Agenda item

I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr

 

·         Network Rail

 

·         Trafnidiaeth Cymru

 

·         Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig

Cofnod:

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Tomos Roberts a Charlotte Harries (Rheolwyr Cyfathrebu Network Rail) i’r cyfarfod

 

Diweddariad ar uwchraddio traphont Abermaw

 

Adroddwyd bod gwaith uwchraddio’r bont a gwaith atgyweirio ychwanegol ar y rheilffordd wedi ei gwblhau ac y byddai’r rheilffordd rhwng Pwllheli a Machynlleth a'r llwybr cerdded ar hyd y draphont, yn ail agor 2/12/2023. Ategwyd bod digwyddiad swyddogol i ddathlu’r agoriad wedi ei drefnu yn Theatr y Ddraig ar yr 8fed o Ragfyr 2023. Cadarnhawyd bod y gwaith wedi ei gwblhau ar amser a diolchwyd i'r pwyllgor ac i’r cymunedau lleol am fod yn amyneddgar yn ystod y gwaith.

 

Diweddariad ar draphont Aberdyfi

 

Adroddwyd, fel traphont Abermaw bod traphont Aberdyfi hefyd wedi ail agor ddiwedd Hydref a bod y gwaith hwnnw o adnewyddu’r strwythur yn llawn wedi ei gwblhau yn llwyddiannus.

 

Diolchwyd am y diweddariad a gwerthfawrogwyd y buddsoddiad yn lleol.

 

Diweddariad ar Fentrau Lleol

 

Adroddwyd bod Tîm Lleol ar gyfer y Cambrian wedi ei greu o dan arweiniad Gwyn Rees (Cyfarwyddwr Perfformiad a Thrawsnewid Network Rail ar gyfer Cymru a Chyfarwyddwr Partneriaeth Rheilffordd Leol y Cambrian). Amlygwyd bod y tîm yn sicrhau cydweithio rhwng Network Rail a Trafnidiaeth Cymru a bod ymateb i waith y tîm hyd yma wedi bod yn gadarnhaol.  Gyda chydweithrediad rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail ail gyflwynwyd trenau pedwar cerbyd ar y rheilffordd dros yr Haf. Gyda golygfeydd godidog ar hyd y Cambrian, roedd yr ymgyrch pedwar cerbyd wedi galluogi mwy o bobl i fanteisio’n llawn ar y daith boblogaidd gan gynyddu refeniw a rhoi hwb i’r economi leol. Cyfeiriwyd hefyd at waith golchi ffenestri’r cerbydau yn y gorsafoedd oedd yn amlygu un agwedd flaengar y tim at wella profiad y teithiwr.

 

Diolchwyd am y diweddariad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Amlygu balchder bod y bont yn agored a bod y rheilffordd rhwng Machynlleth a Pwllheli yn agor 2/12/23

·         Bod cymeradwyaeth i’r gwaith - wedi ei gwblhau o dan amgylchiadau heriol iawn

·         Er cwynion am y gwasanaeth bws oedd yn rhedeg tra bod y rheilffordd wedi cau, un cwyn swyddogol a gafwyd a hynny oherwydd llifogydd

·         Bod y cyfnod wedi ymddangos yn hir yn enwedig i blant ysgol

·         Diolch i Grŵp Cymuned Abermaw and ddiweddariadau cyson o’r gwaith

·         Croesawu trenau pedwar cerbyd. Er hynny, un siwrne dychwelyd (return journey) y diwrnod oedd yn rhedeg gyda pedwar cerbyd yn ystod gwyliau’r Haf.

·         Bod glanhau ffenestri'r trên yn ddatrysiad syml - gwerthfawrogi hyn

·         Bod teithio am ddim yn cael ei gynnig i deithwyr dros 60 oed yn ystod y gaeaf yn unig – cais i ystyried ymestyn hyn drwy’r flwyddyn

·         Diolch i Network Rail am ymweld â llwybr croesi’r cledrau ym Mhorthmadog ac am wrando ar sylwadau’r Cyngor Tref a thrigolion lleol. Croesawu penderfyniad i ddiogelu’r groesfan yn hytrach na'i chau.

·         Diolch i Gail Jones (Trafnidiaeth Cymru) am gydweithio gyda Swyddfa Liz Saville Roberts i gydlynu trefniadau Gŵyl Gwrw Harlech. Yn anffodus, heb ymyrraeth yr AS, roedd ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru yn araf iawn, ond cafwyd datrysiad yn dilyn nifer o drafodaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a gwaith ychwanegol pellach a wnaed i’r rheilffordd ac os oedd hynny yn cynnwys gwaith addasu uchder platfform ar gyfer y trenau newydd, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda'r Tîm Rheilffordd Lleol i geisio datrysiad. Amlygwyd bod defnyddio  ‘Harrington Humps’ wedi cael ei awgrymu - system lle gellid cynyddu uchder platfform rheilffordd am gost gymharol isel.

 

Gweithred:

1.    Tomos Roberts (Network Rail) i rannu datganiad i’r wasg gyda swyddfa Liz Saville Roberts AS fel bod modd cyflwyno ‘Cynnig Cynnar y Dydd’ yn Nhŷ’r Cyffredin i amlygu’r gwaith sydd wedi ei gyflawni.

2.    Tomos Roberts i gysylltu gyda Cyng. Rob Triggs i drafod gwaith ar y cledrau yn Abermaw.

3.    Cyng. Gwynfor Owen i rannu gwybodaeth gyda Network Rail ynglŷn â phroblemau erydu tir ger eiddo sydd wedi ei leoli ar dir British Rail (bellach Network Rail). Y bwriad oedd trefnu ymweliad safle.

4.    Cais am ddiweddariad o gynlluniau / drafodaethau Network Rail a Cyfoeth Naturiol Cymru at amddiffyn y rheilffordd rhag llifogydd ym Mhwllheli – amddiffyn y rheilffordd yn flaenoriaeth.

5.    Cais i Network Rail a Trafnidiaeth Cymru ymestyn y gwasanaeth trenau pedwar cerbyd, pob diwrnod o’r wythnos, drwy’r flwyddyn. Byddai hyn yn cynyddu refeniw.

6.    Diweddariad o sefyllfa ffordd y clogwyn ar y A493 ger Y Friog. Bod degawd ers i’r goleuadau traffig gael eu gosod a dim gweithrediad ers hynny. Tirlithriad diweddar wedi bod ger y safle – yr ardal yn fregus. Cais i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Bentref Llangylennin gyda’r Aelod Cabinet y Cyng Dafydd Meurig a Steffan Jones (Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC). Gwahoddiad hefyd i Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor. LHE i gysylltu gyda Steffan Jones i amlygu’r pryderon a cheisio diweddariad erbyn y cyfarfod nesaf.

                                                           

TRAFNIDIAETH CYMRU

 

Nid oedd Gail Jones yn bresennol yn y cyfarfod i dderbyn diweddariad.

 

Amlygwyd siom gan yr Aelodau nad oedd cynrychiolaeth gan Trafnidiaeth Cymru

 

HEDDLU TRAFNIDIAETH PRYDEINIG

 

Croesawyd Tomos Davies i’r cyfarfod

 

Cyflwynodd Tomos ei hun i’r Aelodau. Nododd ei fod wedi ei leoli yng ngorsaf yr Heddlu ym Mangor sydd gyda chynrychiolaeth dros y rheilffordd o Bwllheli i Borthmadog. Nododd bod Porthmadog i Fachynlleth o dan reolaeth Heddlu Prydeinig gorsaf Machynlleth a bod gorsaf Machynlleth bellach wedi ei staffio yn llawn. Atgoffodd yr Aelodau o gyfrifoldebau’r Heddlu Prydeinig ac fe nododd mai ychydig iawn o broblemau oedd ar y rheilffordd. Amlygodd bod y rheilffordd yn prysuro dros yr Haf, bod ychydig o drafferthion gydag ymddygiad plant ysgol a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn rhai ardaloedd.

 

Diolchwyd am y diweddariad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Diolchwyd am y gwaith. Croesawyd bod HTP yn mynychu cyfarfodydd yn y gymuned

·         Awgrymu ymweliadau gan HTP ag ysgolion uwchradd lleol i drafod ymddygiad plant yn y gorsafoedd  ac ar y trenau

·         Diolch am y cydweithio da rhwng HTP a Heddlu Gogless Cymru yn Machynlleth

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a gosod Teledu Cylch Cyfyng (TCC) ar rhai o orsafoedd y Cambrain nodwyd bod HTP yn cefnogi unrhyw fater fyddai yn gwneud y gorsafoedd yn ddiogel, ond byddai rhaid i Trafnidiaeth Cymru gefnogi’r fenter. Ategwyd, os oes angen ymateb i ddigwyddiad yna bod angen tecstio 61016 neu lawr lwytho’r ap ‘railway guardian’ – y ddau yn sicrhau bod cofnod o ddigwyddiad fyddai’n cefnogi cais am TCC.

 

Mewn ymateb i gais ynglŷn â chydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, nodwyd bod y berthynas wedi gwella ers apwyntio Rhingyll newydd yn 2018. Ategwyd bod y sefyllfa wedi gwella a bod mwy o gydweithio

 

Diolchwyd am y diweddariadau