Cyflwynwyd gan:Cyng. Berwyn Parry Jones
Penderfyniad:
Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. . |
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Atgoffwyd
yr Aelodau bod yr Adran yn arwain ar dri phrosiect sy’n rhan o Gynllun y Cyngor
sef ‘Cymunedau Glân a Thaclus’, ‘Gweithredu ar Risgiau Llifogydd’ ac ‘ Ymestyn
cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir’.
Manylwyd
bod yr adran wedi uno tri gwasanaeth o dan un rheolwr ymysg y maes cymunedau
glan a thaclus er mwyn creu gwasanaeth newydd o dan yr enw ‘Edrychiad Stryd’.
Cadarnhawyd bod strategaeth ddrafft wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau yn ddiweddar a bydd y strategaeth yn mynd allan am ymgynghoriad
cyhoeddus yn y gwanwyn, yn dilyn eu sylwadau.
Cydnabuwyd
bod llithriad wedi bod wrth ymgeisio i gwblhau gwaith o fewn y maes ymestyn
cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y sir ond gobeithir
bydd y gwaith yn cael ei gyflawni yn llawn yn y dyfodol. Pwysleisiwyd bod
diweddariad manwl ar brosiectau Cynllun y Cyngor o fewn Atodiad 1.
Eglurwyd
bod Llawlyfr Cynnal Priffyrdd wedi cael ei fabwysiadu yn ddiweddar ac mae’r
Adran yn rhoi blaenoriaeth i greu rhaglen 3 blynedd o waith ail wynebu ffyrdd
drwy’r sir ar sail cyflwr. Cadarnhawyd bydd y rhaglen hon yn cael ei rannu
gydag Aelodau er mwyn iddynt fod yn ymwybodol pryd fydd gwaith yn cymryd lle o
fewn eu wardiau.
Nodwyd
bod yr adran wedi cydweithio’n llwyddiannus gyda’r Adran Amgylchedd ar brosiect
ymylon ffordd. Esboniwyd bod y prosiect yn helpu ein byd natur, yn enwedig peillwyr, gan gynyddu bioamrywiaeth.
Cadarnhawyd
bod yr Adran wedi archebu 43 o gerbydau trydan er mwyn symud i ffwrdd o
ddefnyddio tanwydd ffosil, ac i gyd-fynd â Chynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur y
Cyngor. Nodwyd y disgwylir i’r cerbydau hyn gyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol a gobeithir bydd 16 pwynt gwefru ar gael i fflyd y Cyngor ar draws y
Sir. Esboniwyd bod yr Adran wedi profi heriau wrth gysylltu pwyntiau gwefru i’r
grid cenedlaethol ond mae’r Adran yn gweithio gyda darparwyr i sicrhau na fydd
hyn yn broblem yn y dyfodol.
Esboniwyd
bod yr Adran wedi bod yn llwyddiannus mewn cais ariannol drwy Gronfa Ffyniant
Gyffredin (SPF) er mwyn ymestyn y ddarpariaeth bresennol o systemau teledu
cylch cyfyng mewn mannau cyhoeddus ym Mangor, Caernarfon a Phwllheli.
Manylwyd bydd dogfennau tendro yn cael eu darparu yn y dyfodol agos.
Adroddwyd
ar fwriad yr adran i dreialu drysau talu gyda thechnoleg di-gyffwrdd i’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 05 Hydref 2023. Manylwyd bod bid ariannol i
gyflwyno drysau mewn 5 safle i’r perwyl hyn wedi ei gyflwyno. Yn yr un maes,
cadarnhawyd bod yr Adran yn rheoli Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus sy’n
caniatáu i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio toiledau mewn amryw o sefydliadau
lleol. Nodwyd bod modd defnyddio’r toiledau am ddim ac nid oes angen prynu dim yn
y lleoliad. Eglurwyd bod y lleoliadau yn gallu derbyn grant o hyd at £500 i fod
yn rhan o’r cynllun a bod rhaid iddynt osod sticer yn ffenest y lleoliad i
ddangos ei bod yn rhan o’r cynllun.
Cadarnhawyd
bod y gwaith o ddiweddaru Cynllun Busnes Ymgynghoriaeth
Gwynedd yn parhau er mwyn ei ymgorffori i Gynllun yr adran gyfan. Nodwyd mai’r
bwriad yw lansio’r cynllun newydd ym mis Ebrill 2024 ond cydnabuwyd bydd heriau
yn codi wrth i’r adran ymgeisio am gymaint o waith â phosib er mwyn creu incwm.
Tybiwyd
bydd yr adran wedi gorwario £990,000 yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol,
ond nodwyd bod hyn yn llai o orwariant na’r flwyddyn ddiwethaf, ble roedd
gorwariant o £1.5 miliwn. Esboniwyd bod y gorwariant yn gyfuniad o ddiffyg
incwm mewn rhai meysydd yn ogystal â gorwariant hanesyddol ar rhai cyllidebau.
Pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i leihau’r diffyg yma. Er hyn,
rhybuddiwyd fod modd i’r sefyllfa yma waethygu yn ddibynnol ar y gaeaf gan nad
oes cronfeydd corfforaethol ar gael i dalu am unrhyw wariant ychwanegol megis
graeanu ffyrdd.
Ymfalchïwyd
bod swyddogion wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith yn yr adran llifogydd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn ddiweddar. Manylwyd bod cynllun
Gwarchod Llifogydd Felinheli wedi defnyddio technoleg sy’n rhybuddio
gwirfoddolwyr i wybod pryd i gau y giatiau a osodwyd ger y dŵr yn
Felinheli, er mwyn dal y dwr yn ôl. Esboniwyd bod adran Technoleg Gwybodaeth y
Cyngor wedi sefydlu system i dderbyn a chofnodi’r data o’r synhwyrydd llanw ac
yn gwneud y defnydd mwyaf o dechnoleg o fewn y maes llifogydd. Cadarnhawyd bod
y prosiect hwn wedi ennill gwobr cenedlaethol sef Defnydd Gorau o Dechnoleg:
Casglu Data Clyfar ar gyfer Rheoli Asedau yn Ngwobrau TechFest
2023 yn nghystadlaethau NCE (New Civil Engineer).
Awdur:Steffan Jones: Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC
Dogfennau ategol: