Agenda item

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd fod y collfaranu yn rai hanesyddolmewn cyfnod pan oedd yn ifanc a ffôl. Amlygodd bod ganddo brofiad o weithio fel gyrrwr tacsi a‘i fod wedi cael cynnig gwaith gyda chwmni lleol. Ategodd ei fod wedi gweithio gyda chwmni Cross Rail am flynyddoedd lle roedd gwiriadau manwl yn cael eu gwneud i sicrhau ei addasrwydd i’r swydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham nad oedd wedi cydnabod y collfarnau ar ei ffurflen gais, nododd bod y gollfarn olaf wedi digwydd yn 1987 (36 mlynedd yn ôl) ac ystyriodd felly y byddai'r rhain bellach wedi dod i ben. Ymddiheurodd nad oedd yn ymwybodol bod collfarnau hanesyddol yn parhau i gael eu hystyried wrth wneud cais am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Datganiad DBS

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn mis Ionawr 1970, derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am Ymosodiad Cyffredin Ditiadwy yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.42 + A.47 a byrgleriaeth a lladrata o annedd yn groes i Ddeddf Dwyn 1968.9 (1)(B). Cafodd ddedfryd yn Llys Ieuenctid Caernarfon ac fe'i hanfonwyd i Ganolfan Gadw am dri mis. 

 

Yn mis Ebrill 1982 derbyniodd gollfarn am drin eiddo wedi’i ddwyn, yn groes i Ddeddf Dwyn 1968 A.22 ac achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861. Cafodd ddedfryd yn Llys Ynadon Gwyrfai a derbyniodd ddedfryd ohiriedig o 2 flynedd.

 

Ym mis Mai 1983 derbyniodd gollfarn am gyflawni Ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47. Derbyniodd ddirwy gyda chostau am y drosedd hon.

 

Yn mis Ebrill 1984 cafodd gollfarn a'i ddedfrydu i garchar ar 7 o achosion gan gynnwys -  

      Byrgleriaeth a Lladrata o annedd yn groes i Ddeddf Dwyn 1968 S.9 (1)(B)

      Byrgleriaeth a Lladrata o annedd Deddf Dwyn 1968 A.9 (1)(B)

      Trin nwyddau wedi’u dwyn - Ddeddf Dwyn 1968 A.22

      Torri Dedfryd Ohiriedig - Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol 1973 A.23.

      Lladrata - Deddf Dwyn 1968 A.1

      Trin nwyddau wedi’u dwyn - Ddeddf Dwyn 1968 A.22

 

Yn mis Mawrth 1985 derbyniodd gollfarn am wyrdroi cwrs cyfiawnder yn groes i gyfraith gyffredin a derbyniodd ddedfryd carchar 15 mis.

 

Yn mis Mehefin 1987 derbyniodd gollfarn am gyflawni Ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47, a derbyniodd ryddhad amodol gyda chostau.

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.2 yn nodi, bod unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o leiaf. Fodd bynnag, o ystyried ystod y troseddau sy'n ymwneud â thrais, rhaid rhoi ystyriaeth i natur y drosedd.

 

Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill, lladrata.

 

Mae paragraff 16.1 o’r Polisi yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad yr ymgeisydd o’i amgylchiadau ac argymhelliad y swyddog Trwyddedu i ganiatáu’r cais.

 

O dan bolisi’r awdurdod ystyriwyd bod digon o amser wedi mynd heibio ers y gollfarn ddiwethaf i ystyried caniatáu’r drwydded. Noder y Polisi bod gofyn am o leiaf 10 mlynedd fynd heibio wrth ystyried collfarnau megis trais, anonestrwydd ac ail droseddu mewn achosion sydd yn ymwneud â diffyg parch at les eraill neu o ran eiddo. Er bod hanes helaeth o droseddu yma, roedd 36 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn ddiwethaf. Ystyriodd yr Is-bwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn y gwrandawiad, y ffaith nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw hanes pellach o droseddu nac unrhyw dystiolaeth o broblemau perthnasol eraill. Nid oedd sail felly i wrthod y cais.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.