Agenda item

Cais ar gyfer creu menter pigo ffrwythau eich hunain i gynnwys newidiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol, darparu maes parcio ar gyfer cwsmeriaid, gosod polytunnel a lloches gyda paneli solar uwchben, darparu cynhwysydd ar gyfer ar gyfer gosod cyfarpar dyfrhau a offer cysylltiol gyda'r paneli solar a chynhwysydd ar gyfer pwyso'r ffrwythau a gwerthu lluniaeth, gosod tanciau crynhoi dwr,  a chodi adeilad ar gyfer darparu toiledau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENFERFYNIAD: Caniatáu – amodau

 

·         5 mlynedd

·         Unol a’r cynlluniau

·         Amodau Priffyrdd

·         Amod Dwr Cymru

·         Hysbysebion Cymraeg

·         Gorchudd di-lachar ar y paneli pv

·         Rhaid datgysylltu’r cyfarpar solar pv a’i symud o’r safle ar ôl cyfnod parhaus o beidio cynhyrchu ynni

·         Rhaid defnyddio'r adeiladau a ganiateir yma ar gyfer pwrpas amaethyddol neu’n atodol i ddefnydd amaethyddol o’r safle yn unig ac os daw ei ddefnydd i bwrpas amaethyddol o fewn yr uned i ben yn barhaol o fewn 10 mlynedd o ddyddiad cwblhau'r datblygiad yn sylweddol yna, oni bai i'r awdurdod cynllunio lleol ganiatáu defnydd neillog, bydd rhaid dymchwel yr adeilad a'i symud ymaith o'r tir ac adfer y tir i'w gyflwr blaenorol cyn i'r datblygiad gymryd lle.

·         Gwelliannau bioamrywiaeth

·         Manylion pwyntiau gwefru ceir trydan

 

Nodiadau:

SUDS

Datblygiad mawr

Cyfeirio’r datblygwr at wefan Comisiynydd y Gymraeg a’r Cynnig Cymraeg, er mwyn eu cynorthwyo i greu Cynllun Iaith, ac adnabod camau datblygu o ran hybu defnydd o'r Gymraeg.

 

Cofnod:

Cais ar gyfer creu menter pigo ffrwythau eich hunain i gynnwys newidiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol, darparu maes parcio ar gyfer cwsmeriaid, gosod polytunnel a lloches gyda phaneli solar uwchben, darparu cynhwysydd ar gyfer ar gyfer gosod cyfarpar dyfrhau ac offer cysylltiol gyda'r paneli solar a chynhwysydd ar gyfer pwyso'r ffrwythau a gwerthu lluniaeth, gosod tanciau crynhoi dŵr,  a chodi adeilad ar gyfer darparu toiledau

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i greu menter pigo ffrwythau eich hunain ar safle wedi ei leoli ar gyrion pentref Rhydyclafdy yng nghefn gwlad agored ac Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Enlli.

 

Eglurwyd bod egwyddor menter pigo eich ffrwythau eich hunain yn ddefnydd amaethyddol gan ei fod yn golygu defnyddio’r tir ar gyfer tyfu cynnyrch. Cyfeiriwyd at ran 3.8 o Nodyn Cynllunio Technegol 6 sy’n cadarnhau, os yw siop fferm yn cael ei ddefnyddio i werthu nwyddau a gynhyrchir ar y fferm honno yn unig, ac ond ychydig iawn o nwyddau eraill o fannau eraill, mae felly’n ddiben sy’n atodol i’r defnydd fel fferm ac nid oes angen caniatâd cynllunio penodol. (sef defnyddio adeiladau presennol ar y fferm ar gyfer gwerthu’r cynnyrch). Fodd bynnag, yn yr achos yma, mae’r bwriad yn golygu darparu adeiladwaith a datblygiad o’r newydd yn benodol ar gyfer y fenter sydd yn destun caniatâd cynllunio. Eglurwyd bod y ddarpariaeth ‘siop’ yng nghyd-destun y bwriad yma ar ffurf caban ar gyfer pwyso’r cynnyrch ynghyd a gwerthu lluniaeth i’r cwsmeriaid megis te, coffi a chacennau ayyb. Byddai’r caban yn fychan ac ni ystyriwyd fod ei faint yn ddigon mawr ar gyfer gwerthu nifer fawr o nwyddau o fannau eraill; yr elfen yma o’r bwriad yn dderbyniol ac yn cyd-fynd gydag amcanion NCT ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y safle, er ar gyrion y pentref, yn weddol guddiedig oherwydd bod y tir yn gostwng yn raddol i ffwrdd o’r pentref, ac er bod ffordd ddosbarthedig 3 (Lon Pin) yn rhedeg heibio’r safle, dim ond golygfeydd ysbeidiol drwy’r gwrychoedd uchel ar ochr y ffordd sydd o’r safle.

 

Tynnwyd sylw hefyd at y ffrâm lloches uwchben y byrddau tyfu cynnyrch sydd yn sylweddol o ran uchder, ac yn cynnwys paneli solar a phaneli lleini clir uwch eu pen. Bydd hyn yn gyfystyr ac adeilad 3.1m o uchder gyda tho ar ffurf frig a dyffrynnoedd bob yn ail. Er yn sylweddol, mae ei uchder a’i leoliad yn golygu na fyddai’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar y dirwedd, gan gynnwys Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Ategwyd bod bwriad darparu’r polytunnel ar safle wrth ochr y fframiau lloches ac felly ni fyddai’n debygol o gael effaith ychwanegol ar y dirwedd o gymharu â’r fframiau lloches gerllaw.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod y bwriad yn cynnwys gwneud newidiadau i’r fynedfa bresennol ynghyd a darparu dau lecyn pasio ar y trac mynediad presennol ( y fynedfa a’r trac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y parc carafanau presennol sydd ar y safle), ac yn ddarostyngedig i amodau, nid oedd gan yr Uned Priffyrdd wrthwynebiad i’r bwriad. Yng nghyd-destun materion Bioamrywiaeth nodwyd bod y safle, sydd wedi ei leoli ar lecynnau caled a chaeau amaethyddol presennol ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pori, heb ei ddynodi ar gyfer unrhyw werth bioamrywiaeth. Ategwyd bod y bwriad, er yn cynnwys adeiladwaith o arwynebedd sylweddol, yn hwyluso defnydd amaethyddol o’r safle ac yn galluogi gwerthu cynnyrch sy’n cael ei dyfu ar y safle.

 

Bydd y datblygiad yn cynnig adnodd i bobl leol, i dwristiaid yr ardal, a chyflogaeth i hyd at 3 o weithwyr llawn amser a 9 weithwyr rhan amser. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol gydag amodau ac na fyddai’n cael effaith weledol sylweddol ar y dirwedd, mwynderau trigolion cyfagos, diogelwch ffyrdd, bioamrywiaeth na’r Iaith Gymraeg.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Ei fod yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r prosiect cyffrous yma - yn gynaliadwy ac arloesol

·         Defnyddio dulliau tyfu cnydau sy’n uchafu defnydd tir – defnydd hydroponics

·         Bydd dŵr glaw yn cael ei gynaeafu

·         Bydd gwlân defaid gan ffermwyr lleol yn cael ei ddefnyddio yn y broses

·         Bod bwriad sefydlu gardd farchnad gyda bocsys wythnosol ar gyfer trigolion lleol, ymwelwyr a bwytai

·         Bydd y caffi yn darparu cynnyrch lleol

·         Bydd hyfforddiant / ymweliadau yn cael ei drefnu ar gyfer ysgolion / ymwelwyr  - hyn i hyrwyddo ffermio cynaliadwy

·         Bydd y fenter yn cefnogi’r gymuned leol

 

c)         Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

 ch)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·         Yn llongyfarch y fenter

·         Braf gweld person ifanc yn arwain ar y fenter

·         Tyfu yn lleolgwerthu yn lleol. Be well?

PENDERFYNWYD: Caniatáu – amodau

1.    5 mlynedd

2.    Unol a’r cynlluniau

3.    Amodau Priffyrdd

4.    Amod Dwr Cymru

5.    Hysbysebion Cymraeg

6.    Gorchudd di-lachar ar y paneli pv

7.    Rhaid datgysylltu’r cyfarpar solar pv a’i symud o’r safle ar ôl cyfnod parhaus o beidio cynhyrchu ynni

8.    Rhaid defnyddio'r adeiladau a ganiateir yma ar gyfer pwrpas amaethyddol neu’n atodol i ddefnydd amaethyddol o’r safle yn unig ac os daw ei ddefnydd i bwrpas amaethyddol o fewn yr uned i ben yn barhaol o fewn 10 mlynedd o ddyddiad cwblhau'r datblygiad yn sylweddol yna, oni bai i'r awdurdod cynllunio lleol ganiatáu defnydd neillog, bydd rhaid dymchwel yr adeilad a'i symud ymaith o'r tir ac adfer y tir i'w gyflwr blaenorol cyn i'r datblygiad gymryd lle.

9.    Gwelliannau bioamrywiaeth

10.  Manylion pwyntiau gwefru ceir trydan

Nodiadau:

SUDS

Datblygiad mawr

Cyfeirio’r datblygwr at wefan Comisiynydd y Gymraeg a’r Cynnig Cymraeg, er mwyn eu cynorthwyo i greu Cynllun Iaith, ac adnabod camau datblygu o ran hybu defnydd o'r Gymraeg

 

 

Dogfennau ategol: