Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
wybodaeth berthnasol.
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor roi sylw i Bolisi'r Cyngor a Chanllawiau'r Sefydliad Trwyddedu
ar ddiogelwch ac addasrwydd yr unigolyn cyn gwneud
penderfyniad i gymeradwyo trwydded ai peidio.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y digwyddiadau. Amlygodd ei rwystredigaeth wrth wneud cais
drwy gamddehongli gwybodaeth oedd wedi ei dderbyn
ynghyd a methu deall y broses cofrestru, ac o orfod talu ffioedd
a chostau DBS ymlaen llaw. Ategodd bod
yr ymddygiad allan o gymeriad ac ar
y pryd roedd yn mynd drwy
gyfnod anodd yn ei fywyd
- os na allai gael gwaith byddai’n ddigartref. Nododd ei fod
wedi dysgu o’r broses a’i
fod wedi cael cynnig gwaith,
os byddai’r drwydded yn cael ei
chymeradwyo. Ei ddymuniad, i’r dyfodol oedd darparu
cludiant i’r anabl.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
·
Yn Awst 2023 ymwelodd yr ymgeisydd â swyddfeydd y
Cyngor gan siarad ag aelod o staff mewn modd amhriodol ac ymosodol. Roedd ei
ymddygiad wedi arwain at aelod profiadol o staff derbynfa’r swyddfeydd i wneud
achos i adrodd am y mater yn ffurfiol ar ffurflen HS11 i'w rheolwr llinell ac
i’r Adran Adnoddau Dynol. Cafodd fersiwn dienw o'r ffurflen ei rannu gyda'r
Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu; gan ei fod yn ymwneud â chais gyrrwr tacsi.
·
Ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad, dychwelodd yr
ymgeisydd i swyddfeydd y Cyngor, a daeth dau swyddog trwyddedu i’w gyfarfod
gyda achos i'w gynghori mai fel ymgeisydd ar gyfer trwydded gyrrwr tacsi, bod
ei ymddygiad yn fater perthnasol, ac nad oedd ymddygiad gwael tuag at
swyddogion y Cyngor yn dderbyniol. Nododd yr ymgeisydd yn ei ymateb ei fod yn
teimlo'n rhwystredig nad oedd y broses ymgeisio yn syml a'i fod eisiau dechrau
ennill bywoliaeth. Ymatebodd y swyddog bod nifer o wiriadau'n angenrheidiol er
mwyn sicrhau bod unigolyn yn 'berson addas a phriodol'.
·
Yn Hydref 2023, ffoniodd yr ymgeisydd y swyddog
trwyddedu o swyddfeydd Siop Gwynedd, a oedd yn ei gynorthwyo gyda'r cais.
Unwaith eto, roedd ymddygiad yr ymgeisydd yn annerbyniol; rhegodd ar y swyddog
dros y ffôn a cholli ei dymer. Bu rhaid i staff Siop Gwynedd ymyrryd a chynnal
y sgwrs ar y ffôn gan fod yr ymgeisydd wedi colli ei dymer.
CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI
·
Yn ogystal ag ystyried unrhyw gymalau perthnasol ym
Mholisi Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr y Cyngor, mae'n
ddisgwyliedig i'r is-bwyllgor ystyried Canllawiau'r Sefydliad Trwyddedu (IOL)
ar benderfynu addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai'r diwydiant hacni a hurio preifat. Nod Trwyddedu Awdurdodau Lleol ar
dacsis a cherbydau hurio preifat ydy diogelu'r cyhoedd, gyda hyn mewn cof,
rhaid i Ddiogelu’r Cyhoedd fod ar flaen meddwl y sawl sy'n penderfynu os yw’r
unigolyn yn 'berson addas a phriodol' i gael trwydded ai peidio.
·
Mae paragraff 3.26 Canllawiau'r Sefydliad Trwyddedu
yn nodi "bod angen i gymeriad y gyrrwr yn ei gyfanrwydd fod o ystyriaeth
bennaf wrth ystyried a ddylent gael trwydded".
·
Mae paragraff 3.32 yn ymhelaethu bod "disgwyl
i drwyddedai arddangos ymddygiad proffesiynol priodol bob amser; boed yng
nghyd-destun eu gwaith neu fel arall. Dylai trwyddedai fod yn gwrtais, osgoi
gwrthdaro, a pheidio â bod yn dreisgar" ac "mae disgwyl i drwyddedai
ymddwyn gyda gonestrwydd ac arddangos ymddygiad sy'n gweddu i'r ymddiriedaeth a
roddir iddynt."
·
Mae paragraff 4.10 y Canllawiau yn nodi "Wrth
benderfynu ar ddiogelwch ac addasrwydd, mae gan yr Awdurdod Trwyddedu hawl i
ystyried yr holl faterion sy'n ymwneud â'r ymgeisydd neu drwyddedai. Nid ydynt
yn syml yn bryderus gydag ymddygiad y person wrth weithio yn y diwydiant
cerbydau hacni a hurio preifat. Mae'r ystyriaeth hon
yn llawer ehangach na chollfarnau troseddol yn unig neu dystiolaeth arall o
ymddygiad annerbyniol, a bydd cymeriad yr unigolyn yn ei gyfanrwydd cael ei
ystyried. Gall hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, ymddygiad a natur yr
unigolyn."
CASGLIADAU
Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn
bod ymddygiad yr ymgeisydd tuag at swyddogion y Cyngor yn hollol annerbyniol.
Wrth dderbyn ei fod yn
teimlo’n rhwystredig gyda’r broses, nid oedd hynny’n esgus
dros ymddwyn yn y fath fodd
ac er yn cydnabod ei amgylchiadau personol a’r pwysau
oedd arno i ennill bywoliaeth,
nid oedd hynny yn cyfiawnhau
ymddygiad o’r fath. Er hynny, roedd yr Is-bwyllgor yn croesawu'r ffaith
fod yr ymgeisydd yn cydnabod nad
oedd ei ymddygiad
i fyny i'r
safonau a ddisgwylid.
Yn absenoldeb unrhyw gollfarnau ac unrhyw ddarpariaethau penodol manwl ym mholisi’r
awdurdod ystyriodd yr Is-bwyllgor y cais yng nghyd-destun pwrpas sylfaenol y gyfundrefn drwyddedu sef diogelu’r cyhoedd.
Ystyriwyd yn benodol y prawf, a fyddai’r aelodau yn fodlon i
ganiatáu i aelod agos o’u
teulu, megis e.e, mab neu ferch
neu bartner, deithio mewn cerbyd, ar ben eu hunain,
gyda’r ymgeisydd. Wedi cyfarfod yr ymgeisydd yn y gwrandawiad a chlywed beth oedd ganddo
i ddweud, daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad ei
fod yn bodloni’r
prawf hwnnw.
Wedi pwyso a mesur yr holl ffactorau yn ofalus, daethpwyd
i benderfyniad bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol
i ddal trwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Serch hynny roedd yr Is-bwyllgor yn dymuno
atgoffa’r ymgeisydd y gall
yr Awdurdod Trwyddedu Lleol
atal neu ddiddymu trwydded os bydd
unrhyw ymddygiad annerbyniol yn dod i’w sylw
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd