Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:-
1.
Bod y Cyngor yn cydnabod ein cyfrifoldeb i warchod
lles a chydlyniad cymunedol Gwynedd. Ein bod am weld cymunedau a thrigolion
Gwynedd yn cyd-fyw mewn heddwch, drwy barch a chefnogaeth i’w gilydd. Gwelwn
fod digwyddiadau diweddar yn Palestina ac yn Israel yn effeithio yn negyddol ar
ein gallu i fod yn llwyddiannus yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma. Gwelwn fod
effeithiau torcalonnus a thrychinebus i ryfeloedd yma yng Ngwynedd. Rydym yn
estyn allan i drigolion Gwynedd ar yr adeg hon. Rydym yn cydymdeimlo ac yn
cydalaru.
2.
Noda’r
Cyngor ein cyfrifoldeb yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i chwarae
ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn ddiogel ac yn deg i bawb.
3.
Fel
cynrychiolwyr trigolion Gwynedd, galwn am ymateb heddychlon gan Lywodraeth
Cymru. Galwn ar Lywodraeth Cymru, fel ein cynrychiolwyr ar y llwyfan
rhyngwladol, i hwyluso sefydlu a gweithredu cynllun cymorth dyngarol ar unwaith
i bobl Gaza.
4.
Bod y cynnig hwn yn datgan na ellir cyfiawnhau
trais a gweithredoedd rhyfelgar yn erbyn sifiliaid. Bod hyn yn cynnwys
gweithredoedd treisgar Hamas a'u gwrthodiad i ryddhau eu gwystlon ar unwaith,
ynghyd â gweithredoedd anghymesur Israel yn erbyn pobl Palestina, sydd yn
dorcyfraith rhyngwladol.
5.
Ein
bod ni, Cyngor Gwynedd, yn galw am gadoediad parhaol a di-droi’n ôl yn Gaza.
Galwn ar Lywodraeth Cymru, y DU a’r gymuned rhyngwladol i sicrhau dychwelyd at
y bwrdd trafod, a datrysiad theg a chyfiawn i holl drigolion Palestina a
Israel, nifer sydd wedi ymgartrefu, sydd â theulu ac anwyliaid yma yng
Ngwynedd.
Penderfyniad:
1.
Bod y Cyngor yn cydnabod ein cyfrifoldeb i warchod lles a chydlyniad
cymunedol Gwynedd. Ein bod am weld
cymunedau a thrigolion Gwynedd yn cyd-fyw mewn heddwch, drwy barch a
chefnogaeth i’w gilydd. Gwelwn fod digwyddiadau
diweddar yn Palestina ac yn Israel yn effeithio yn negyddol ar ein gallu i fod
yn llwyddiannus yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma.
Gwelwn fod effeithiau torcalonnus a thrychinebus i ryfeloedd yma yng
Ngwynedd. Rydym yn estyn allan i
drigolion Gwynedd ar yr adeg hon. Rydym
yn cydymdeimlo ac yn cydalaru.
2. Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb yn ôl Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol i chwarae ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn
ddiogel ac yn deg i bawb.
3. Fel cynrychiolwyr trigolion Gwynedd, galwn am ymateb
heddychlon gan Lywodraeth Cymru. Galwn
ar Lywodraeth Cymru, fel ein cynrychiolwyr ar y llwyfan rhyngwladol, i hwyluso
sefydlu a gweithredu cynllun cymorth dyngarol ar unwaith i bobl Gaza.
4. Bod y cynnig hwn yn datgan
na ellir cyfiawnhau trais a gweithredoedd rhyfelgar yn erbyn sifiliaid. Bod hyn yn cynnwys gweithredoedd treisgar
Hamas a'u gwrthodiad i ryddhau eu gwystlon ar unwaith, ynghyd â gweithredoedd
anghymesur Israel yn erbyn pobl Palestina, sydd yn dorcyfraith rhyngwladol.
5. Ein bod ni, Cyngor Gwynedd, yn
galw am gadoediad parhaol a di-droi’n ôl yn Gaza. Galwn ar Lywodraeth Cymru, y DU a’r gymuned
ryngwladol i sicrhau dychwelyd at y bwrdd trafod, a datrysiad teg a chyfiawn i
holl drigolion Palestina ac Israel, nifer sydd wedi ymgartrefu, sydd â theulu
ac anwyliaid yma yng Ngwynedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o
gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Hywel o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac
fe’i eiliwyd:-
1.
Bod y
Cyngor yn cydnabod ein cyfrifoldeb i warchod lles a chydlyniad cymunedol
Gwynedd. Ein bod am weld cymunedau a
thrigolion Gwynedd yn cyd-fyw mewn heddwch, drwy barch a chefnogaeth i’w
gilydd. Gwelwn fod digwyddiadau diweddar
yn Palestina ac yn Israel yn effeithio yn negyddol ar ein gallu i fod yn
llwyddiannus yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma.
Gwelwn fod effeithiau torcalonnus a thrychinebus i ryfeloedd yma yng
Ngwynedd. Rydym yn estyn allan i
drigolion Gwynedd ar yr adeg hon. Rydym
yn cydymdeimlo ac yn cydalaru.
2.
Noda’r
Cyngor ein cyfrifoldeb yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i chwarae
ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn ddiogel ac yn deg i bawb.
3.
