Diweddariad
ar y Gwaith o Ddatblygu Canlawiau Addoli ar y Cyd
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a chynnig Y Parchedig Nick
Sissons ein bod fel CYSAG yn ysgrifennu llythyr at CCYSAGauC a chyrff cenedlaethol yr holl eglwysi yng Nghymru i holi sut fyddai modd iddynt fod o gymorth i symud y mater yn ei flaen.
Cytunodd y Parchedig Sissons i ddrafftio’r llythyr.
Cofnod:
Atgoffwyd pawb o gefndir y sefylla ble
gofynnwyd am enwebiadau rhai misoedd ôl erbyn hyn, i edrych ar y canllawiau
presennol gan eu bod wedi dyddio. ‘Roedd
pawb yn cytuno eu bod yn anaddas erbyn hyn, ac o ganlyniad cynigiodd Y
Parchedig Nick Sissons a’r Cynghorydd Elin Walker
Jones edrych ar y Canllawiau presennol.
Adroddodd Y Parchedig Sissons, ar ôl edrych ar
y canllawiau presennol, ei bod wedi dod yn amlwg faint o waith oedd ei angen,
ac awgrymodd nad oedd gwerth mewn mynd drwy’r ddogfen bresennol a’i haddasu gan
fod materion ehangach angen sylw, yn enwedig yr angen i adolygu’r ddeddfwriaeth
ar addoli ar y cyd. Tybed a oedd unrhyw un yn ymwybodol beth oedd yr ysgolion
yn ei wneud ar hyn o bryd? Roedd y
Parchedig Sissons yn teimlo bod rôl yma i’r Eglwysi
arwain ar y gwaith gan fod gwir angen dogfen fwy addas erbyn hyn.
Cyfeiriodd at y papur ble roedd 4 opsiwn wedi ei gynnig sef
Opsiwn 1: Gwneud dim
Opsiwn 2: Addasu y Polisi presennol
Opsiwn 3: Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
ofyn iddynt gymryd y mater o Addoli ar y Cyd neu gynulliad o ddifri, ac
adolygu’r ddeddfwriaeth fel mater brys.
Opsiwn 4: Cyfaddawd? Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a chreu polisi
newydd sydd yn ystyried anghenion iechyd meddwl, ysbrydol a moesol plant a
phobl ifanc o ddifri. Polisi sy’n cael ei ysgrifennu gan y rhai sy’n ymgymryd
â’r gwaith yma o fewn ysgolion yn rheolaidd : Polisi sydd yn rhoi gwerth ar
gymuned ysgol-gyfan.
Nododd Y Parchedig Sissons y bydd y sefyllfa
yn parhau i fod yn ofidus nes bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei newid, a nododd
ei bryder bod cyd-addoli yn fater rhy bwysig i’w adael ar yr ochr.
Ehangodd Y Cynghorydd Walker Jones ar yr uchod gan nodi bod cyfle yn
cael ei golli i gyfarch y mater o gyd-addoli ac na fyddai addasu’r ddogfen
bresennol yn unig yn cyfarch y mater.
Adroddodd ei phryder hefyd ei bod yn ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru
nac ESTYN yn cymryd y mater o ddifrif, ac o ganlyniad
bod angen i CYSAG wneud rhywbeth ar fyrder er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.
Diolchwyd i’r Parchedig Nick Sissons a’r
Cynghorydd Elin Walker Jones am eu gwaith yn mynd at wraidd y mater ac agorwyd
y llawr i sylwadau.
Nodwyd pryder nad oedd yn hollol glir beth oedd yn digwydd mewn ysgolion
ar hyn o bryd a chwestiynwyd paham nad oedd adroddiadau ESTYN yn dod i sylw
CYSAG erbyn hyn? Cadarnhaodd y Swyddog Adnoddau Cynorthwyol a Chlerc
CYSAG bod ffurf adroddiadau
ESTYN yn wahanol erbyn hyn, gyda
ychydig iawn o gyfeiriad at gyd-addoli.
Nodwyd yr ymdeimlad
ei bod yn ddyletswydd ar Aelodau CYSAG i fonitro beth sydd
yn digwydd yn yr ysgolion,
ond cwestiynwyd a yw derbyn
gwahoddiad i fynd i wasanaeth
mewn ysgol yn golygu bod gwasanaeth yn cael ei
gynnal yn rheolaidd mewn gwirionedd?
Adroddwyd bod ysgolion yn gwneud ceisiadau
am gopi o’r canllawiau, felly mae cyfrifoldeb ar y Cyngor i’w gwneud yn addas i bwrpas ac awgrymwyd
efallai bod angen gofyn i CYSAGauC
godi’r mater gyda’r holl GYSAGau, gan
edrych arno yn genedlaethol. Yn ychwanegol, nodwyd y byddai yn rhaid
i unrhyw newidiadau gael eu gwneud gan
unigolion sydd yn hyddysg yn
y maes.
Nodwyd pwysigrwydd dod â phlant at ei gilydd a bod angen rhoi llawer
o ystyriaeth i wneud y dasg yn
dda, gan efallai gynnig rhywbeth creadigol, yn enwedig o nodi’r
sylwadau bod diffyg gofod mewn rhai
ysgolion a bod cyfle yn cael ei
golli yma i ymgynnull.
Cymerwyd y cyfle i
holi arbenigwyr o’r maes addysg
am eu profiadau hwy a nododd un bod gwasanaeth i wahanol
flwyddyn ysgol yn cael ei gynnal
bob wythnos, gan gyfuno blynyddoedd pan fo modd, ond
ei fod yn
her cael y plant i gyd i mewn
i’r Neuadd. Nodwyd bod manteision i gyd-addoli
ond bod COVID wedi cael effaith negyddol
ar sgiliau gwrando a chanolbwyntio plant.
Ychwanegwyd at hyn gan nodi bod angen i blant weld gwerth
mewn cyd-addoli. O ran cael pawb i’r Neuadd
ar yr un pryd, nodwyd bod rhai ysgolion â niferoedd uchel o blant mewn
rhai blynyddoedd ac mai cyd-addoli blwyddyn ar y tro yw’r unig opsiwn. Cyfeiriwyd at drefn ‘Munud i
Feddwl’ ble mae sleid yn
cael ei gosod
ar y bwrdd gwyn yn yr ystafell
gofrestru gan roi cyfle i
ddisgyblion fyfyrio ar yr hyn sydd
arni yn ystod
yr amser cofrestru.
‘Roedd
nifer o’r Aelodau yn awyddus i
fynd â’r mater ymhellach, megis trafod gyda chyrff
cenedlaethol yr holl eglwysi yng
Nghymru, ei godi gyda CCYSAGauC,
disgwyl am newid mewn deddfwriaeth drwy Lywodraeth Cymru a holi ysgolion unigol,
ond nodwyr pryder o ran arafwch yr amserlen gyda
rhai o’r opsiynau, a’r ymdeimlad
bod angen gwneud rhywbeth ar fyrder.
Diolchwyd am y cynigion uchod, gan nodi efallai bod opsiynau eraill, ond beth
bynnag oedd yr opsiwn gorau,
roedd ymdeimlad bod angen rhywbeth mwy defnyddiol na’r hyn sydd
ar gael ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad a chynnig Y Parchedig Nick Sissons
ein bod fel CYSAG yn ysgrifennu llythyr at CCYSAGauC
a chyrff cenedlaethol yr holl eglwysi
yng Nghymru i holi sut fyddai modd iddynt fod o gymorth i symud y mater yn ei flaen.
Cytunodd y Parchedig Sissons i ddrafftio’r llythyr.
Dogfennau ategol: