Alwen
Williams, Prif Weithredwr Dros Dro y CBC, i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Cynllun
Gweithredu drafft arfaethedig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro’r CBC.
PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu drafft arfaethedig i’w gyflwyno i Lywodraeth
Cymru.
TRAFODAETH
Cwestiynwyd
a fyddai’n ymarferol bosib’ cyflwyno’r fersiwn terfynol o’r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Mawrth 2025, o
ystyried maint y gwaith sydd angen ei gwblhau a’r arbenigedd sydd ei angen i
ddarparu prosiect enfawr o’r math yma, yn enwedig yn wyneb cyhoeddiad
Llywodraeth y DU ynglŷn â’r gwaith o drydaneiddio
rheilffordd arfordir y Gogledd, sydd hefyd yn ddarn enfawr o waith. Mewn ymateb, nododd Prif Weithredwr Dros
Dro’r CBC:-
·
Bod
rhanbarthau eraill wedi mynegi pryder ynglŷn â’r amserlenni hefyd, ond er
nad oedd wedi gweld yr adroddiad terfynol, roedd y Comisiwn Trafnidiaeth wedi
cyflawni llawer iawn o waith yng Ngogledd Cymru dros y 18 mis diwethaf a byddai
yna lawer o ddata yn sail i gasgliadau’r adroddiad fyddai’n ddefnyddiol, yn
arbennig o ran creu’r achos dros newid.
·
Y
credai y byddai’n rhaid comisiynu gwaith i ymgynghorwyr ag arbenigedd, yn
arbennig o amgylch yr Asesiad Ardrawiad Amgylcheddol, yn ogystal â chynnal
adolygiad annibynnol o’r cynlluniau yng Ngogledd Cymru. Byddai hynny, yn amlwg, yn ddibynnol ar
argaeledd ac amserlenni o fewn yr asiantaethau a allai ymateb i’r math yna o
waith.
·
Y
credai y byddai’n rhaid adolygu’r amserlenni wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen
ac wrth i ni gyrraedd y cerrig milltir, ond roedd yn optimistaidd ar hyn o bryd
y gellid cyflawni’r gofynion erbyn Mawrth 2025.
·
Y
byddai’n adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor yn rheolaidd ar gynnydd, gan amlygu
unrhyw risgiau, ac yn sgil cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu, byddai’r
Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn cael ei sefydlu i arwain ar y gwaith.
·
Y
credai y byddai hynny’n elfen gritigol hefyd yn ogystal â sicrhau ein bod yn
cadw at yr amserlen ac at y gyllideb ac yn adrodd yn ôl yn briodol i’r CBC.
Mewn ymateb i
gyfres o gwestiynau, eglurodd Prif Weithredwr Dros Dro’r CBC:-
·
Y
byddai’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth yn rhoi cyfeiriad i’r cynllun a chyfeiriad
i’r swyddogion i arwain ar greu'r cynllun a pharatoi’r gwaith.
·
Bod
y Llywodraeth wedi mynd drwy broses o gymeradwyo mewnol ar gyfer cynlluniau drafft
y 4 rhanbarth a byddent yn dyfarnu, ac yn ein hysbysu, o fewn yr wythnosau
nesaf gobeithio, ynglŷn â’r cyllid fydd yn dod yn ei flaen.
·
Y
disgwylid hyd at £125,000 i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu’r cynllun.
·
Y
byddai rhywfaint o’r arian yn cael ei wario ar ymgynghorwyr. Byddai angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a
byddai yna gostau ynghlwm â hynny mae’n debyg.
Byddai yna gost hefyd ynghlwm â’r gwaith o wneud yr Asesiad Ardrawiad
Amgylcheddol.
·
Y
bu’n ymgysylltu gyda swyddogion pob awdurdod yn y Gogledd i greu’r cynllun
drafft yn y lle cyntaf, a’i bod yn rhagweld, unwaith y byddai’r Is-bwyllgor
Trafnidiaeth wedi’i sefydlu ac yn weithredol, y byddai yna bwyllgor o
swyddogion i helpu hefyd.
·
Bod
yna arbenigedd trafnidiaeth yn eistedd o fewn y cynghorau a’i bod yn bwysig eu
bod hwy yn teimlo bod ganddynt berchnogaeth a’r gallu i arwain ar y cynllun
hefyd.
Dogfennau ategol: