Agenda item

Cais llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad fewnol gysylltiedig a thirlunio.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENFERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i'r cais gael ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar dderbyn prisiad llyfr coch o'r tai i allu pennu disgownt ar y tai fforddiadwy, cytundeb 106 tai fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol :

1.         Dechrau o fewn 5 mlynedd

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.         Defnyddio llechi to Cymreig neu lechi cyffelyb

4.         Cytuno’r deunyddiau allanol

5.         Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir o’r unedau fforddiadwy er sicrhau eu fforddiadwyedd

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol

9.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth

10.      Amodau Tirlunio

11.      Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Risg Halogiad Tir

12.      Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

13.      Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

 

Nodyn –          Dŵr Cymru

          System Draenio Gynaliadwy

          Uned Trafnidiaeth

          Uned Goed

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad mewnol cysylltiedig a thirlunio.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld a’r safle 10-11-23

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau y gallai fod risg o sŵn ac arogleuon o ganlyniad i agosatrwydd tai i adeiladau amaethyddol ond nad oedd yr Uned yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau na rheoliadau sy’n nodi pellteroedd rhwng adeiladau o’r fath. Nodwyd hefyd y derbyniwyd cynllun diwygiedig ar y 27.10.2023 yn dangos storfa biniau ger y fynedfa. Cadarnhaodd yr Uned Drafnidiaeth a Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu bod y trefniant yn dderbyniol ar y sail na fydd y Cyngor yn gyfrifol am y storfa - bod hyn yn cael ei sicrhau drwy osod nodyn ar y cais.

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i godi saith annedd gyda gwaith cysylltiedig i wella’r fynedfa bresennol, creu ardaloedd wedi'u tirlunio a ffordd fynediad mewnol ar ddarn o dir a’i defnyddir ar hyn o bryd gan fusnes contractwyr trydan. Mae bwriad cadw'r adeilad swyddfa bresennol sydd ar y safle, sy'n gysylltiedig â’r busnes, ond bydd yn golygu datblygu’r tir o’i amgylch gan gynnwys dymchwel gweithdy presennol i hwyluso codi'r tai newydd a'r ffordd fynediad. Bwriedir i ddau o'r tai newydd fod yn dai fforddiadwy canolraddol.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor 23 Hydref 2023 pryd gwnaed penderfyniad i gynnal ymweliad safle.

 

Saif y safle ar safle tir llwyd o fewn ffin datblygu Pentref Lleol Tregarth fel y’i diffinnir gan y CDLl, ond nid yw’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Saif o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen ac o fewn parth clustogi dau Henebyn Cofrestredig megis, CN202 Cytiau Parc Gelli a CN417, Rheilffordd Chwarel Penrhyn, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod Tregarth wedi ei adnabod fel Pentref Lleol dan bolisi TAI 4 sy’n caniatáu datblygiadau tai er mwyn cwrdd â strategaeth y Cynllun trwy’r defnydd o safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu. Ategwyd bod tystiolaeth briodol wedi ei dderbyn yn nodi y bydd y cynllun yn helpu cwrdd gydag anghenion tai cydnabyddedig y gymuned leol. Ystyriwyd felly bod y cynnig yn gyson gydag amcanion polisïau TAI 4, PCYFF 8 a PS 17 a bod egwyddor y datblygiad yn gyson gyda pholisïau tai'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Yng nghyd-destun lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol y bwriad, adroddwyd bod gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu’r lleoliad mewn modd priodol. Ystyriwyd bod y tai wedi eu dylunio i ansawdd safonol a bod y cynigion tirweddu’n gweddu naws y pentref. Er yn cydnabod sylwadau a dderbyniwyd, ni ystyriwyd y byddai’r tai yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd adeiledig y safle na’r gymdogaeth leol.

 

Yng nghyd-destun y dirwedd hanesyddol, nodwyd bod CADW yn cadarnhau na fyddai niwed arwyddocaol i’r dirwedd hanesyddol yn deillio o’r datblygiad, ond y bydd angen ymgymryd â rhaglen waith archeolegol cyn dechrau’r gwaith adeiladu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw nodweddion hanesyddol pwysig cuddiedig ar y safle.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, oherwydd lleoliad, dyluniad, gogwydd a maint y tai arfaethedig, ni ystyriwyd y byddai effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau preifat yn deillio o’r datblygiad. Wrth dderbyn bod tai o amgylch yn ymylu ar y safle, bod y safle mewn-lenwi o fewn ffin ddatblygu ac nad oedd yn afresymol ei ddatblygu ar gyfer tai. Ymddengys i osodiad y tai arfaethedig gael ei llunio er mwyn osgoi gor-edrych uniongyrchol a, thra byddai’n anorfod bydd peth rhyng-welededd rhwng eiddo’r ardal, ni ystyriwyd y byddai hyn yn afresymol nac yn annisgwyl mewn lleoliad o’r fath hwn.

 

Yng nghyd-destun materion mynediad, er bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn,nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad.

 

Ystyriwyd bod y datblygiad wedi ei lunio i gwrdd ag anghenion y farchnad dai lleol ac yn cynnwys elfen briodol o dai fforddiadwy ar safle tir llwyd o fewn ffin ddatblygu. Er bod cyfeiriad wedi ei wneud at TAN6,Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’  amlygwyd nad oedd yn berthnasol i’r cais yma. O ganlyniad ystyriwyd y cynllun yn dderbyniol a'i fod yn cydymffurfio â gofynion polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Er nad oedd yr Aelod Lleol yn bresennol, roedd eisoes wedi nodi mewn e-bost ei bod yn gefnogol i’r cais

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais – y safle o fewn y ffin datblygu

 

ch) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyflwr y tir, ei agosrwydd at safle tirlenwi hanesyddol, angen profi sadrwydd y sylfeini i sicrhau diogelwch, nodwyd bod amod Cynllunio i gynnalYmchwiliad Ymwthiolfyddai yn cadarnhau cyflwr y tir wedi ei gynnwys. Bydd rhaid i’r Uned Gwarchod y Cyhoedd sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gwblhau a’i gymeradwyo.

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i'r cais gael ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar dderbyn prisiad llyfr coch o'r tai i allu pennu disgownt ar y tai fforddiadwy, cytundeb 106 tai fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol:

1.         Dechrau o fewn 5 mlynedd

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.         Defnyddio llechi to Cymreig neu lechi cyffelyb

4.         Cytuno’r deunyddiau allanol

5.         Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir o’r unedau fforddiadwy er sicrhau eu fforddiadwyedd

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol

9.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth

10.      Amodau Tirlunio

11.      Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Risg Halogiad Tir

12.      Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

13.      Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

 

Nodyn –          Dŵr Cymru

          System Draenio Gynaliadwy

          Uned Trafnidiaeth

          Uned Goed

 

Dogfennau ategol: