Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig. 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr Adran yn arwain ar bump o brosiectau Cynllun y Cyngor sef ‘Rheolaeth ail gartrefu a llety gwyliau tymor byr’, ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd’, ‘Gwastraff ac Ailgylchu’, ‘Teithiau Llesol’ a ‘Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Tynnwyd sylw bod dau o’r prosiectau hyn yn ymwneud â’r maes trafnidiaeth a bydd Pennaeth Cynorthwyol newydd yn cychwyn gyda’r Adran ym mis Ionawr a fydd yn allweddol i gynorthwyo gyda’r gwaith i symud y blaenoriaethau hyn yn eu blaenau. 

 

Eglurwyd bod yr adran yn arwain ar y gwaith o baratoi cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, mewn ymdrech i gael gwell rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Nodwyd byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i fynnu bod perchnogion eiddo yn yr Ardal Cynllunio yn derbyn hawl cynllunio cyn newid defnydd eu heiddo yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr. Cadarnhawyd bod cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi ei gynnal am gyfnod o 6 wythnos a bod ymateb sylweddol i'r ymgynghoriad wedi dod i law. Nodwyd bod swyddogion yn parhau i ddadansoddi’r holl sylwadau a rhoi ystyriaeth deilwng i’r ymatebion a dderbyniwyd. Sicrhawyd bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet am benderfyniad yn ystod misoedd cynnar 2024, yn dilyn y broses o ddadansoddi sylwadau. 

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd er mwyn cyfarch anghenion tai cyflogaeth, cymdeithasol ac amgylcheddol trigolion y sir dros yr 15 mlynedd nesaf. Pwysleisiwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio wedi ei sefydlu er mwyn cefnogi’r broses o greu a chynnal y Cynllun hwn a'u bod hefyd wedi ystyried Cytundeb Cyflawni drafft y Cynllun. Cadarnhawyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei gynnal am gyfnod o 6 wythnos ar y Cytundeb Cyflawni ac mae swyddogion yn ystyried yr ymatebion ar hyn o bryd. Rhagwelwyd bydd adroddiad ar y mater yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn fuan cyn mynd i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2024. 

 

Adroddwyd bod gwaith trawsnewid sylweddol yn parhau i ddigwydd ym maes gwastraff ac ailgylchu. Cadarnhawyd bod yr adran yn gweithio i anelu at darged Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o holl wastraff erbyn 2025. Eglurwyd bod y Cyngor yn derbyn incwm am ddeunydd ailgylchu ond cadarnhawyd bod y ffigyrau hyn wedi lleihau. Adroddwyd bod y Cyngor wedi bod yn derbyn £400 y tunnell yn y gorffennol ond roedd y ffigyrau hyn wedi lleihau i £200 y tunnell erbyn mis Mai eleni. Nodwyd bod y ffigyrau diweddaraf yn nodi bydd y Cyngor yn derbyn £20 y tunnell am nwyddau ailgylchu a gesglir. Cydnabuwyd bod yr Adran wedi derbyn nifer fawr o gwynion o fewn y maes gwastraff yn ddiweddar wrth iddo symud o dan reolaeth yr Adran hon. Pwysleisiwyd bod nifer o’r heriau wedi eu datrys erbyn hyn ac bod niferoedd y cwynion wedi gostwng. 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor wedi sicrhau £1.2miliwn o gyllid Teithiau Llesol gan Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer gwedd gyntaf Llwybr Ffordd Penrhos, ger Bangor. Nodwyd bod y gwaith paratoadol wedi cael ei gwblhau ac mae gwaith ar y ddaear yn cychwyn o gyffordd Coed Mawr i gyffordd Coed y Maes. Mynegwyd pryder bod gwireddu cynlluniau teithiau llesol yn ddibynnol iawn ar sicrhau cefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth, gan osod gofynion penodol wrth gyflwyno ceisiadau. Pwysleisiwyd bod swyddogion yn trafod gyda Thrafnidiaeth Cymru er mwyn ceisio canfod dulliau o gryfhau cynlluniau er mwyn ceisio sicrhau cyllid i’r dyfodol, gan fod nifer o’r ceisiadau yn ffafrio ardaloedd mwy trefol a phoblog. Nodwyd her bellach wrth nodi bod ffigyrau’r grantiau yn gallu bod yn isel iawn, gan nodi os byddai’r Cyngor yn derbyn yr un faint o grantiau yn flynyddol â’r ffigwr eleni, byddai’n cymryd 200 mlynedd i gwblhau holl gynlluniau’r prosiect yn llawn. 

  

Diweddarwyd bod gwasanaethau bws Sherpa’r Wyddfa yn parhau i ennyn cydnabyddiaeth allanol. Ymfalchïwyd bod y gwasanaeth wedi cyrraedd rhestr fer sawl gwobr cludiant dros y misoedd diwethaf gan ennill gwobr arian ‘Bysiau Hamdden’ yng Ngwobrau Bysiau’r Deyrnas Gyfunol, gan ei fod yn enghraifft dda o gyfuno anghenion pobl leol ac anghenion ymwelwyr yr ardal. 

 

Cadarnhawyd bydd bysiau trydan y T22 yn cynnig gwasanaeth pwysig ar hyd llwybr rhwng Blaenau Ffestiniog, Porthmadog a Chaernarfon yn cychwyn ar 12 Chwefror 2024. Eglurwyd mai dyma’r gwasanaeth cyntaf ar y prif rwydwaith y Sir ble bydd bysiau trydan yn darparu’r gwasanaeth pob awr. 

 

Esboniwyd bod system ceisiadau trwyddedu cerbydau tacsis wedi newid i fod ar lein yn ddiweddar er mwyn eu prosesu yn gyflymach. Cadarnhawyd bod llawer mwy o geisiadau yn cael eu cyflwyno yn ddiweddar ond gan fod y system yn newydd i lawer, mae oedi wrth i geisiadau cael eu cyflwyno yn anghyflawn. Nodwyd bod swyddogion yn cynorthwyo ymgeiswyr gyda’u ceisiadau a nodwyd bod ceisiadau yn cael eu delio a hwy o fewn 8 diwrnod yn ôl y ffigyrau diweddaraf. 

 

Tynnwyd sylw at Wasanaeth Bwyd a Diogelwch yr Adran sy’n sicrhau fod bwyd a diod sy’n cael ei werthu i’w fwyta a’i yfed, yn ddiogel i’r cyhoedd ac yn cydymffurfio gyda gofynion cenedlaethol. Nodwyd bod 2,064 o fusnesau bwyd perthnasol o fewn Gwynedd a bod 99% o’r rhain yn cyrraedd safon hylendid bwyd boddhaol neu uwch. Cydnabuwyd bod 26 lleoliad ddim yn cwrdd â’r safon ond mae’r Gwasanaeth yn ail-ymweld pob eiddo sy’n derbyn sgôr o 2 neu is o fewn 3 mis o’r archwiliad gwreiddiol er mwyn sicrhau bod safonau yn gwella. 

 

Adroddwyd bod nifer o wasanaethau’r Adran wedi lleihau eu amseroedd prosesu gan gyfeirio’n benodol at y Gwasanaeth Cynllunio a oedd yn cymryd 84 diwrnod ar gyfartaledd i benderfynu ar geisiadau (o’i gymharu â 92 diwrnod yn 2022/23 a 103 diwrnod yn 2021/22), a’r tîm Pridiannau Tir sy’n prosesu ceisiadau o fewn 31 diwrnod erbyn hyn (o’i gymharu â 38 diwrnod yn2022/23). 

 

Rhagwelwyd bydd yr Adran yn gorwario £511,000 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Nodwyd bod nifer o resymau pam fod yr adran yn gorwario ond bod swyddogion yn mynd ati i ddatrys y problemau er mwyn ceisio sicrhau bod targed cynlluniau arbedion ar gyfer 2023/24 yn cael eu gwireddu. 

 

Awdur:Dafydd Wyn Williams: Pennaeth Adran Amgylchedd

Dogfennau ategol: