Ystyried yr adroddiad.
Penderfyniad:
a)
Derbyn yr adroddiad, croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr
archwiliadau cyntaf a diolch i staff y cartrefi gofal am eu gwasanaeth.
b)
Datgan pryder am heriau staffio cartrefi gofal a’r problemau a ddaw yn
sgil hynny megis anhawster cwblhau hyfforddiant.
c)
Gofyn i’r adran berthnasol ystyried sut y gellir sicrhau bod pob cartref
yn cyrraedd lefel sicrwydd uchel yn y dyfodol.
d)
Gofyn am wahoddiad i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal
fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo
trafodaethau am adroddiadau archwilio mewnol cartrefi gofal.
e)
Hysbysu aelodau y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o sylwadau a
phenderfyniadau aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan esbonio bod gan
Gyngor Gwynedd 13 cartref gofal sy’n cefnogi a gofalu am oedolion ar draws y
sir a’u bod yn cael eu harchwilio’n gyson gan ystod eang o archwilwyr mewnol ac
allanol. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn rhoi sylw’n benodol i archwiliadau sydd
wedi’u cynnal gan Wasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor a’u bod wedi archwilio
tri chartref gofal yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23. Y cartrefi hynny oedd
cartrefi Plas Gwilym, Hafod Mawddach a Bryn Blodau. Eglurwyd mai bwriad yr
archwiliadau oedd sicrhau bod trefniadau addas mewn lle ar gyfer rheoli a
chynnal y cartrefi yn briodol ac yn unol â rheoliadau a safonau perthnasol.
Eglurwyd bod yr archwiliadau wedi dod i’r
casgliad mai cyfyngedig oedd lefel sicrwydd y cartrefi dan sylw ac felly bod
angen cymryd camau er mwyn gwella cydymffurfiaeth â’r rheolaethau ac er mwyn
lliniaru’r risgiau a amlygwyd. Mewn ymateb, esboniwyd bod y gwasanaeth wedi
ymrwymo i weithredu camau ar gyfer lliniaru’r risg a amlygwyd a darparwyd
rhestr o’r camau hynny yn yr adroddiad.
Nodwyd bod archwiliadau dilynol wedi’u cynnal
yn y tri chartref dan sylw ym mis Hydref 2023 er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth /
cartref wedi gweithredu ar y camau gweithredu ymrwymwyd iddynt. Cadarnhawyd bod
gwelliant wedi’i weld ym mhob cartref ond bod camau pellach i’w cymryd er mwyn
lliniaru’r risg ymhellach. Eglurwyd bod nifer o’r materion sy’n parhau i fod
angen sylw yn ymwneud â materion staffio, megis hyfforddiant a goruchwyliaeth.
Nodwyd bod y sefyllfa’n heriol ac yn amrywio rhwng cartrefi. Cadarnhawyd y bydd
y sefyllfa a’r cartrefi unigol yn parhau i gael eu monitro er mwyn sicrhau bod
y camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:-
-
Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y
cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr archwiliadau cyntaf.
-
Diolchwyd i holl staff y cartrefi gofal am eu
gwaith a’u hymroddiad i’w cleientiaid. Nodwyd bod y ganmoliaeth gan bobl
Gwynedd i’r cartrefi yn dda iawn a bod hynny werth ei nodi.
-
Tynnwyd sylw at y ffaith bod adroddiadau
archwilio mewnol cartrefi gofal yn mynd gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio cyn y Pwyllgor Craffu Gofal a chynigiwyd y
dylai cynrychiolwyr o’r pwyllgor hwn fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo trafodaethau am adroddiadau
archwilio mewnol cartrefi gofal.
-
Mynegwyd pryder am y ffaith mai dim ond tri
chartref sy’n cael eu harolygu’n flynyddol a holwyd sut y mae sicrhau’r safon
mewn cartrefi sydd ddim yn cael eu harolygu’r flwyddyn honno?
o Mewn
ymateb, eglurwyd bod Archwilio Mewnol yn dewis tri chartref ar hap bob blwyddyn
i’w archwilio a bod archwiliadau eraill yn digwydd hefyd, boed yn rhai allanol
neu’n rhai mewnol gan y gwasanaeth.
o Nodwyd
bod y gwasanaeth yn ceisio dysgu o bob archwiliad a bod unrhyw sylwadau neu
awgrymiadau am welliannau yn cael eu rhoi ar waith ym mhob cartref.
-
Anogwyd yr aelodau i ymweld â chartrefi gofal
y sir gan y byddai’r staff a'r trigolion yn falch o’u gweld.
-
Nodwyd bod yr unigolion sy’n mynd i gartrefi
gofal gydag anghenion llawer mwy dwys bellach a bod hyn yn arwain at bwysau
cynyddol ar y staff. Tynnwyd sylw at y gweithwyr gofal cartref sy’n cael
trafferth cyrraedd eu horiau gan nad oes oriau ar gael, holwyd a ellir cael
rhai o’r rhain yn helpu yn y cartrefi gofal?
o Mewn
ymateb, nodwyd bod hyn yn rhywbeth i’w ystyried a bod hybiau wedi’u creu mewn
ambell gartref gofal ar gyfer staff gofal cartref fel bod y staff yn gallu
cwblhau hyfforddiant ac ati ond bod lle i ddatblygu hyn ymhellach.