Fel
cynrychiolwyr trigolion Gwynedd, galwn am ymateb heddychlon gan Lywodraeth
Cymru. Galwn ar Lywodraeth Cymru, fel
ein cynrychiolwyr ar y llwyfan rhyngwladol, i hwyluso sefydlu a gweithredu
cynllun cymorth dyngarol ar unwaith i bobl Gaza.
4.
Bod y
cynnig hwn yn datgan na ellir cyfiawnhau trais a gweithredoedd rhyfelgar yn
erbyn sifiliaid. Bod hyn yn cynnwys
gweithredoedd treisgar Hamas a'u gwrthodiad i ryddhau eu gwystlon ar unwaith,
ynghyd â gweithredoedd anghymesur Israel yn erbyn pobl Palestina, sydd yn
dorcyfraith rhyngwladol.
5.
Ein bod ni, Cyngor Gwynedd, yn galw am gadoediad parhaol a di-droi’n ôl yn
Gaza. Galwn ar Lywodraeth Cymru, y DU
a’r gymuned ryngwladol i sicrhau dychwelyd at y bwrdd trafod, a datrysiad teg a
chyfiawn i holl drigolion Palestina ac Israel, nifer sydd wedi ymgartrefu, sydd
â theulu ac anwyliaid yma yng Ngwynedd.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-
·
Bod y BBC yn
adrodd heddiw bod mwy na 16,200 o bobl, gan gynnwys tua 7,000 o blant, wedi
marw yn Llain Gaza ers 7 Hydref, gyda miloedd mwy ar goll o dan y rwbel.
·
Y gobeithiai y
byddai ei chyd-aelodau’n cefnogi ei chynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
rhaglen ddwys o gefnogaeth ddyngarol ar gyfer pobl Gaza, yn yr un modd ag y
dewisodd y Cyngor yn gywir i ymateb i angen dirfawr yn y gorffennol.
·
Bod gan Gyngor
Gwynedd gyfrifoldeb i ymateb i ddigwyddiadau sy’n effeithio ar drigolion
Gwynedd, a chyfrifoldeb hefyd ar lefel byd-eang fel corff cyhoeddus Cymreig
sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
·
Bod trigolion yng
Ngwynedd wedi’u heffeithio’n ddirfawr gan y rhyfel yn Gaza a bod rhaid i ni
ddatgan ein safbwynt fel Cyngor er mwyn hwyluso diwylliant iach, parchus a
heddychlon a chefnogi datblygiad llesiant ein cymunedau.
·
Gyda diffyg llwyr
mewn arweiniad gan Lywodraethau Cymru a San Steffan, bod rhaid i ni fel
Cynghorwyr Gwynedd gamu i mewn a llenwi’r gwagle, er mwyn ein trigolion ac er
mwyn heddwch.
Mynegwyd
cefnogaeth gref i’r cynnig gan nifer o aelodau ar y sail:-
·
Bod y sefyllfa’n
effeithio ar les pobl Gwynedd ac na chredid bod yna unrhyw berson sydd heb ei
gyffwrdd gan y lluniau dychrynllyd sy’n ymddangos ar y teledu yn ddyddiol.
·
Bod gan rai o
drigolion Gwynedd gysylltiadau personol yn Gaza, ac eraill yn ofnus am beth
allai ddigwydd, a bod gennym ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb i
hyrwyddo cydlyniad cymunedol.
·
Er na welwyd
cynnydd mewn troseddau gwrth-semitig ac islamaffobig yma yng Ngwynedd, y
deellid bod o leiaf un digwyddiad a drefnwyd i godi pontydd rhwng pobl o
wahanol ffydd wedi’i ganslo.
Gofynnodd y
Cynghorydd Richard Glyn Roberts am gofnodi ei bleidlais yn erbyn y cynnig gan
na allai gefnogi cynnig sy’n galw am amodi hawl gwladwriaeth Israel i amddiffyn
ei hun gan fod hynny’n chwarae i ddwylo tueddiadau gwrth-semitig, sydd ar
gynnydd.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
1.
Bod y
Cyngor yn cydnabod ein cyfrifoldeb i warchod lles a chydlyniad cymunedol
Gwynedd. Ein bod am weld cymunedau a
thrigolion Gwynedd yn cyd-fyw mewn heddwch, drwy barch a chefnogaeth i’w
gilydd. Gwelwn fod digwyddiadau diweddar
yn Palestina ac yn Israel yn effeithio yn negyddol ar ein gallu i fod yn
llwyddiannus yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma.
Gwelwn fod effeithiau torcalonnus a thrychinebus i ryfeloedd yma yng
Ngwynedd. Rydym yn estyn allan i
drigolion Gwynedd ar yr adeg hon. Rydym
yn cydymdeimlo ac yn cydalaru.
2.
Noda’r
Cyngor ein cyfrifoldeb yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i chwarae
ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn ddiogel ac yn deg i bawb.
3.
Fel
cynrychiolwyr trigolion Gwynedd, galwn am ymateb heddychlon gan Lywodraeth
Cymru. Galwn ar Lywodraeth Cymru, fel
ein cynrychiolwyr ar y llwyfan rhyngwladol, i hwyluso sefydlu a gweithredu
cynllun cymorth dyngarol ar unwaith i bobl Gaza.
4.
Bod y
cynnig hwn yn datgan na ellir cyfiawnhau trais a gweithredoedd rhyfelgar yn erbyn
sifiliaid. Bod hyn yn cynnwys