Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gruff Williams

 

Sut y gwnaeth Cabinet y Cyngor hwn gytuno â Chyngor Môn i beidio a gwneud y Gymraeg yn amcan o Gynllun Llesiant ar y Cyd newydd?

 

Ateb – Arweinydd y Cyngor – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Yn gyntaf dylid nodi fod yr iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd ers ei sefydlu yn ôl yn 2015. Fel ag y nodir yng nghylch gorchwyl y Bwrdd .....’Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Fe fydd pob aelod yn paratoi adroddiadau yn ddwyieithog.’

 

Mae gofyn statudol i’r Bwrdd gyhoeddi Cynllun Llesiant a sefydlu amcanion llesiant pob 5 mlynedd. Golyga hyn fod y Cynllun Llesiant newydd (2023-28) ar gyfer Gwynedd a Môn yn gosod amcanion ar gyfer y 5 mlynedd nesaf yn unig. Fe gofiwch i’r Cynllun hwnnw gael ei gymeradwyo gan y Cyngor hwn ar y 4 o Fai y llynedd. Adnabuwyd tri amcan ar gyfer y cyfnod dan sylw yn seiliedig ar ganlyniadau’r asesiadau llesiant a gwblhawyd yn 2022. Tra bod Amcanion Llesiant yn newid dros amser tydi ymrwymiad y Bwrdd i flaenoriaethu’r iaith Gymraeg ddim yn newid.

 

Datblygwyd yr amcanion ar y cyd hefo holl aelodau’r Bwrdd ac mae’r Cynllun Llesiant wedi ei gymeradwyo yn ffurfiol gan yr holl aelodau statudol, sef Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Tan ac Achub Gogledd Cymru.

 

Dyma ddyfyniad o Gynllun Cyflawni 2023/24 y Bwrdd sy’n gosod allan y flaenoriaeth i’r Gymraeg ac i’r amcanion am y pum mlynedd dan sylw:

Dyma ein blaenoriaeth parhaol:

Mae’r iaith Gymraeg yn flaenoriaeth parhaol i’r Bwrdd ac rydym yn ei hyrwyddo ym mhob maes o’n gwaith

Dyma ein Amcanion Llesiant am y cyfnod 2023-28:

·         Rydym am weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.

·         Rydym am weithio gyda’n gilydd i wella lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn botensial.

·         Rydym am weithio gyda’n gilydd i gefnogi ein gwasanaethau a’n cymunedau i symud tuag at Sero Net Carbon.

Rydym fel Bwrdd wedi cytuno i ddilyn methodoleg System Gyfan a Pwysa Iach/Cymru Iach fel llinyn euraidd drwy’r gwaith yma.

 

Cyfeiriwyd at ddarlun oedd wedi ei gyhoeddi yn yr ateb ysgrifenedig oedd yn gosod allan yr uchod gyda’r iaith Gymraeg yn y canol yn treiddio drwy holl waith y Bwrdd.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gruff Williams

 

O ystyried yr hyn rydych wedi ei nodi, fedrwch chi gadarnhau felly os ydi’r Gymraeg yn rhy bwysig i fod yn amcan llesiant neu ddim digon pwysig i fod yn amcan llesiant?

 

Ateb – Arweinydd y Cyngor – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Mae’r Gymraeg yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud yn y Cyngor ac nid yw’n ffitio fewn i un bocs penodol. Ni chredaf ei fod yn gwestiwn y gellir ei ateb efo ia neu na, dim ond nodi fod y Gymraeg yn dreiddiol drwy’r Cyngor.

 

(2)   Cwestiwn Y Cynghorydd Angela Russell

 

Mae’r gwasanaeth bysus hwyr y nos o Bwllheli i ardaloedd gwledig Llŷn wedi bod yn fendithiol i lawer iawn o’r boblogaeth yma yn Nwyfor dros y degawdau ac yn fodd i bobl unig cael mynd i gymdeithasu i’r dref unwaith yr wythnos. Ers cyfnod y clo ni welwyd y gwasanaeth yma yn ail gychwyn.

 

Hoffwn ofyn wrth yr aelod cabinet pa gamau sydd wedi’u cymeryd gan yr Adran Drafnidiaeth i ddwyn perswâd ar y cwmnïau bysus i ail gychwyn y gwasanaeth hwyr y nos o Bwllheli i Aberdaron / o Bwllheli i Nefyn?

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Diolch am y cwestiwn a cydymdeimlaf, rwy’n colli gweld trefniadau o’r fath yn ogystal. Ar sail genedlaethol, mae’n amser heriol iawn i’r diwydiant bysiau am sawl rheswm. Mae costau darparu gwasanaethau wedi codi yn sylweddol, mae yna bremiwm ar adnoddau ac mae’n anodd ennyn defnydd digonol a parhaus i wneud rhai gwasanaethau yn hyfyw. Yn anffodus, ond yn anorfod, golyga hyn fod darparu gwasanaethau tu allan i amseroedd craidd yn enwedig, gan gynnwys gyda’r nos, wedi mynd yn fwyfwy anodd sydd yn cynnwys, mewn rhai achosion, oherwydd diffyg gyrwyr i ymgymryd â’r gwaith.

 

Mae’r Uned Trafnidiaeth yn gweithio’n agos gyda darparwyr, ynghyd a rhanddeiliaid allweddol eraill megis Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, gyda’r bwriad o uchafu cyfleoedd teithio a darparu gwasanaethau sydd yn ariannol ac amgylcheddol gynaliadwy. Mae adolygiad estynedig o’r gwasanaethau bws lleol sydd yn cael eu darparu ar ran y Cyngor wedi ei gynnal. Yn dilyn y gwaith yma ac er yr heriau a chynnydd sylweddol yng nghostau, mae gwasanaethau ar ei newydd wedd erbyn hyn wedi eu comisiynu ac yn gweithredu yn ardaloedd Caernarfon, Dyffryn Nantlle a Meirionnydd. Mae proses pwrcasu ar gyfer gwasanaethau yn ardal Dwyfor yn mynd rhagddo a’r ffocws, yn y lle cyntaf, yw edrych i gynnal lefel o ddarpariaeth ar gyfer pwrpasau ac yn ystod amseroedd craidd.

 

Yn anffodus, mewn rhai ardaloedd o Gymru, mae yna gwtogi a rhesymoli sylweddol a chyffredinol o wasanaethau bws wedi mynd rhagddo gyda mwy yn debygol. Y gobaith yw y byddwn yn medru parhau i wrthsefyll hyn yng Ngwynedd.

 

Does gan y Cyngor ddim dylanwad uniongyrchol ar weithrediad gwasanaethau mae cwmnïau bws yn dewis eu darparu ar sail fasnachol. Mae amserlenni'r gwasanaethau mae’r Cyngor yn eu comisiynu yn seiliedig ar wneud y mwyaf o adnoddau er mwyn cwrdd ag anghenion craidd, yn y lle cyntaf, gan gymryd i ystyriaeth y cyfyngiadau a heriau cyllidebol.

 

Mae rhwydweithiau bysiau yn ddeinamig ac yn medru newid. Bydd swyddogion yn parhau yn eu hymdrechion i uchafu cyfleoedd teithio ar gyfer trigolion Gwynedd gyda’r cyllidebau ac adnoddau sydd ar gael. Er yn annhebyg iawn yn yr hinsawdd sydd ohoni, pe bae cyfle i adfer gwasanaeth gyda’r nos rhwng Pwllheli ac ardaloedd ym Mhen Llŷn yna byddwn yn edrych yn gadarnhaol ar hyn. Mae’r rhesymau dros gynnal gymaint o gyfleoedd teithio am gymaint o wahanol resymau a phosib yn niferus a chryf ond yn anffodus, er gwaetha’r dymuniad a ymdrechion gorau, ni fydd modd cwrdd â chyfarch pob angen, galw a dyhead.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Angela Russell

 

Diolch am yr ymateb. Rydym yn trafod heddiw'r pwysigrwydd o gadw pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud. Hoffwn nodi bod y bws yma yn arfer bod yn llawn. Rwyf yn erfyn arnoch i ail edrych ar y mater gan ein bod yn son am iechyd meddwl pobl oherwydd diffyg gallu cymdeithasu. Mae’n ddyletswydd arnom i helpu pobl. Pe baech yn cymharu sefyllfa Pen-Llŷn efo Bangor neu Gaernarfon byddwch yn gweld bod yna lawer llai o fysiau yn rhedeg yma. Gofynnaf i Dafydd Meurig ail edrych ar hyn.

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Rwyf yn cydymdeimlo. Mae’r gwasanaethau yn Nwyfor yn cael eu tendro ar hyn o bryd, cawn weld be ddaw o’r broses yno.

 

(3)     Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

Yn ddiweddar deallaf bod Pwyllgor Mynwent wedi derbyn hysbys gan y Cyngor yn nodi rheoliadau ar gyfer gwastraff masnachol i rannu gwastraff o fewn y biniau. Gan ystyried fod aelodau pwyllgorau o’r fath yn gweithredu yn ddi-dâl a chydag aelodau/ymddiriedolwyr oedrannus a bod bwlch o wahaniaeth rhwng natur gweithgarwch pwyllgor mynwent a busnes stryd fawr, tybed os oes gan y Cyngor hwn gynllun ar waith i hwyluso neu i liniaru’r gofynion hyn ar eu cyfer?

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Diolch am y cwestiwn sydd yn gwestiwn digon teg yn dilyn nwid yn y ddeddfwriaeth. O fis Ebrill 2024, bydd Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd Llywodraeth Cymru yn dod i rym. Bydd angen i bob eiddo annomestig wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth wastraff arall. Mae'r rheolau newydd hyn yn berthnasol i bob busnes a'r sectorau cyhoeddus ac elusennol. Rydym wedi derbyn cadarnhad bod mynwentydd yn disgyn o dan y Rheoliadau hyn hefyd.

 

Pwrpas y Rheoliadau yw gwella ansawdd a maint y gwastraff ailgylchadwy masnachol sy'n cael ei gasglu a'i wahanu ledled Cymru. Perchennog yr eiddo fydd yn gyfrifol am yr holl wastraff ar y safle; mae hyn yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan ymwelwyr.

 

Bydd gan y Cyngor yr hawl i wrthod casglu'r gwastraff cyffredinol os yw'n cynnwys gwastraff ailgylchadwy. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gorfodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a gallwn fel Cyngor dderbyn dirwy o £500 os cawn ein dal yn casglu gwastraff sy’n cynnwys deunyddiau ailgylchadwy.

 

Rydym wedi codi’r mater yma efo Cyfoeth Naturiol Cymru ond nid oeddent yn rhagweld y byddai’r mathau gwahanol o’r eitemau sydd yn orfodol i’w hailgylchu yn cyrraedd y biniau hyn. Fodd bynnag, mae disgwyliad i berchennog y bin wneud ymdrech i sicrhau nad oes eitemau a ellir eu hailgylchu, megis papur, plastigion a chaniau metel yn cael eu gwaredu yn y bin cyffredinol. Ar hyn o bryd byddai’n ddigonol a rhesymol gosod arwydd ar y bin yn nodi mai gwastraff cyffredinol o’r fynwent yn unig a ddylid ei waredu yn y bin.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried bod y Pwyllgor Mynwent lleol i mi wedi cael braw wrth dderbyn set o reoliadau heb eglurhad, rwyf yn gofyn a oes yna fodd i’r Cyngor ohebu ymhellach efo Pwyllgorau Mynwentydd gan argymell yr hyn allant ei wneud i fodloni’r rheolau e.e. gosod arwydd.

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Cytunaf a’r hyn rwyt yn ei nodi gan gydnabod efallai bod ieithwedd dechnegol ddim yn addas mewn rhai achosion. Rwyf yn hapus i ofyn i’r Adran ysgrifennu eto at  y Pwyllgorau Mynwentydd yn esbonio yn union beth sydd angen iddyn nhw ei wneud a sut.

 

(4)     Cwestiwn Y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

Faint o swyddi sydd yn wag yn Adrannau Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd, a pha fesurau sydd ar waith er mwyn sicrhau

·         Nad yw’r cyhoedd yn derbyn gwasanaeth salach oherwydd prinder gweithwyr;

·         Nad yw staff presennol yn gorfod ysgwyddo baich ychwanegol i gwrdd â diffygion staffio Adrannau, gan greu straen personol a morâl isel;

·         Bod strategaeth ar waith i leihau’r trosiant staff, (gan gynnwys o bosib’ edrych ar raddfeydd cyflogaeth a disgrifiadau swydd)?

 

Ateb – Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, Y Cynghorydd Menna Trenholme

 

Ar y cyfan, mae lefel trosiant staff yn y Cyngor hwn wedi bod yn sefydlog a chymharol isel ers blynyddoedd lawer, ac yn is na sectorau eraill o’r economi. Er enghraifft roedd y lefel yn 8.5% yn 2021/22 ac yna yn 8.1% yn 2022/23. Wedi dweud hynny, mae yna amrywiaethau o fewn adrannau, sydd yn golygu fod rhai rhannau o’r Cyngor yn profi problemau gyda chadw staff.

 

Nid tasg hawdd yw dod i gasgliad ar nifer y swyddi sydd yn wag mewn cyfundrefn mor fawr a chymhleth â’r Cyngor, ond fe wyddom am y prif feysydd gwaith sydd wedi bod yn profi problemau dros y flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft, mae yna heriau wedi bod ym meysydd gwaith cymdeithasol a gofalu yn ehangach, gweinyddiaeth, cyllid a pheirianneg. Mae’n fater o ffaith bod awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru yn profi yr un math o broblemau, ac yn ychwanegol i hynny rydym ni wrth gwrs yn dymuno i’n staff i gyd allu cyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn i gyd yn creu her fawr i’r sector llywodraeth leol ar hyn o bryd.

 

Rydym ni fel Cyngor eisoes yn cymryd camau i ddeall mwy am y sefyllfa ac i ymateb. Rydym wedi cyflwyno proses o roi’r cyfle i staff gwblhau holiaduron gadael a chyfweliadau, pan eu bod yn ymddiswyddo o’u swydd. Mae nifer o adrannau hefyd wedi cymryd y cyfle i adolygu strwythurau a swydd ddisgrifiadau. Mae hynny mewn rhai sefyllfaoedd wedi arwain at newid graddfeydd cyflog er mwyn sicrhau fod yr hyn sydd yn cael ei dalu yn adlewyrchu lefel y cyfrifoldebau. Er enghraifft, y llynedd bu i’r Cyngor hwn gymeradwyo pecyn ariannol oedd yn sail i gynyddu cyflogau y staff hynny sydd yn gweithio fel gofalwyr yn ein cartrefi preswyl ac yn y gymuned. Rhaid cofio wrth gwrs bod gennym systemau tâl sydd yn ein gwarchod o safbwynt deddfwriaeth cyflog cyfartal, ond mae modd cyflwyno newidiadau o fewn y system honno.

 

Mae’n bwysig cofio hefyd wrth gwrs fod yna bob math o resymau posib pam fod staff yn dewis y Cyngor fel eu cyflogwr, neu fel arall yn gadael. Mae’r ffactorau hynny yn cynnwys y cyflog, ond hefyd y pecyn buddion ehangach; y nifer dyddiau gwyliau er enghraifft, y cynllun pensiwn cadarn ac atyniadol sydd ar gael, a’r trefniadau gweithio hyblyg sydd yn opsiynau posib. Gall cyfrifoldebau’r swydd, y llwyth gwaith a’r pwysau gwaith hefyd ddylanwadu ar benderfyniadau unigolion. Credwn hefyd fod lles ein staff yn bwysig ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y pwyslais rydym fel cyflogwr wedi ei roi ar hynny ers blynyddoedd bellach.

 

Mae yna nifer fawr o ffactorau yn gweu i mewn i’r darlun hwn, ac yn hynny o beth mae arolwg wedi ei gynnal yn ddiweddar o farn staff ar y Cyngor fel eu cyflogwr, o dan y teitl ‘Holiadur Llais Staff’. Eisoes cyhoeddwyd y canlyniadau ymhlith adrannau, ac ar y cyfan mae’n amlwg fod y mwyafrif o’n staff yn ystyried y Cyngor fel cyflogwr gofalgar sydd yn cynnig cyfleoedd i staff ddatblygu ac sydd yn rhoi llesiant ar flaen yr agenda. Wedi dweud hynny mae yn y canlyniadau nifer o negeseuon pwysig i ni eu hystyried wrth symud ymlaen.

 

Mae’n anochel y gall unrhyw broblemau recriwtio a chadw staff arwain at darfu ar ddarparu gwasanaethau am gyfnod. Mae’r wasgfa gyllidol, ac effaith posib hynny ar swyddi, yn cyfrannu at hyn hefyd wrth gwrs. Rydym hefyd yn llwyr ymwybodol na ellir cymryd mantais o ewyllys da staff sydd yn rhoi o’u gorau i gyflawni gwasanaethau; dyna pam fod yna gymaint o bwyslais ar gefnogi llesiant ein staff a pham hefyd ei bod yn bwysicach nag erioed i sicrhau’r balans rhwng gwneud hynny ond hefyd cyflenwi gwasanaethau’r angenrheidiol i’r safon uchaf bosib i drigolion y sir.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

Diolch am ateb gonest, yn cydnabod bod problemau staffio a bod gwaith angen ei wneud. Nodaf mai 8.1% oedd cyfartaledd trosiant swyddi llynedd. Hoffwn wybod pa Adran sydd â’r canran trosiant staff uchaf ar hyn o bryd a gofyn beth sy’n cael ei wneud i wella’r sefyllfa yn yr Adran honno gan sicrhau lles staff a gwasanaethau i’r cyhoedd? 

 

Ateb – Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, Y Cynghorydd Menna Trenholme

 

Fel a nodwyd yn yr ymateb i’r cwestiwn cyntaf, mae’r lefel trosiant yn amrywio o adran i adran. Hyd at ddiwedd mis Chwefror, yr adrannau â’r lefelau uchaf oedd Economi ac Adfywio, Cefnogaeth Gorfforaethol, Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Mae’r adrannau hynny yn rhagweithiol wrth geisio deall natur y rhesymau dros y canran trosiant, ac yn defnyddio technegau gwahanol o ran denu a phenodi staff. Mae hynny’n cynnwys gwneud defnydd o’r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion er mwyn cynllunio ymlaen i lenwi bylchau mewn swyddi allweddol.

 

Gwyddom fod pobl yn symud ymlaen am amrywiol resymau personol, gan gynnwys datblygiad gyrfa, mynd yn ôl i addysg, ymddeoliadau a chytundebau gwaith yn dod i ben, unai oherwydd bod y cytundebau yn cael eu hariannu trwy grantiau neu am eu bod yn swyddi tymhorol.

 

Ymhellach i hynny rydym yn adolygu'r math o risgiau hirdymor sydd yn wynebu ein gwasanaethau mewn perthynas â materion staffio. Bydd y dadansoddiad hwn yn sail i’n cynlluniau staffio am flynyddoedd i ddod. Mae’r angen i sefydlu cynlluniau staffio tymor hir yn bwysicach nag erioed, yn wyneb y wasgfa ariannol ac effaith hynny ar swyddi. Dyna pam fod y Prosiect Cynllunio’r Gweithlu yn flaenoriaeth i’r Cyngor hwn.

 

Fel rhan o’r prosiect hwnnw mae’r gwaith o ddatblygu a chodi ymwybyddiaeth am yr holl becyn cyflogaeth yn un parhaus, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyflogwr deniadol i ddarpar ymgeiswyr ond hefyd i’r staff hynny sydd wedi bod yn ffyddlon i’r Cyngor ers blynyddoedd. Er yn hollbwysig yn y cyfnod sydd ohoni, mae’n ymddangos o’r Holiadur Llais Staff diweddar nad cyflog yn unig sydd yn cyfrif, ac mae amgylchedd gwaith hapus a gofalgar, gyda chyfleoedd i ddatblygu mewn swydd a gyrfa yr un mor bwysig. Mae ein cynlluniau ni yn cwmpasu'r holl feysydd hyn. 

 

(5)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gareth Williams

 

Mae'r toriadau dirybudd i'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau yn destun pryder i nifer o ddisgyblion blwyddyn unarddeg yn Llŷn ac Eifionydd. O ystyried bod y naddu yma ar y ddarpariaeth ymhell o fod yn gyson â'r dyheadau yng Nghynllun Cyngor Gwynedd ynghylch rhoi'r cychwyn gorau i'n plant a'n pobl ifanc, a ddaru Grŵp Llandrillo-Menai ymgynghori â'r Cyngor cyn gwneud y newid yma i'r ddarpariaeth a pha drafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng y Cyngor a Grŵp Llandrillo-Menai i unioni'r sefyllfa?

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ni fu i Grŵp Llandrillo-Menai ymgynghori gyda’r Cyngor ynglŷn â newid i’r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau. Serch hynny mae sgyrsiau wedi eu cynnal yn ddiweddar er mwyn galluogi’r Cyngor i ddeall y cefndir a’r cyd-destun y tu ôl i’r toriadau.

 

Er mwyn darparu ateb cyflawn i’r cwestiwn, cyfeiriaf nawr at ymateb a dderbyniwyd gan Aled Jones-Griffiths, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai. Nid wyf am ddarllen yr ymateb cyfan. Cyfeiria’r paragraff cyntaf at y nifer fawr o brentisiaethau sydd ar gael sef dros 1300. Nodwyd bod yr ail baragraff yn manylu ar y penderfyniad rhwng Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru a’r newidiadau y cyfeiria’r Cynghorydd atynt yn ei gwestiwn.

  

Darllenaf weddill yr ymateb. “Rydym yn cydnabod nad yw y model uchod yn gweithio i bob dysgwr, yn enwedig rhai o ardaloedd gwledig. Er mwyn ymateb i hyn mae’n fwriad gennym i gynnig llwybr rhan amser(un diwrnod yr wythnos) yn y maes Adeiladwaith gan ddefnyddio cyllid Addysg Bellach yn hytrach na chyllid prentisiaeth i rhai sydd eisoes wedi cael lle gyda chyflogwr.  Golyga hyn bydd llwybr rhan amser i Adeiladwaith ar gael yn Medi gyfochrog a’r llwybr llawn amser a’r ddau lwybr yn arwain tuag at y brentisiaeth lefel 3 newydd. 

 

Fe gyhoeddwyd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar y 27 Chwefror ac felly nid oeddem am wneud datganiadau ar ein cynnig cwricwlaidd nes ein bod yn glir ar ein sefyllfa ariannol. Mae yn anffodus fod cam ddehongli newidiadau wedi digwydd yn y cyfamser a gwybodaeth anghywir yn cael ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol heb ddeall y pictiwr llawn.

 

Nid oes gofyn ymgynghori â’r Cyngor gan fod y ddarpariaeth sydd yn cael ei gynnig uchod yn adlewyrchu y ddarpariaeth sydd wedi bod ar gael i ddisgyblion 16 oed yn hanesyddol. Fe fyddai hefyd yn ddefnyddiol pe byddem yn aelodau o Grŵp Penaethiaid Uwchradd Gwynedd fel byddai yn bosib i ni eu cadw hwy yn gyfredol â newidiadau mewn addysg bellach.

 

Ym mhob maes arall sydd â phrentisiaeth ar lefel 2 fel pwynt mynediad, bydd y rheiny sy'n gadael ysgol yn gallu cael mynediad yn syth o'r ysgol fel sy'n wastad wedi digwydd.  Mae Peirianneg yn y categori yma.

 

Gobeithio bod hyn yn tawelu ofnau pobl ifanc a rhieni Llŷn. Mae nifer o rieni wedi bod yn trafod gyda ni yn ystod yr wythnos hon ac rydyn wedi tawelu ei hofnau wrth egluro y sefyllfa yn llawn iddyn nhw. Mae croeso i unrhyw un gysylltu gyda Grŵp Llandrillo Menai os am drafod ymhellach.”

 

Dyna yw ateb y Coleg. Hoffaf ychwanegu ymateb i’r cymal ynglŷn â pheidio bod yn aelod o’r Grŵp Penaethiaid Uwchradd. Mae’r Coleg yn derbyn gwahoddiad i’r Grŵp Cynllunio Strategol Uwchradd yn ôl yr angen ac mae yna gyfle iddyn nhw gysylltu i ofyn i gael dod ger bron y Penaethiaid fel y dymunant. Mae’r Adran a’r Ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth efo’r Coleg drwy’r consortiwm Addysg.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gareth Williams

 

Diolch i’r Cynghorydd am yr ateb. Mae’n dda deall fod y mater yma wedi ei ddatrys yn y byr dymor. Byddai'n braf cael sicrwydd ynglŷn â sefyllfa'r flwyddyn nesaf a’r flwyddyn wedyn. Fydd yr Adran Addysg yn pwyso i’r prentisiaethau hyn fod ar gael ar ôl eleni?

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

Rwyf yn hapus i fod yn rhan o unrhyw sgyrsiau ynglŷn â hyn ac rwyf yn ymwybodol fod yr Adran Addysg yn fodlon iawn i drafod efo’r Coleg o ran cynllunio i’r dyfodol. Yn amlwg trafodaethau rhwng y Llywodraeth a’r Coleg ydi’r elfen gyllidol.

 

Dogfennau ategol: