Diwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel fod 3 o'r
anheddau i'w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3
o'r anheddau i'w defnyddio unai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6
AELOD LLEOL: Cynghorydd Rob Triggs
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Mae’r bwriad i ddiwygio’r amod er
defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer llety gwyliau dosbarth defnydd C6 yn
annerbyniol ar sail fod y nifer cyfunol o ail gartrefi a llety gwyliau ardal
Cyngor Tref Abermaw yn 18.40% sydd dros y rhiniog o 15% a ystyrir yn
orddarpariaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i
Dwristiaid. Yn sgil hyn nid yw’r
Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn arwain at
ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal fel y nodir yn maen prawf v o bolisi TWR 2
o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Cofnod:
Vary condition 5 of planning permission C21/0575/00//LL so that three of
the dwellings must be used for residential use within the C3 use class, and three
of the dwellings to be used either within C3 or C6 use class.
Attention was drawn to the late/additional
observations form - a letter dated 16 November 2023 had been sent to the
Members and the Planning Unit responding to the report.
Diwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel bod 3 o'r
anheddau i'w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3
o'r anheddau i'w defnyddio un ai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr / ychwanegol – llythyr dyddiedig 16 Tachwedd
2023 wedi ei anfon at yr Aelodau a'r Uned Cynllunio yn ymateb i’r adroddiad
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio
C21/0575/00/LL fel bod 3 o’r anheddau i’w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o
fewn dosbarth defnydd C3 a 3 o’r anheddau i’w defnyddio un ai o fewn dosbarth
defnydd C3 neu C6. Caniatawyd cais
C21/0575/00/LL ar 6 Rhagfyr 2022 ar gyfer trosi a newid defnydd un annedd yn 6
fflat 1 ystafell wely. Ymddengys nad
yw’r caniatâd blaenorol wedi ei weithredu eto ac ei fod yn parhau fel un
tŷ). Mae amod 5 o ganiatâd C21/0575/00/LL yn datgan:-
“Rhaid
defnyddio’r uned/au byw a ganiateir drwy hyn at ddefnydd anheddol o fewn
Dosbarth Defnydd C3 fel y'i diffinnir gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn unig ac nid at unrhyw
ddefnydd arall gan gynnwys unrhyw ddefnydd arall o fewn Dosbarthau Defnydd C.”
Gyda’r cais
yn ymwneud â diwygio neu ddiddymu amod, eglurwyd bod rhaid edrych os yw’r amod
yn parhau’n berthnasol dan y canllawiau cenedlaethol ac yn cwrdd â 6 maen prawf
gofynion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru: Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli
Datblygu. Yn ychwanegol, atgoffwyd yr Aelodau
o’r newidiadau sydd wedi bod i’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) llynedd, o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl
gyda defnydd C3 yn parhau ar gyfer unig neu brif breswylfa. Cyflwynwyd dau
ddosbarth defnydd ychwanegol (dosbarth C5 ail gartref a ddefnyddir mewn modd
gwahanol i brif neu unig breswylfa a dosbarth C6 ar gyfer llety gwyliau tymor
byr). Yn ychwanegol, cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar 13 Mehefin 2023 yn amlinellu’r
materion a’r cyfiawnhad dros gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn gallu
rheoli’r trosglwyddiad mewn defnydd o dai preswyl i ddefnydd gwyliau (ail
gartrefi a llety gwyliau).
Yn y
cyd-destun yma, gosodwyd yr amod ar ganiatâd C21/0575/00/LL, yn cyfyngu
meddiannaeth yr unedau i dai preswyl parhaol (C3), a rhoddwyd ystyriaeth i’r
polisïau tai perthnasol ar y pryd.
Ystyriwyd
Polisi TWR2 ac er bod y bwriad yn cydymffurfio a’r mwyafrif o’r meini prawf,
bod y cais yn methu ar faen prawf 5 o Bolisi TWR 2 y CDL sy’n nodi na ddylai’r
datblygiad arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal. Er bod Cynllun
Busnes wediei gfylwyno gyda’r cais (oedd yn cwrdd a gofynion y polisi), mae’r
Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid yn nodi na ddylid
caniatáu ceisiadau ar gyfer llety gwyliau pan fo 15% neu fwy o’r stoc tai mewn
defnydd gwyliau (sydd yn cynnwys ail-gartrefi ynghyd a llety gwyliau pwrpasol).
Amlygwyd bod ffigyrau Treth Cyngor (Gorffennaf 2023) yn cadarnhau fod nifer
cyfunol o ail-gartrefi a llety gwyliau ardal Cyngor Tref Bermo yn 18.40%, ac
felly yn groes i faen prawf 5 TWR 2 a’r arweiniad a gynhwysir yn Canllaw
Cynllunio atodol.
Amlygywd bod
Datganiad Cynllunio gyda’r cais yn cynnwys dadleuon o blaid y bwriad, gan nodi
mai cynnydd bychan ansylweddol i niferoedd llety gwyliau fyddai hwn – byddai’r
bwriad yn darparu cymysgedd o unedau preswyl parhaol a fflatiau gwyliau ac yn
sicrhau nad oes gormodedd o adeiladau gwag ar unrhyw adeg yn y flwyddyn. Ni
fyddai 3 fflat gwyliau yn gosod pwysau gormodol ar wasanaethau yn ystod y prif
dymor. Gyda 6 fflat eisoes wedi ei gytuno, ni fyddai’r ddefnydd gwyliau yn
achosi unrhyw effaith negyddol gwahanol o ran sŵn, aflonyddwch neu gynnydd
mewn traffig. Byddai’r hyblygrwydd i ddefnyddio’r fflatiau i ddefnydd gwyliau
yn fwy hyfyw yn ariannol, gan gynorthwyo i ariannu cynnal a chadw’r adeilad
ynghyd a rhoi cyfle i osod rhenti is ar gyfer y fflatiau tai parhaol C3, gan
wneud y rhain yn fwy fforddiadwy i bobl leol.
Wrth
werthfawrogi dadleuon y datblygwr, nodwyd bod y Canllaw Cynllunio yn gwbl glir
yn ei arweiniad, ac nad yw’r bwriad yn cael ei ystyried yn achos eithriadol ble
ddylid gwyro o’r polisi. Daethpwyd i’r
casgliad fod yr amod sydd yn cyfyngu defnydd y 6 uned i ddosbarth defnydd C3 yn
parhau i gydymffurfio â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru. Ystyriwyd felly fod y
bwriad i ddiwygio’r amod er defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer defnydd cymysg fel
tŷ a llety gwyliau dosbarth defnydd C6 yn annerbyniol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol;
·
Ar hyn o bryd tŷ
sengl yw'r safle gyda chaniatâd ar gyfer trosi'r tŷ i ffurfio chwe fflat
un ystafell wely dosbarth defnydd C3. Y cynnig yn ceisio amrywio amod 5 i
ganiatáu i hyd at 3 fflat gael eu defnyddio fel llety gwyliau tymor byr.
·
Bod 17 Marine Parade yn
rhan o deras o 9 eiddo – bod pob eiddo arall, ar hyn o bryd at ddefnyddio
gwyliau.
·
Bod y Cynllun Busnes a
gyflwynwyd yn dangos bod y ddarpariaeth bresennol o lety hunanarlwyo 1 ystafell
wely gyda pharcio am ddim a golygfeydd o'r môr yn isel; bod galw uchel am y
math yma o lety.
·
Bod Polisi PS 14 yn
cydnabod pwysigrwydd llety twristiaeth heb wasanaeth i ddiwydiant twristiaeth
drwy gydol y flwyddyn.
·
Bod Polisi TWR 2 yn
cefnogi trosi adeiladau presennol yn adeiladau gwyliau llety, ar yr amod bod
meini prawf penodol yn cael eu bodloni; paragraff 6.3.65 yn nodi, “Nod y polisi yw cefnogi'r
egwyddor o ddarparu llety gwyliau hunanwasanaeth o safon mewn lleoliadau
cynaliadwy.”
·
Bod Rhan 5 o Bolisi TWR
2 yn cyfeirio at ddatblygiad nad yw'n arwain at ormodedd o lety o’r fath o fewn
yr ardal - dyma
sail y swyddog dros argymell gwrthod y cais.
·
Fodd bynnag, mae
paragraff 6.3.76 yn amlygu’n glir mai diben Rhan 5 o'r polisi yw ceisio atal
rhesymeg fyddai yn caniatáu ailddatblygu adeiladau presennol yng nghefn gwlad
ar gyfer defnydd gwyliau i'w drosi i ddefnydd preswyl os yn anhyfyw, oherwydd
gorgyflenwad o lety hunanwasanaeth. Yn amlwg nid yw hyn yn berthnasol i'r
cynnig oherwydd bod gan yr ymgeisydd ganiatâd i drosi'r adeilad yn 6 fflat.
·
Cydnabuwyd bod y
cyfuniad o lety gwyliau ac ail gartrefi yn Abermaw ychydig yn uwch na'r trothwy
15% y CCA, ond canllaw yw hwn ac nid polisi - ni ddylid felly bod yn rhy llym
gyda’r trothwy hwn.
·
Bydd y cynnig, o'i
gymharu â'r sefyllfa bresennol, yn cynnig dau lety parhaol ychwanegol a 3 fflat
gwyliau ychwanegol – byddai canran ail gartrefi a llety gwyliau yn Abermaw yn
cynyddu 0.2% yn unig o ganlyniad i hyn.
·
Bod y CCA hefyd yn
datgan bod rheolaeth dros nifer llety gwyliau yn yr ardal oherwydd diffyg cyflenwad tai, effaith
ar wasanaethau lleol, cyfleusterau cymunedol a phrisiau tai. Byddai’r cynnig yn
cael effaith gadarnhaol ar bob un ac yn bwysicaf, yn darparu tai fydd yn
diwallu’r angen lleol gyda phris fforddiadwy.
·
Goblygiad gwrthod y cais yw’r
posibilrwydd na fyddai’r caniatâd presennol yn cael ei weithredu, ac o
ganlyniad, yr eiddo yn cael ei ddefnyddio fel annedd sengl, ail gartref neu
lety gwyliau o dan hawliau PD.
·
Ei bod yn anghytuno bod
y cynnig yn gwrthdaro â Pholisi TWR2, yn enwedig pan fo’r cynnig, wrth ddarllen
y polisi yn gywir yng nghyd-destun ei bwrpas, fel y nodir yn y cynllun. Hyd yn
oed os canfyddir bod gwrthdaro, nid oes unrhyw niwed sylweddol, ac unrhyw
wrthdaro fyddai’n gorbwyso’r buddion economaidd a chymdeithasol y datblygiad
arfaethedig.
·
Yn gofyn yn barchus i’r
Aelodau gymeradwyo’r cais.
c) Derbyniwyd cwestiwn drwy e-bost gan yr Aelod Lleol yn holi am y
newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio lle cyflwynwyd Dosbarthiadau Defnydd
newydd C5 ac C6 oedd yn nodi byddai datblygiad a ganiateir yn gallu symud rhwng
C3, C5 a C6 oni bai bod Erthygl 4 mewn lle. Gan nad yw Erthygl 4 yn ei lle eto
pam bod y cais yma am ganiatâd cynllunio, siawns nad yw hyn yn dod o dan
ddatblygiadau a ganiateir.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cynorthwyol nad oedd
Erthygl 4 yn berthnasol yma ond wrth i’r Pwyllgor ganiatáu trosi tŷ i 6
fflat yn Nhachwedd 2022, a hynny er mwyn diwallu’r angen am dai, gwnaed hynny
gydag amodau cynllunio oedd yn cyfyngu defnydd y 6 fflat i brif gartref C3 yn
unig - yn sgil hynny roedd angen caniatâd cynllunio i amrywio’r amod cyn gallu
newid i gymysgedd C3 a llety gwyliau byr dymor. O ganlyniad, y datblygiad dan
sylw angen caniatâd cynllunio oherwydd bod yr hawliau i newid wedi eu tynnu i
ffwrdd o’r caniatâd gwreiddiol.
d) Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelod:
·
Bod prinder tai i
unigolion yn yr ardal a thu hwnt
·
Bod pob lleol yn methu
cael tai
PENDERFYNWYD: Gwrthod
Roedd
y bwriad i ddiwygio’r amod er defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer llety gwyliau
dosbarth defnydd C6 yn annerbyniol ar sail fod y nifer cyfunol o ail gartrefi a
llety gwyliau ardal Cyngor Tref Abermaw yn 18.40% sydd dros y rhiniog o 15% a
ystyrir yn orddarpariaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i
Dwristiaid. Yn sgil hyn nid yw’r
Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn arwain at
ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal fel y nodir ym maen prawf v o bolisi TWR 2
o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Dogfennau ategol: