Agenda item

Estyniad unllawr ar gyfer creu ystafell hyfforddi / diwrnod a swyddfa.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

1.         5 mlynedd i ddechrau gwaith.

2.         Unol a chynlluniau.

3.         Rhaid cytuno unrhyw newidiadau neu gwaith uwchraddio i’r system draenio twr aflan   cyn defnyddio yr estyniad

4.         Gorffeniad i gydweddu gyda’r adeilad presennol.

5.         Gwelliannau Bioamrywiaeth

 

Nodyn

Llythyr Dwr Cymru

 

Cofnod:

Estyniad unllawr ar gyfer creu ystafell hyfforddi / diwrnod a swyddfa

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad unllawr i ochr adeilad Y Deri, sydd wedi ei leoli tu allan i ffin datblygu rhwng Caernarfon a Bontnewydd, felly’n safle cefn gwlad er y saif mewn clwstwr bychan o ryw 5 eiddo. Eglurwyd bod Y Deri yn darparu gwasanaeth gofal cartref ac y byddai’r estyniad yn mesur 10 medr o hyd a 8.8 medr yn ei fan lletaf. 

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Ymddengys fod yr adeilad wedi ei ddefnyddio fel busnes gofal cartref ers 17 o flynyddoedd ac y byddai’r estyniad ar gyfer hwyluso eu gwasanaeth, i’w ddefnyddio ar gyfer ystafell ddydd i’w cleientiaid ac i ddibenion hyfforddi staff. Amlygwyd bod y datganiadau a dderbyniwyd gyda’r cais yn egluro a chyfiawnhau’r angen am yr estyniad. Ystyriwyd bod y bwriad yn cefnogi ffyniant economaidd busnes sy’n bodoli’n barod ac felly’n cydymffurfio â maen prawf 4 o bolisi PS 13 a pholisi PCYFF 1 a PS 5 o’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd y byddai'r bwriad yn weladwy o’r llwybr cyhoeddus cyfochrog yn unig ac wedi ei amgáu gan adeiladau fel arall; ystyriwyd bod maint, graddfa a dyluniad y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda polisi PCYFF 3;  oherwydd lleoliad yr estyniad ar y safle o’i gymharu a’r tai cyfagos, a lleoliad y wal derfyn, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael unrhyw effaith ar fwynderau’r trigolion cyfagos.

 

Cyfeirwyd at bryderon gan gymdogion oedd yn nodi fod tanc septic yn cael ei rannu ar y safle ac nad oedd digon o gapasiti ar gyfer yr estyniad ychwanegol. Adroddwyd bod y tanc wedi ei leoli mewn cae cyfochrog ac ni fyddai’r estyniad yn cael effaith uniongyrchol arno, ac ni fyddai’r bwriad ei hun yn debygol o achosi cynnydd sylweddol yn y defnydd. Ategwyd mai materion sifil a godwyd gan y cymdogion ac yn faterion a fyddai’n cael eu rheoli gan Rheolaeth Adeiladu. Er hynny, tynnwyd sylw at awgrym i gynnwys amod yn nodi bod rhaid cytuno ar unrhyw newidiadau neu waith uwchraddio i’r system draenio dwr aflan cyn defnyddio’r estyniad.

 

Cyfeiriwyd hefyd at bryderon ffyrdd, ar sail cyflwr ac addasrwydd y fynedfa bresennol, cynnydd mewn traffig ynghyd a chyflymder cerbydau sy’n teithio ar hyd y trac tua’r safle. Mewn ymateb, ni ystyriwyd y byddai’r cynnydd mewn traffig yn sylweddol gan fod y busnes wedi bod yn cynnal gweithgareddau yn ystod y dydd yn barod ac y byddai’r staff sy’n cael eu hyfforddi yn staff presennol gyda’r posibiliad o un staff ychwanegol. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r cais ac na fyddai’r estyniad yn cael effaith andwyol o ran diogelwch ffyrdd.

 

Y bwriad yw ymestyn adeilad busnes presennol sy’n darparu gwasanaeth yn y Gymraeg i’r gymuned leol fel bod unigolion bregus yn gallu dod i gymdeithasu. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac cydymffurfio gyda polisïau lleol a chenedlaethol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Bod y safle yn agos at dai a gwesty

·         Bod nifer o bryderon wedi eu hamlygu gan drigolion yn ymwneud a chyflymder traffig, mynedfa ac un system garthffosiaeth i bawb

·         Ers derbyn y pryderon, trafodaethau wedi eu cynnal a’r ofnau wedi eu lleddfu

·         Yn tynnu ei wrthwynebiad yn olyn anog yr Aelodau i gymeradwyo’r cais. Y Deri yn cynnig gwasaneth gwerthfawr i’r gymued leol.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu

 

1.   5 mlynedd i ddechrau gwaith.

2.   Unol a chynlluniau.

3.   Rhaid cytuno unrhyw newidiadau neu waith uwchraddio i’r system draenio twr aflan cyn defnyddio'r estyniad

4.   Gorffeniad i gydweddu gyda’r adeilad presennol.

5.   Gwelliannau Bioamrywiaeth

 

Nodyn

Llythyr Dwr Cymru

 

Dogfennau ategol: