Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Nodwyd er mwyn cau bwlch ariannol eleni roedd angen gweithredu gwerth £7.6m o arbedion  yn ystod 2023/24. Roedd yn gyfuniad o bron i filiwn oedd wedi ei gymeradwyo yn flaenorol, arbedion ar gyfer Ysgolion o £1.1m, £3m ar gyfer adrannau’r Cyngor a £2.4m pellach drwy adolygu polisi ad-dalu dyled cyfalaf y Cyngor.

 

Amlygwyd dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd trafferthion i wireddu arbedion mewn rhai meysydd hyn amlycaf yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yn y maes Gwastraff. Mynegwyd y bu i werth £2m o gynlluniau oedd a risgiau sylweddol i gyflawni eu dileu fel rhan o Adolygiad Diwedd Awst.

 

Eglurwyd fod 98% o’r Cynlluniau o 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2023/24 bellach wedi ei gwireddu sef £33.7m o’r £34.3m. O’r cynlluniau newydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol nodwyd fod 81% wedi ei gwireddu a 6% pellach ar drac i’w gyflawni’n amserol. Eglurwyd fod ychydig o oediad i wireddu gwerth £694k o gynlluniau arbedion, ond nid yw’r Adrannau yn rhagweld problem i’w gwireddu. Pwysleisiwyd fod mwyafrif o’r swm yma yn cynnwys arbedion o £539k gan ysgolion gan eu bod yn gweithio i flwyddyn academaidd ac felly y bydd gwireddu’n llithro i’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Pwysleisiwyd fod £39m o arbedion wedi eu gwireddu o’r £41m gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelir y bydd 1% ychwanegol wedi ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Bu i’r Pennaeth Cyllid amlygu’r sylwadau a’r pwyntiau a godwyd yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel a ganlyn. Holwyd sut mae dewis rhwng priodoldeb ariannol a chyflawni dyletswydd statudol, a beth fuasai angen ei wneud unwaith fo arian yn dod i ben. Esboniwyd ei bod yn allweddol fod y cyngor yn gwneud popeth i sicrhau na fydd yn cyrraedd y pwynt yma. Nodwyd fod angen gwneud yn siŵr fod y Cyngor yn sicrhau gwerth am arian ac yn gwneud y defnydd gorau  o bob punt. Mynegwyd fod methiant i wneud hyn yn arwain at angen i wneud datganiad s114, a bod angen gwneud popeth i osgoi cyrraedd y pwynt yma. Cydnabuwyd fod pryder am ddiffyg adnoddau i gyflawni’r pethau ond mai hyn yw’r realiti ar hyn o bryd.

 

Nodwyd fod cais i wneud gwaith modelu er mwyn rhagweld y galw yn y dyfodol, ac eglurwyd fod y Tîm Ymchwil a Gwybodaeth yn flaengar iawn yn y maes hwn. Amlygwyd fod yr aelodau yn nodi ei bod yn prysur gyrraedd y pwynt ble mae angen ail-edrych ar y ffordd mae’r Cyngor yn cyflawni gwasanaethau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Nodwyd yng nghanol y naratif o doriadau a phwysau cynyddol ar staff, tynnwyd sylw at yr angen i feddwl ar yr effaith mae’n cael ar y staff. Mynegwyd mai prif faes gwariant y Cyngor yw cyflogi staff ac mae torri yn ôl yn mynd i arwain at fwy o bwysau ar staff. Pwysleisiwyd fod rhaglen llesiant staff wedi ei roi ar dop yr agenda. 

·         Heriwyd beth oedd “statudol” ac eglurwyd eu bod yn feysydd ble mae gofyn statudol i’r Cyngor eu gweithredu, megis cynllunio a diogelwch plant. Eglurwyd gyda’r sefyllfa ariannol fel ac y mae hi mae’n her i benderfynu ble mae’r ffiniau o ran gwneud y dyletswyddau statudol ac i dorri unrhyw beth sydd uwchlaw hyn. 

 

 

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: