Agenda item

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Ategwyd mai cais i adnewyddu trwydded gyrrwr Hacni / Hurio preifat oedd wedi ei gyflwyno a bod yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau goryrru ar ei gais.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb a dderbyniodd yr ymgeisydd am oryrru. Nododd fod yr ymgeisydd yn y swyddfa, ond ei fod yn sâl gyda covid. Petai angen i’r aelodau glywed gan yr ymgeisydd byddai modd trefnu ystafell arall ar ei gyfer. Adroddwyd ei fod yn derbyn bod y ddau achos yn agos at ei gilydd a bod yr ymgeisydd yn ymddiheuro am hynny. Nododd bod yr ymgeisydd yn yrrwr profiadol a bod peidio â gweithio dros y 6 wythnos ddiwethaf wedi teimlo fel cosb - wedi colli cyflog ag yntau’n brif enillydd y teulu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd yr ymgeisydd wedi datgan ei bwyntiau cosb yn mis Mai a Mehefin, a bod hynny yn amod ar drwydded unrhyw yrrwr cerbyd hacni / hurio preifat, derbyniwyd y dylai’r manylion fod wedi eu rhannu gyda’r Uned Drwyddedu, ond bod yr ymgeisydd hefyd wedi meddwl y byddai’n cael cais i fynychu cwrs   ymwybyddiaeth cyflymder.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar cynrychiolydd yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Mai 2021, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus - y pwyntiau hyn yn dod i ben Mai 2024. 

 

Yn Mehefin 2021, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus - y pwyntiau hyn yn dod i ben Mehefin 2024

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae rhan 13 o'r Polisi yn ymwneud a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi

 

Mae paragraff 13.3 o’r Polisi yn nodi y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig os oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru. Mae’n bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig ei gyfeirio at sylw'r Pwyllgor Trwyddedu os oes mwy na dwy drosedd ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar ei drwydded”

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad cynrychiolydd a darpar gyflogwr yr ymgeisydd o’r amgylchiadau ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu i ganiatáu’r cais. Roedd 2½ blynedd bellach wedi mynd heibio heb ail droseddu ac roedd yr ymgeisydd wedi cydnabod ei fai ac mai camgymeriad oedd peidio rhoi gwybod i’r Uned Trwyddedu yn gynt am ei bwyntiau cosb.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.