-
Mynegwyd pryder am y problemau staffio a
holwyd a oes angen edrych ar sut mae’r cytundebau yn cael eu rhoi allan er mwyn
ceisio denu rhagor o staff. Nodwyd bod y shifftiau yn gallu bod yn rhai hir ac
efallai y byddai cynnig amrywiaeth o rai byrrach yn fodd o ddenu pobl i lenwi’r
swyddi.
o Mewn
ymateb, cadarnhawyd bod shifftiau o hyd amrywiol yn cael eu cynnig ac nad ydy
pob un ohonynt yn rhai hir dros ddeg awr.
o Serch
hyn, tynnwyd sylw at y ffaith bod rhai aelodau o staff yn ei gweld hi’n well
gweithio shifftiau hirach gan fod hynny’n golygu gweithio llai o ddiwrnodau.
o Nodwyd bod yr adran yn ceisio gwneud
popeth o fewn ei gallu i fod mor hyblyg â phosib a bod dewis gan unigolion o ba
fath o shifftiau maen nhw eisiau weithio. Ond, nodwyd bod angen sicrhau tegwch
ar gyfer yr holl staff ac felly bod angen bod yn gyson a chall wrth ystyried
beth sy’n bosib.
o Nodwyd
bod angen gwneud mwy o waith i ddenu pobl ifanc i’r maes.
-
Holwyd pa mor ddifrifol yw’r prinder staff ac
a oes angen dibynnu ar staff asiantaeth mewn rhai cartrefi?
o Mewn
ymateb, cadarnhawyd bod staff asiantaeth yn parhau i gael eu defnyddio mewn
rhai cartrefi ond nid ym mhob un. Eglurwyd bod y sefyllfa’n amrywio’n sylweddol
gyda rhai cartrefi i weld yn gallu cynnal eu staff yn well.
o Nodwyd
bod her o ran cystadlu gyda’r Bwrdd Iechyd yng nghyd-destun cyflogau penwythnos
ac ati gan eu bod yn cynnig telerau llawer gwell na’r Cyngor.
-
Mynegwyd pryder am y diffyg hyfforddiant /
diffyg amser i gynnal hyfforddiant a holwyd a yw’r adran wedi ystyried edrych
ar ffyrdd eraill o gynnal hyfforddiant, er enghraifft mewn pytiau bach neu yn
rhithiol?
o Nodwyd bod cynnig modiwlau ar-lein yn
ddefnyddiol os ydynt yn cael trafferth cyrraedd y lefelau hyfforddiant priodol
ond nad yw gystal â chynnal yr hyfforddiant wyneb-yn-wyneb. Eglurwyd bod y
modiwlau rhithiol yn fwy defnyddiol fel sesiynau gloywi.
o Esboniwyd
bod sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnig yn y cartrefi hefyd a bod yr adran
yn agored i gynnal y sesiynau mewn ystod o wahanol ffyrdd.
-
Gofynnwyd cwestiwn am archwiliadau allanol
megis rhai Arolygaeth Gofal Cymru ac a oes cyswllt rhwng y problemau sy’n dod
i’r amlwg yn yr archwiliadau mewnol ac yn yr archwiliadau allanol?
o Mewn
ymateb, nodwyd bod y Tîm Sicrwydd Ansawdd yn dîm mewnol sy’n archwilio
gwasanaethau ac sy’n gwneud yr un math o arolygiadau ag Arolygaeth Gofal Cymru.
o Eglurwyd
bod ymdrech yn cael ei wneud i gydlynu pethau rhwng y gwahanol dimau a bod gan
bawb rôl i’w chwarae. Serch hyn, nodwyd bod angen bod yn ofalus gan sicrhau nad
oes gormod o bwysau’n cael eu rhoi ar y gwasanaethau rheng flaen o ran
archwiliadau.
o Cyfaddefwyd
bod gwaith pellach angen ei wneud ar gydlynu’r archwiliadau.
PENDERFYNWYD
a) Derbyn
yr adroddiad, croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr archwiliadau cyntaf a
diolch i staff y cartrefi gofal am eu gwasanaeth.
b) Datgan
pryder am heriau staffio cartrefi gofal a’r problemau a ddaw yn sgil hynny
megis anhawster cwblhau hyfforddiant.
c) Gofyn
i’r adran ystyried sut y gellir sicrhau bod pob cartref yn cyrraedd lefel
sicrwydd uchel yn y dyfodol.
d) Gofyn
am wahoddiad i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal fynychu
cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo
trafodaethau am adroddiadau archwilio mewnol cartrefi gofal.
e) Hysbysu aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio o sylwadau a phenderfyniadau aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal.
Dogfennau ategol: