Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

1)    Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

2)    Nodi bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC eleni.

3)    Cymeradwyo trosglwyddiad o £4,241k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

1)    Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

2)    Nodi bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC eleni.

3)    Cymeradwyo trosglwyddiad o £4,241k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adolygiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2023/24, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod yr adolygiad yn awgrymu y bydd pob un o’r deg adran yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. Ychwanegwyd y bydd gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgyhgoriaeth Gwynedd.

 

Nodwyd fod yr adran yn rhagweld y bydd bwlch ariannol o £8.1m ac mae hynny i’w gymharu â £9.1m a nodwyd yn yr adolygiad ym mis Awst. Eglurwyd fod y sefyllfa filiwn yn well ond fod hyn o ganlyniad i ddefnydd o gronfeydd un-tro er mwyn helpu’r sefyllfa o fewn adrannau.

 

Amlygwyd y prif faterion fel a ganlyn:

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - Nodwyd fod rhagolygon diweddaraf yn awgrymu £5.4m o orwariant, sydd yn gyfuniad o nifer o ffactorau megis nifer o achosion newydd a chostus, costau staffio uwch a lefelau salwch a chyfraddau oriau digyswllt yn uchel.  Mynegwyd fod gwaith a gomisiynwyd gan y Prif Weithredwr bellach ar y gweill er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a chreu rhaglen glir i ymateb.

 

Adran Plant a Theuluoedd – eglurwyd fod sefyllfa ariannol wedi gwaethygu’n sylweddol ers adolygiad Awst, ac mae hyn o ganlyniad i gynnydd mewn costau pecynnau all-sirol. Nodwyd fod yr adran yn rhagweld gorwariant o £1.3m.

 

Adran Addysg – Nodwyd fod pwysau cynyddol ar y gyllideb cludiant  gyda gorwariant o £1.15m yn cael ei ragweld. Eglurwyd fod adolygiad strategol i geisio rheoli’r cynnydd ac i geisio lleihau’r gorwariant.

 

Byw’n Iach - mynegwyd fod Cofid wedi cael effaith ar Gwmni’n Byw’n Iach a nodwyd fod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a’r swm gofynnol wedi lleihau eleni i £350mil.

 

Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd – rhagwelir gorwariant o £780mil gan yr adran, nodwyd fod hyn o ganlyniad leihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu sydd wedi cael effaith negyddol ar incwm gwasanaethau priffyrdd. Nodwyd fod colledion incwm cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus hefyd yn ffactorau.

 

Adran Amgylchedd - nodwyd fod y tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau, eglurwyd fodd cylchdeithiau ychwanegol wedi arwain at orwariant costau cyflogaeth a chostau fflyd.

 

Adran Tai ac Eiddo – Eglurwyd fod tueddiad o bwysau  sylweddol ar wasanaethau llety dros dro yn parhau i fod yn ddwys iawn, ac eleni dyrannwyd £3m o bremiwm treth Cyngor ynghyd a dyraniad un tro  £1.2m o ddarpariaeth Covid corfforaethol i gyfarch y costau ychwanegol.

 

Corfforaethol -Nodwyd fod rhagdybiaeth ddarbodus wrth osod cyllideb 2023/24, lleihad mewn niferoedd sy’n hawlio gostyngiad treth cyngor wedi arwain at danwariant. Nodwyd fod effaith y polisi rheolaeth trysorlys presennol yn golygu fod modd osgoi benthyca yn allanol. Eglurwyd fod tanwariant ar gyllidebau eraill yn cynorthwyo i leddfu’r pwysau ychwanegol y cynnydd cenedlaethol i gyflogau gweithwyr a gadarnhawyd ym mis Tachwedd.

 

Nodwyd fod y sefyllfa yn golygu y bydd angen gneued defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor i gyllido’r bwlch ariannol o £8.1m. Mynegwyd ei bod yn gynamserol i drosglwyddo ariannol o’r cronfeydd nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol. Argymhellwyd mai’r drefn ar hyn o bryd fydd i ddefnyddio £3.8m o’r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid, ac yna’r gweddill i’w gyllido o Gronfa Strategaeth ariannol y Cyngor.

 

Eglurwyd fod yr eitem wedi ei drafod yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r wythnos ddiwethaf a nodwyd fod y sylwadau canlynol wedi’i godi. Nodwyd gan nifer o aelodau fod cyfeiriadau cyson at gynnal adolygiadau o fewn adrannau. Amlygwyd pryder gan yr aelodau fod diffyg amserlen i adrodd yn ôl o’r adolygiadau ac felly fod risg o’r mater yn llithro. Mynegwyd awydd i’r Cabinet bwyso am amserlen ble mae’n briodol. Tynnwyd sylw at gwestiynau am grantiau, ac yn benodol os yw’r trefniadau grantiau cenedlaethol yn golygu fod y Cyngor yn dibynnu ar yr arian ac o ganlyniad yn gwario arian refeniw mewn meysydd nad ydynt o reidrwydd yn faes blaenoriaeth y Cyngor. Eglurwyd fod y trefniadau grant yn golygu fod yna fan reoli gan y Llywodraeth, ond fod cynlluniau ar y gweill i ddod a mwy o grantiau i mewn i’r setliad sydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i flaenoriaethu.

 

Holwyd am gynaladwyedd y sefyllfa, gan nodi na all y lefel yma o orwariant barhau. Pwysleisiwyd fod bidiau refeniw ar gyfer cyllideb 2024/25 yn mynd i’r afael a gorwariant, a'u bod yn cwbl hanfodol. Eglurwyd fod y bidiau wedi bod yn destun herio manwl er mwyn sicrhau eu bod yn ymdrin â gwir achosion o ddiffygion cyllideb ac nid methiant i reoli cyllideb.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Bu i’r Prif Weithredwr ychwanegu fod yr adroddiad yn cyfeirio at orwariant, ond pwysleisiwyd fod y dystiolaeth yn amlygu mai’r gyllideb sydd yn rhy isel ac nid yw’r gwariant yn wariant ofer. Esboniwyd fod yr adolygiad ar orwariant yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi dod i gasgliad ac wedi adrodd cyn y Nadolig sydd wedi adnabod pump i chwe maes sy’n gorwario a fydd yn cael cymorth drwy’r drefn bidiau. Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi gofyn am gymorth gan  Gymdeithas Llywodraeth Leol i edrych ar y gorwario yn y maes Gofal Cymdeithasol rhag ofn fod y Cyngor wedi methu rhywbeth. Nodwyd fod adolygiad ar y gweill ar gyfer edrych ar  Gludiant Ysgolion ac y bydd camau yn ei lle ar gyfer blwyddyn ariannol nesaf. O ran yr adolygiad Gwastraff mynegwyd eu bod wedi adrodd ar y gwaith a bod y camau gweithredu wedi gweld y gorwariant yn haneru ar gyfer eleni, ac felly yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

·         Ategwyd y bydd adroddiad ym mis Ebrill yn rhoi rhagolygon ar gyfer y tymor canolog, ac ar hyn o bryd eu bod yn rhagweld yn go ddu, ble y bydd yn debygol iawn y bydd angen gwaith manwl i weld beth sydd modd eu cyflawni o fewn y gyllideb honno.  Pwysleisiwyd fod y dyfodol yn  edrych yn llawer gwaeth ‘na’r presennol a bod hyn yn neges genedlaethol.

·         Eglurwyd fod y Cyngor wedi cyflawni bron i £40m o arbedion ers 2016, sydd yn bron i 10% o gyllideb y Cyngor.

·         Amlygwyd fod yr adroddiad yn nodi fod y nifer o ail gartrefi sy’n destun premiwm wedi lleihau ers y llynedd ynghyd a gostyngiad o dai sy’n trosi i fod yn destun treth busnes. Holwyd os yw rhai yn batrymau sydd i’w gweld ac os bydd yn parhau i ddisgyn. Nodwyd fod gostyngiad yn raddol yn y tai sy’n destun premiwm a bod tueddiad wedi gwyrdroi o ran eiddo sy’n trosglwyddo i dreth busnes, gyda mwy o eiddo yn troi yn ôl i fod yn eiddo preswyl. Er hyn, nodwyd fod cynnydd wedi bod mewn nifer tai sy’n derbyn disgownt person sengl, ac yn destun adolygiad parhau.

 

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: