Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gynllun trwyddedu newydd ar gyfer 'Triniaethau Arbennig' fydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru Mehefin 2024 dan Rhan 4 Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017. Eglurwyd bod y Triniaethau Arbennig yn cynnwys tatŵio, lliwio'r croen yn lled barhaol, tyllu addurnol, aciwbigo, nodwyddo sych ac electrolysis. Cyfeiriwyd at brif ofynion y gyfundrefn ynghyd a goblygiadau’r cynllun.

 

Adroddwyd mai bwriad Llywodraeth Cymru, drwy gyflwyno'r cynllun, yw lleihau'r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â'r triniaethau hyn. Bydd gofyn i awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am orfodi gofynion trwyddedu a chadw cofrestr o drwyddedau triniaethau arbennig a gyflwynir ganddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r rhan fwyaf o'r gwaith ychwanegol yma gael ei amsugno i raglenni gwaith presennol o fewn Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu. Ategwyd y gall hyn effeithio ar feysydd eraill o gyflwyno gwasanaeth.

 

Yng nghyd-destun goblygiadau ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd disgwyliad i’r gyfundrefn eistedd dan strwythurau’r pwyllgor trwyddedu gyda dogfen ymgynghorol wedi ei llunio yn amlinellu eu disgwyliadau yn nhermau llywodraethu. Ategwyd nad yw rôl y pwyllgor trwyddedu, o ran gwneud penderfyniadau ar geisiadau Trwyddedu o dan y gyfundrefn newydd wedi’i ymgorffori mewn Rheoliadau Gwrandawiadau penodol.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda’r Adran Gyfreithiol, nodwyd y byddai mecanwaith y gwrandawiadau trwyddedu yn disgyn o dan ddarpariaethau’r Pwyllgor Trwyddedu Canolog. Amlygwyd y byddai’r Aelodau yn derbyn gwybodaeth am unrhyw ddatblygiadau / cyfarwyddiadau pellach ar y mater gan Lywodraeth Cymru a bod sesiwn hyfforddi gyda Dr Sarah Jones (Uwch Ymgynghorydd Iechyd yr Amgylchedd, sydd wedi arwain ar ddatblygiad y cynllun trwyddedu ar gyfer Llywodraeth Cymru) eisoes wedi ei drefnu ar gyfer Aelodau, Swyddogion Amgylchedd, Cyfreithiol a Democratiaeth y Cyngor. Wedi derbyn eglurder o rôl y Pwyllgor Trwyddedu Canolog, bydd y Swyddog Monitro yn adolygu’r fecanwaith fydd angen ei mabwysiadu i Gyfansoddiad y Cyngor, yn ogystal â phenderfynu ar y pwerau dirprwyedig sydd eu hangen ar gyfer swyddogion.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

 

·         Pryder y byddai cyfrifoldebau yn disgyn rhwng dau faes o fewn yr Adran Amgylchedd (Gwarchod y Cyhoedd a Thrwyddedu) - byddai hyn yn gwneud pethau yn anodd ei craffu

·         Croesawu’r angen am reolaeth a threfn drwyddedu ar gyfer y maes yma

·         Pryder nad oes arian ychwanegol / buddsoddiad yn cael ei gyflwyno gan Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r trefniadau ychwanegol

·         Pryder bydd y gwaith yn rhoi pwysau gwaith gormodol ar wasanaeth sydd yn wynebu heriau cynnal gwasanaeth mewn byd sydd yn brysur newid

·         Bod unrhyw ddarpariaethau sydd yn gwarchod y cyhoedd yn beth da

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfrifoldebau adran Amgylchedd, amlygwyd mai Pennaeth yr Adran Amgylchedd sydd yn gyfrifol am holl elfennau gwaith Gwarchod y Cyhoedd a Thrwyddedu a bod staff y gwasanaethau yn ymwybodol ac yn eglur eu cyfrifoldebau ac atebolrwydd. Ategwyd bod y sgiliau a'r cymwysterau perthnasol gan y staff a bod cydweithio da rhwng y ddau wasanaeth. O ran rôl yr Aelodau, bydd y gwaith yn cael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ac unwaith bydd y newidiadau cyfansoddiadol wedi eu datrys, bydd yn drefn yn gliriach. Mewn ymateb, gwnaed awgrym i wahodd Aelod Cabinet Amgylchedd i gyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn a derbyn adnoddau ychwanegol i gwblhau’r gwaith, nodwyd byddai rhaid gwneud cais am arian yntau drwy drefn bidiau’r Cyngor neu gan y Cabinet yn uniongyrchol. Ategwyd y byddai’r gwasanaethau yn ceisio eu gorau i ddilyn gofynion y ddeddf a sicrhau bod y gwaith statudol yn cael ei gwblhau.

O ran gwaith cymhwyso staff i adnabod risgiau / heintiau yn y maes nodwyd bod gan staff Gwarchod y Cyhoedd arbenigedd a chymwysterau yn y maes yn barod a bod cynllun cofrestr yn cael ei redeg gan Wynedd ers blynyddoedd. Er hynny, nid oes pwerau yn eu lle i reoli’r sefyllfa. Amlygwyd y bydd staff y gwasanaethau yn derbyn hyfforddiant pellach a’u bod wedi bod yn rhan o’r broses i ddatblygu’r weithdrefn yma gyda Llywodraeth Cymru - ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff o’r weithdrefn o’r dechrau yn allweddol.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

Dogfennau ategol: