Nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried unrhyw risgiau cysylltiedig
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymateb i sut mae Cronfa Pensiwn Gwynedd
wedi ystyried yr hinsawdd wrth osod ei strategaeth ariannu a buddsoddi, a sut
byddai hyn yn datblygu i’r dyfodol.
Adroddwyd bod nifer o erthyglau diweddar wedi'u
cyhoeddi yn nodi nad yw'r cyngor y mae cronfeydd pensiwn yn ei dderbyn yn dilyn
gwyddoniaeth hinsawdd ac felly'n peryglu'r buddsoddiadau (hyn, yn bennaf, yn
seiliedig ar adroddiad gan Carbon Tracker (Gorff
2023). Nodwyd bod rhai o aelodau’r Bwrdd hefyd wedi tynnu sylw swyddogion at yr
erthyglau gan rannu eu pryderon. Prif
neges Carbon Tracker, cwmni dielw sy’n archwilio risg hinsawdd, yw bod
papurau economaidd yn anwybyddu ‘pwyntiau tyngedfennol’ hinsawdd sy’n golygu
bod newidiadau yn yr effaith economaidd o gynhesu byd-eang yn “llawer mwy
tebygol o fod yn amharhaol ac yn sydyn, yn hytrach nag yn barhaus ac yn
gymharol raddol”.
Nodwyd
bod y pryderon wedi eu rhannu gyda Hymans Robertson,
ymgynghorwyr buddsoddi'r Gronfa oedd, yn cytuno bod yr adroddiad yn codi
pwyntiau dilys, ond bod yr agweddau roeddynt yn cyfeirio atynt wedi eu
hystyried wrth osod strategaeth buddsoddi'r Gronfa. Ystyriwyd y materion hyn
drwy ddefnyddio ‘dadansoddiad senario’ gydag enghreifftiau o’r sefyllfaoedd
hynny wedi eu rhannu gyda’r Aelodau. Cydnabuwyd bod angen esblygu’r agwedd wrth
i ddealltwriaeth o risg hinsawdd ddatblygu, a bod angen i Hymans
ymchwilio i senarios manylach a mwy eithafol. Ategwyd y bydd mesur amlygiad i
beryglon hinsawdd a datblygu cynllun gweithredu pontio hinsawdd yn gamau nesaf
allweddol i’r Gronfa fynd i’r afael a hwy ynghyd a gweithredu gofynion TCFD
(sef datgelu trefniadau llywodraethu’r Gronfa yng nghyd-destun risgiau a
chyfleoedd sy’n ymwneud â’r hinsawdd).
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Yn dilyn hyfforddiant diweddar gan Hymans bod rhywun yn teimlo’n fwy cyfforddus bod yr hyn mae
Cronfa Gwynedd yn ei wneud yn cyfateb â’r safon gofynnol.
·
Bod angen sicrhau cydbwysedd - bod budd i
ymgysylltu a cheisio dylanwadu
·
Os oes bwriad i fuddsoddi llai mewn ecwiti a mwy
mewn isadeiledd i’r dyfodol, bydd hyn yn fwy carbon niwtral
·
Bod ffi yn cael ei dalu i Hymans
i wneud y gwaith. A ddylid derbyn yr hyn mae Hymans
yn ddweud - a yw’r ymateb yn dderbyniol? A ddylid trafod gydag Aelodau’r Gronfa
i ganfod os ydynt yn hapus i beidio â buddsoddi gyda chwmnïau sydd yn niweidiol
i’r hinsawdd? Pam na ellir dadfuddosddi erbyn 2030?
Cronfeydd pensiwn eraill yn dadfuddsoddi - angen
edrych i mewn i hyn.
Mewn
ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cyllid mai prif gyfrifoldeb y Pwyllgor
Pensiynau yw sicrhau dychweliadau da i aelodau’r Gronfa drwy fuddsoddi yn
gyfrifol a diogel. Eglurwyd, pan fydd cyngor yn cael ei dderbyn gan Hymans Robertson,
bydd swyddogion proffesiynol yn herio, holi, dehongli a dadansoddi’r
wybodaeth cyn ei rannu / drafod gydag aelodau. Bydd hyn yn fodd o sicrhau llywodraethiant cyfrifol o’r Gronfa ac o osgoi peryglu
sefydlogrwydd y Gronfa mewn unrhyw fodd. Ategwyd mai penderfyniad ffurfiol
Cronfa Gwynedd yw ymgysylltu ac nid dadfuddsoddi a
hynny oherwydd bod mwy o ddylanwad i’w gael drwy fuddsoddi. Nododd hefyd ei fod
yn ymwybodol bod rhai cronfeydd yn dadfuddsoddi a bod
modd canfod mwy o wybodaeth am hyn. Petai sefyllfa yn codi lle bydd modd
buddsoddi llai e.e, mewn tanwydd ffosil, bydd hyn yn cael ei ystyried; bod
Cronfa Gwynedd yn ymwybodol o’r cyfeiriad sydd wedi ei osod ac felly yn
gweithio tuag at hyn.
Ategodd
Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod gan y Pwyllgor gyfrifoldeb i sicrhau
cydbwysedd rhwng eu dyletswydd cyfreithiol i ymddwyn fel ymddiriedolwyr er lles
gorau i eraill ynghyd ag ystyried cyfrifoldebau amgylcheddol a newidiadau i’r
hinsawdd. Y bwriad yw gwneud camau bychain drwy ymgysylltu yn hytrach na dadfuddsoddi, gyda rhesymeg, y gall buddsoddwyr ddylanwadu
cwmnïau a gyrru newid wrth i’w diddordeb newid. Mewn ymateb i sylw am gyngor Hymans Robertson, nodwyd bod cyfrifoldeb ar y cwmni i
gyflwyno'r cyngor gorau a’r cyngor cywir i ymddiriedolwyr y gronfa a phetai
sefyllfa yn codi lle na fydd ymddiriedaeth yn eu cyngor, yna bydd modd canfod
ymgynghorwyr newydd.
PENDERFYNWYD derbyn
y wybodaeth
Dogfennau ategol: