Agenda item

Ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

b)     Cefnogi’r bwriad i gynnal adolygiad llawn o’r ddarpariaeth bresennol ac ystyried model amgen.

c)     Gofyn i’r swyddogion sicrhau bod y model newydd yn darparu gwasanaeth cyson ar draws y sir gan gynnwys gwasanaeth i rai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

d)     Gofyn i’r adran gyflwyno adroddiad pellach ar yr adolygiad a’r modelau posib pan yn amserol er mwyn rhoi cyfle i’r craffwyr roi mewnbwn pellach.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro nad yw’r model traddodiadol o ddarparu Gofal Dydd wedi ei adolygu yng Ngwynedd ers blynyddoedd lawer ac nad yw wedi ei addasu i gyfarch anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016. Eglurwyd ei bod hi’n amserol i ail-ystyried y ddarpariaeth yn enwedig o ystyried gwaith diweddar a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’r modd y mae’r pandemig wedi pwysleisio pwysigrwydd cyfleon cymdeithasu a bod yn rhan o gymuned i lesiant unigolion. Nodwyd mai’r gobaith yw y bydd yr adolygiad yn gyfle i ystyried ffyrdd gwahanol, mwy addas a hyblyg o ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau.

 

Esboniwyd bod y Cyngor wedi arfer darparu rhaglen o weithgareddau gofal dydd traddodiadol mewn lleoliadau penodol yn y sir ar gyfer oedolion oedd angen cefnogaeth. Roedd y canolfannau hyn yn galluogi pobl hŷn i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau penodol gan roi cyfle i’r sawl oedd yn gofalu amdanynt o ddydd i ddydd gael ychydig o seibiant.

 

Eglurwyd mai bwriad yr adran yw symud i ffwrdd o’r model traddodiadol o ddarparu gwasanaethau ynghlwm ag adeiladau a chanolbwyntio yn hytrach ar sut y gellid cyfarch a chefnogi llesiant unigolion a gofalwyr mewn amryw o wahanol ffyrdd. Er mwyn cyflawni hyn, nodwyd bod yr adran yn bwriadu cynnal adolygiad ac ymgynghori gyda phobl Gwynedd am drefniadau darpariaeth gofal dydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y datblygiadau. Mynegwyd gwerthfawrogiad am ba mor onest yw ei gynnwys a’r modd y mae’n cyfaddef nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn llwyddo i gyrraedd pawb.

 

-        Nodwyd bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi dod i rym ers saith mlynedd bellach ac felly holwyd pam mai rŵan y mae’r adran yn bwriadu ail-ystyried y ddarpariaeth?

o   Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adran wedi dechrau ar y gwaith cyn y pandemig ond bod y gwaith wedi gorfod dod i ben oherwydd materion diogelwch. Nodwyd ei bod hi’n amserol i ail-ystyried y mater bellach ond rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith y dylai’r gwaith fod wedi cael ei wneud flynyddoedd yn ôl.

o   Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant fod pwysau enfawr wedi bod ar yr adran a bod hynny’n cyfrannu’n uniongyrchol at yr amser mae wedi cymryd i ail-ymweld â’r gwaith.

 

-        Mynegwyd pryder nad yw’r ddarpariaeth yn cyrraedd ardaloedd gwledig y sir a bod angen cymryd camau i sicrhau gwell darpariaeth ar gyfer yr ardaloedd hyn yn y dyfodol.

o   Mewn ymateb, cytunwyd bod y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig yn bwysig ond na fydd posib cael canolfan ym mhob pentref.

o   Serch hyn, nodwyd bod gweithgareddau cymunedol yn digwydd yn y mwyafrif o gymunedau a bod angen gweld beth sydd ar gael mewn gwahanol ardaloedd a’u defnyddio er mwyn darparu’r gefnogaeth i unigolion.

o   Nodwyd mai un o’r ffydd gorau o gefnogi pobl ydi parhau i adael iddyn nhw fod yn rhan o’r gymuned, yn enwedig mewn achosion ble mai cwmnïaeth yw’r broblem ac felly bod cydweithio gyda’r gymuned yn hollbwysig.

 

-        Derbyniwyd bod angen addasu’r gwasanaeth er mwyn cyfarch anghenion unigolion ond nodwyd bod y model traddodiadol yn gweithio i rai pobl. Yn gysylltiedig â hyn, gofynnwyd pam fod y tair canolfan yn y Bala, Porthmadog a Chaernarfon wedi’u cau?

o   Mewn ymateb, eglurwyd bod y canolfannau wedi cau ers blynyddoedd lawer a bod y rhai yn Y Bala a Phorthmadog wedi cau fel rhan o ddatblygiadau tai gofal ychwanegol.

o   Esboniwyd bod y sefyllfa yng nghyd-destun Caernarfon ychydig yn wahanol. Caewyd y ganolfan oherwydd bod yr adeilad yn is-safonol ac y byddai gwneud gwaith ar yr adeilad yn gostus. Nodwyd bod yr adran wedi penderfynu peidio gwario ar hynny gan fod bwriad i ail-strwythuro. Eglurwyd hefyd bod Age Cymru wedi agor canolfan ym Montnewydd ac felly roedd gwasanaeth yn parhau yn yr ardal er ei fod yn cael ei ddarparu mewn ffordd wahanol.

o   Eglurwyd fod cau’r canolfannau hyn ychydig flynyddoedd yn ôl yn rhan ddechreuol o’r rhaglen sy’n cael ei ail-afael ynddi rŵan.

 

-        Nodwyd ei bod hi’n angenrheidiol bod y ddarpariaeth yn cael ei ehangu dros Wynedd i gyd ac os am ail-edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, bod rhaid edrych ar sut mae pobl yn cael eu cludo i’r lleoliadau.

o   Mewn ymateb, nodwyd bod y sylw yn ddigon teg ond bod angen cofio nad yw gwasanaethau dydd o’r math yma’n ofyn statudol. Yn hytrach, yr hyn sy’n statudol yw bod darpariaeth sy’n cefnogi oedolion.

o   Eglurwyd bod cludiant yn un o’r materion sydd angen eu hystyried unwaith y bydd hi’n glir beth fydd yn cael ei gynnig ar draws Gwynedd. Nodwyd efallai y byddai modd i deuluoedd helpu gyda chludo unigolion i rai lleoliadau.

 

-        Mynegwyd pryder na fyddai cyfle i’r teuluoedd gael cyfnod o ysbaid os byddai’n rhaid iddyn nhw gludo’r unigolion i’r lleoliadau.

o   Cytunwyd bod angen ystyried llesiant y teuluoedd a chadarnhawyd bod yr adran yn bwriadu edrych ar wahanol opsiynau er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwbl ddibynnol ar gludiant gan y teuluoedd.

 

-        Gofynnwyd cwestiynau am y swm o arian sy’n cael ei wastraffu ar dalu rhent am adeiladau gwag ac ar staff sydd ddim yn gweithio eu holl oriau contract. Mynegwyd pryder bod staff asiantaeth yn cael eu galw mewn i lenwi’r bwlch.

o   Nodwyd bod hyn yn broblem ar hyn o bryd a bod gwaith ar y gweill i drio gwella’r sefyllfa. Eglurwyd bod yr adran yn gobeithio y byddai’r darlun yn gwella ar ôl yr ail-strwythuro.

 

-        Holwyd am amserlen y broses o ail-strwythuro gan nodi bod gan yr adran lawer o syniadau ac y gallai’r gwaith trafod a chynnal ymchwiliadau gymryd blynyddoedd. Oherwydd hyn, nodwyd bod cael amserlen bendant yn hollbwysig a gofynnwyd pa fwriad sydd yna i fonitro / adolygu’r broses er mwyn sicrhau nad oes saith mlynedd arall yn mynd heibio.

o   Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adran yn awyddus i gael argymhelliad yn fuan ac nad ydynt eisiau gadael i’r mater lithro. Serch hyn, nodwyd nad oes ganddynt raglen benodol eto ond eu bod yn bwriadu cael amserlen gadarn yn fuan.

o   Cadarnhawyd bod yr adran yn bwriadu monitro’r gwaith wrth fynd ymlaen yn hytrach na thrwy gynnal adolygiadau ffurfiol.

 

-        Nodwyd bod llawer mwy o bethau’n digwydd o fewn cymunedau rŵan o gymharu â’r hyn oedd ar gael saith mlynedd yn ôl. Cynigwyd efallai bod lle i ystyried defnyddio cyfleoedd rhithiol yn ogystal â cheisio cydweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill yn y gymuned er mwyn gallu hybu’r economi leol yn ehangach.

 

-        Holwyd am gynaliadwyedd cydweithio gyda sefydliadau eraill sy’n aml yn ddibynnol ar arian grant er mwyn darparu’r gwasanaeth. Gofynnwyd a oes risg ariannol yma?

o   Mewn ymateb, nodwyd na fyddai’r adran yn debygol o ddarparu arian grant tuag at y math yma o wasanaeth ac y byddai’r gwaith yn cael ei gomisiynu yn hytrach.

o   Eglurwyd bod cynaliadwyedd darparu’r gwasanaeth yn ffactor mawr yn y broses o gynllunio, yn enwedig o ystyried pa mor amrywiol yw’r sefyllfaoedd o fewn gwahanol gymunedau.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

a)     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

b)     Cefnogi’r bwriad i gynnal adolygiad llawn o’r ddarpariaeth bresennol ac ystyried model amgen.

c)     Gofyn i’r swyddogion sicrhau bod y model newydd yn darparu gwasanaeth cyson ar draws y sir gan gynnwys gwasanaeth i rai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

d)     Gofyn i’r adran gyflwyno adroddiad pellach ar yr adolygiad a’r modelau posib pan yn amserol er mwyn rhoi cyfle i’r craffwyr roi mewnbwn pellach.

 

Dogfennau ategol: