Agenda item

I dderbyn Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2022/23

Cofnod:

Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Swyddogion y Gronfa ynghyd ag Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ac Aelodau’r Bwrdd Pensiynau i bawb. Cyfeiriwyd yn gryno at brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor oedd yn cynnwys eu rôl fel ‘lled ymddiriedolwyr’ i’r Gronfa, yn penderfynu ar amcanion polisi cyffredinol, strategaeth a gweithrediad y Gronfa yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Ategwyd eu bod hefyd yn penderfynu ar y strategaeth ar gyfer buddsoddi arian y Gronfa Bensiwn ac yn monitro ac adolygu trefniadau buddsoddi. Cyfeiriwyd at waith y Pwyllgor yn ystod 2022/23 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor i’w gweld ar wefan y Cyngor.

 

Wrth gyfeirio at waith y Bwrdd Pensiwn, nodwyd mai corff goruchwylio oedd y Bwrdd ac er nad oedd gan y Bwrdd hawliau gwneud penderfyniadau byddai’n goruchwylio gweithrediad y Gronfa gan sicrhau ei bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol a gweinyddol. Ategwyd bod aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys 3 cynrychiolydd o aelodau a 3 chynrychiolydd cyflogwyr. Cyfeiriwyd at waith y Bwrdd yn ystod 2022/23 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion  cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn i’w gweld ar wefan y Cyngor.

 

Diolchwyd i gyn aelodau’r Bwrdd, Sharon Warnes a Huw Trainor am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.

 

Gweinyddiaeth Pensiynau:

Cyfeiriodd y Rheolwr Pensiynau  at brif ddyletswyddau’r Uned Weinyddol gan gyflwyno ystadegau'r Gronfa ar gyfer 2022/23 a pherfformiad yr Uned.

Wrth adrodd ar y system ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ nodwyd bod yr aelodaeth yn cynyddu yn flynyddol, gyda dros 20,000 bellach wedi cofrestru. Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei anfon at aelodau’r Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau roi eu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a ddarperir gan staff yr adran.

Adroddwyd bod dros 96% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth o safon uchel, a bod 98.04% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel. Er mwyn cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r wybodaeth yn brydlon.

Cyfeiriwyd at y logo newydd a gafodd ei gyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan 2023 ac at y gwaith sydd ar y gweill ar gyfer 2023/24 oedd yn cynnwys sefydlu System Hunan Wasanaeth newydd, cydymffurfio a gofynion Dashfwrdd Pensiynau a datblygu prosesau weinyddu newydd.

Perfformiad Buddsoddi

Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi fanylion am werth y Gronfa gan nodi bod y gwerth, er wedi cynyddu yn raddol (ar wahân i effaith covid yn 2020) wedi parhau yn gyson rhwng 2022 a 2023 ar £2.8 biliwn. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol gyda rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel yn effeithio’r marchnadoedd arian. Wrth amlygu perfformiad y Gronfa yn erbyn y meincnod, nodwyd bod 2022/23 wedi bod yn flwyddyn o ddau hanner, gyda pherfformiad yn is na’r meincnod yn yr hanner cyntaf ac yn uwch na’r meincnod yn yr ail hanner.

Er bod methiant i guro’r meincnod yn siom, adroddwyd mai buddsoddi tymor hir oedd tuedd y Gronfa, ac wrth edrych ar berfformiad dros y tair blynedd ddiwethaf, adroddwyd bod y Gronfa yn perfformio yn uwch na’r meincnod gan gynhyrchu dychweliadau o 11.7% sy’n gosod y Gronfa yn y trydydd safle o holl gronfeydd pensiwn Cymru a Lloegr. Eglurwyd mai un o’r rhesymau dros y llwyddiant oedd perfformiad cryf mewn asedau twf, lle buddsoddwyd yn gymharol drwm mewn ecwiti. Ategwyd, mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Pensiynau, penderfynwyd ‘bancio’ rhai o enillion y blynyddoedd diweddar a lleihau risg y gronfa drwy symud o ecwiti i gategorïau eraill o asedau, megis isadeiledd a bondiau corfforaethol yn y misoedd nesaf.

Cyd-weithio yng Nghymru

 

Wrth drafod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), adroddwyd bod y cydweithio yn mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017.  Bellach mae 83% o Gronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei bwlio gyda’r Bartneriaeth gyda buddsoddiadau mewn pump is gronfa a buddsoddiadau mewn ecwiti byd-eang, incwm sefydlog a marchnadoedd datblygol.

 

Er mis Mawrth 2023, amlygwyd bod gwaith wedi ei wneud i fuddsoddi mewn isadeiledd a dyled preifat gyda buddsoddiadau ecwiti preifat i’w datblygu yn y dyfodol agos a'r canran i gynyddu yn raddol dros y flwyddyn ariannol nesaf. Amlygwyd bod gwaith hefyd yn cael ei ddatblygu o fewn y maes eiddo, ond gan nad yw prynu a gwerthu eiddo ar hyn o bryd yn effeithlon, mae gwaith yn cael ei wneud i ystyried yr opsiynau pwlio sydd ar gael gyda thendr allan i gwmnïau ymateb. Hyn eto yn arwain at gyfnod cyffrous i’r Gronfa.

 

Adroddwyd bod y cydweithio yn wych, nid yn unig o ran cyfleoedd buddsoddi ehangach ac arbed ffioedd, ond hefyd yn galluogi rhannu ymarfer da, gwella dogfennau llywodraethu i sicrhau llywodraethu corfforaethol cadarn ac ymateb i geisiadau ar y cyd. Ategwyd bod y Bartneriaeth yn cynnig sesiynau hyfforddiant gwych yn chwarterol ble mae swyddogion, aelodau Bwrdd a’r Pwyllgor yn gallu mynychu - dim amheuaeth felly bod y Bartneriaeth yn llwyddiannus.

Buddsoddi Cyfrifol

 

Nodwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cymeradwyo polisi buddsoddi cyfrifol ym Mawrth 2022, wedi gosod targed ar gyfer y dyfodol, a hefyd yn gweithredu ar ei gair drwy gymryd nifer o gamau i fuddsoddi’n fwy cyfrifol. Amlygwyd mai targed buddsoddi Cronfa Bensiwn Gwynedd yw bod yn sero net erbyn 2050, sydd wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5, 10 neu 20 mlynedd ynghynt. Mynegwyd bod y Gronfa wedi cael ei barnu am beidio gosod targed tan yn ddiweddar, a hynny oherwydd bod athroniaeth ‘Ffordd Gwynedd’ yn annog mesur cynnydd a chyfeiriad yn hytrach na gosod targedau. Nodwyd hefyd dymuniad i ystyried cynllun ar gyfer gweithredu cyn gosod targed.

 

Erbyn hyn, fodd bynnag mae’r Pwyllgor Pensiynau wedi cytuno ar yr uchelgais uchod a  gwaith eisoes wedi dechrau i wireddu’r uchelgais. Cyfeiriwyd at waith dadansoddi gan PPC sy’n dadansoddi effaith newid hinsawdd ar gronfeydd Cymru. Adroddwyd bod y canlyniadau cychwynnol i weld yn addawol iawn gyda datgarboneiddio ar draws Cronfeydd Cymru wedi bod yn flaenoriaeth gyda chyfrifiadau cychwynnol yn awgrymu bod dwysedd carbon cyfartalog pwysol amlygiad ecwiti cyfunol y Cronfeydd wedi gostwng, amlygiad i gwmnïau sydd â chronfeydd tanwydd ffosil wedi gostwng a chynnydd mewn amlygiad i gwmnïau sy'n cynhyrchu refeniw o atebion hinsawdd. Cyfeiriwyd at yr Is-Gronfa Ecwiti Cynaliadwy, lle mae pob un o wyth Cronfa CPLlL Cymru wedi dyrannu buddsoddiadau iddo, wedi’i lansio yn Fehefin 2023 (dyraniad Cronfa Bensiwn Gwynedd yn £270 miliwn sy’n cyfateb i 10% o’r Gronfa). Eglurwyd bod gan y Gronfa ofyniad aliniad allweddol ym Mharis, eithriadau diffiniedig o danwydd ffosil, ac mae’n targedu’n benodol y cyhoeddwyr hynny sydd yn cynnig atebion cynaliadwy i heriau amgylcheddol a chymdeithasol, a’r rhai sydd ar fin elwa o’r ‘Trawsnewid Cyfiawn’.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Nododd y Cadeirydd bod y perfformiad yn un da a bod hyn yn adlewyrchu gwaith a chyngor y swyddogion. Diolchodd i aelodau’r Pwyllgor Pensiynau am eu cefnogaeth ar cydweithio da ymysg yr Aelodau, tra bod Aelodau’r Bwrdd Pensiwn yn ychwanegu gwerth drwy gynnig trosolwg a chyngor. Nododd hefyd bod ymuno a PPC wedi arwain at ganlyniadau da.

 

Tynnwyd sylw at ganlyniadau’r arolwg boddhad Aelodau gan amlygu bod canran ‘anghytuno’n gryf gydag ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel’ yn 0%  - nodwyd bod hyn yn dweud llawer am y gwasanaeth a diolchwyd i’r staff am y modd maent yn ymdrin ag ymholiadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r buddsoddiad £270 miliwn ac os oedd hyn yn cynnwys buddsoddiadau mewn isadeiledd lleol, mynegwyd bod y £270m wedi ei glustnodi ar gyfer cronfa ecwiti penodol, ond bod bwriad i’r dyfodol i PPC ddatblygu cronfa isadeiledd gyda meddylfryd o fuddsoddi mewn prosiectau yng Nghymru.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod cwestiynau wedi eu derbyn ymlaen llaw gan aelodau’r cyhoedd ac y byddai’r swyddogion, wedi cwblhau’r gwaith ymchwil perthnasol, yn ymateb yn uniongyrchol i’r unigolion hynny gyda chopi i Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiwn.

 

PENDERFYNWYD DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN AM 2022/23

 

Dogfennau ategol: