Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

Ystyriwyd a chymeradwywyd Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2022/23 Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.     

 

PENDERFYNIAD 

 

Ystyriwyd a chymeradwywyd Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2022/23 Cyngor Gwynedd. 

 

TRAFODAETH 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur wedi cael ei fabwysiadu gan y Cyngor ar 8 Mawrth 2023 yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet.  

 

Tynnwyd sylw bod y cynllun yn cynnwys dau gam. Manylwyd mai’r cam cyntaf oedd gweithredu prosiectau’r Cyngor er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon y Cyngor ac mai’r ail gam fyddai edrych ar yr effaith ehangach ar y sir gan ystyried sut gall y Cyngor helpu cymunedau a sut gellir ymateb fel sir i effaith newid hinsawdd. 

 

Pwysleisiwyd bod y Cyngor wedi bod yn gweithio ar fesurau i leihau allyriadau carbon ers dros 10 mlynedd a wedi llwyddo i leihau cyfanswm allyriadau carbon 43%. Manylwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wneud hyn drwy weithredu ym mhob maes gan gynnwys newidiadau i oleuadau stryd sydd wedi lleihau 76% o’r allyriadau carbon cysylltiedig, a newidiadau i’r fflyd gan leihau allyriadau carbon cysylltiedig 23%. 

 

Esboniwyd bod y newidiadau mae’r Cyngor yn ei wneud yn weithredol tuag at adfer yr argyfwng newid hinsawdd ac yn cyfrannu at nod y Cyngor o fod yn garbon sero net ac ecolegol gadarnhaol erbyn 2030. Nodwyd hefyd bod y newidiadau hyn yn arwain at arbedion ariannol i’r Cyngor. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn gweld buddion ariannol wrth daclo argyfwng hinsawdd a natur, gan arbed oddeutu £15miliwn ers 2010. Pwysleisiwyd y golygai hyn y buasai angen gwneud mwy o doriadau yn sgil sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor os na fuasai’r gwaith ar yr argyfwng newid hinsawdd a natur wedi cael ei gyflawni, gan y buasai yna £4.3miliwn o gostau ychwanegol i’w cyfarch. Cydnabuwyd bod ystyriaethau newydd i’w hystyried erbyn hyn megis heriau maes caffael yn ogystal â’r ffaith bod mwy o weithlu’r cyngor yn gweithio o adref. 

 

Cyfeiriwyd at amryw o brosiectau o fewn saith prif ffrwd gwaith y cynllun sef: Adeiladau ac ynni, symud a thrafnidiaeth, gwastraff, llywodraethu, caffael, defnydd tir ac ecoleg. Tynnwyd sylw at brosiect paneli solar sydd eisoes ar y gweill gydag £2.8miliwn wedi ei fuddsoddi mewn paneli solar i’w rhoi ar adeiladau’r Cyngor er mwyn arbed arian yn y dyfodol. Esboniwyd hefyd bod fflyd y Cyngor yn cael ei uwchraddio yn y dyfodol i fod yn gerbydau trydan er mwyn lleihau’r allyriadau carbon mae’r cerbydau presennol yn ei ryddhau. 

 

Mynegwyd pryder am y dull o gyfrifo allyriadau carbon yn genedlaethol. Esboniwyd bod prynu nwyddau lleol yn cael ei gyfrifo yn yr un modd a phrynu nwyddau o ledled y wlad, oherwydd bod y system yn ffocysu ar wariant, er bod gwahaniaethau mawr yn y gwir allyriadau carbon. Nodwyd bod modd i hyn effeithio ar economi leol mewn ardaloedd gan nad oes anogaeth i brynu’n lleol. Pryderwyd na fydd modd cyrraedd targedau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 os na fydd y dull cyfrifo hwn yn cael ei ddiwygio. Cadarnhawyd bod gwaith yn cael ei wneud yn genedlaethol er mwyn cywiro’r gwall hwn er mwyn cynorthwyo aelodau lleol i gyrraedd eu nod. 

 

Diolchwyd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau am eu sylwadau ar yr adroddiad blynyddol, sydd wedi cael eu cymryd i’w ystyriaeth a'u gweithredu. 

 

Awdur:Dafydd Gibbard: Prif Weithredwr

Dogfennau ategol: