Ystyried yr
adroddiad.
Penderfyniad:
a)
Derbyn yr adroddiad a datgan cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r
gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dal gan gynnwys y cynllun taliadau
uniongyrchol.
b)
Gofyn am gyflwyniad a gwybodaeth pellach i aelodau am y cynllun taliadau
uniongyrchol.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan egluro bod yr adroddiad yn un ar y cyd rhwng y Gwasanaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd gan fod
cefnogi gofalwyr di-dâl yn faes pwysig a heriol sy’n berthnasol i’r ddwy adran.
Eglurwyd mai gofalwyr di-dal sy’n darparu’r mwyafrif helaeth o ofal a
chefnogaeth i unigolion bregus, anabl a sâl yn y gymdeithas ac felly bod angen
sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael ar eu cyfer. Nodwyd bod 8.9% o
boblogaeth Gwynedd yn adnabod eu hunain fel gofalwyr di-dal yn ôl cyfrifiad
2021 ond bod y ffigwr gwirioneddol yn llawer uwch na hynny.
Esboniwyd bod cefnogi gofalwyr di-dal wedi’i
adnabod fel un o’r amcanion o fewn y maes blaenoriaeth ‘Gwynedd Ofalgar’ yng
nghynllun y Cyngor 2023-28. Nodwyd bod y Cyngor yn awyddus i gydweithio gyda’u
partneriaid i ddatblygu Cynllun Gofalwyr grymus ac uchelgeisiol ar gyfer
Gwynedd a bod y blaenoriaethau a’r pethau y gellid mynd i’r afael â nhw wedi’u
rhannu’n bedair thema:
1. Adnabod
a gwerthfawrogi gofalwyr di-dal
2. Darparu
gwybodaeth, cyngor a chymorth
3. Help
i fyw yn ogystal â gofalu
4. Cefnogi
gofalwyr di-dal mewn addysg ac yn y gweithle
Tynnwyd
sylw at ap newydd ‘AiDi’ sydd wedi’i ddatblygu ar y
cyd â Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn helpu gofalwyr ifanc ddarganfod gwybodaeth a
chefnogaeth. Mae’r ap yn caniatáu i ofalwyr ifanc gael gostyngiadau mewn degau
o siopau lleol ac yn eu galluogi i gysylltu’n sydyn gyda'r ysgol neu’r coleg os
ydynt yn rhedeg yn hwyr oherwydd eu cyfrifoldebau. Nodwyd bod 61 o ofalwyr
ifanc wedi ymaelodi hyd yma.
Eglurwyd mai’r gobaith yw ehangu’r gefnogaeth
sydd ar gael ar i ofalwyr di-dal ar hyn o bryd gyda’r bwriad o sicrhau
cefnogaeth a chydnabyddiaeth deg ac amserol ar eu cyfer.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:-
-
Diolchwyd am yr adroddiad ac am yr holl waith
a wneir gan y tîm i gefnogi gofalwyr di-dal.
-
Canmolwyd holl waith caled y gofalwyr di-dal
ar draws Gwynedd. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd y gwaith a wneir ganddynt gan ei
fod yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at ysgafnhau pwysau mewn meysydd eraill.
-
Mynegwyd diddordeb mewn cael rhagor o
wybodaeth am daliadau uniongyrchol er mwyn i’r Cynghorwyr ddod yn ymwybodol o
sut mae’r system yn gweithio.
o Mewn
ymateb, nodwyd bod taliadau uniongyrchol wedi’i weld fel mater dyrys yn y
gorffennol ond bod gymaint o botensial i’w defnyddio i dalu am ystod eang o
wahanol bethau.
o Eglurwyd
fod ansicrwydd ynglŷn sut i gyflwyno’r mater ymysg y staff ac felly bod
angen gweithio ar gynyddu eu hyder a’u hymwybyddiaeth hwy.
o O
ystyried hyn, cytunwyd y byddai’n fuddiol i’r Cynghorwyr dderbyn rhagor o
wybodaeth am daliadau uniongyrchol. Ategwyd bod cynyddu ymwybyddiaeth o’r
gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dal yn gwbl allweddol ac anogwyd yr
aelodau i ledaenu’r neges.
o Awgrymwyd mai cyflwyniad fyddai’r
ffordd fwyaf addas o ddarparu’r wybodaeth i’r Cynghorwyr a chynigiwyd
y byddai’n fuddiol petai’n cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb.
-
Nodwyd bod angen gweithio ar godi
ymwybyddiaeth ac adeiladu hyder y gofalwyr di-dal fel eu bod yn dod yn
ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
-
Canmolwyd
yr ap AiDi gan nodi ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen
yng nghyd-destun rhoi cefnogaeth i bobl ifanc a nodwyd y dylid ystyried a oes
lle i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer oedolion.
-
Tynnwyd sylw at lyfr sydd wedi’i ddatblygu gan
yr adran er mwyn darparu gwybodaeth am y gefnogaeth a’r cymorth sydd ar gael i
ofalwyr di-dal yng Ngwynedd. Cadarnhawyd bod y llyfr bron yn barod ac y bydd ar
gael mewn llyfrgelloedd, ar-lein ac yn cael ei anfon i holl staff yr adran.
PENDERFYNWYD
a) Derbyn
yr adroddiad a datgan cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar
gael i ofalwyr di-dal gan gynnwys y cynllun taliadau uniongyrchol.
b) Gofyn am gyflwyniad a gwybodaeth
bellach i aelodau am y cynllun taliadau uniongyrchol.
Dogfennau ategol: