Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

a)    Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer ardaloedd penodol yng Nghaernarfon, Criccieth a Phwllheli, yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd yn Atodiad 1.

b)    Awdurdodwyd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod, gan ddychwelyd i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno GDMC yng Nghaernarfon, Pwllheli a Criccieth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol 

 

PENDERFYNIAD 

 

a.            Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer ardaloedd penodol yng Nghaernarfon, Criccieth a Phwllheli, yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd yn Atodiad 1. 

b.            Awdurdodwyd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod, gan ddychwelyd i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno GDMC yng Nghaernarfon, Pwllheli a Criccieth. 

 

TRAFODAETH 

 

Eglurwyd bod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn rhoi’r grym i Awdurdodau Lleol gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) i ymdrin â niwsans neu broblemau penodol mewn mannau penodol. Cadarnhawyd bod yr heddlu wedi bod mewn cyswllt gyda’r Cyngor er mwyn ceisio cyflwyno GDMC mewn ardaloedd yng Nghaernarfon, Pwllheli a Chriccieth. Bwriedir i’r gorchmynion ymdrin â phroblemau penodol mewn ardaloedd penodol sy’n niweidiol i ansawdd bywyd. Esboniwyd bod ardaloedd arfaethedig GDMC wedi’u nodi oherwydd effaith yr ymddygiad ar y gymuned, busnesau ac ymwelwyr. 

 

Manylwyd bod rhaid i’r Awdurdodau Lleol fod yn fodlon bod sail rhesymol dros gredu fod y gweithgareddau hyn mewn man cyhoeddus wedi cael, neu yn debygol o gael effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn y cyffiniau. Eglurwyd hefyd fod y gweithgareddau angen bod yn barhaus eu natur ac yn afresymol. Esboniwyd bod yr heddlu wedi darparu datganiadau effaith gan swyddogion a busnesau yn yr ardaloedd yma gan nodi tystiolaeth bod ymddygiad gwrthgymdeithasol gan unigolion ifanc ac oedolion ac yn cynnwys camweddau sylweddau, ymddygiad bygythiol a thrais. Manylwyd bod hyn yn gwneud i rai unigolion y gymuned osgoi mynd i fewn i fusnesau, ac eu bod yn osgoi defnyddio llochesi bysiau ac ati. 

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi ymgynghori gydag Aelodau Lleol a’r cynghorau tref perthnasol. Sicrhawyd bod cefnogaeth lwyr i’r gorchmynion ynghyd â chefnogaeth gan Aelodau Seneddol Arfon a Dwyfor Meirionnydd. Esboniwyd bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o’r GDMC os byddent yn cael eu cymeradwyo, cyn cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet pan yn amserol. Cydnabuwyd bod angen ystyried opsiynau eraill cyn cyflwyno GDMC ac mae’r Cyngor wedi derbyn gwybodaeth gynhwysfawr gan yr heddlu o’u hymrwymiadau amrywiol ac mae’r Cyngor yn fodlon eu bod eisoes wedi defnyddio pob dull i fynd i’r afael ag atal yr ymddygiadau hyn. 

 

Adroddwyd bod y cyfyngiadau dan ystyriaeth GDMC wedi eu datblygu’n benodol i ymdrin â’r mathau o ymddygiad sy’n achosi’r problemau mwyaf, ac ystyriwyd y cyfyngiadau canlynol yn addas: 

·         Ni chaiff person ddilyn cwrs o ymddygiad sydd yn achosi, neu sydd yn rhesymol canfod ei fod yn achosi aflonyddwch, braw, niwsans neu drallod. 

·         Ni chaiff person yfed alcohol, nac unrhyw beth y mae Person Awdurdodedig yn rhesymol gredu i fod yn alcohol neu gynhwysydd i ddal alcohol, os yw Person Awdurdodedig yn gofyn i’r person stopio ag yfed neu ildio’r alcohol neu gynhwysydd. 

·         Ni chaiff person loetran mewn cyflwr o feddwdod o ganlyniad i gymryd alcohol neu gyffuriau. Os yw Person Awdurdodedig yn gofyn i’r person ymadael â’r ardal mewn amgylchiadau lle bo’r person wedi tramgwyddo’r cyfyngiad yma, rhaid i’r person ymadael ar unwaith. 

 

Pwysleisiwyd mai dim ond pan fydd pobl sy’n yfed alcohol yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol neu’n debygol o achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol y bydd swyddogion yn gorfodi’r gwaharddiad hwn. Addysgwyd nad yw’n drosedd i yfed alcohol mewn ardal GDMC ond ei fod yn drosedd i fethu â chydymffurfio â chais i stopio yfed neu ildio alcohol. Cadarnhawyd na fydd y gorchymyn yn effeithio digwyddiadau megis yr Ŵyl Fwyd yng Nghaernarfon, oni bai fod unigolion yn achosi gwrthgymdeithasol wrth yfed. 

 

Cadarnhawyd bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod gofynion cyfreithiol i baratoi asesiad effaith i’r GDMC a nodwyd nad oes unrhyw reswm dros beidio â pharhau gyda’r proses yn deillio o asesiad effaith y Cyngor. 

 

Awdur:Daron Marged Owens: Uwch Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol

Dogfennau ategol: