I ystyried a derbyn adroddiad(au) sydd wedi eu
cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru
·
Adolygiad o Strategaeth Ddigidol – Cyngor Gwynedd
·
Diweddariad Rhaglen Waith ac Amserlen Ch2
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiadau a nodi’r wybodaeth
COFNODION:
Croesawyd Alan
Hughes, Yvonne Thomas a Lora Williams (Archwilio Cymru), Geraint Owen
(Cyfarwyddwr Corfforaethol) a Dewi Wyn Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes
y Cyngor) i’r cyfarfod.
Adolygiad o Strategaeth Ddigidol –
Cyngor Gwynedd
Adroddodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod yr
archwiliad wedi cael ei gynnal ar amser anffodus (Mai 2023) oedd yn gwrthdaro
gyda gwaith Bwrdd Trawsnewid Digidol y Cyngor wrth iddynt arwain ar lunio strategaeth newydd. Cyflwynwyd y
Strategaeth Ddigidol newydd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym Medi 2023
lle derbyniwyd sylwadau defnyddiol am y cynllun cyn cyflwyno i’r Cabinet. Yn y
cyfamser, cyhoeddwyd canfyddiadau archwiliad Archwilio Cymru i ddefnydd digidol
yn y Cyngor yn mis Hydref 2023, ac oherwydd y gwrthdaro, nid oedd yr adroddiad
yn amlygu’r gwaith da roedd y Bwrdd Trawsnewid Digidol wedi ei wneud i
ddatblygu’r Strategaeth Ddigidiol. Cymeradwywyd y Strategaeth newydd gan y
Cabinet yn Tachwedd 2023. Ategodd bod tystiolaeth yn cyfiawnhau bod y
Strategaeth yn un safonol a bod trigolion Gwynedd wedi cael cyfle i gyflwyno
sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Adroddodd Swyddog Archwilio Cymru ar
gyd-destun yr archwiliad gan nodi’r rheswm pam y cynhaliwyd yr archwiliad,
ffocws yr archwiliad a’r canfyddiadau. Cyfeiriwyd at y darganfyddiadau, y tri
argymhelliad a gynigwyd gan Archwilio Cymru ac ymateb
y Cyngor i’r argymhellion hynny.
Cydnabuwyd bod ffenest amser yr archwiliad wedi bod yn dynn a bod yr
adroddiad wedi canolbwyntio ar dystiolaeth a ddatgelwyd ar y pryd. Nid oedd gan y Cyngor gynllun ffurfiol
cyfredol ar gyfer datblygu ei wasanaethau digidol ar adeg cynnal yr archwiliad,
gan fod cyfnod y “Strategaeth Ddigidol” flaenorol wedi dod i ben yn 2018.
Cyflwynwyd ymateb y Cyngor i’r archwiliad gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol. Fel Cadeirydd y Bwrdd Trawsnewid Digidol y Cyngor, diolchodd i’r
Bwrdd am eu gwaith clodwiw ac amlygodd fod ymateb ysgrifenedig yn arddangos bod
yr holl argymhellion eisoes wedi eu gweithredu neu yn dasg barhaus. Fodd
bynnag, ategodd ei siom gyda chynnwys cyffredinol yr ymchwiliad. Nododd, ym
Mawrth 2023 bod creu Strategaeth Ddigidol newydd wedi ei gynnwys fel un o
flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2023 - 2028 ac eglurwyd y
sefyllfa wrth Archwilio Cymru yn y gobaith y byddair archwiliad yn ychwanegu
gwerth i’r Strategaeth derfynol. Amlygodd ei fod yn gwrthod sylw Archwilio
Cymru o benderfyniad y Cyngor i beidio ag ymgynghori â’r cyhoedd i ddatblygu
Strategaeth Ddigidol - nododd bod cyfnod ymgynghori wedi bod ar Gynllun y
Cyngor a bod sefydlu Strategaeth yn rhan o’r Cynllun hwnnw. Amlygodd ei farn bod yr adroddiad yn creu cam argraff o ddatblygiadau
yn y maes a bod angen osgoi hyn i’r dyfodol.
Rhoddwyd cyfle i Archwilio Cymru ymateb i sylwadau’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol. Nodwyd;
·
Er ymgynghori ar Gynllun
y Cyngor, y cynllun aymgynghorwyd
arno yn eang
ac felly dim ffocws digonol
ar y maes digidol
·
Diffyg tystiolaeth
o ddadansoddi data, creu cyfleoedd gyda phartneriaid a monitro gwerth am arian - dim beirniadaeth yma ond cyfleoedd i
wella ar gyfer y dyfodol. Angen sicrhau bod y Strategaeth newydd yn mabwysiadu’r elfennau hyn.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen ffocws penodol
ar waith digidol i sicrhau
gwerth am arian
·
Awgrym o gamddehongli
rhwng y Cyngor ac Archwilio
Cymru.
·
Derbyn bod ffenestr
dynn i’r archwiliad - cyfle rŵan i symud
ymlaen gyda’r gwaith
arbennig sydd wedi ei wneud
yn llunio Strategaeth Ddigidol newydd
·
Cynllun y Cyngor yn gynllun manwl
a chynhwysfawr gydag amryw o flaenoriaethau. Efallai na fyddai’r
Strategaeth Ddigidol wedi derbyn sylw
digonol yma.
·
Bod angen sicrhau bod adnoddau digonol, parhaol ar gael i gefnogi’r
Strategaeth - cynigiwyd
y dylai’r pwyllgor gefnogi unrhyw fid am arian i gefnogi
hyn
·
O ganlyniad i wahaniaeth
barn a sicrhau
bod yr argymhellion yn cael eu cyflawni
- annog archwiliad pellach i roi
sicrwydd pellach bod y Strategaeth Ddigidol yn cyflawni
·
Er yn gefnogol i
fidiau i wireddu’r strategaeth, rhwystredigaeth yw realiti’r sefyllfa ochr yn ochr
â dyheuadau – adnoddau ddim ar gael
i wireddu dyheuadau ac felly, i’r dyfodol, ystyried peidio mynegi dyheuadau
yn y lle cyntaf.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut y byddai ymgynghori ar Strategaeth
Ddigidol ar ben ei hun wedi bod yn fanteisiol, nodwyd y byddai wedi rhoi cyfle
i randdeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd ymateb yn
benodol ee, i becynnau meddalwedd. Ategodd bod yr hen strategaeth ddigidol wedi
dod i ben yn 2018 ac y byddai ymgynghori wedi rhoi ffocws ar siapio’r
gwasanaethau i’r dyfodol. Ategodd nad oedd Strategaeth 2018 yn gyfredol ac
felly nid oedd tystiolaeth o adrodd ar gynnydd / gwerth am arian ers hynny -
pwysig cael trefniadau monitro yn eu lle.
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oedd yn cytuno gyda’r sylwadau ac
amlygodd mai ‘galluogwr’ yw’r
Strategaeth Ddigidol, wedi ei lunio i wireddu Cynllun y Cyngor a chefnogi
gwaith y Cyngor yn hytrach na dogfen sydd yn sefyll ar ei phen ei hun. O ran sylw
sicrhau gwerth am arian, cydnabyddwyd nad oedd y Strategaeth wedi ei hadnewyddu ers
2018, ac yn hynny o beth ei bod yn anodd deall sut y gellid monitro cyflawniad
dogfen nad oedd yn bodoli.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sicrhau bod adborth yn cael ei
gasglu o’r systemau sydd mewn lle ac os bydd y gwasanaethau eu hunain yn derbyn
adborth o’r trefniadau, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai hyn yn rhan
allweddol o’r gwaith. Amlygodd bod trefniadau herio a chefnogi perfformiad
eisoes mewn lle ar gyfer pob blaenoriaeth gwella o fewn Cynllun y Cyngor yn
ogystal ag ar gyfer cyflawniad gwasanaethau dydd i ddydd . Ategodd bod
trefniadau monitro a gwerthuso ar sail bodlonrwydd cwsmer yn fesurydd a
ddefnyddir gan nifer o wasanaethau er mwyn derbyn adborth i’r ddarpariaeth.
Adroddodd bod derbyn adborth, dysgu gwersi a sicrhau gwelliannau parhaus yn ganolog i’r Ffordd Gwynedd o weithio.
Mewn ymateb i sylw am gefnogaeth i fidiau ariannol i gefnogi’r
Strategaeth, amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn
eithaf difrifol. Ategodd y bydd angen i’r Gwasanaethau gyflawni’r gwaith
monitro, ac er cytuno bod angen adnoddau ychwanegol, anodd fyddai gwireddu hyn.
Ategodd y Pennaeth Cyllid bod cronfa arian unwaith ac am byth wedi’i sefydlu ar
gyfer cefnogi gwaith tasg a gorffen sy’n perthyn i’r Strategaeth a bod bidiau
am refeniw parhaol eisoes wedi eu cyflwyno i wireddu elfennau eraill o’r
Cynllun Digidol, ond pwysleisiodd, er y bydd y drefn bidiau yn cael ei
hystyried, mai’r flaenoriaeth fydd ystyried beth sydd yn fforddiadwy. Petai’r
Pwyllgor yn ystyried cefnogi bidiau ariannol ar gyfer gwireddu’r Cynllun
Digidol, bydd angen edrych ar y darlun cyfan ac nid ar un mater penodol. Nododd
hefyd bod angen sgwrs bellach ynglŷn â
diffiniad ‘gwerth am arian’, hynny yw, trafod sut mae mesur gwerth am
arian a chynhyrchiant o fewn Awdurdodau Lleol.
Disgynnodd y cynnig i’r Pwyllgor gefnogi bidiau
refeniw parhaol ar gyfer gwireddu’r Strategaeth Ddigidol
Diweddariad Rhaglen Waith ac Amserlen Ch2
Cyflwynwyd diweddariad chwarterol (hyd at 30 Medi 2023) o raglen waith
ac amserlen Archwilio Cymru. Trafodwyd y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith
archwilio perfformiad lleol gan dynnu sylw at Adolygiad thematig - Gofal Heb ei
Drefnu ac Adolygiad Thematig - Digidol gan nodi bod y gwaith casglu tystiolaeth
yn parhau. Ategwyd y byddai’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno yn y
flwyddyn newydd a bod y gwaith o archwilio Cyfrifon Terfynol Cyngor Gwynedd
bron a chael ei gwblhau - bydd adroddiad terfynol yn cael ei
gyflwyno i gyfarfod Ionawr 2024.
Diolchwyd am yr
adroddiad
Nododd y Cadeirydd
ei siomedigaeth bod amserlen archwilio Cyfrifon Terfynol Cyngor Gwynedd wedi llithro er bod y wybodaeth wedi ei
gyflwyno yn amserol
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiadau a nodi’r wybodaeth
Nodyn:
Adolygiad Strategaeth Ddigidol –
cymeradwyo ymateb Cyngor Gwynedd i argymhellion Archwilio Cymru
Dogfennau ategol: