Agenda item

Alwen Williams (Cyfarwyddwr portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.    Bod y Bwrdd yn cefnogi'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd gan y Cyfarwyddwr Portffolio a'r amserlenni i'w gweithredu mewn ymateb i argymhellion Adolygiad Porth (PAR) 2023.

2.    Bod y Bwrdd yn nodi y gall fod gofyn i addasu'r cynllun gweithredu yn sgil yr adolygiad Sicrwydd Cynllun Gweithredu (AAP) dilynol ym mis Rhagfyr, ac yn hynny o beth, y byddai'r Cyfarwyddwr Portffolio yn ymgynghori â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ar yr addasiadau hynny.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

1.      Bod y Bwrdd yn cefnogi'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd gan y Cyfarwyddwr Portffolio a'r amserlenni i'w gweithredu mewn ymateb i argymhellion Adolygiad Porth (PAR) 2023.

2.      Bod y Bwrdd yn nodi y gall fod gofyn i addasu'r cynllun gweithredu yn sgil yr adolygiad Sicrwydd Cynllun Gweithredu (AAP) dilynol ym mis Rhagfyr, ac yn hynny o beth, y byddai'r Cyfarwyddwr Portffolio yn ymgynghori â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ar yr addasiadau hynny.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae'n ofynnol i Gynllun Twf Gogledd Cymru ymateb i'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad Adolygiad Porth.

 

TRAFODAETH

 

Mynegwyd gwrthwynebiad chwyrn i’r sylw yn yr Adolygiad Porth nad oedd y Bwrdd Cyflawni Busnes yn herio’r prosiectau a phwysleisiwyd na ddylid derbyn yr argymhellion yn ddi-gwestiwn fel y ffordd gywir ymlaen.

 

Holwyd pwy fyddai’n talu am y Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd Uchelgais a pha fath o berson a geisid ar gyfer y rôl, o gofio bod yr arbenigedd yn bodoli eisoes o fewn y bartneriaeth. 

 

Awgrymwyd bod yr holl fiwrocratiaeth yn dal pethau yn ôl ac y dylem gael mwy o ymreolaeth fel ein bod yn gallu symud ymlaen yn gyflymach.

 

Croesawyd y ffaith bod modd cynnal cyfarfodydd arbennig ychwanegol o’r Bwrdd os oes angen gwneud penderfyniadau brys.

 

Nodwyd, er mai Cadeirydd y Bwrdd sydd wedi’i nodi fel perchennog gweithredu’r argymhelliad i benodi Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd, y byddai’n fuddiol petai’r 6 Arweinydd yn rhan o’r drafodaeth ynglŷn â hynny, gan nad yw’n amlwg o’r adroddiad beth fyddai’r opsiynau, ayb.

 

O ran yr argymhelliad ynglŷn â hyfforddiant o gwmpas caffael cymdeithasol yn y sector gyhoeddus, nodwyd na ddeellid beth oedd ar goll gennym gan fod pawb o amgylch y bwrdd yn hyddysg iawn yn y materion hynny, a holwyd a oedd yna unrhyw beth y gallem fod wedi’i wneud yn wahanol neu’n well.  Nodwyd ymhellach fod y bar wedi’i osod yn uchel o safbwynt gofynion gwerth cymdeithasol, ac roedd yna ofynion o ran sero net hefyd.  Nid mater hawdd fyddai dod o hyd i dendrwyr sy’n cyrraedd y trothwyon hynny i gyd, a holwyd a roddwyd ystyriaeth i hynny fel rhan o’r trafodaethau.

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau, nodwyd:-

 

·         Er bod Cadeirydd y Bwrdd wedi’i nodi fel perchennog gweithredu’r argymhelliad i benodi Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd, bod y ddogfen yn amlygu bod y penodiad yn fater i’r Bwrdd cyfan.

·         Bod gan y Bwrdd a’r Swyddfa Rheoli Portffolio fynediad i arbenigedd caffael yn ôl yr angen a bod ein prosesau yn cael eu sgriwtineiddio ar lefel broffesiynol cyn cyrraedd y Bwrdd er mwyn sicrhau bod y prosesau hynny yn cael eu dilyn yn iawn.

·         Nad oeddem yn derbyn yr argymhellion yn ddi-gwestiwn a’n bod yn cymryd ein hamser i ystyried sut orau y byddem, fel Bwrdd, ac fel Tîm, yn dymuno cyfarch y pryderon y tu ôl i rai o’r argymhellion hynny.

·         Bod rhaid cofio bod unrhyw adolygiad allanol o’r math yma yn giplun mewn amser.  Ar adeg cynnal yr adolygiad hwn yn gynnar ym mis Hydref, roedd y Bwrdd wedi cymeradwyo un achos busnes amlinellol mewn 9 mis, ond erbyn heddiw roedd y Bwrdd wedi cymeradwyo 3 achos busnes amlinellol ac 1 achos busnes llawn mewn 3 mis.

·         Y cynhelid adolygiad dilynol yr wythnos ganlynol, fyddai’n gyfle i’r swyddogion herio rhai o’r argymhellion.

·         O ran y sylw ynglŷn â chaffael, y credid bod y Tîm Adolygu yn cyfeirio’n benodol at ein dull o ymgysylltu gyda’n noddwyr yn y sector breifat a gwella eu dealltwriaeth o rai o’n hanghenion, yn hytrach na’n partneriaid yn y sector gyhoeddus sy’n hyddysg iawn yn y maes yma.

·         Y ceisiwyd arweiniad a chyngor gan Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru ynglŷn â beth yn rhagor y gallwn ei wneud i gynorthwyo cwmnïau a sefydliadau sy’n tendro am waith.

·         Y dylai rhai o’r gofynion hyn ei gwneud yn haws i gwmnïau lleol a chontractwyr lleol dendro’n llwyddiannus gan mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i gynnig gwerth cymdeithasol a manteision cymunedol, ac mae ganddynt hefyd y fantais o fod ag ôl-troed carbon isel os ydynt yn cyflogi staff lleol ac yn defnyddio deunyddiau lleol.

 

Nododd y Cadeirydd fod gan y Bwrdd broses gadarn iawn yn ei lle

 

 

Dogfennau ategol: