlinellu i dderbyn sylw yn ystod 2023/24 sef diogelwch a chefnogaeth i Gynghorwyr; sgyrsiau datblygiad personol; edrych ar drefniadau craffu a Chyngor di-bapur.

 

O ran yr elfen diogelwch a chefnogaeth i gynghorwyr, eglurwyd bod gwybodaeth am faterion diogelwch a lles yn cael ei ddarparu ar y Mewnrwyd Aelodau a bod diweddariad rheolaidd yn cael ei roi am y maes yn y Bwletin Aelodau. Nodwyd nad oedd llawer o Gynghorwyr yn ymwybodol o’r bwletin ac y byddai’n ddefnyddiol cael barn aelodau’r pwyllgor o sut y gellir sicrhau gwell defnydd o’r Mewnrwyd Aelodau a’r bwletin wythnosol er mwyn cyfathrebu negeseuon allweddol pwysig.

 

Esboniwyd bod pob aelod wedi derbyn gwahoddiad i fanteisio ar Sesiwn Ymgynghorol sef sgwrs anffurfiol gydag arbenigwr o’r maes Dysgu a Datblygu i drafod eu rôl fel aelod. Nodwyd mai prin yw’r defnydd ohonynt hyd yma ac felly atgoffwyd yr aelodau bod angen cysylltu gyda’r Swyddog Datblygu Aelodau er mwyn trefnu’r sesiwn.

 

Yng nghyd-destun y symudiad i fod yn Gyngor di-bapur, eglurwyd bod datblygiadau wedi bod dros yr haf. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith nad yw hyn wedi bod yn symudiad hawdd a diolchwyd i’r aelodau am eu cydweithrediad ar y mater. Atgoffwyd bod modd i’r aelodau gysylltu os yn dymuno derbyn sgrin ychwanegol neu drefnu slot hyfforddiant 1:1 er mwyn dod i ddeall y cyfarpar.

 

O ran datblygiadau eraill, eglurwyd bod newidiadau wedi’i gwneud i’r system sain yn Siambr Hywel Dda yn sgil sylwadau gan Gynghorwyr. Rhoddwyd trosolwg o’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i aelodau hefyd.

 

 

Materion a godwyd yn ystod y drafodaeth:

 

·        Diolchwyd i’r adran am y gefnogaeth.

·        O ran y symudiad i fod yn gyngor di-bapur, mynegwyd gwerthfawrogiad o’r ffaith bod yr adran wedi trafod yn unigol gyda’r unigolion sy’n parhau i dderbyn copïau papur.

·        Tynnwyd sylw at y ffaith bod problemau signal mewn rhai ardaloedd gwledig yng Ngwynedd a bod hyn yn gallu bod yn broblematig wrth geisio darllen dogfennau ar-lein.

·        Nodwyd bod diogelwch a chefnogaeth i gynghorwyr yn bwysig a bod angen bod yn rhagweithiol wrth sicrhau blaenoriaeth i’r maes. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth y byddai’r mater yn faes blaenoriaeth am beth amser.

·        Mynegwyd syndod am gyn lleied o’r aelodau sy’n mynychu hyfforddiant a chwestiynwyd a yw’r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu yn cyd-fynd gyda’r hyn sydd ei angen ar gynghorwyr?

o   Mewn ymateb, nodwyd bod yr adran yn deall bod galwadau uchel ar y cynghorwyr ond eu bod yn cael eu hannog i fynychu’r sesiynau hyfforddiant.

o   Tynnwyd sylw at y ffaith mai un o flaenoriaethau’r Cyngor newydd oedd cynyddu’r amrywiaeth oedd ar y Cyngor a bod hyn yn golygu bod gan fwy o gynghorwyr gyfrifoldebau eraill bellach megis swyddi llawn amser a gofal plant. Nodwyd bod angen cadw hyn mewn cof wrth ystyried y niferoedd sy’n mynychu hyfforddiant.

·        Holwyd a oes gostyngiad wedi bod yn y nifer sy’n mynychu hyfforddiant dros y blynyddoedd a sut mae hyn yn cymharu gydag awdurdodau eraill?

o   Nododd y Swyddog Datblygu Aelodau ei bod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chynghorau Ynys Môn a Chonwy ac nad oedd hi’n credu bod Gwynedd yn gwneud yn ddrwg o ran hyfforddiant.

o   Nodwyd bod gan Wynedd nifer o aelodau profiadol sydd ddim yn gweld yr angen i ddod i hyfforddiant bellach a bod angen canolbwyntio ar y cynghorwyr newydd.

o   Eglurwyd bod yr hyfforddiant yn cael eu categoreiddio ar y Mewnrwyd yn deitlau craidd ayyb a bod gwaith yn cael ei wneud ar baratoi llyfr a fyddai’n symleiddio hyn ymhellach.

·        Canmolwyd yr hyfforddiant siarad yn gyhoeddus gan nodi ei fod wedi bod yn fuddiol iawn.

·        Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhai aelodau wedi arfer cwrdd fel criw o gynghorwyr sy’n ferched yn y gorffennol a bod hynny wedi bod yn fuddiol.

o   Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith bod y cyfarfodydd hynny wedi dod i ben tra roedd diffyg adnoddau ond bod bwriad i ail-gydio yn y sesiynau hynny.

o   Cynigwyd efallai y gellid edrych ar gynnal sesiynau i gynghorwyr sy’n ferched a chynghorwyr sy’n newydd er mwyn iddynt gael cyfle i drafod gwahanol faterion mewn modd mwy anffurfiol.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth.

 

Dogfennau ategol: